Cwestiynau Ein Darllenwyr
Pwy fydd yn cael eu hatgyfodi i’r ddaear, a sut fath o atgyfodiad byddan nhw’n ei gael?
Ystyria sut mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw.
Mae Actau 24:15, BCND, yn dweud y bydd ’na “atgyfodiad i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.” Y cyfiawn ydy’r rhai oedd yn ufudd i Jehofa tra oedden nhw’n dal yn fyw. Felly, mae eu henwau nhw yn llyfr y bywyd. (Mal. 3:16) Mae’r anghyfiawn yn cyfeirio at y rhai wnaeth farw heb gael digon o gyfle i ddysgu am Jehofa. Felly, dydy eu henwau nhw ddim yn llyfr y bywyd.
Mae Ioan 5:28, 29, BCND, ac Actau 24:15 yn sôn am yr un ddau grŵp. Dywedodd Iesu, “bydd y rhai a wnaeth ddaioni yn codi i fywyd, a’r rhai a wnaeth ddrygioni yn codi i gael eu barnu.” Am fod y rhai cyfiawn wedi gwneud daioni cyn iddyn nhw farw, byddan nhw’n cael eu hatgyfodi i fywyd am fod eu henwau yn llyfr y bywyd. Ond am fod yr anghyfiawn wedi gwneud drygioni cyn iddyn nhw farw, byddan nhw’n cael eu hatgyfodi i gael eu barnu, oherwydd dydy eu henwau ddim yn llyfr y bywyd eto. Byddan nhw’n cael eu barnu am gyfnod, ond yn ystod y cyfnod hwnnw byddan nhw’n cael y cyfle i ddysgu am Jehofa, ac i gael eu henwau yn llyfr y bywyd.
Mae Datguddiad 20:12, 13, BCND, yn dweud y bydd rhaid i bawb sy’n cael eu hatgyfodi ufuddhau i’r hyn sy’n “ysgrifenedig yn y llyfrau,” hynny ydy, y gyfraith newydd gawn ni gan Dduw yn y byd newydd. Bydd Jehofa yn cael gwared ar y rhai sydd ddim yn ufudd iddo.—Esei. 65:20.
Mae Daniel 12:2, BCND, yn rhagfynegi y bydd rhai yn deffro i “fywyd tragwyddol, a rhai i waradwydd a dirmyg tragwyddol.” Mae’r adnod hon yn sôn am beth fydd yn digwydd yn y pen draw i’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi. Ar ddiwedd y Mil Blynyddoedd, bydd rhai yn cael “bywyd tragwyddol,” tra bydd eraill yn cael “dirmyg tragwyddol,” hynny ydy, cael eu dinistrio am byth.—Dat. 20:15; 21:3, 4.
Meddylia amdani fel hyn: Mae’r ddau grŵp sy’n cael eu hatgyfodi mewn sefyllfa debyg i estronwyr sydd eisiau byw mewn gwlad arall. Mae’r cyfiawn yn debyg i’r rhai sy’n cael fisa sy’n caniatáu iddyn nhw aros yn y wlad am gyfnod hir i weithio neu i fyw yno. Mae’r anghyfiawn yn debyg i’r rhai sydd ond yn cael caniatâd i aros am gyfnod byr fel ymwelwyr. Yn union fel mae estronwyr yn gorfod parchu a dilyn cyfraith y wlad er mwyn aros yno, bydd rhaid i’r anghyfiawn ufuddhau i gyfreithiau Jehofa, a phrofi eu bod nhw’n gyfiawn er mwyn aros ym Mharadwys. Ond ni waeth sut mae estronwyr yn mynd i mewn i wlad arall, mae rhai, yn y pen draw, yn cael caniatâd i aros yno am byth, tra bod eraill yn cael eu halltudio. Mae’r penderfyniad terfynol hwnnw yn dibynnu ar eu hagwedd a’u hymddygiad yn y wlad newydd. Bydd yr un peth yn wir i bawb sy’n cael eu hatgyfodi. Bydd y penderfyniad terfynol yn dibynnu ar eu ffyddlondeb a’u hymddygiad yn y byd newydd.
Mae Jehofa yn Dduw cariadus, ond mae ef hefyd yn hynod o deg. (Deut. 32:4; Salm 33:5) Yn ei gariad, bydd yn atgyfodi’r cyfiawn a’r anghyfiawn. Ond ar yr un pryd, bydd yn disgwyl i bob un ohonyn nhw gadw at ei safonau moesol uchel. Dim ond y rhai sy’n gwneud hynny, ac sy’n ei garu, fydd yn cael byw am byth yn y byd newydd.