Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 41

Gwersi Gallwn Ni Eu Dysgu o Ddau Lythyr Pedr

Gwersi Gallwn Ni Eu Dysgu o Ddau Lythyr Pedr

“Rydw i’n wastad yn bwriadu eich atgoffa chi o’r pethau hyn”—2 PEDR 1:12.

CÂN 127 Y Math o Berson y Dylwn Fod

CIPOLWG a

1. Beth cafodd Pedr ei ysbrydoli i’w ysgrifennu cyn iddo farw?

 ROEDD yr apostol Pedr yn gwybod bod diwedd ei fywyd am ddod yn fuan. Yn ystod ei ddegawdau o wasanaeth ffyddlon, fe wnaeth ddilyn Iesu, agor meysydd newydd i bregethu, a gwasanaethu ar y corff llywodraethol. Ond roedd ’na fwy o waith iddo ei wneud. Rhwng tua 62 a 64OG, cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu dau lythyr. Y llyfrau yn y Beibl, cyntaf ac ail Pedr. Mynegodd ei obaith y byddai’r llythyrau hyn yn helpu Cristnogion ar ôl iddo farw.—2 Pedr 1:​12-15.

2. Pam roedd llythyrau Pedr mor amserol?

2 Ysgrifennodd Pedr ei ddau lythyr ar adeg pan oedd ei gyd-gredinwyr yn profi “tristwch drwy amryw dreialon.” (1 Pedr 1:6) Roedd dynion drwg yn ceisio dod ag ymddygiad aflan a gau-ddysgeidiaethau i mewn i’r gynulleidfa. (2 Pedr 2:​1, 2, 14) Byddai Cristnogion a oedd yn byw yn Jerwsalem yn wynebu “diwedd pob peth” yn fuan, sef byddinoedd Rhufain yn dinistrio’r ddinas a dod â diwedd ar y drefn Iddewig. (1 Pedr 4:7) Heb os, byddai llythyrau Pedr wedi helpu’r Cristnogion i wynebu eu treialon a pharatoi ar gyfer mwy o dreialon yn y dyfodol. b

3. Pam dylen ni roi sylw i lythyrau ysbrydoledig Pedr?

3 Er bod Pedr wedi cyfeirio ei lythyrau at y Cristnogion yn y ganrif gyntaf, penderfynodd Jehofa eu cynnwys nhw yn ei Air. Felly, maen nhw’n gallu ein helpu ni heddiw. (Rom. 15:4) Mae’r byd hwn, sy’n hyrwyddo ymddygiad aflan, yn ei gwneud hi’n anodd inni addoli Jehofa. Ac yn fuan, byddwn ni’n wynebu trychineb a fydd yn llawer iawn mwy na’r un a ddaeth ar y drefn Iddewig. Mae llythyrau Pedr yn cynnwys gwybodaeth bwysig inni. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddisgwyl a chofio am ddydd Jehofa, i drechu ofn dyn, ac i gael cariad dwfn at ein gilydd. Bydd hyn hefyd yn helpu’r henuriaid i wybod sut i gryfhau eu brodyr a’u chwiorydd.

DISGWYL AM DDYDD JEHOFA

4. Yn ôl 2 Pedr 3:​3, 4, beth all wanhau ein ffydd?

4 Mae ’na lawer o bobl o’n cwmpas ni sydd heb ffydd ym mhroffwydoliaethau’r Beibl. Efallai bydd gwrthwynebwyr yn gwneud hwyl ar ein pennau ni gan ein bod ni wedi disgwyl i’r diwedd ddod am lawer o flynyddoedd. Mae rhai pobl yn dweud ni fydd y diwrnod hwn byth yn dod. (Darllen 2 Pedr 3:​3, 4.) Gall ein ffydd gael ei gwanhau os ydy deiliad, rhywun yn y gwaith, neu aelod o’n teulu yn dweud pethau tebyg. Gwnaeth Pedr esbonio beth a all ein helpu ni.

5. Beth fydd yn ein helpu ni i gadw’r persbectif cywir tuag at ddiwedd y drefn hon? (2 Pedr 3:​8, 9)

5 I rai pobl, efallai ei bod hi’n edrych fel bod Jehofa yn araf i ddod â diwedd i’r hen system hon. Gall geiriau Pedr ein helpu ni i gael y persbectif cywir drwy ein hatgoffa ni fod Jehofa yn gweld amser yn hollol wahanol i ni. (Darllen 2 Pedr 3:​8, 9.) I Jehofa, mae mil o flynyddoedd fel un diwrnod. Mae Jehofa yn amyneddgar a dydy ef ddim eisiau dinistrio neb. Ond pan fydd ei ddiwrnod yn dod, bydd y system hon yn cael ei dinistrio. Tan hynny, mae gynnon ni’r fraint aruthrol o bregethu’r newyddion da i bobl ledled y byd.

6. Beth fydd yn ein helpu ni i ddisgwyl a chofio am ddydd Jehofa? (2 Pedr 3:​11, 12)

6 Mae Pedr yn ein hannog ni i “ddisgwyl a chofio” am ddydd Jehofa. (Darllen 2 Pedr 3:​11, 12.) Sut? Os yw’n bosib, byddai’n dda inni feddwl am fendithion y byd newydd bob dydd. Dychmyga dy hun yn anadlu awyr iach, yn bwyta bwyd maethlon, yn croesawu’r meirw yn ôl yn fyw, ac yn dysgu pobl a oedd yn byw ganrifoedd yn ôl am sut cafodd proffwydoliaethau’r Beibl eu cyflawni. Bydd meddwl yn ddwfn am y pethau hyn yn dy helpu di i ddisgwyl yn amyneddgar ac i fod yn siŵr ein bod ni’n byw yn y dyddiau olaf. Drwy ‘wybod am y pethau hyn o flaen llaw,’ fyddwn ni ddim yn cael ein twyllo gan gau-athrawon.—2 Pedr 3:17.

TRECHU OFN DYN

7. Sut gall ofn dyn effeithio arnon ni?

7 Wrth inni gadw dydd Jehofa mewn cof, rydyn ni’n cael ein cymell i rannu’r newyddion da ag eraill. Ond weithiau mae’n anodd inni ddweud unrhyw beth. Pam? Efallai byddwn ni’n ildio i ofn dyn. Digwyddodd hynny i Pedr. Ar noson treial Iesu, roedd Pedr yn ofni dweud ei fod yn un o ddisgyblion Iesu ac fe wnaeth wadu hyd yn oed adnabod Iesu sawl gwaith! (Math. 26:​69-75) Ond, yn nes ymlaen, dywedodd yr un apostol yn llawn hyder: “Peidiwch ag ofni beth maen nhw’n ei ofni, na chynhyrfu.” (1 Pedr 3:14) Mae geiriau Pedr yn rhoi’r hyder inni allu trechu ofn dyn.

8. Beth all ein helpu ni i drechu ofn dyn? (1 Pedr 3:15)

8 Beth all ein helpu ni i ddod dros ofn dyn? Dywedodd Pedr: “Sancteiddiwch y Crist yn Arglwydd yn eich calonnau.” (Darllen 1 Pedr 3:15.) Gallwn ni atgoffa ein hunain mai Iesu Grist yw ein brenin a bod ganddo awdurdod mawr. Os wyt ti’n teimlo’n llawn ofn neu’n nerfus pan mae gen ti’r cyfle i rannu’r newyddion da ag eraill, cofia ein Brenin. Dychmyga ef yn rheoli yn y nefoedd gyda’i holl angylion o’i gwmpas. Cofia fod ganddo bob “awdurdod . . . yn y nef ac ar y ddaear” a bydd ef “gyda chi bob dydd hyd gyfnod olaf y system hon.” (Math. 28:​18-20) Mae Pedr yn ein hannog ni i fod “yn barod bob amser i amddiffyn” ein ffydd. Wyt ti eisiau tystiolaethu yn y gwaith, yn yr ysgol, neu mewn sefyllfa anffurfiol arall? Ceisia feddwl o flaen llaw am ba bryd byddet ti’n gallu gwneud hynny a beth byddet ti’n ei ddweud. Gweddïa am ddewrder a trystia y bydd Jehofa yn dy helpu di i drechu ofn dyn.—Act. 4:29.

“DANGOSWCH GARIAD DWFN”

Rhoddodd Paul gyngor i Pedr. Mae dau lythyr Pedr yn ein dysgu ni i ddangos cariad at ein brodyr a’n chwiorydd (Gweler paragraff 9)

9. Ar un achlysur, sut dangosodd Pedr ddiffyg cariad? (Gweler hefyd y llun.)

9 Dysgodd Pedr sut i ddangos cariad. Roedd yn bresennol pan ddywedodd Iesu: “Rydw i’n rhoi gorchymyn newydd ichi: Mae’n rhaid ichi garu eich gilydd; yn union fel rydw i wedi eich caru chi, dylech chithau garu eich gilydd hefyd.” (Ioan 13:34) Er hynny, ildiodd Pedr i bwysau gan eraill a stopiodd bwyta gyda’i frodyr a’i chwiorydd a oedd yn dod o’r cenhedloedd. Gwnaeth Paul alw Pedr yn rhagrithiwr am hynny. (Gal. 2:​11-14) Derbyniodd Pedr y cyngor a dysgodd ohono. Yn ei ddau lythyr mae’n pwysleisio’r angen nid yn unig i deimlo cariad ond hefyd i’w ddangos.

10. Beth sy’n arwain at “gariad brawdol diragrith”? Esbonia. (1 Pedr 1:22)

10 Mae Pedr yn dweud y dylen ni gael ‘cariad brawdol diragrith’ tuag at ein cyd-gredinwyr. (Darllen 1 Pedr 1:22.) Mae cariad o’r fath yn dod o ganlyniad i “ufudd-dod i’r gwir.” Mae hyn yn cynnwys y ddysgeidiaeth “dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth.” (Act. 10:​34, 35) Dydyn ni ddim yn gallu bod yn ufudd i’r gorchymyn hwnnw os ydyn ni’n dangos cariad at rai yn y gynulleidfa ond nid i eraill. Wrth gwrs, byddwn ni’n teimlo’n agosach at rai nag eraill, fel oedd Iesu. (Ioan 13:23; 20:2) Ond mae Pedr yn ein hatgoffa ni y dylen ni gael cariad brawdol at ein brodyr a’n chwiorydd i gyd, hynny yw, teimlo fel eu bod nhw’n rhan o’n teulu.—1 Pedr 2:17.

11. Beth mae’n ei olygu i garu eraill “o waelod calon”?

11 Gwnaeth Pedr ein hannog ni i garu ein gilydd “o waelod calon.” Yn y cyd-destun hwn, mae caru “o waelod calon” yn golygu mynd y tu hwnt i’n tueddiadau naturiol. Er enghraifft, beth petai brawd yn ein pechu ni neu’n ein brifo ni mewn rhyw ffordd? Efallai byddwn ni eisiau talu’r pwyth yn ôl yn hytrach na dangos cariad. Ond, dysgodd Pedr oddi wrth Iesu dydy hynny ddim yn plesio Duw. (Ioan 18:​10, 11) Ysgrifennodd Pedr: “Peidiwch â thalu yn ôl ddrwg am ddrwg na sarhad am sarhad. Yn hytrach, talwch yn ôl â bendith.” (1 Pedr 3:9) Gad i gariad o waelod calon dy gymell di i fod yn garedig ac yn ystyriol tuag at rai sydd wedi dy frifo.

12. (a) Beth arall fydd cariad dwfn yn ein cymell ni i’w wneud? (b) Pa bethau eraill rwyt ti eisiau eu gosod fel nod, fel sy’n cael eu dangos yn y fideo Trysori’r Rhodd o Undod?

12 Yn ei lythyr cyntaf, defnyddiodd Pedr yr ymadrodd tebyg, “cariad dwfn.” Mae cariad o’r fath yn “gorchuddio nifer mawr o bechodau.” (1 Pedr 4:8) Efallai bod Pedr wedi cofio’r wers gafodd gan Iesu flynyddoedd ynghynt am faddeuant. Mae’n debyg bod Pedr wedi teimlo ei fod yn hael wrth gynnig maddau i rywun “hyd at saith gwaith.” Ond dysgodd Iesu iddo i faddau “hyd at 77 gwaith,” sy’n golygu nifer heb derfyn. (Math. 18:​21, 22) Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd rhoi hyn ar waith, paid â digalonni! Ar adegau, mae holl weision Jehofa wedi ei chael hi’n anodd maddau i eraill. Y peth pwysig i’w wneud ydy cymryd y camau nawr i wneud heddwch â dy frawd a maddau iddo. c

HENURIAID, BUGEILIWCH Y PRAIDD

13. Pa bethau a all ei gwneud hi’n anodd i henuriaid fugeilio eu brodyr a’u chwiorydd?

13 Fyddai Pedr ddim wedi anghofio beth ddywedodd Iesu wrtho ar ôl Ei atgyfodiad: “Bugeilia fy nefaid bach.” (Ioan 21:16) Os wyt ti’n henuriad, rwyt ti’n gwybod bod y geiriau hynny’n berthnasol iti hefyd. Ond gall fod yn anodd i henuriaid ofalu am yr aseiniad pwysig hwn. Mae’n rhaid iddyn nhw ofalu am anghenion corfforol, emosiynol, ac ysbrydol eu teuluoedd yn gyntaf. Maen nhw hefyd yn arwain y gwaith pregethu ac yn paratoi eitemau ar gyfer cyfarfodydd, cynulliadau, a chynadleddau. Ar ben hynny, mae rhai yn gweithio gyda’r Pwyllgor Cyswllt Ysbytai neu gyda’r Adran Dylunio ac Adeiladu’r Gangen. Yn wir, mae henuriaid yn brysur iawn!

Mae henuriaid cariadus yn rhoi o’u hunain er mwyn bugeilio praidd Duw er eu bod nhw’n brysur iawn (Gweler paragraffau 14-15)

14. Beth all gymell henuriaid i fugeilio’r praidd? (1 Pedr 5:​1-4)

14 Gwnaeth Pedr annog ei gyd-henuriaid: “Bugeiliwch braidd Duw.” (Darllen 1 Pedr 5:​1-4.) Os wyt ti’n henuriad, rydyn ni’n gwybod dy fod ti’n caru dy frodyr a dy chwiorydd ac eisiau eu bugeilio nhw. Ond, efallai byddi di mor flinedig, byddi di’n teimlo nad wyt ti’n gallu cyflawni’r aseiniad hwnnw. Beth gelli di ei wneud? Gweddïa ar Jehofa am dy bryderon. Ysgrifennodd Pedr: “Os oes unrhyw un yn gweini, gadewch iddo wneud hynny drwy ddibynnu ar y nerth mae Duw’n ei roi.” (1 Pedr 4:11) Efallai dydy hi ddim yn bosib i broblemau dy frodyr a dy chwiorydd gael eu datrys yn y system hon. Cofia mai Iesu Grist, “y pen bugail,” ydy’r unig un sy’n gallu datrys eu problemau. Y cyfan mae Duw yn ei ofyn gan henuriaid ydy iddyn nhw garu eu brodyr a’u bugeilio nhw, ac i fod yn “esiamplau i’r praidd.”

15. Sut mae un henuriad yn bugeilio’r praidd? (Gweler hefyd y llun.)

15 Mae William, sydd wedi bod yn henuriad am lawer o flynyddoedd, yn deall y pwysigrwydd o fugeilio. Pan ddechreuodd y pandemig COVID-19, gwnaeth ef a’i gyd-henuriaid flaenoriaethu’r angen i gysylltu â phob unigolyn yn eu grwpiau bob wythnos. Mae’n esbonio pam: “Roedd llawer o’r brodyr wedi eu hynysu yn eu cartrefi ac roedd hi’n ddigon hawdd iddyn nhw ddechrau hel meddyliau.” Pan mae brawd neu chwaer yn cael trafferth, mae William yn gwrando’n ofalus ar eu pryderon ac yn ceisio darganfod beth maen nhw ei angen. Yna, mae’n mynd ati i ddod o hyd i ddeunydd, yn aml fideos o’n gwefan, i helpu ei frawd neu ei chwaer. Mae’n ychwanegu: “Mae ’na fwy o angen nag erioed am fugeilio. Mae’n cymryd lot o ymdrech i ddysgu rhai newydd am Jehofa. Mae’n cymryd yr un ymdrech i helpu praidd Duw i aros yn y gwir.”

GAD I JEHOFA GWBLHAU DY HYFFORDDIANT

16. Ym mha ffyrdd gallwn ni roi ar waith y gwersi yn llythyrau Pedr?

16 Rydyn ni wedi trafod dim ond ychydig o’r gwersi sydd i’w cael yn llythyrau Pedr. Efallai dy fod ti wedi gweld rhywbeth rwyt ti eisiau ei wneud yn well. Er enghraifft, a wyt ti eisiau rhoi mwy o amser i feddwl am y bendithion sydd i ddod yn y byd newydd? A wyt ti wedi gosod y nod o dystiolaethu yn y gwaith, yn yr ysgol, neu mewn sefyllfa anffurfiol arall? A wyt ti’n gweld ffyrdd y gelli di ddangos cariad dwfn yn fwy i dy frodyr a dy chwiorydd? Henuriaid, a ydych chi’n barod ac yn awyddus i fugeilio praidd Duw? Bydda’n onest gyda ti dy hun i weld lle gelli di wella, ond paid â digalonni. Mae’r “Arglwydd yn garedig” a bydd yn dy helpu di i wneud yn well. (1 Pedr 2:3) Mae Pedr yn rhoi’r sicrwydd inni: “Bydd Duw . . . yn cwblhau eich hyfforddiant. Bydd ef yn eich gwneud chi’n gadarn, bydd ef yn eich gwneud chi’n gryf, bydd ef yn eich gosod chi ar sylfaen gadarn.”—1 Pedr 5:10.

17. Os ydyn ni’n dal ati ac yn gadael i Jehofa gwblhau ein hyfforddiant, beth fydd y canlyniad?

17 Ar un adeg, roedd Pedr yn teimlo nad oedd yn ddigon da i fod gyda Iesu. (Luc 5:8) Ond oherwydd y cariad a chefnogaeth a gafodd gan Jehofa ac Iesu, llwyddodd Pedr i ddilyn Crist. O ganlyniad, cafodd Pedr ei gymeradwyo i fynd “i mewn i Deyrnas dragwyddol ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist.” (2 Pedr 1:11) Am wobr! Os wyt ti’n dal ati, fel gwnaeth Pedr, a gadael i Jehofa dy hyfforddi di, gelli di hefyd dderbyn y wobr o fywyd tragwyddol. Byddi di’n ‘cyrraedd nod dy ffydd, sef dy achubiaeth.’—1 Pedr 1:9.

CÂN 109 Carwch o Ddyfnder Calon

a Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld sut gall gwersi o lythyrau Pedr ein helpu ni i ddelio â threialon. Hefyd, bydd henuriaid yn cael eu helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau fel bugeiliaid yn well.

b Mae’n debyg bod y Cristnogion a oedd yn byw ym Mhalesteina wedi derbyn dau lythyr Pedr cyn yr ymosodiad cyntaf yn erbyn Jerwsalem yn 66OG.

c Gweler y fideo Trysori’r Rhodd o Undod ar jw.org.