ERTHYGL ASTUDIO 37
Dibynna ar Jehofa, Fel y Gwnaeth Samson
“O Feistr, ARGLWYDD, cofia amdana i! Gwna fi’n gryf.” —BARN. 16:28.
CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind
CIPOLWG a
1-2. Pam mae hanes Samson o ddiddordeb inni?
BETH sy’n dod i dy feddwl pan wyt ti’n clywed yr enw Samson? Mae’n debygol dy fod ti’n meddwl am ddyn hynod o gryf. Ac mae hynny’n wir. Ond fe wnaeth Samson benderfyniad gwael a wnaeth achosi llawer o ddioddefaint iddo. Er hynny, roedd Jehofa yn canolbwyntio ar ffyddlondeb Samson, ac fe wnaeth gynnwys esiampl Samson yn y Beibl er mwyn inni elwa ohoni.
2 Gwnaeth Jehofa ddefnyddio Samson i gyflawni pethau anhygoel er mwyn helpu Ei bobl yr Israeliaid. Ganrifoedd ar ôl i Samson farw, fe wnaeth Jehofa ysbrydoli’r apostol Paul i gynnwys enw Samson mewn rhestr o rai ffyddlon. (Heb. 11:32-34) Roedd Samson yn dibynnu ar Jehofa hyd yn oed mewn amgylchiadau anodd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gall esiampl Samson ein calonogi ni a dysgu gwersi ymarferol inni.
ROEDD SAMSON YN YMDDIRIED YN JEHOFA
3. Pa aseiniad a gafodd Samson?
3 Pan gafodd Samson ei eni, roedd y Philistiaid yn rheoli dros Israel ac yn eu cam-drin yn llym. (Barn. 13:1) Roedd yr Israeliaid yn dioddef yn fawr iawn gan fod y Philistiaid yn hynod o greulon. Dewisodd Jehofa Samson i ‘fynd ati i achub Israel o afael y Philistiaid.’ (Barn. 13:5) Ond roedd hynny’n aseiniad anodd. Er mwyn ei gyflawni, byddai’n rhaid i Samson ddibynnu ar Jehofa yn llwyr.
4. Sut gwnaeth Jehofa helpu Samson i ryddhau ei hun o’r Philistiaid? (Barnwyr 15:14-16)
4 Ystyria un esiampl sy’n dangos sut roedd Samson yn ymddiried yn Jehofa, a’r cymorth a roddodd Duw iddo. Ar un achlysur, daeth byddin y Philistiaid i ddal Samson a oedd, mae’n debyg, yn Jwda. Roedd dynion Jwda’n ofnus, felly penderfynon nhw drosglwyddo Samson i’r gelyn. Gwnaethon nhw rwymo Samson gyda dwy raff newydd a mynd ag ef at y Philistiaid. (Barn. 15:9-13) Ond “dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod” ar Samson a rhyddhaodd ei hun o’r rhaffau. Yna “dyma fe’n gweld asgwrn gên asyn” a gafael ynddo a’i ddefnyddio i ladd mil o ddynion Philistia.—Darllen Barnwyr 15:14-16.
5. Sut gwnaeth Samson ddangos ei fod yn dibynnu ar Jehofa?
5 Pam defnyddiodd Samson asgwrn gên asyn? Roedd yn arf hynod o anarferol. Mae’n debyg bod Samson yn gwybod y byddai Jehofa yn ei helpu i orchfygu’r Philistiaid, ni waeth pa arf oedd ganddo. Yn wir, gwnaeth y dyn ffyddlon hwn ddefnyddio beth bynnag oedd ar gael er mwyn cyflawni ewyllys Jehofa. Mae’n amlwg bod Samson wedi gorchfygu’r holl ddynion hynny oherwydd iddo ddibynnu ar Jehofa.
6. Wrth inni gwblhau ein haseiniadau theocrataidd, beth gallwn ni ei ddysgu o hanes Samson?
6 Gallwn ninnau hefyd gael ein cryfhau gan Jehofa i gyflawni ein haseiniadau, hyd yn oed y rhai sy’n teimlo’n ormod inni. Gall Duw wneud hyn mewn ffyrdd sy’n ein synnu ni. Os wyt ti’n ymddiried yn Jehofa, gelli di fod yn gwbl hyderus y bydd Ef yn rhoi’r un cymorth iti a roddodd i Samson.—Diar. 16:3.
7. Pa esiampl sy’n dangos ei bod hi’n bwysig inni droi at Jehofa am arweiniad?
7 Mae llawer o frodyr a chwiorydd sydd wedi helpu i adeiladu ein haddoldai wedi ymddiried yn Jehofa. Yn y gorffennol, mae ein brodyr wedi cynllunio ac adeiladu’r rhan fwyaf o’n Neuaddau’r Deyrnas ac adeiladau eraill. Ond, yn y pen draw, tyfodd cyfundrefn Jehofa gymaint nes oedd rhaid addasu. Gwnaeth y brodyr weddïo ar Jehofa am arweiniad a rhoi’r dulliau newydd ar waith, gan brynu adeiladau a’u hatgyweirio. “Ar y dechrau, doedd hi ddim yn hawdd i rai derbyn y newidiadau hyn,” dywedodd Robert, sydd wedi gweithio ar brosiectau adeiladau ar draws y byd. “Roedd yn wahanol iawn i beth roedden ni wedi ei wneud am flynyddoedd, ond roedd y brodyr yn barod i addasu, ac mae’n amlwg bod Jehofa wedi bendithio’r newidiadau hyn.” Dyma un esiampl o sut mae Jehofa wedi arwain ei bobl i gyflawni ei ewyllys. O bryd i’w gilydd, mae’n rhaid i bob un ohonon ni ofyn, ‘A ydw i’n chwilio am arweiniad Jehofa ac yn barod i wneud newidiadau er mwyn ei wasanaethu yn y ffordd orau bosib?’
GWNAETH SAMSON FANTEISIO AR DDARPARIAETHAU JEHOFA
8. Beth wnaeth Samson pan oedd yn hynod o sychedig?
8 Mae’n debyg dy fod ti’n cofio mwy o bethau anhygoel a wnaeth Samson. Fe laddodd lew ac yna 30 o’r Philistiaid yn Ascalon ar ei ben ei hun. (Barn. 14:5, 6, 19) Roedd Samson yn gwybod na fyddai’n gallu gwneud y fath bethau heb help Jehofa. Roedd hynny yn amlwg ar un achlysur pan ddaeth yn hynod o sychedig ar ôl lladd mil o Philistiaid. Beth wnaeth ef nesaf? Yn hytrach na dibynnu ar ei allu ei hun i ddod o hyd i ddiod, gofynnodd i Jehofa am help.—Barn. 15:18.
9. Sut gwnaeth Jehofa ateb gweddi Samson am help? (Barnwyr 15:19)
9 Atebodd Jehofa weddi Samson mewn ffordd wyrthiol drwy roi dŵr iddo. Pan yfodd Samson y dŵr, “dyma fe’n dod ato’ i hun” a chael ei gryfhau. (Darllen Barnwyr 15:19.) Yn amlwg, roedd y ffynnon ddŵr hon yn dal i fodoli flynyddoedd wedyn, pan gafodd y proffwyd Samuel ei ysbrydoli i ysgrifennu llyfr y Barnwyr. Mae’n debyg bod gweld y dŵr yn llifo wedi atgoffa’r Israeliaid pan oedden nhw mewn angen eu bod yn gallu dibynnu ar Jehofa.
10. Beth mae’n rhaid inni ei wneud i dderbyn help Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)
10 Ni waeth beth yw ein talentau, ein galluoedd, neu’r hyn rydyn ni wedi ei wneud yng ngwasanaeth Jehofa, mae’n rhaid inni droi ato am help. Dylen ni gyfaddef yn ostyngedig ein bod ni’n gallu gwneud yr hyn mae Jehofa yn gofyn inni ei wneud dim ond gyda’i help ef. Yn union fel cafodd Samson ei adfywio ar ôl iddo yfed y dŵr, byddwn ninnau hefyd yn cael ein hadfywio’n ysbrydol pan fyddwn ni’n manteisio ar ddarpariaethau Jehofa.—Math. 11:28.
11. Sut gallwn ni fanteisio’n llawn ar help Jehofa? Eglura.
11 Ystyria esiampl Aleksey, un o’n brodyr o Rwsia sy’n wynebu erledigaeth ofnadwy. Beth sydd wedi ei helpu ef i aros yn gryf o dan amgylchiadau anodd iawn? Mae ef a’i wraig wedi sefydlu rwtîn ysbrydol da. Mae’n dweud, “Rydw i’n ceisio gwneud astudiaeth bersonol a darllen y Beibl yn rheolaidd. Bob bore, mae fy ngwraig a minnau yn trafod testun y dydd ac yn gweddïo ar Jehofa gyda’n gilydd.” Beth yw’r wers inni? Yn hytrach na dibynnu arnon ni’n hunain, dylen ni ddibynnu ar Jehofa. Sut? Drwy wneud pethau a fydd yn cryfhau ein ffydd, fel darllen y Beibl, gweddïo, mynd i’r cyfarfodydd, a phregethu. Wedyn bydd Jehofa’n bendithio ein hymdrechion i’w wasanaethu. Fe wnaeth gryfhau Samson, ac yn bendant bydd Duw yn ein cryfhau ni hefyd.
NI WNAETH SAMSON STOPIO
12. Pa benderfyniad gwael a wnaeth Samson, a sut efallai roedd hwnnw’n wahanol i’w brofiad cynt?
12 Roedd Samson yn amherffaith fel ni. Felly ar adegau, gwnaeth benderfyniadau drwg. Fe wnaeth un o’i benderfyniadau arwain at ganlyniadau trychinebus. Ar ôl i Samson weithredu fel proffwyd am gyfnod, fe wnaeth “syrthio mewn cariad hefo gwraig o Ddyffryn Sorec, o’r enw Delila.” (Barn. 16:4) Cyn hynny, roedd Samson wedi ei ddyweddïo â gwraig o Philistia. Ond Jehofa “oedd tu ôl i hyn i gyd,” ac roedd yn dymuno “creu cyfle i achosi helynt i’r Philistiaid.” Gwnaeth Samson fynd i’r ddinas Gasa yn Philistia ac aros mewn tŷ putain. Ar yr achlysur hwnnw, rhoddodd Jehofa’r nerth i Samson gario drysau’r ddinas i ffwrdd a gwanhau’r ddinas. (Barn. 14:1-4; 16:1-3) Ond yn achos Delila, efallai bod pethau’n wahanol oherwydd mae’n debyg ei bod hi wedi dod o Israel.
13. Beth wnaeth Delila er mwyn denu Samson i mewn i sefyllfa ddrwg?
13 Cymerodd Delila swm mawr o arian o’r Philistiaid am fradychu Samson. A oedd Samson wedi ei ddallu cymaint gan gariad nes iddo beidio â gweld beth roedd hi’n ceisio ei wneud? Beth bynnag oedd yr achos, pwysodd Delila arno dro ar ôl tro i ddweud wrthi pam roedd ef mor gryf, ac yn y pen draw, datgelodd Samson ei gyfrinach. Yn drist, gwnaeth Samson ffeindio ei hun mewn sefyllfa ddrwg. O ganlyniad, fe wnaeth golli ei gryfder a cholli cymeradwyaeth Jehofa am gyfnod.—Barn. 16:16-20.
14. Beth ddigwyddodd i Samson oherwydd iddo drystio Delila?
14 Gwnaeth Samson ddioddef oherwydd iddo ymddiried yn Delila yn hytrach nag yn Jehofa. Gwnaeth y Philistiaid ddal Samson, ei ddallu, a’i garcharu yn Gasa. Roedd wedi codi cywilydd ar bobl Gasa yn gynt, ond nawr roedd yn gaethwas yn malu ŷd. Yna, cafodd ei fychanu wrth i’r Philistiaid gynnal dathliad mawr. Gwnaethon nhw aberthu i’w Duw, Dagon, fel petai ef wedi rhoi Samson yn eu dwylo nhw. Daethon nhw â Samson o’r carchar i’r parti “i roi sioe iddyn nhw” a gwneud hwyl am ei ben.—Barn. 16:21-25.
15. Sut dangosodd Samson ei fod unwaith eto yn trystio yn Jehofa? (Barnwyr 16:28-30) (Gweler y llun ar y clawr.)
15 Fe wnaeth Samson gamgymeriad gwael, ond daliodd ati i wasanaethu Duw. Edrychodd am gyfle i gyflawni ei aseiniad oddi wrth Dduw yn erbyn y Philistiaid. (Darllen Barn. 16:28-30.) Erfyniodd Samson ar Jehofa, “Gad i mi daro’r Philistiaid . . . a dial arnyn nhw.” Atebodd Jehofa weddi Samson a rhoddodd ei gryfder gwyrthiol yn ôl iddo. O ganlyniad, roedd Samson yn fwy llwyddiannus yn erbyn y Philistiaid ar yr achlysur hwn nag erioed o’r blaen.
16. Beth gallwn ni ei ddysgu o gamgymeriad Samson?
16 Er bod Samson wedi teimlo effeithiau poenus ei gamgymeriad, ni wnaeth stopio gwasanaethu Jehofa. Hyd yn oed os ydyn ni’n gwneud camgymeriad ac angen cael ein ceryddu, neu yn colli braint, mae’n hollbwysig inni ddal ati. Cofia, dydy Jehofa byth yn troi ei gefn arnon ni. (Salm 103:8-10) Er gwaethaf ein camgymeriadau, gallwn ni fod yn ddefnyddiol iawn i Dduw, yn union fel roedd Samson.
17-18. Beth sy’n dy galonogi di o esiampl Michael? (Gweler hefyd y llun.)
17 Ystyria esiampl brawd ifanc o’r enw Michael. Roedd yn brysur iawn yn y gynulleidfa fel gwas ac arloeswr llawn amser. Ond, yn drist iawn, gwnaeth gamgymeriad a achosodd iddo golli ei freintiau yn y gynulleidfa. “Hyd at y pwynt yma yn fy mywyd,” meddai, “roedd pethau’n mynd yn iawn yn fy ngwasanaeth i Jehofa. Yna, allan o nunlle, roedd fel fy mod i wedi taro wal brics. O’n i’n gwybod na fyddai Jehofa yn gollwng fy llaw, ond gofynnais a fydd fy mherthynas i ag ef yn gallu bod yn gryf unwaith eto? Hefyd, a fyddai’n bosib imi ei wasanaethu yn y gynulleidfa gymaint ag yr oeddwn i o’r blaen?”
18 Chwarae teg iddo, ni wnaeth Michael roi’r gorau iddi. Dywedodd, “Wnes i ganolbwyntio ar wella fy mherthynas â Jehofa drwy weddïo’n aml, astudio, a myfyrio.” Ym mhen amser, cafodd ei freintiau yn ôl. Erbyn hyn, mae ef yn henuriad ac arloeswr llawn amser. Mae’n ychwanegu, “Gwnaeth yr holl gefnogaeth ac anogaeth a gefais, yn enwedig oddi wrth yr henuriaid, fy helpu i weld yn fwy clir fod Jehofa yn dal yn fy ngharu i. Galla i wasanaethu unwaith eto â chydwybod lân. Mae’r profiad yma wedi fy nysgu i fod Jehofa yn barod i faddau i unrhyw un sy’n wir edifar.” Gallwn fod yn hyderus y byddwn ni’n ddefnyddiol i Jehofa, ac yn cael ein bendithio hyd yn oed os ydyn ni wedi gwneud camgymeriadau, cyn belled â’n bod ni’n gwneud ein gorau glas i gywiro ein ffyrdd a pharhau i ddibynnu arno.—Salm 86:5; Diar. 28:13.
19. Sut mae esiampl Samson wedi dy gryfhau di?
19 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi adolygu digwyddiadau diddorol iawn yn hanes Samson. Nid oedd yn berffaith, ond ymdrechodd i wasanaethu Jehofa hyd yn oed ar ôl ei gamgymeriad gyda Delila. Ni wnaeth Jehofa droi ei gefn arno, a defnyddiodd Samson mewn ffordd aruthrol unwaith eto. Roedd Jehofa yn dal yn ei ystyried yn ddyn ffyddlon, a chafodd ei gynnwys yn y rhestr o rai ffyddlon yn Hebreaid pennod 11. Mae’n codi ein calonnau i wybod bod ein Duw mor gariadus ac eisiau ein cryfhau ni, yn enwedig pan ydyn ni’n wan. Felly, fel Samson, gad inni erfyn ar Jehofa: “Cofia amdana i! Gwna fi’n gryf.”—Barn. 16:28.
CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder
a Mae’r enw Samson yn adnabyddus, hyd yn oed i bobl sydd ddim yn gwybod llawer am y Beibl. Mae ei hanes wedi ei adrodd yn y theatr, yn ffilmiau, ac mewn caneuon. Ond nid hanes diddorol yn unig ydy ei fywyd, gallwn ni ddysgu llawer gan y dyn ffyddlon hwn.