Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 38

Fel Person Ifanc​—⁠Sut Bydd Dy Fywyd Di’n Troi Allan?

Fel Person Ifanc​—⁠Sut Bydd Dy Fywyd Di’n Troi Allan?

“Bydd deall yn dy warchod.”—DIAR. 2:11.

CÂN 135 Anogaeth Wresog Jehofa: “Bydd Ddoeth, Fy Mab”

CIPOLWG a

1. Pa sefyllfa anodd oedd yn wynebu Jehoas, Usseia, a Joseia?

 DYCHMYGA dy hun yn blentyn neu yn dy arddegau ac yn cael dy wneud yn frenin ar bobl Dduw. Sut byddet ti’n defnyddio dy awdurdod? Mae’r Beibl yn sôn am rai ifanc a ddaeth yn frenhinoedd ar Jwda. Er enghraifft, roedd Jehoas yn 7 mlwydd oed, Usseia yn 16 oed, a Josea yn 8 oed. Meddylia am y pwysau oedd arnyn nhw! Er nad oedd yn hawdd iddyn nhw, roedd Jehofa ac eraill yn eu helpu nhw i wneud llawer o bethau da.

2. Pam ei fod yn beth da inni astudio esiamplau Jehoas, Usseia, a Joseia?

2 Mae’n annhebyg y byddi di’n cael dy goroni’n frenin neu’n frenhines, ond gallwn ni ddysgu llawer o bethau o’r tri chymeriad yma. Fe wnaethon nhw benderfyniadau da ond hefyd rai drwg. Mae eu hesiamplau nhw’n ein dysgu ni pa mor bwysig yw cael ffrindiau da, aros yn ostyngedig, ac agosáu at Jehofa.

DEWISA FFRINDIAU DA

Mae’n bosib inni ddilyn esiampl Jehoas heddiw drwy wrando ar ffrindiau da. (Gweler paragraffau 3, 7) c

3. Sut roedd Jehoiada yn helpu’r Brenin Jehoas i wneud penderfyniadau da?

3 Efelycha benderfyniadau da Jehoas. Pan oedd Jehoas yn ifanc, bu farw ei dad, ac felly cafodd ei fagu gan yr archoffeiriad Jehoiada, a oedd yn ei ddysgu am Jehofa. Roedd Jehoas yn ddoeth oherwydd dilynodd gyngor Jehoiada. Ac oherwydd ei esiampl, penderfynodd Jehoas wasanaethu Jehofa a helpu’r bobl i wneud hynny hefyd. Ar ben hynny, fe wnaeth Jehoas drefnu i bobl drwsio teml Jehofa.—2 Chron. 24:​1, 2, 4, 13, 14.

4. Sut rydyn ni’n elwa o garu gorchmynion Jehofa ac ufuddhau iddo? (Diarhebion 2:​1, 10-12)

4 Os wyt ti’n cael dy ddysgu i garu Jehofa ac i fyw yn ôl ei safonau, rwyt ti’n derbyn rhodd werthfawr. (Darllen Diarhebion 2:​1, 10-12.) Mae rhieni’n dysgu eu plant mewn sawl ffordd. Dyma brofiad chwaer o’r enw Katya a gafodd hyfforddiant gan ei thad. Bob dydd, wrth iddyn nhw deithio i’r ysgol, roedden nhw’n trafod testun y dydd. Mae hi’n dweud: “Roedd y trafodaethau hynny yn fy helpu i ddelio â sefyllfaoedd oedd yn codi yn ystod y dydd.” Ond beth os wyt ti’n teimlo bod hyfforddiant dy rieni ar sail y Beibl yn dy rwystro di? Beth all dy helpu di i ufuddhau iddyn nhw? Mae chwaer o’r enw Anastasia yn cofio bod ei rhieni wastad wedi esbonio pam roedden nhw’n gosod rheolau. Mae hi’n dweud: “Roedd hynny yn fy helpu i ddeall nad oedden nhw’n gwneud rheolau i fy rhwystro i, ond i fy amddiffyn i am eu bod nhw’n fy ngharu.”

5. Sut bydd dy benderfyniadau yn effeithio ar dy rieni ac ar Jehofa? (Diarhebion 22:6; 23:​15, 24, 25)

5 Bydd dy rieni’n hapus pan fyddi di’n rhoi cyngor y Beibl ar waith yn dy fywyd. Ond yn bwysicach byth, bydd Jehofa’n hapus a byddi di’n cryfhau dy berthynas ag ef. (Darllen Diarhebion 22:6; 23:​15, 24, 25.) Dyna resymau da dros efelychu esiampl Jehoas pan oedd yn ifanc.

6. Ar bwy roedd Jehoas yn dechrau gwrando, a beth oedd y canlyniad? (2 Cronicl 24:​17, 18)

6 Dysga oddi wrth benderfyniadau drwg Jehoas. Ar ôl i Jehoiada farw, roedd ffrindiau Jehoas yn dylanwadu arno i wneud penderfyniadau drwg. (Darllen 2 Cronicl 24:​17, 18.) Dewisodd wrando ar dywysogion Jwda nad oedd yn caru Jehofa. A wyt ti’n cytuno y dylai Jehoas fod wedi eu hosgoi nhw gan eu bod nhw’n gwneud pethau drwg? (Diar. 1:10) Ond gwrandawodd ar gyngor ei ffrindiau, a phan oedd ei gefnder Sechareia yn ceisio ei gywiro, trefnodd Jehoas iddo gael ei ladd. (2 Cron. 24:​20, 21; Math. 23:35) Am beth ofnadwy i’w wneud! Dechreuodd ei fywyd yn dda, ond yn drist iawn, daeth Jehoas yn wrthgiliwr ac yn llofrudd. Yn y pen draw, cafodd ei ladd gan ei weision ei hun. (2 Cron. 24:​22-25) Byddai ei fywyd wedi bod mor wahanol petasai wedi gwrando ar Jehofa ac ar y rhai oedd yn ei garu Ef. Pa wersi wyt ti’n eu dysgu o’r esiampl yma?

7. Sut gelli di ddewis ffrindiau da? (Gweler hefyd y llun.)

7 Un wers rydyn ni’n ei dysgu oddi wrth Jehoas yw bod angen inni ddewis ffrindiau sy’n caru Jehofa ac sydd eisiau ei wneud yn hapus. Bydd ffrindiau fel hyn yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau da. Mae’n bosib inni fod yn ffrindiau â phobl ifanc a phobl mewn oed. Cofia roedd Jehoas yn llawer iau na’i ffrind Jehoiada. Gofynna iti dy hun: ‘A ydy fy ffrindiau yn fy helpu i gryfhau fy ffydd yn Jehofa? A ydyn nhw’n fy annog i fyw yn unol â safonau Duw? A ydyn nhw’n siarad am Jehofa a’i wirioneddau? A ydyn nhw’n parchu safonau Duw? A ydyn nhw’n dweud wrtho i bethau dw i eisiau eu clywed yn unig, neu a ydyn nhw’n fy nghywiro i pan fydd angen? (Diar. 27:​5, 6, 17) Yn wir, os nad ydy dy ffrindiau’n caru Jehofa, pam byddet ti eisiau bod yn ffrindiau gyda nhw? Ond os ydy dy ffrindiau’n caru Jehofa, cadwa nhw fel ffrindiau oherwydd byddan nhw’n dy helpu di.—Diar. 13:20.

8. Os ydyn ni’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, beth sy’n rhaid inni ei ystyried?

8 Gall cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd effeithiol o gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Ond mae llawer o bobl yn defnyddio’r cyfryngau yma i geisio tynnu sylw atyn nhw eu hunain, drwy bostio lluniau a fideos o’r pethau maen nhw wedi eu gwneud neu eu prynu. Os wyt ti’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, gofynna iti dy hun: ‘A ydw i’n ceisio tynnu sylw ataf fi fy hun? A ydw i’n ceisio rhannu rhywbeth da ag eraill, neu a ydw i ond eisiau iddyn nhw fy nghlodfori? A ydw i’n gadael i bobl eraill ar y cyfryngau cymdeithasol ddylanwadu ar y ffordd dw i’n siarad, meddwl ac ymddwyn? Rhoddodd y Brawd Nathan Knorr, a oedd yn aelod o’r Corff Llywodraethol, y cyngor yma: “Peidiwch â cheisio plesio dynion. Yn y pen draw fyddwch chi ddim yn plesio neb. Plesiwch Jehofa, a byddwch chi’n plesio pawb sy’n caru Jehofa.”

MAE ANGEN AROS YN OSTYNGEDIG

9. Beth gwnaeth Jehofa helpu Usseia i’w wneud? (2 Cronicl 26:​1-5)

9 Efelycha benderfyniadau da Usseia. Roedd y Brenin Usseia yn ostyngedig pan oedd yn ifanc. Dysgodd i ofni Duw. Bu farw Usseia yn 68 mlwydd oed, ac am y rhan fwyaf o’i fywyd fe wnaeth Jehofa ei fendithio. (Darllen 2 Cronicl 26:​1-5.) Gorchfygodd Usseia lawer o elynion y genedl, ac amddiffynnodd Jerwsalem. (2 Cron. 26:​6-15) Mae’n rhaid bod Usseia wedi bod yn hapus gyda phopeth a gyflawnodd gyda help Jehofa.—Preg. 3:​12, 13.

10. Beth ddigwyddodd i Usseia?

10 Dysga oddi wrth benderfyniadau drwg Usseia. Roedd y Brenin Usseia wedi arfer â phobl yn dilyn ei arweiniad. A oedd hynny yn gwneud iddo deimlo ei fod yn gallu gwneud beth bynnag oedd ef eisiau? Wel, un diwrnod, penderfynodd Usseia fynd i’r deml a llosgi arogldarth ar yr allor. Ond nid oedd brenhinoedd yn cael gwneud hynny. (2 Cron. 26:​16-18) Ceisiodd yr Archoffeiriad Asareia ei gywiro, ond gwylltiodd Usseia. Yn drist, ni wnaeth Usseia aros yn ffyddlon a chafodd ei gosbi â’r gwahanglwyf. (2 Cron. 26:​19-21) Byddai ei fywyd wedi bod yn wahanol iawn petasai wedi aros yn ostyngedig!

Yn lle brolio am y pethau rydyn ni wedi eu gwneud, dylen ni roi’r clod i Jehofa (Gweler paragraff 11) d

11. Beth sy’n gallu ein helpu ni i aros yn ostyngedig? (Gweler hefyd y llun.)

11 Pan ddaeth Usseia yn bwerus, anghofiodd am yr holl bethau da roedd Jehofa wedi eu gwneud drosto. Beth yw’r wers? Mae’n dda inni gofio bod ein holl freintiau a bendithion yn dod oddi wrth Jehofa. Yn hytrach na brolio am bethau rydyn ni wedi eu gwneud, dylen ni roi’r clod i Jehofa am bopeth. b (1 Cor. 4:7) Mae’n rhaid inni fod yn ostyngedig a sylweddoli ein bod ni’n amherffaith ac angen disgyblaeth. Ysgrifennodd brawd yn ei 60au: “Dw i wedi dysgu chwerthin am fy nghamgymeriadau. Pan fydda i’n cael fy nisgyblu am y camgymeriadau plentynnaidd dw i’n eu gwneud weithiau, dw i’n ceisio codi yn ôl ar fy nhraed a symud ymlaen.” Pan fyddwn ni’n ufudd i Jehofa ac yn aros yn ostyngedig, bydd ein bywyd yn un hapus iawn.—Diar. 22:4.

PARHA I AGOSÁU AT JEHOFA

12. Sut gwnaeth Joseia agosáu at Jehofa pan oedd yn ifanc? (2 Cronicl 34:​1-3)

12 Efelycha benderfyniadau da Joseia. Roedd Joseia yn ei arddegau pan ddechreuodd agosáu at Jehofa. Roedd eisiau dysgu am Jehofa a gwneud Ei ewyllys. Ond doedd bywyd ddim yn hawdd i’r brenin ifanc yma. Roedd yn rhaid iddo wneud safiad dros addoliad pur ar adeg pan oedd y mwyafrif yn addoli gau dduwiau. Cyn i Joseia droi’n 20 oed, dechreuodd gael gwared ar gau addoliad o’r genedl.—Darllen 2 Cronicl 34:​1-3.

13. Beth mae cysegru dy hun i Jehofa yn ei olygu i ti?

13 Hyd yn oed os wyt ti’n ifanc iawn, gelli di benderfynu efelychu Joseia drwy chwilio am Jehofa a dysgu am Ei rinweddau hyfryd. Bydd gwneud hynny yn dy gymell di i gysegru dy hun iddo. Sut bydd hyn yn effeithio ar dy fywyd bob dydd? Mae Luke, a gafodd ei fedyddio’n 14 oed yn dweud: “O hyn ymlaen, y peth pwysicaf yn fy mywyd fydd gwasanaethu Jehofa, a dw i am wneud fy ngorau i’w wneud yn hapus.” (Marc 12:30) Byddi di’n cael dy fendithio os wyt ti’n gwneud yr un fath!

14. Rho enghreifftiau o’r ffyrdd mae rhai pobl ifanc yn efelychu’r Brenin Joseia.

14 Os wyt ti’n berson ifanc, pa heriau rwyt ti’n eu hwynebu wrth iti wasanaethu Jehofa? Mae Johan, a gafodd ei fedyddio yn 12 mlwydd oed, yn sôn am y pwysau roedd plant yn yr ysgol yn eu rhoi arno i fepio, sef defnyddio sigaréts electronig. Er mwyn gwrthsefyll y pwysau, mae Johan yn ei atgoffa ei hun bod fepio yn gallu cael effaith ddrwg ar ei iechyd ac ar ei berthynas â Jehofa. Mae Rachel, a gafodd ei bedyddio yn 14 oed yn egluro beth sydd yn ei helpu hi i ymdopi â’r heriau mae hi’n eu hwynebu yn yr ysgol. Mae hi’n dweud: “Dw i’n ceisio edrych am bethau sy’n fy atgoffa i o’r Beibl ac o Jehofa. Er enghraifft, gall gwersi hanes fy atgoffa am broffwydoliaethau a storïau yn y Beibl. Neu weithiau bydda i’n siarad â rhywun yn yr ysgol a chofio adnod y galla i ei rhannu â nhw.” Efallai bydd dy heriau di yn wahanol i rai Joseia, ond gelli di fod yn ddoeth ac yn ufudd hefyd. Mae delio â threialon fel person ifanc yn dy baratoi i wynebu heriau eraill yn y blynyddoedd sydd i ddod.

15. Beth oedd yn helpu Joseia i wasanaethu Jehofa’n ffyddlon? (2 Cronicl 34:​14, 18-21)

15 Pan oedd y Brenin Joseia yn oedolyn, dechreuodd atgyweirio’r deml. Yn ystod y gwaith, fe wnaethon nhw “ffeindio sgrôl o’r Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD i Moses.” Wrth wrando arni’n cael ei darllen, penderfynodd y brenin wneud newidiadau ar unwaith ac ufuddhau i beth roedd hi’n ei ddweud. (Darllenwch 2 Cronicl 34:​14, 18-21.) A fyddet ti’n hoffi darllen y Beibl yn rheolaidd? Os wyt ti’n trio gwneud hynny, sut mae’n mynd? Wyt ti’n cadw cofnod o adnodau sy’n gallu dy helpu di? Mae Luke, y soniwyd amdano yn gynt, yn nodi pethau ddiddorol mewn llyfr. A fyddai gwneud rhywbeth tebyg yn dy helpu di i gofio pwyntiau rwyt ti’n eu hoffi? Wrth iti ddarllen y Beibl yn fwy rheolaidd a dod i’w garu, byddi di eisiau gwasanaethu Jehofa yn fwy. Roedd Gair Duw yn helpu Joseia i wneud beth oedd yn iawn, a bydd yn dy helpu di hefyd.

16. Pam gwnaeth Joseia gamgymeriad mawr, a beth ydy’r wers i ni?

16 Dysga oddi wrth benderfyniad drwg Joseia. Pan oedd Joseia tua 39 oed, fe wnaeth gamgymeriad a wnaeth gostio ei fywyd. Yn lle troi at Jehofa am arweiniad, roedd yn ymddiried ynddo ef ei hun. (2 Cron. 35:​20-25) Beth ydy’r wers i ni? Ni waeth beth yw ein hoedran neu ba mor hir rydyn ni wedi bod yn astudio’r Beibl, mae’n rhaid inni ddal ati i chwilio am Jehofa. Mae hynny’n cynnwys gweddïo’n rheolaidd am ei arweiniad, astudio ei Air a gwrando ar gyngor Cristnogion aeddfed. Yna byddwn ni’n llai tebygol o wneud camgymeriadau drwg, a byddwn ni’n hapusach.—Iago 1:25.

BOBL IFANC—GALLWCH CHI GAEL BYWYD HAPUS

17. Beth gallwn ni ei ddysgu o hanes y tri brenin yma o Jwda?

17 Gelli di wneud llawer o bethau cyffrous pan wyt ti’n ifanc. Mae hanes Jehoas, Usseia, a Joseia yn dangos sut mae’n bosib i bobl ifanc wneud penderfyniadau doeth a phlesio Jehofa. Wrth gwrs, dydy canlyniadau da ddim yn sicr. Ond er hynny, gallwn ni wneud penderfyniadau da ac osgoi gwneud yr un camgymeriadau â’r brenhinoedd hynny. Wedyn gallwn ni edrych ymlaen at ddyfodol da.

Fe wnaeth Dafydd agosáu at Jehofa pan oedd yn ifanc. O ganlyniad i hynny, roedd Jehofa yn hapus, ac roedd Dafydd yn hapus hefyd (Gweler paragraff 18)

18. Pa esiamplau o’r Beibl sy’n dangos dy fod ti’n gallu cael bywyd hapus? (Gweler hefyd y llun.)

18 Mae’r Beibl yn llawn hanesion pobl ifanc eraill oedd yn agosáu at Jehofa a’i blesio, ac a gafodd fywyd hapus. Un o’r rhain oedd Dafydd. Pan oedd ef yn ifanc, penderfynodd ochri â Jehofa ac yn nes ymlaen daeth yn frenin ffyddlon. Mae’n wir ei fod wedi gwneud camgymeriadau ar adegau, ond er hynny, roedd Duw yn ei ystyried yn ddyn ffyddlon. (1 Bren. 3:6; 9:​4, 5; 14:8) Gall astudio bywyd Dafydd dy annog di i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon. Neu gelli di astudio esiampl Marc neu Timotheus. Fe wnaethon nhw benderfynu gwasanaethu Jehofa pan oedden nhw’n ifanc, a dal ati i’w wasanaethu’n ffyddlon. Roedd y penderfyniadau hyn yn gwneud Jehofa’n hapus, ac roedden nhw’n hapus hefyd.

19. Pa fath o ddyfodol gelli di ei gael?

19 Bydd dy ffordd o fyw heddiw yn effeithio ar dy fywyd yn y dyfodol. Os wyt ti’n trystio Jehofa yn lle dibynnu arnat ti dy hun, bydd ef yn dy helpu di i wneud penderfyniadau doeth. (Diar. 20:24) Bydd dy fywyd yn hapus ac yn llawn bendithion. Cofia fod Jehofa yn gwerthfawrogi popeth rwyt ti’n ei wneud drosto. Does dim ffordd well o fyw dy fywyd na gwasanaethu Jehofa.

CÂN 144 Canolbwyntiwch ar y Wobr!

a Mae Jehofa yn gwybod ei bod hi’n anodd ar adegau gwneud beth sy’n iawn ac aros yn ffrind iddo. Sut gelli di wneud penderfyniadau da fydd yn plesio dy Dad nefol? Byddwn ni’n ystyried esiamplau tri bachgen a ddaeth yn frenhinoedd ar Jwda. Beth gelli di ei ddysgu o’u penderfyniadau?

b Gweler y blwch “Gwylia Rhag ‘Brolio Gostyngedig’” yn yr erthygl ar jw.org “Pa Mor Bwysig Ydy Poblogrwydd Ar Lein?”

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer aeddfed yn rhoi cyngor doeth i chwaer iau.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer sydd â rhan yn y cynulliad yn dibynnu ar Jehofa ac yn rhoi’r clod iddo ef.