Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 39

Ydy Dy Enw Di yn “Llyfr y Bywyd”?

Ydy Dy Enw Di yn “Llyfr y Bywyd”?

“[Gorchmynnodd] i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy’n rhestru’r rhai sy’n parchu’r ARGLWYDD.”—MAL. 3:16.

CÂN 61 Ymlaen â Chi Dystion!

CIPOLWG a

Mae Jehofa wedi bod yn ychwanegu enwau at ‘lyfr y bywyd’ ers dyddiau Abel (Gweler paragraffau 1-2)

1. Yn ôl Malachi 3:16, pa lyfr mae Jehofa wedi bod yn ei gadw, a beth sydd ynddo?

 MAE Jehofa wedi bod yn cadw cofnod o enwau mewn llyfr arbennig ers miloedd o flynyddoedd. Yr enw cyntaf yn y llyfr ydy Abel. b (Luc 11:50, 51) Bellach mae miliynau o enwau yn y llyfr hwnnw. Mae’r Beibl yn cyfeirio ato fel “cofnod,” “sgrôl,” neu “Llyfr y Bywyd.” Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n defnyddio’r term “Llyfr y Bywyd.”—Darllen Malachi 3:16; Dat. 3:5; 17:8.

2. Enwau pwy sydd yn llyfr y bywyd, a sut gallwn ni sicrhau bod ein henwau ni yno hefyd?

2 Enwau pwy sydd yn y llyfr? Pawb sydd yn gwasanaethu Jehofa gyda chariad a pharch. Maen nhw’n cael y cyfle i fyw am byth. P’un a ydyn ni’n edrych ymlaen at fyw yn y nef neu ar y ddaear, mae’n bosib inni gael ein henwau yn llyfr y bywyd drwy gael perthynas agos â Jehofa ar sail pridwerth ei Fab, Iesu Grist. (Ioan 3:16, 36) Onid ydyn ni i gyd eisiau cael ein henwau yn y llyfr hwnnw?

3-4. (a) A fyddwn ni’n cael byw am byth os ydy ein henwau yn llyfr y bywyd ar hyn o bryd? Esbonia. (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon, a’r un nesaf?

3 Ydy hyn yn golygu bod pawb sydd â’u henwau yn y llyfr yn sicr o gael byw am byth? Mae geiriau Jehofa i Moses yn Exodus 32:33 yn ateb y cwestiwn hwnnw. Dywedodd: “Y person sydd wedi pechu yn fy erbyn i fydd yn cael ei ddileu oddi ar fy rhestr i.” Mae fel petai Jehofa wedi ysgrifennu’r enwau mewn pensil ar hyn o bryd. Felly mae’n dal yn bosib eu rhwbio nhw allan, neu eu dileu. (Dat. 3:5) Mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod ein henwau yn aros yn y llyfr nes eu bod nhw’n cael eu hysgrifennu mewn inc fel petai. Dim ond wedyn byddwn ni’n sicr o gael byw am byth.

4 Mae hyn yn codi rhai cwestiynau. Er enghraifft, beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y rhai sydd wedi eu henwi yn llyfr y bywyd, a’r rhai sydd ddim? Pryd bydd y rhai sy’n llwyddo i gadw eu henwau yn y llyfr yn cael bywyd tragwyddol? Ac ydy hi’n bosib i’r rhai a fu farw cyn cael cyfle i ddod i adnabod Jehofa gael eu henwau yn y llyfr? Bydd yr erthygl hon, a’r un nesaf, yn ateb y cwestiynau hynny.

ENWAU PWY SYDD YN Y LLYFR?

5-6. (a) Yn ôl Philipiaid 4:3, pwy yw rhai o’r bobl sydd â’u henwau yn llyfr y bywyd? (b) Pryd bydd eu henwau yn cael eu hysgrifennu’n barhaol yn y llyfr?

5 Byddwn ni’n ystyried pum grŵp o bobl. Mae rhai o’r grwpiau yn cynnwys pobl sydd â’u henwau yn llyfr y bywyd. Ond mae ’na grwpiau eraill o bobl sydd ddim yn y llyfr.

6 Y grŵp cyntaf ydy’r rhai sydd wedi cael eu dewis i reoli gyda Iesu yn y nef, hynny ydy, y rhai eneiniog. Ydy eu henwau nhw yn llyfr y bywyd ar hyn o bryd? Ydyn. Mae hynny’n amlwg o eiriau’r apostol Paul i’w gyd-weithwyr yn Philipi. (Darllen Philipiaid 4:3.) Ond er mwyn cadw eu henwau yn y llyfr hwnnw, mae’n rhaid iddyn nhw aros yn ffyddlon. Unwaith iddyn nhw dderbyn eu sêl derfynol, bydd eu henwau yn cael eu hysgrifennu’n barhaol yn y llyfr. Bydd hynny’n digwydd naill ai pan fyddan nhw’n marw, neu ar ddechrau’r gorthrymder mawr.—Dat. 7:3.

7. O ddarllen Datguddiad 7:16, 17, pryd bydd enwau’r dyrfa fawr o ddefaid eraill yn cael eu hysgrifennu’n barhaol yn llyfr y bywyd?

7 Yr ail grŵp ydy’r dyrfa fawr o ddefaid eraill. Ydy eu henwau nhw yn llyfr y bywyd ar hyn o bryd? Ydyn. A fydd eu henwau’n dal yno ar ôl iddyn nhw oroesi Armagedon? Byddan. (Dat. 7:14) Dywedodd Iesu y byddan nhw’n “cael bywyd tragwyddol.” (Math. 25:46) Ond fydd hynny ddim yn digwydd yn syth ar ôl Armagedon. Bydd eu henwau yn dal wedi eu hysgrifennu mewn pensil fel petai. Yn ystod y Teyrnasiad Mil Blynyddoedd, bydd Iesu “yn gofalu amdanyn nhw fel bugail, ac yn eu harwain nhw at ffynhonnau o ddŵr ffres y bywyd.” Bydd enwau’r rhai sy’n dilyn arweiniad Iesu, ac yn profi eu bod yn ffyddlon i Jehofa yn ystod y prawf olaf, yn cael eu hysgrifennu yn barhaol yn llyfr y bywyd.—Darllen Datguddiad 7:16, 17.

8. Enwau pwy sydd ddim yn llyfr y bywyd, a beth fydd yn digwydd iddyn nhw?

8 Y trydydd grŵp ydy’r geifr a fydd yn cael eu dinistrio yn Armagedon. Dydy eu henwau nhw ddim yn llyfr y bywyd. Dywedodd Iesu y byddan nhw’n cael “eu cosbi’n dragwyddol.” (Math. 25:46) Mae geiriau Paul yn ein helpu ni i ddeall hynny. Dywedodd: “Eu cosb nhw fydd dioddef dinistr diddiwedd.” (2 Thes. 1:9; 2 Pedr 2:9) Mae hynny’n golygu y byddan nhw’n cael eu dinistrio unwaith ac am byth. Mae’r un peth yn wir am y rhai sydd, drwy hanes, wedi pechu’n fwriadol yn erbyn yr ysbryd glân. Maen nhw wedi colli eu cyfle i fyw am byth, ac felly fyddan nhw ddim yn cael eu hatgyfodi. (Math. 12:32; Marc 3:28, 29; Heb. 6:4-6) Nesaf, gad inni edrych ar ddau grŵp o bobl a fydd yn cael eu hatgyfodi i’r ddaear.

Y RHAI FYDD YN CAEL EU HATGYFODI

9. Yn ôl Actau 24:15, pa ddau grŵp fydd yn cael eu hatgyfodi i’r ddaear, a beth ydy’r gwahaniaeth rhyngddyn nhw?

9 Mae’r Beibl yn sôn am ddau grŵp o bobl, “y cyfiawn” a’r “anghyfiawn.” Bydd y ddau grŵp hyn yn cael cyfle i fyw am byth ar y ddaear. (Darllen Actau 24:15, BCND.) “Y cyfiawn” ydy’r rhai a oedd yn ffyddlon i Jehofa tra oedden nhw’n fyw. Doedd “yr anghyfiawn,” ar y llaw arall, ddim yn gwasanaethu Jehofa tra oedden nhw’n fyw; ymhell ohoni mewn llawer o achosion. Ond oherwydd bydd y ddau grŵp yn cael eu hatgyfodi, ydy hynny’n golygu bod eu henwau yn llyfr y bywyd? I ateb y cwestiwn hwnnw, gad inni drafod y grwpiau hyn fesul un.

10. Pam bydd “y cyfiawn” yn cael eu hatgyfodi, a pha fraint bydd rhai ohonyn nhw yn ei chael? (Gweler hefyd “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn y rhifyn hwn, sy’n trafod yr atgyfodiad i’r ddaear.)

10 Y pedwerydd grŵp ydy’r rhai “cyfiawn.” Roedd eu henwau nhw yn llyfr y bywyd cyn iddyn nhw farw. A gafodd eu henwau eu tynnu allan pan fuon nhw farw? Naddo, am eu bod nhw’n dal “yn fyw” yng nghof Jehofa. Nid Duw’r meirw ydy Jehofa, “ond Duw’r rhai sy’n fyw! Maen nhw i gyd yn fyw iddo fe!” (Luc 20:38) Felly pan fydd y cyfiawn yn cael eu hatgyfodi, bydd eu henwau’n dal yn y llyfr “mewn pensil.” (Luc 14:14) Bydd rhai hyd yn oed yn cael y fraint o fod “yn dywysogion.”—Salm 45:16.

11. Beth bydd yr “anghyfiawn” angen ei ddysgu cyn i’w henwau gael eu hysgrifennu yn llyfr y bywyd?

11 Y pumed grŵp ydy’r “anghyfiawn.” Doedden nhw ddim yn gwasanaethu Jehofa cyn iddyn nhw farw, efallai oherwydd doedden nhw ddim callach beth oedd safonau Jehofa. Oherwydd hynny chafodd eu henwau ddim eu hysgrifennu yn llyfr y bywyd. Ond mae Jehofa am roi cyfle arall iddyn nhw ar ôl iddyn nhw gael eu hatgyfodi. Efallai bod rhai ohonyn nhw wedi byw bywydau drwg, neu wedi gwneud pethau ofnadwy cyn iddyn nhw farw. Felly byddan nhw angen llawer o help i ddysgu sut i fyw yn ôl safonau Jehofa. Er mwyn llenwi’r angen hwnnw, bydd y gwaith dysgu yn fwy nag erioed o’r blaen o dan Deyrnas Dduw.

12. (a) Pwy fydd yn dysgu’r rhai anghyfiawn? (b) Beth fydd yn digwydd i’r rhai sydd ddim yn rhoi’r hyn maen nhw’n ei ddysgu ar waith?

12 Bydd y dyrfa fawr, a’r rhai cyfiawn sydd wedi cael eu hatgyfodi, yn dysgu’r rhai anghyfiawn. Ond bydd rhaid i’r anghyfiawn feithrin eu perthynas eu hunain â Jehofa, a chysegru eu hunain iddo er mwyn cael eu henwau yn llyfr y bywyd. Bydd Iesu Grist a’r rhai eneiniog yn eu gwylio nhw bob cam o’r ffordd i weld sut maen nhw’n ymateb i’r hyn maen nhw’n ei ddysgu. (Dat. 20:4) Fydd unrhyw un sy’n gwrthod yr help hwnnw ddim yn cael aros yn fyw, hyd yn oed os ydy ef yn ganmlwydd oed. (Esei. 65:20) Mae Jehofa ac Iesu yn gallu darllen calonnau, a byddan nhw’n gwneud yn siŵr fydd neb yn difetha’r byd newydd.—Esei. 11:9; 60:18; 65:25; Ioan 2:25.

ATGYFODIAD I FYWYD NEU FARN

13-14. (a) Sut roedden ni’n arfer deall geiriau Iesu yn Ioan 5:29? (b) Beth rydyn ni’n sylwi am y geiriau hynny?

13 Soniodd Iesu hefyd am y rhai fydd yn cael eu hatgyfodi yma ar y ddaear. Er enghraifft, dywedodd: “Mae amser yn dod pan fydd pawb sydd yn eu beddau yn clywed ei lais ef ac yn dod allan; bydd y rhai a wnaeth ddaioni yn codi i fywyd, a’r rhai a wnaeth ddrygioni yn codi i gael eu barnu.” (Ioan 5:28, 29, BCND) Beth roedd Iesu yn ei olygu?

14 Roedden ni’n arfer meddwl bod Iesu’n cyfeirio at beth byddai’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi yn ei wneud ar ôl iddyn nhw ddod yn ôl yn fyw. Roedden ni’n disgwyl y byddai rhai yn gwneud pethau da ar ôl cael eu hatgyfodi, ac eraill yn gwneud pethau drwg. Ond wnaeth Iesu ddim dweud y byddan nhw’n gwneud pethau da, neu y byddan nhw’n gwneud pethau drwg. Yn hytrach, roedd yn sôn am y rhai “a wnaeth ddaioni” a’r rhai “a wnaeth ddrygioni.” Felly roedd yn sôn am y gorffennol, hynny ydy, y pethau a wnaethon nhw cyn iddyn nhw farw. Ac mae hynny’n gwneud synnwyr, oherwydd fydd neb yn cael gwneud drygioni yn y byd newydd. Felly beth roedd Iesu yn ei olygu wrth ddweud y bydd rhai “yn codi i fywyd” ac eraill “yn codi i gael eu barnu”?

15. Pwy fydd yn “codi i fywyd,” a pham?

15 Bydd y cyfiawn, a wnaeth bethau da cyn iddyn nhw farw, yn cael eu “codi i fywyd,” oherwydd bydd eu henwau eisoes yn llyfr y bywyd. Mae hynny’n golygu bod y rhai “a wnaeth ddaioni” yn Ioan 5:29, a’r rhai “cyfiawn” yn Actau 24:15, yn cyfeirio at yr un bobl. Mae Rhufeiniaid 6:7, BCND, yn dweud: “Mae’r sawl sydd wedi marw wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.” Felly pan fu farw’r rhai cyfiawn, dewisodd Jehofa anghofio eu holl bechodau, ond yn sicr, mae’n cofio eu ffyddlondeb. (Heb. 6:10) Er hynny, bydd rhaid iddyn nhw aros yn ffyddlon ar ôl dod yn ôl yn fyw er mwyn cadw eu henwau yn llyfr y bywyd yn barhaol.

16. Beth mae “codi i gael eu barnu” yn ei olygu?

16 Beth am y rhai a wnaeth ddrygioni cyn iddyn nhw farw? Unwaith iddyn nhw farw, gwnaeth Jehofa ddewis anghofio eu pechodau, ond eto doedden nhw ddim yn ei wasanaethu tra oedden nhw’n dal yn fyw. Felly chafodd eu henwau nhw ddim eu hysgrifennu yn llyfr y bywyd. Wrth reswm felly, mae’r rhai “a wnaeth ddrygioni,” a’r rhai “anghyfiawn” yn Actau 24:15 yn cyfeirio at yr un bobl. Byddan nhw’n “codi i gael eu barnu.” c Ym mha ystyr byddan nhw’n cael eu barnu? Bydd Iesu’n eu gwylio nhw yn ystod cyfnod prawf. (Luc 22:30) Ac ymhen amser, bydd ef yn gwybod a ydyn nhw’n haeddu cael eu henwau yn llyfr y bywyd. All hynny ond digwydd os ydyn nhw’n cefnu ar eu hen ffordd o fyw ac yn cysegru eu hunain i Jehofa.

17-18. Beth fydd rhaid i bawb sy’n cael eu hatgyfodi i’r ddaear ei wneud, a beth mae Datguddiad 20:12, 13 yn ei olygu wrth ddweud y bydd pob un yn cael ei farnu yn ôl “beth roedd wedi ei wneud”?

17 Yn ystod y Mil Blynyddoedd, bydd sgroliau newydd yn cael eu hagor, a bydd rhaid i bawb sy’n cael eu hatgyfodi, p’un a oedden nhw’n gyfiawn neu’n anghyfiawn, fyw yn unol â’r cyfreithiau yn y sgroliau hynny. Cafodd yr apostol Ioan weledigaeth lle roedd “pawb oedd wedi marw, pobl fawr a phobl gyffredin, yn sefyll o flaen yr orsedd. Dyma’r llyfrau amdanyn nhw yn cael eu hagor. Yna agorwyd llyfr arall, sef Llyfr y Bywyd. Cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi ei wneud—roedd popeth amdanyn nhw wedi cael ei gofnodi yn y llyfrau.”—Dat. 20:12, 13.

18 Bydd pob un sy’n cael ei atgyfodi yn cael ei farnu ar sail “beth roedd wedi ei wneud.” Ydy hynny’n golygu beth roedden nhw wedi ei wneud cyn iddyn nhw farw? Nac ydy. Gwnaeth Jehofa ddewis anghofio eu pechodau unwaith iddyn nhw farw. Felly, mae’n rhaid ei fod yn cyfeirio at yr hyn byddan nhw’n ei wneud yn y byd newydd, sef eu hymateb i’r hyn byddan nhw’n ei ddysgu. Bydd gan hyd yn oed dynion ffyddlon fel Noa, Samuel, Dafydd, a Daniel lawer i’w ddysgu, gan gynnwys hanes Iesu Grist, a sut i roi ffydd yn ei aberth. Felly meddylia gymaint mwy bydd gan yr anghyfiawn i’w ddysgu!

19. Beth fydd yn digwydd i’r rhai sy’n gwrthod y cyfle arbennig hwn?

19 Mae Datguddiad 20:15 yn dweud wrthon ni beth fydd yn digwydd i’r rhai sy’n gwrthod y cyfle arbennig hwn: “Cafodd pob un doedd eu henwau nhw ddim wedi eu hysgrifennu yn Llyfr y Bywyd eu taflu i’r llyn tân.” Byddan nhw’n cael eu dinistrio unwaith ac am byth. Felly mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n sicrhau bod ein henwau ni yn cael eu hysgrifennu yn llyfr y bywyd, ac yn aros yno!

Mae brawd yn cael rhan yn y gwaith aruthrol o ddysgu eraill yn ystod y mileniwm (Gweler paragraff 20)

20. Pa waith cyffrous fydd yn cael ei wneud yn ystod y Mil Blynyddoedd? (Gweler y llun ar y clawr.)

20 Yn ystod y Mil Blynyddoedd, bydd y gwaith dysgu yn fwy nag erioed, a bydd ymddygiad y cyfiawn a’r anghyfiawn yn cael ei bwyso a’i fesur. (Esei. 26:9; Act. 17:31) Yn sicr, bydd yn gyfnod hynod o gyffrous! Ond sut byddwn ni’n mynd ati i wneud y gwaith dysgu hwnnw? Gad inni weld yn yr erthygl nesaf.

CÂN 147 Yr Addewid o Fywyd Tragwyddol

a Mae’r erthygl hon yn egluro dealltwriaeth newydd o eiriau Iesu yn Ioan 5:28, 29, BCND, sy’n sôn am rai fydd yn cael eu “codi i fywyd,” ac eraill fydd yn cael eu “codi i gael eu barnu.” Byddwn ni’n gweld beth mae’r ddau atgyfodiad yn cyfeirio ato, a phwy sy’n cael ei gynnwys ym mhob un.

b Mae Jehofa wedi bod yn ysgrifennu’r llyfr hwn “ers i’r byd gael ei greu,” hynny ydy, ers i bobl y byd angen pridwerth Iesu. (Math. 25:34; Dat. 17:8) Wrth reswm felly, enw’r dyn ffyddlon Abel yw’r cyntaf yn llyfr y bywyd.

c Yn y gorffennol, roedden ni’n meddwl bod y gair “barnu” yma yn golygu barnu’n negyddol, neu gondemnio. Er bod “barnu” yn gallu golygu hynny, mae’n ymddangos bod Iesu’n defnyddio’r gair yn fan hyn mewn ffordd fwy cyffredinol i gyfeirio at gyfnod prawf, neu fel dywedodd un geiriadur Groeg, “gwylio sut mae rhywun yn ymddwyn.”