Awgrymiad ar Gyfer Gwneud Ymchwil
Gweithgareddau i Blant
Mae gan rieni gyfrifoldeb mawr i ddysgu eu plant am Jehofa. (Eff. 6:4) Er mwyn helpu rhieni, mae cyfundrefn Jehofa wedi creu llawer o erthyglau, fideos, a chaneuon. Sut gelli di eu defnyddio i hyfforddi dy blant?
Edrycha ar jw.org/cy. Gelli di ddod o hyd i bopeth sydd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer plant, fel taflenni gwaith a fideos drwy fynd i jw.org/cy. I ddod o hyd i’r rhain, teipia “Plant” neu “Arddegau” yn y bar chwilio. a
Dewisa beth sydd orau ar gyfer dy blentyn. O dan “Plant” gelli di ddewis fideos, caneuon, a thudalennau a all helpu dy blentyn. I ddod o hyd i’r rhain, chwilia am “Prosiectau Addoliad Teuluol.”
Treulia amser gyda dy blant. Paid â gadael i dy blentyn wylio fideos a llenwi’r taflenni gwaith er mwyn ei gadw’n brysur yn unig. Yn hytrach, peth da yw eu trafod nhw gyda dy blentyn a’i helpu i gael perthynas glòs gyda Jehofa.
a Mae JW Library® yn cynnwys yr holl fideos ar gyfer pobl ifanc ond nid yw’n cynnwys yr holl daflenni gwaith.