ERTHYGL ASTUDIO 39
Dangos Cryfder Drwy Fod yn Addfwyn
“Does dim angen i gaethwas yr Arglwydd gweryla, ond dylai fod yn dyner tuag at bawb.”—2 TIM. 2:24.
CÂN 120 Efelychu Addfwynder Crist
CIPOLWG a
1. Pa gwestiynau a all godi yn y gwaith neu yn yr ysgol?
SUT wyt ti’n teimlo pan mae rhywun yn y gwaith neu yn yr ysgol yn gofyn iti am dy ddaliadau? Wyt ti’n teimlo’n nerfus? Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n teimlo felly. Ond gall cwestiynau o’r fath roi’r cyfle inni ddeall sut mae rhywun yn meddwl, neu beth maen nhw’n ei gredu, a rhoi’r cyfle inni rannu’r newyddion da â nhw. Ond, weithiau gall person godi cwestiwn mewn ffordd heriol. Dydy hynny ddim yn ein synnu. Mae llawer wedi cael y syniad anghywir am ein daliadau. (Act. 28:22) Ar ben hynny, rydyn ni’n byw yn “y dyddiau olaf,” adeg pan mae llawer yn “gwrthod cytuno a phobl eraill” a hyd yn oed yn “ffyrnig.”—2 Tim. 3:1, 3.
2. Pam mae addfwynder yn beth da?
2 Efallai byddi di’n gofyn, ‘Sut galla i ddangos tynerwch pan fydd rhywun yn herio fy naliadau Beiblaidd?’ Beth fydd yn dy helpu di? Mewn gair—addfwynder. Dydy person addfwyn ddim yn ypsetio’n hawdd ac mae’n gallu ei ddal ei hun yn ôl pan mae’n teimlo’n rhwystredig ac yn ansicr. Ond efallai dy fod ti’n teimlo bod hynny’n haws dweud na gwneud. Sut gelli di ddatblygu addfwynder? Sut gelli di ymateb mewn ffordd addfwyn pan mae rhywun yn herio dy ddaliadau? Ac os wyt ti’n rhiant, sut gelli di ddysgu dy blant i amddiffyn eu ffydd mewn ffordd addfwyn? Gad inni weld.
SUT I DDATBLYGU ADDFWYNDER
3. Pam ei bod yn wir i ddweud bod addfwynder yn gryfder ac nid yn wendid? (2 Timotheus 2:24, 25)
3 Cryfder yw addfwynder, nid gwendid. Mae’n cymryd cryfder mewnol i aros yn dawel ein hysbryd wrth wynebu sefyllfa heriol. Mae addfwynder yn un rhan o “ffrwyth yr ysbryd.” (Gal. 5:22, 23) Roedd y gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu “addfwynder” yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio ceffyl gwyllt sy’n cael ei dawelu. Ar ôl hynny, mae’n dawel ond yn dal yn gryf. Fel pobl amherffaith, sut gallwn ni ddatblygu addfwynder ond ar yr un pryd aros yn gryf? Dydyn ni ddim yn gallu gwneud hynny yn ein nerth ein hunain. Mae’n rhaid inni ofyn i Dduw i’n helpu ni i ddatblygu’r rhinwedd hyfryd hon. Mae llawer o Dystion wedi profi ei bod hi’n bosib i ymateb yn addfwyn pan mae gwrthwynebwyr wedi eu herio nhw, ac mae hyn wedi creu argraff dda ar eraill. (Darllen 2 Timotheus 2:24, 25.) Sut gall addfwynder fod yn gryfder iti?
4. Beth gallwn ni ei ddysgu am addfwynder o esiampl Isaac?
4 Mae ’na lawer o hanesion yn y Beibl sy’n dangos gwerth addfwynder. Cymera, er enghraifft, Isaac. Pan symudodd i Gerar yn nhiriogaeth y Philistiaid, roedd ei gymdogion yn genfigennus ac aethon nhw ati i lenwi i mewn y ffynhonnau dŵr roedd ei dad wedi eu cloddio. Yn lle brwydro dros ei hawliau, symudodd Isaac a’i deulu i ffwrdd a chloddio pyllau newydd. (Gen. 26:12-18) Ond honnodd y Philistiaid fod y dŵr yn y rhain hefyd yn perthyn iddyn nhw. Er hynny, gwnaeth Isaac ymddwyn yn heddychlon. (Gen. 26:19-25) Beth helpodd iddo aros yn addfwyn, hyd yn oed pan oedd eraill yn ei bryfocio’n fwriadol? Yn bendant, byddai wedi dysgu o esiampl heddychlon ei dad, Abraham, ac ysbryd tawel ac addfwyn ei fam, Sara.—1 Pedr 3:4-6; Gen. 21:22-34.
5. Pa esiampl sy’n dangos bod rhieni Cristnogol yn gallu dysgu eu plant y gwerth o fod yn addfwyn?
5 Chi rieni Cristnogol, yn sicr gallwch chi ddysgu eich plant y gwerth o fod yn addfwyn. Ystyria esiampl Maxence sy’n 17 oed. Roedd rhaid iddo ddelio â phobl ddig yn yr ysgol ac ar y weinidogaeth. Gweithiodd ei rieni yn amyneddgar i’w ddysgu i feithrin addfwynder. Maen nhw’n dweud, “Mae Maxence wedi dod i ddeall ei bod hi’n cymryd mwy o nerth i ddal yn ôl ar ôl cael dy bryfocio na cholli tymer.” Nawr, mae bod yn addfwyn yn un o gryfderau Maxence.
6. Sut gall gweddi ein helpu ni i fod yn fwy addfwyn?
6 Beth gallwn ni ei wneud wrth inni wynebu sefyllfa anodd, fel pan fydd rhywun yn enllibio enw Duw neu yn sarhau’r Beibl? Dylen ni ofyn i Jehofa am ei ysbryd a’i ddoethineb i ymateb mewn ffordd dda. Beth os ydyn ni’n sylweddoli nad ydyn ni wedi ymateb yn y ffordd orau? Gallwn ni weddïo am y sefyllfa a gofyn am ddoethineb i ymateb yn well y tro nesaf. Yna, bydd Jehofa yn rhoi ei ysbryd inni er mwyn inni allu rheoli ein tymer ac ymateb mewn ffordd addfwyn.
7. Sut gall cofio rhai adnodau ein helpu ni i reoli’r ffordd rydyn ni’n siarad ac yn ymddwyn? (Diarhebion 15:1, 18)
7 Mae rhai adnodau o’r Beibl yn gallu ein helpu ni i reoli ein tafod wrth wynebu sefyllfaoedd heriol. Mae ysbryd glân Jehofa yn gallu ein helpu ni i ddod â’r adnodau hynny’n ôl i’n cof. (Ioan 14:26). Er enghraifft, mae’r egwyddorion yn Diarhebion yn gallu ein helpu ni i fod yn addfwyn. (Darllen Diarhebion 15:1, 18.) Mae’r llyfr hwnnw hefyd yn datgelu’r buddion o ddangos hunain reolaeth mewn sefyllfa anodd.—Diar. 10:19; 17:27; 21:23; 25:15.
SUT MAE DEALLTWRIAETH YN EIN HELPU NI I FOD YN ADDFWYN
8. Pam ei fod yn beth da i ystyried beth sydd tu ôl i gwestiwn heriol?
8 Mae dealltwriaeth hefyd yn gallu ein helpu ni. (Diar. 19:11) Mae doethineb yn dal person yn ôl pan mae rhywun yn herio ei ddaliadau. Gall cwestiwn neu her fod yn debyg i fynydd iâ, gyda’r rhan fwyaf ohono o dan y wyneb. Er enghraifft, efallai bod gan berson bryderon neu gymhellion cudd sy’n eu hannog nhw i ofyn cwestiwn. Felly cyn ateb, mae’n beth da inni ystyried beth sydd y tu ôl i’r cwestiwn.—Diar. 16:23.
9. Sut gwnaeth Gideon ddangos dealltwriaeth ac addfwynder wrth ddelio â dynion Effraim?
9 Ystyria sut gwnaeth Gideon ymateb i bobl Effraim. Roedden nhw wedi gwylltio ac eisiau gwybod pam doedd Gideon ddim wedi gofyn iddyn nhw ymuno ag ef wrth ymladd yn erbyn gelynion Israel. Pam tybed gwnaethon nhw ymateb fel hyn? A oedden nhw’n meddwl gormod ohonyn nhw eu hunain? Beth bynnag oedd y rheswm, gwnaeth Gideon barchu eu teimladau a rhoi ateb addfwyn. Beth oedd y canlyniad? Oherwydd hynny, gwnaethon nhw dawelu ac “roedden nhw’n teimlo’n well tuag ato.”—Barn. 8:1-3.
10. Beth fydd yn ein helpu ni i wybod sut i ymateb i’r rhai sy’n cwestiynu ein daliadau? (1 Pedr 3:15)
10 Beth dylen ni ei wneud os ydy rhywun yn y gwaith neu yn yr ysgol yn cwestiynu ein safonau moesol? Byddwn ni’n gwneud ein gorau i amddiffyn ein daliadau a pharchu eu safonau nhw ar yr un pryd. (Darllen 1 Pedr 3:15.) Mae’n well i feddwl am y cwestiwn fel ffordd o ddeall teimladau’r person yn hytrach na fel ymosodiad neu her. Beth bynnag yw’r rheswm dros y cwestiwn, dylen ni dal ceisio ymateb mewn ffordd garedig ac addfwyn. Efallai bydd ein hymateb yn gwneud iddo ef ailystyried ei safbwynt. Hyd yn oed os ydy ef yn amharchus neu’n sarcastig, dylen ni dal ceisio dangos cariad tuag ato.—Rhuf. 12:17.
11-12. (a) Beth gallwn ni ei ystyried cyn ateb cwestiwn anodd? (b) Esbonia sut gall gofyn cwestiwn arwain at sgwrs. (Gweler hefyd y llun.)
11 Os ydy cyd-weithiwr yn gofyn pam nad ydyn ni’n dathlu ein pen-blwydd, ystyria hyn: A ydy ef efallai o dan yr argraff nad ydyn ni’n cael mwynhau ein hunain? Neu a ydy ef yn meddwl ein bod ni am greu awyrgylch diflas yn y gweithle? Efallai byddwn ni’n gallu lleddfu ei bryder drwy ddweud ein bod ni’n gwerthfawrogi’r diddordeb sydd ganddo yn ei gyd-weithwyr ac ein bod ni hefyd eisiau awyrgylch neis yn y gweithle. Efallai bydd hynny’n agor y drws i gael sgwrs am ddathliadau pen-blwydd.
12 Gallwn ni hefyd fynd ati yn yr un ffordd os ydy pwnc llosg gwahanol yn codi. Efallai bydd rhai yn yr ysgol yn mynnu y dylai Tystion Jehofa newid eu safbwynt tuag at gyfunrywioldeb. A ydy’r ffaith eu bod nhw’n gofyn yn dangos nad ydyn nhw’n wir yn deall safbwynt Tystion Jehofa? Neu a oes ganddyn nhw ffrind neu berthynas sy’n byw bywyd hoyw? A ydyn nhw o dan yr argraff nad oes gynnon ni gariad tuag at bobl sy’n dilyn y ffordd honno o fyw? Efallai bydd rhaid inni roi sicrwydd iddyn nhw ein bod ni’n dangos cariad tuag at bobl o bob math ac ein bod ni’n parchu hawl pob unigolyn i wneud penderfyniadau dros ei hun. b (1 Pedr 2:17) Gall hynny roi’r cyfle inni ddangos bod safonau moesol y Beibl yn dda inni.
13. Sut gelli di helpu rhywun sy’n bychanu’r ffaith dy fod ti’n credu yn Nuw?
13 Os ydy rhywun yn mynegi barn gref ar rywbeth, ddylen ni ddim cymryd ein bod ni’n gwybod beth mae ef yn ei gredu. (Titus 3:2) Er enghraifft, beth petai rhywun yn yr ysgol yn dweud ei fod yn beth gwirion i gredu yn Nuw? A ydy hynny’n golygu ei fod yn credu’n gryf mewn esblygiad ac yn gwybod llawer amdano? Mewn gwirionedd, efallai na fydd wedi rhoi llawer o sylw i’r mater. Yn lle dechrau dadl dros wyddoniaeth, beth am roi rhywbeth iddo feddwl amdano. Gelli di ei gyfeirio at erthygl ar jw.org sy’n sôn am y creu. Wedyn, efallai bydd yn fwy parod i sgwrsio am fideo neu erthygl y mae wedi ei weld yno. Gall ymateb parchus achosi iddo newid ei agwedd.
14. Sut gwnaeth Niall ddefnyddio ein gwefan i ymateb i gamsyniadau am Dystion Jehofa?
14 Gwnaeth Niall, sydd yn ei arddegau, ddefnyddio ein gwefan i ymateb i gamsyniadau am Dystion Jehofa. Mae’n dweud: “Clywais i lawer gwaith gan fachgen yn y dosbarth fy mod i’n credu mewn llyfr llawn chwedlau yn hytrach na mewn gwyddoniaeth.” Ond ni wnaeth y bachgen adael i Niall esbonio ei ddaliadau. Felly, gwnaeth Niall gyfeirio’r bachgen at ran ar ein gwefan “Gwyddoniaeth a’r Beibl.” Rywbryd wedyn, ar ôl i’r bachgen ddarllen y wybodaeth, roedd yn fwy parod i sgwrsio am sut cafodd bywyd ei greu. Mae’n bosib iti gael yr un canlyniad.
PARATOI FEL TEULU
15. Sut gall rhieni helpu eu plant i ymateb yn addfwyn pan fydd cyd-ddisgybl yn herio eu daliadau?
15 Mae rhieni yn gallu cael canlyniadau da wrth ddysgu eu plant sut i ymateb mewn ffordd addfwyn pan mae daliadau yn cael eu herio. (Iago 3:13) Mae rhai rhieni yn defnyddio addoliad teuluol fel cyfle i gael sesiynau ymarfer. Maen nhw’n edrych ar bynciau sy’n debygol o gael eu codi yn yr ysgol. Maen nhw’n trafod ac yn dangos sut gallen nhw ymateb i’r rhain ac yn dysgu eu plant sut i siarad mewn ffordd addfwyn ac apelgar.—Gweler y blwch “ Gall Sesiynau Ymarfer Helpu Dy Deulu.”
16-17. Sut gall sesiynau ymarfer helpu rhai ifanc?
16 Gall sesiynau ymarfer helpu Cristnogion i gyflwyno rhesymau da dros gredu yn eu daliadau er mwyn perswadio eraill a nhw eu hunain. Mae taflenni gwaith i’r arddegau ar gael ar jw.org. c Bydd y rhain yn helpu pobl ifanc i gryfhau eu daliadau ac i baratoi atebion yn eu geiriau eu hunain. Drwy astudio pethau felly fel teulu, byddwn ni i gyd yn gallu amddiffyn ein ffydd mewn ffordd addfwyn ac apelgar.
17 Mae bachgen o’r enw Matthew yn esbonio sut mae sesiynau ymarfer wedi ei helpu. Fel rhan o’i addoliad teuluol, gwnaeth Matthew a’i deulu astudio pynciau a oedd yn debygol o gael eu codi yn yr ysgol. Mae’n dweud: “Rydyn ni’n ceisio meddwl am ba sefyllfaoedd a all godi ac ymarfer sut i ymateb ar sail yr ymchwil rydyn ni wedi ei gwneud. Pan fydd rhesymau dros beth rydw i’n ei gredu yn glir yn fy meddwl, rydw i’n teimlo’n fwy sicr ac mae’n haws imi ddelio ag eraill mewn ffordd addfwyn.”
18. Sut gall Colosiaid 4:6 ein helpu ni?
18 Wrth gwrs, efallai na fydd pobl yn gwrando hyd yn oed os ydyn ni wedi rhesymu’n dda â nhw. Ond mae defnyddio tact ac addfwynder yn gallu helpu. (Darllen Colosiaid 4:6.) Gall esbonio ein daliadau gael ei gymharu â thaflu pêl. Gallwn ni ei thaflu’n ysgafn neu ei lluchio’n galed. Pan ydyn ni’n ei thaflu’n ysgafn, mae’n fwy tebygol bydd y person arall yn ei ddal a’i thaflu’n ôl. Mewn ffordd debyg, os ydyn ni’n ateb â thact ac mewn ffordd addfwyn, bydd pobl yn fwy tebygol o wrando a dal ati i sgwrsio. Wrth gwrs, os ydy rhywun yn ceisio ennill dadl yn unig neu yn ein sarhau ni, does dim rhaid inni roi ateb. Ac er bod rhai yn ymddwyn yn y ffordd hon, bydd eraill—efallai llawer—yn gwrando.
19. Beth ddylai ein hysgogi ni i fod yn addfwyn wrth amddiffyn ein daliadau?
19 Yn amlwg mae ceisio bod yn addfwyn yn werth pob ymdrech. Gweddïa ar Jehofa am y nerth i aros yn addfwyn pan fydd pobl yn ein cwestiynu ni neu’n codi pynciau llosg. Cofia, gelli di osgoi dadlau drwy ymateb yn addfwyn. A gall dy ymateb newid y ffordd mae dy wrandawyr yn teimlo am wirioneddau’r Beibl. Bydda’n “barod bob amser i amddiffyn” dy ddaliadau a gwna “hynny gydag ysbryd addfwyn a pharch dwfn.” (1 Pedr 3:15) Dangosa gryfder drwy fod yn addfwyn!
CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi
a Mae’r erthygl hon yn rhoi awgrymiadau ar sut gallwn ni amddiffyn ein daliadau mewn ffordd addfwyn wrth gael ein pryfocio neu ein herio gan eraill.
b Am awgrymiadau ymarferol, gweler yr erthygl “What Does the Bible Say About Homosexuality?” yn Rhif 4 2016 y Deffrwch! Saesneg.
c Gelli di ddod o hyd i fwy o daflenni gwaith yn Saesneg ar jw.org yn y gyfres “Young People Ask.”
d Gelli di ddod o hyd i awgrymiadau defnyddiol ar jw.org yn y gyfres erthyglau “Cwestiynau Pobl Ifanc” a “Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa.”