Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 40

Dal Ati Fel y Gwnaeth Pedr

Dal Ati Fel y Gwnaeth Pedr

“Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd, oherwydd fy mod i’n ddyn pechadurus.”—LUC 5:8.

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

CIPOLWG a

1. Sut ymatebodd Pedr pan ddaliodd lawer o bysgod yn wyrthiol?

 ROEDD Pedr wedi treulio noson gyfan yn pysgota heb ddal dim byd. Ond er syndod iddo, dywedodd Iesu wrtho: “Dos allan i’r dŵr dwfn, a gollyngwch eich rhwydi er mwyn dal pysgod.” (Luc 5:4) Doedd Pedr ddim yn meddwl y byddai’n dal pysgod, ond er hynny gwrandawodd ar Iesu. Yn fwyaf sydyn, dechreuodd y rhwydi rwygo oherwydd pwysau’r holl bysgod. Wrth sylwi eu bod nhw wedi gweld gwyrth, roedd Pedr a’r dynion eraill “wedi eu syfrdanu’n llwyr.” Dywedodd Pedr yn llawn teimlad: “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd, oherwydd fy mod i’n ddyn pechadurus.” (Luc 5:​6-9) Mae’n ymddangos nad oedd Pedr yn teimlo ei fod yn haeddu bod gyda Iesu.

2. Pam mae ystyried esiampl Pedr o les i ni?

2 Roedd Pedr yn iawn—roedd yn “ddyn pechadurus.” Mae’r Ysgrythurau’n dangos bod Pedr yn dweud ac yn gwneud pethau roedd yn eu difaru yn nes ymlaen. Wyt ti’n cydymdeimlo â Pedr? Wyt ti yn brwydro yn erbyn rhyw wendid neu rywbeth negyddol yn dy bersonoliaeth? Os felly, gall astudio esiampl Pedr roi gobaith iti. Sut? Meddylia am hyn: Byddai wedi bod yn beth hawdd peidio â sôn am gamgymeriadau Pedr yn y Beibl. Ond fe wnaeth Jehofa sicrhau eu bod nhw wedi eu cofnodi er mwyn ein helpu ni. (2 Tim. 3:​16, 17) Mae dysgu am y dyn amherffaith hwn a oedd yn brwydro yn erbyn yr un teimladau a gwendidau â ni, yn ein helpu ni i weld nad yw Jehofa yn disgwyl inni fod yn berffaith. Mae eisiau inni ddal ati er gwaethaf ein gwendidau.

3. Pam mae’n rhaid inni ddal ati?

3 Pam mae’n bwysig inni ddal ati? Mae ’na ddywediad, “Meistr pob gwaith yw ymarfer”. I egluro: Efallai bydd cerddor yn treulio blynyddoedd maith yn meistroli ei offeryn. Dros y blynyddoedd, mae’n debyg y bydd yn chwarae miloedd o nodau anghywir. Ond os bydd yn dal ati i ymarfer, fe fydd yn gwella. Hyd yn oed pan fydd yn medru chwarae’r offeryn yn dda, bydd yn dal i wneud camgymeriadau. Ond fydd ef ddim yn rhoi’r gorau iddi. Bydd yn dal i geisio gwella. Mewn ffordd debyg, ar ôl i ni ddod dros ryw wendid, gallwn ni ddal i wneud yr un camgymeriad eto. Ond rydyn ni’n dal i weithio tuag at ein nod. Mae pob un ohonon ni’n gwneud neu’n dweud pethau rydyn ni’n eu difaru yn nes ymlaen. Ond os ydyn ni’n gwrthod rhoi’r ffidil yn y to, bydd Jehofa yn ein helpu ni i wella. (1 Pedr 5:10) Gad inni ystyried dyfalbarhad Pedr. Mae’r ffordd gwnaeth Iesu ymateb i wendidau Pedr yn gallu ein cymell ni i ddal ati i wasanaethu Jehofa hefyd.

BRWYDRAU A BENDITHION PEDR

Sut byddet ti’n ymateb petaset ti’n cael profiad tebyg i brofiad Pedr? (Gweler paragraff 4))

4. Sut gwnaeth Pedr ei ddisgrifio ei hun yn Luc 5:​5-10, ond sut gwnaeth Iesu ei gysuro?

4 Nid yw’r Beibl yn dweud pam disgrifiodd Pedr ei hun fel ‘dyn pechadurus’ neu beth oedd yn mynd drwy ei feddwl. (Darllen Luc 5:​5-10.) Ond mae’n bosib ei fod wedi gwneud camgymeriadau difrifol. Roedd Iesu’n deall bod Pedr efallai’n ofni oherwydd nad oedd yn teimlo ei fod yn ddigon da. Roedd Iesu hefyd yn gwybod bod Pedr yn gallu aros yn ffyddlon. Felly dywedodd yn garedig wrth Pedr: “Stopia fod yn ofnus.” Newidiodd fywyd Pedr oherwydd yr hyder roddodd Iesu ynddo. Gwnaeth Pedr a’i frawd Andreas roi’r gorau i’w busnes pysgota a dechrau dilyn Iesu’n llawn amser. Daeth y penderfyniad hwn â bendithion mawr iddyn nhw.—Marc 1:​16-18.

5. Pa fendithion gafodd Pedr oherwydd iddo drechu ei ofnau a derbyn gwahoddiad Iesu?

5 Cafodd Pedr lawer o brofiadau gwych wrth iddo ddilyn Crist. Fe welodd Iesu’n iacháu pobl sâl, yn bwrw cythreuliaid allan, a hyd yn oed yn atgyfodi’r meirw. b (Math. 8:​14-17; Marc 5:​37, 41, 42) Cafodd Pedr hefyd weledigaeth arbennig o Iesu’n Frenin ar Deyrnas Dduw. Arhosodd hyn gyda Pedr am weddill ei oes. (Marc 9:​1-8; 2 Pedr 1:​16-18) Ni fyddai Pedr wedi gweld y pethau hyn heb ddilyn Iesu. Dychmyga pa mor hapus byddai Pedr wedi bod oherwydd nad oedd wedi gadael i deimladau negyddol wneud iddo golli allan ar y bendithion hyn.

6. A oedd hi’n hawdd i Pedr ddod dros ei wendidau? Esbonia.

6 Ond er iddo gael profiadau gwych, roedd yn dal yn brwydro â’i wendidau. Ystyria rai enghreifftiau. Pan esboniodd Iesu y byddai’n rhaid iddo ddioddef a marw er mwyn cyflawni proffwydoliaethau’r Beibl, fe wnaeth Pedr ei geryddu. (Marc 8:​31-33) Roedd Pedr a’r apostolion eraill yn dadlau dro ar ôl tro am bwy oedd y gorau. (Marc 9:​33, 34) Ar y noson cyn i Iesu farw, fe wnaeth Pedr ymosod ar ddyn a thorri ei glust i ffwrdd. (Ioan 18:10) Ar yr un noson, ildiodd Pedr i ofn dyn a gwadu dair gwaith ei fod yn adnabod ei ffrind Iesu. (Marc 14:​66-72) O ganlyniad, criodd Pedr yn chwerw.—Math. 26:75.

7. Pa gyfle gafodd Pedr ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi?

7 Er bod Pedr wedi digalonni’n llwyr, ni wnaeth Iesu gefnu arno. Ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, rhoddodd y cyfle i Pedr ddangos ei fod yn dal i’w garu. Gofynnodd Iesu i Pedr fugeilio ei ddefaid. (Ioan 21:​15-17) Ymatebodd Pedr yn bositif. Roedd ef yn Jerwsalem ar ddiwrnod Pentecost, ac ymysg y rhai cyntaf i gael eu heneinio â’r ysbryd glân.

8. Pa gamgymeriad difrifol a wnaeth Pedr yn Antiochia?

8 Hyd yn oed ar ôl i Pedr ddod yn Gristion eneiniog, roedd yn dal yn brwydro â’i wendidau. Yn 36OG, roedd Pedr yn bresennol pan gafodd Cornelius, dyn o’r Cenhedloedd nad oedd wedi cael ei enwaedu, ei eneinio â’r ysbryd glân. Roedd y ffaith bod rhai nad oedd yn Iddewon yn gallu bod yn Gristnogion yn dystiolaeth glir nad ydy “Duw ddim yn dangos ffafriaeth.” (Act. 10:​34, 44, 45) Ar ôl hynny dechreuodd Pedr fwyta gyda phobl y Cenhedloedd, rhywbeth na fyddai byth wedi ei wneud yn gynt. (Gal. 2:12) Ond roedd rhai Cristnogion o’r dras Iddewig yn teimlo bod hynny yn anaddas. Pan ddaeth rhai o’r Iddewon hynny i Antiochia, stopiodd Pedr fwyta gyda’i frodyr nad oedd yn Iddewon, oherwydd nad oedd eisiau pechu’r Cristnogion Iddewig. Gwelodd yr apostol Paul hyn, ac felly cywirodd Pedr yn gyhoeddus. (Gal. 2:​13, 14) Ni wnaeth Pedr ddigalonni er gwaethaf ei gamgymeriad. Beth wnaeth ei helpu?

BETH HELPODD PEDR I DDAL ATI?

9. Sut mae Ioan 6:​68, 69 yn dangos ffyddlondeb Pedr?

9 Roedd Pedr yn ffyddlon. Ni wnaeth adael i unrhyw beth wneud iddo stopio dilyn Iesu. Dangosodd ei ffyddlondeb ar un adeg pan ddywedodd Iesu rywbeth nad oedd ei ddisgyblion yn ei ddeall. (Darllen Ioan 6:​68, 69.) Penderfynodd llawer stopio dilyn Iesu heb ofyn am esboniad neu aros am un. Ond nid dyna a wnaeth Pedr. Sylweddolodd ef mai dim ond Iesu oedd yn “dysgu am fywyd tragwyddol.”

Beth sydd yn dy galonogi di am yr hyder dangosodd Iesu yn Pedr? (Gweler paragraff 10)

10. Sut dangosodd Iesu fod ganddo hyder yn Pedr? (Gweler hefyd y llun.)

10 Ni wnaeth Iesu gefnu ar Pedr. Ar y noson cyn iddo farw, roedd Iesu’n gwybod y byddai Pedr a’r apostolion eraill yn ei adael. Er hynny, roedd Iesu’n hyderus y byddai Pedr yn dod yn ôl ac yn aros yn ffyddlon. (Luc 22:​31, 32) Roedd Iesu’n deall bod yr “ysbryd yn awyddus,” ond bod y “cnawd yn wan.” (Marc 14:38) Felly dangosodd Iesu hyder yn Pedr hyd yn oed ar ôl iddo ei wadu. Ar ôl cael ei atgyfodi, ymddangosodd Iesu i Pedr, yn amlwg pan oedd Pedr ar ei ben ei hun. (Marc 16:7; Luc 24:34; 1 Cor. 15:5) Meddylia am gymaint byddai hynny wedi calonogi Pedr a oedd wedi torri ei galon yn llwyr!

11. Sut gwnaeth Iesu galonogi Pedr y byddai Jehofa yn gofalu amdano?

11 Fe wnaeth Iesu atgoffa Pedr bod Jehofa yn ei gefnogi. Unwaith eto fe wnaeth Iesu achosi i Pedr a’r apostolion ddal llawer o bysgod. (Ioan 21:​4-6) Mae’n rhaid bod y wyrth hon wedi atgoffa Pedr y byddai Jehofa yn gallu darparu ar gyfer ei anghenion materol. Efallai roedd Pedr yn cofio Iesu yn dweud y byddai Jehofa yn gofalu am y rhai oedd yn ‘ceisio yn gyntaf y Deyrnas.’ (Math. 6:33) Ac felly gwnaeth Pedr roi ei weinidogaeth yn gyntaf yn hytrach na’i fusnes pysgota. Ar ddiwrnod Pentecost 33OG, pregethodd yn llawn hyder, gan helpu miloedd i dderbyn y newyddion da. (Act. 2:​14, 37-41) Yna fe wnaeth helpu’r Samariaid a phobl y Cenhedloedd i ddysgu am Iesu Grist a’i ddilyn. (Act. 8:​14-17; 10:​44-48) Yn bendant, roedd Jehofa yn defnyddio Pedr mewn ffordd ryfeddol i ddod â phobl o bob math i mewn i’r gynulleidfa.

BETH RYDYN NI’N EI DDYSGU?

12. Sut gall cofio esiampl Pedr ein helpu ni os ydyn ni’n brwydro yn erbyn gwendid dros gyfnod hir?

12 Mae Jehofa yn ein helpu ni i ddal ati. Gall fod yn anodd inni ddal ati, yn enwedig os ydyn ni’n delio â rhyw wendid dros gyfnod hir. Ar adegau gall ein problemau ni deimlo’n waeth na rhai Pedr. Ond gall Jehofa roi’r nerth inni beidio â rhoi’r gorau iddi. (Salm 94:​17-19) Er enghraifft, roedd un brawd yn byw bywyd hoyw am nifer o flynyddoedd cyn dysgu’r gwir. Fe benderfynodd newid ei fywyd yn gyfan gwbl a byw yn ôl safonau’r Beibl. Ond ar adegau, roedd yn dal i frwydro yn erbyn chwantau drwg. Beth oedd yn ei helpu i ddal ati? Mae’n dweud: “Jehofa sy’n ein cryfhau ni.” Mae’n ychwanegu: “Dw i wedi dysgu bod yr ysbryd glân yn rhoi’r gallu inni aros yn y gwir. Rydw i wedi bod yn ddefnyddiol i Jehofa ac, er gwaethaf fy amherffeithrwydd, y mae yn parhau i roi nerth imi.”

Dechreuodd Horst Henschel wasanaethu’n llawn amser ar 1 Ionawr, 1950. Wyt ti’n meddwl ei fod wedi difaru defnyddio ei fywyd i wasanaethu Jehofa? (Gweler paragraffau 13, 15) d

13. Sut gallwn ni efelychu esiampl Pedr sydd wedi ei chofnodi yn Actau 4:​13, 29, 31? (Gweler hefyd y llun.)

13 Fel y gwelon ni, roedd ofn dyn yn achosi i Pedr wneud camgymeriadau difrifol fwy nag unwaith. Ond roedd gweddi yn rhoi hyder iddo. (Darllen Actau 4:​13, 29, 31.) Rydyn ninnau hefyd yn gallu trechu ein hofnau. Ystyria beth ddigwyddodd i frawd ifanc o’r enw Horst oedd yn byw yn yr Almaen Natsïaidd. Yn fwy nag unwaith, ildiodd i bwysau yn yr ysgol i ddweud “Heil Hitler!” Yn hytrach na dweud y drefn wrtho, gweddïodd ei rhieni gydag ef, gan ofyn i Jehofa roi dewrder iddo. Drwy ddibynnu ar Jehofa a chael help ei rieni, roedd Horst yn gallu sefyll yn gadarn. Yn nes ymlaen dywedodd: “Ni wnaeth Jehofa byth fy ngadael.” c

14. Sut gall bugeiliaid caredig gysuro’r rhai sy’n teimlo’n ddigalon?

14 Ni fydd Jehofa nac Iesu yn cefnu arnon ni. Ar ôl iddo wadu Crist, roedd gan Pedr benderfyniad pwysig i’w wneud. A fyddai’n parhau i ddilyn Iesu neu ddim? Roedd Iesu wedi erfyn ar Jehofa er mwyn i ffydd Pedr beidio â gwanhau. Dywedodd Iesu wrth Pedr am y weddi honno a dangos bod ganddo hyder yn Pedr i gryfhau ei frodyr. (Luc 22:​31, 32) Mae’n rhaid bod Pedr wedi cael cysur wrth iddo gofio geiriau Iesu. Pan fydd gynnon ni benderfyniadau pwysig i’w gwneud, gall Jehofa ddefnyddio bugeiliaid caredig i roi’r cysur sydd ei angen arnon ni i aros yn ffyddlon. (Eff. 4:​8, 11) Mae Paul, sydd wedi bod yn henuriad ers blynyddoedd, yn ceisio rhoi cysur o’r fath. Mae’n gofyn i’r rhai sydd wedi digalonni feddwl am y tro cyntaf a wnaeth Jehofa eu denu nhw at y gwir. Yna mae’n eu cysuro drwy ddweud na fydd Jehofa byth yn cefnu arnyn nhw oherwydd ei gariad ffyddlon. Mae’n ychwanegu: “Dw i wedi gweld llawer o bobl sydd wedi digalonni yn dal ati gyda help Jehofa.”

15. Sut mae esiamplau Pedr a Horst yn dangos bod Mathew 6:33 yn wir?

15 Yn union fel roedd Jehofa yn darparu ar gyfer anghenion materol Pedr a’r apostolion eraill, bydd yn gofalu amdanon ni os ydyn ni’n rhoi’r weinidogaeth yn gyntaf yn ein bywydau. (Math. 6:33) Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, fe wnaeth Horst, y soniwyd amdano yn gynt, ystyried arloesi. Ond roedd yn dlawd iawn a ddim yn gwybod a fyddai’n gallu ennill digon o arian a pharhau i arloesi. Beth byddai’n ei wneud? Penderfynodd roi Jehofa ar brawf drwy dreulio wythnos gyfan yn ystod ymweliad arolygwr y gylchdaith yn y weinidogaeth. Ar ddiwedd yr wythnos roedd yn methu credu’r peth pan roddodd arolygwr y gylchdaith amlen iddo gydag arian ynddi heb ddweud pwy oedd wedi ei roi. Roedd digon o arian yn yr amlen i’w gynnal am sawl mis. Roedd Horst yn teimlo bod hyn yn arwydd y byddai Jehofa yn gofalu amdano. Treuliodd weddill ei oes yn rhoi’r Deyrnas yn gyntaf yn ei fywyd.—Mal. 3:10.

16. Pam mae’n dda inni ddysgu mwy am Pedr a’r hyn a ysgrifennodd yn ei lythyrau?

16 Dychmyga pa mor hapus byddai Pedr wedi bod o wybod nad oedd Iesu wedi ei adael, fel gofynnodd Pedr iddo ei wneud ar un adeg. Roedd Crist yn dal ati i hyfforddi Pedr i fod yn apostol ffyddlon ac yn esiampl wych i Gristnogion. Rydyn ni’n dysgu llawer o’r gwersi arbennig a gafodd Pedr. Fe wnaeth gynnwys rhai o’r gwersi hyn yn y ddau lythyr ysbrydoledig a anfonodd i’r cynulleidfaoedd yn y ganrif gyntaf. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod rhai o’r gwersi hyn a sut gallwn ni eu rhoi ar waith heddiw.

CÂN 126 Byddwch Effro, Byddwch yn Wrol!

a Mae’r erthygl hon wedi ei hysgrifennu i roi hyder i’r rhai sy’n deilio â gwendidau fel eu bod nhw’n gallu dod drostyn nhw a dal ati fel gweision ffyddlon i Jehofa.

b Mae llawer o’r adnodau yn yr erthygl hon yn dod o Efengyl Marc. Mae’n ymddangos bod Marc wedi clywed y pethau hyn gan Pedr a oedd wedi gweld y digwyddiadau â’i lygaid ei hun.

c Gweler hanes bywyd Horst Henschel “Motivated by My Family’s Loyalty to God,” yn y Deffrwch! Saesneg, Chwefror 22, 1998.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Fel mae’r llun yn portreadu, gwelwn rieni Horst Henschel yn gweddïo gydag ef ac yn cryfhau ei benderfyniad i aros yn ffyddlon.