Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Bywyd Cyffrous yng Ngwasanaeth Jehofa

Bywyd Cyffrous yng Ngwasanaeth Jehofa

YM 1951, roeddwn i newydd gyrraedd Rouyn, tref fach yng Nghanada yn nhalaith Quebec. Es i i’r cyfeiriad roeddwn i wedi ei dderbyn a chnocio ar y drws. Daeth Marcel Filteau, a a oedd yn genhadwr, i’r drws. Roedd yn 23 mlwydd oed ac yn dal; ac roeddwn i’n 16 ac yn fyr. Dangosais fy llythyr iddo gyda fy aseiniad i arloesi. Edrychodd ar y llythyr, ac yna arna i, a dweud, “Ydy dy fam yn gwybod dy fod ti yma?”

BYWYD TEULUOL

Roedd fy rhieni wedi symud o’r Swistir i Timmins, tref yn Ontario, Canada, ac fe ges i fy ngeni ym 1934. Tua 1939, dechreuodd fy mam ddarllen y Tŵr Gwylio a mynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa. Roedd fy mrodyr a fy chwiorydd a minnau yn mynd gyda hi. Yn fuan, daeth hi’n un o Dystion Jehofa.

Doedd dad ddim yn hapus gyda’i phenderfyniad. Ond, roedd mam yn caru’r gwir ac yn benderfynol o lynu wrth y gwir, hyd yn oed pan gafodd y gwaith yng Nghanada ei wahardd yn y 1940au. Roedd hi’n wastad yn trin dad yn garedig a gyda pharch, er gwaethaf ei eiriau cas. Oherwydd ei hesiampl dda hi, gwnaeth fy mrodyr, fy chwiorydd, a minnau dderbyn y gwir hefyd. Rydw i’n falch o ddweud, yn y pen draw, fe wnaeth agwedd fy nhad feddalu, a dechreuodd drin y teulu gyda mwy o garedigrwydd.

DECHRAU GWASANAETHU’N LLAWN AMSER

Yn yr haf o 1950, fe wnes i fynychu’r Theocracy’s Increase Assembly yn Efrog Newydd. Roedd cyfarfod brodyr a chwiorydd o ben draw’r byd a gwrando ar brofiadau myfyrwyr Gilead yn wir yn fy nghymell i wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa! Roeddwn i’n fwy penderfynol nag erioed o wasanaethu’n llawn amser. Felly, yr eiliad cyrhaeddais adref, rhoddais gais i mewn i fod yn arloeswr llawn amser. Ysgrifennodd y gangen yng Nghanada’n ôl ac awgrymu efallai byddai’n well petaswn i’n cael fy medyddio’n gyntaf. Felly, dyna beth wnes i ar Hydref 1, 1950. Un mis yn ddiweddarach, ges i fy aseiniad cyntaf fel arloeswr llawn amser yn Kapuskasing. Roedd y dref honno’n bell iawn o le roeddwn i’n byw ar y pryd.

Gwasanaethu yn Quebec

Roedd ’na angen mawr yn y maes Ffrangeg yn Quebec, felly yn y gwanwyn o 1951, gofynnodd y gangen i unrhyw Dystion a oedd yn gallu siarad yr iaith feddwl am symud yno. Gan fy mod i wedi cael fy magu yn siarad Ffrangeg a Saesneg, fe wnes i ymateb i’r angen ac fe ges i fy aseinio i Rouyn. Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un yno, ond aeth pethau’n dda. Daeth Marcel a minnau i fod yn ffrindiau da ac roeddwn i’n mwynhau gwasanaethu yn Quebec am y pedair blynedd nesaf, yn y pen draw fel arloeswr arbennig.

GILEAD A DISGWYLIADAU YN OEDI

Pan oeddwn i yn Quebec, roeddwn i wrth fy modd yn derbyn gwahoddiad i ddosbarth 26 o Ysgol Gilead yn South Lansing, Efrog Newydd. Fe wnes i raddio ar Chwefror 12, 1956, ac fe ges i fy aseinio i Ghana, b yn Orllewin Affrica. Ond cyn imi fynd, roedd rhaid imi fynd yn ôl i Ganada am “ychydig o wythnosau” i gael fy nogfennau.

Yn y pen draw, roedd rhaid imi aros yn Toronto am saith mis am y dogfennau. Yn y cyfamser, fe wnes i aros gyda’r teulu Cripps, a des i adnabod eu merch Sheila yn dda. Syrthion ni mewn cariad. Ond pan oeddwn i ar fin gofyn iddi fy mhriodi i, daeth fy fisa i mewn. Ar ôl gweddïo am y peth, penderfynodd y ddau ohonon ni y dylwn i fynd ymlaen i fy aseiniad. Ond, bydden ni’n dal ati i ysgrifennu at ein gilydd a gweld os byddai’n bosib inni briodi yn y dyfodol. Doedd hwnnw ddim yn benderfyniad hawdd, ond yn nes ymlaen, gwelon ni fod pethau wedi troi allan yn dda.

Ar ôl mis o deithio ar drên, ar long, ac ar awyren, cyrhaeddais Accra yn Ghana. Fe ges i fy mhenodi yno fel arolygwr rhanbarth. Roedd hynny’n golygu bod rhaid imi deithio drwy Ghana yn ogystal â’r Traeth Ifori a Togo. Am y rhan fwyaf o’r amser, roeddwn i’n teithio ar fy mhen fy hun mewn car roedd y gangen wedi ei roi imi. Roeddwn i’n mwynhau bob munud o’r adeg honno!

Ar y penwythnosau, roedd gen i rannau ar gynulliadau cylchdaith. Doedd gynnon ni ddim neuaddau cynulliad. Felly, roedd y brodyr yn adeiladu to dros dro allan o bambŵ a changhennau palmwydd i’n cysgodi ni o’r haul. Gan nad oedd yna unrhyw fodd gadw’r bwyd yn oer, roedden ni’n cadw anifeiliaid wrth law i gael eu lladd ac i’r cig gael ei baratoi ar gyfer y rhai a oedd yn mynychu.

Digwyddodd rai pethau doniol yn y cynulliadau. Unwaith, pan oedd Herb Jennings, c cenhadwr arall, yn rhoi anerchiad, gwnaeth un o’r gwartheg ddianc a rhedeg rhwng y llwyfan a’r gynulleidfa. Gwnaeth Herb stopio siarad ac roedd yr anifail yn edrych yn hollol ar goll. Ond fe wnaeth pedwar brawd cryf ei ddal a’i gario’n ôl, ac roedd pawb yn y gynulleidfa wedi mwynhau’r sioe!

Ar y dyddiau rhwng y cynulliadau, roeddwn i’n dangos y ffilm The New World Society in Action mewn pentrefi cyfagos. I wneud hynny, roeddwn i’n clymu darn o gynfas gwyn rhwng dau bolyn, neu rhwng dwy goeden. Roedd y bobl leol wrth ei boddau! I lawer, hwn oedd y ffilm gyntaf iddyn nhw erioed ei gweld. Gwnaethon nhw glapio’n uchel pan welon nhw bobl yn cael eu bedyddio. Roedd y ffilm yn wir yn eu helpu nhw i weld bod ein cyfundrefn fyd-eang yn unedig.

Gwnaethon ni briodi yn Ghana ym 1959

Ar ôl tua dwy flynedd yn Affrica, roeddwn i’n teimlo’n gyffrous i fynd i gynhadledd ryngwladol yn Efrog Newydd ym 1958. Roedd hi’n bleser gweld Sheila eto, a daeth hi i lawr o Quebec, lle roedd hi wedi bod yn gwasanaethu fel arloeswraig arbennig. Roedden ni wedi bod yn ysgrifennu at ein gilydd, ond nawr roedden ni gyda’n gilydd a gofynnais iddi fy mhriodi i, a gwnaeth hi gytuno. Ysgrifennais at y Brawd Knorr d a gofyn a fyddai Sheila’n gallu mynychu Gilead ac yna mynd i Affrica gyda mi. Gwnaeth ef gytuno ac yn y pen draw, daeth Sheila i Ghana. Priodon ni yn Accra ar Hydref 3, 1959. Rhoddon ni Jehofa yn gyntaf yn ein bywydau a chawson ni ein bendithio am hynny.

GWASANAETHU GYDA’N GILYDD YN CAMERŴN

Yn gweithio yn y gangen yn Camerŵn

Ym 1961, cawson ni ein haseinio i Camerŵn er mwyn sefydlu swyddfa gangen newydd. Fel gwas y gangen newydd, roedd gen i lot i ddysgu ac roeddwn i’n brysur iawn. Ym 1965, dysgon ni fod Sheila yn disgwyl babi. Mae’n rhaid imi gyfaddef, cymerodd beth amser inni ddod i arfer â’r syniad o fod yn rhieni. Roedden ni’n dechrau teimlo’n gyffrous am y cyfrifoldeb newydd hwn ac yn gwneud cynlluniau i fynd yn ôl i Ganada. Ond yna, profon ni golled ofnadwy.

Collodd Sheila y babi. Dywedodd y doctor wrthon ni mai bachgen oedd y plentyn. Er bod hynny dros 50 mlynedd yn ôl, wnaethon ni byth anghofio amdano. Er bod hynny wedi torri ein calonnau, arhoson ni yn yr aseiniad a oedd mor agos at ein calon.

Gyda Sheila yn Camerŵn ym 1965

Cafodd y brodyr yn Camerŵn eu herlid yn aml oherwydd aros yn niwtral mewn pethau gwleidyddol. Aeth pethau’n hynod o anodd yn ystod yr etholiadau arlywyddol. Daeth pethau i ben ar Fai 13, 1970, pan gafodd Tystion Jehofa eu gwahardd yn swyddogol. Cafodd y gangen hyfryd newydd, roedden ni ond wedi symud i mewn iddi pum mis yn gynharach, ei chymryd oddi arnon ni gan y llywodraeth. O fewn wythnos, cafodd yr holl genhadon—gan gynnwys Sheila a minnau—eu gyrru allan o’r wlad. Roedden ni’n caru’r brodyr a’r chwiorydd cymaint. Roedd hi’n anodd inni eu gadael nhw ac roedden ni’n poeni am sut bydden nhw’n ymdopi gyda beth oedd o’u blaenau nhw.

Gwnaethon ni dreulio’r chwe mis nesaf yn y gangen yn Ffrainc. Pan oedden ni yno, roeddwn i’n ceisio gwneud cymaint â phosib i ofalu am anghenion ein brodyr yn Camerŵn. Yn y Rhagfyr, cawson ni ein haseinio i gangen Nigeria a oedd wedi dechrau edrych ar ôl y gwaith yn Camerŵn. Cawson ni groeso mawr yn Nigeria, ac fe wnaethon ni fwynhau gwasanaethu yno am nifer o flynyddoedd.

PENDERFYNIAD ANODD

Ym 1973, roedd rhaid inni wneud penderfyniad anodd iawn. Roedd Sheila wedi bod yn dioddef o broblemau iechyd difrifol. Pan oedden ni yn Efrog Newydd am gynhadledd, dechreuodd hi grio a dweud: “Dwi methu cario mlaen! Dwi ’di blino’n lân a dwi’n sâl drwy’r adeg.” Roedd hi wedi bod yn gwasanaethu gyda fi yng Ngorllewin Affrica am 14 o flynyddoedd. Roeddwn i mor prowd o’i gwasanaeth ffyddlon, ond roedd rhaid i bethau newid. Ar ôl trafod y sefyllfa a gweddïo amdani am yn hir, penderfynon ni symud yn ôl i Ganada lle byddai’n haws cael gofal iechyd da. Gadael ein haseiniad a stopio yn y gwasanaeth llawn amser oedd y penderfyniad anoddaf roedden ni erioed wedi ei wneud.

Ar ôl cyrraedd Canada, fe ges i jòb gyda hen ffrind a oedd yn gwerthu ceir mewn pentref i’r gogledd o Toronto. Fe wnaethon ni rentu fflat, prynu dodrefn ail-law, a symud heb fynd i ddyled. Roedden ni’n gobeithio mynd yn ôl i’r gwasanaeth llawn amser ryw ddydd, felly cadwon ni ein bywyd yn syml. Ond, doedden ni ddim yn disgwyl i’r cyfle godi mor gyflym.

Dechreuais wirfoddoli ar ddyddiau Sadwrn pan oedd y Neuadd Cynulliad newydd yn cael ei hadeiladu yn Norval, Ontario. Mewn amser, fe ges i wahoddiad i wasanaethu fel arolygwr ar y neuadd newydd. Roedd iechyd Sheila yn gwella, ac roedden ni’n teimlo ein bod ni’n gallu derbyn yr aseiniad newydd hwn. Felly, symudon ni i’r fflat wrth ochr y Neuadd Cynulliad ym Mehefin, 1974. Roedden ni mor hapus bod yn y gwasanaeth llawn amser eto!

Gwellodd iechyd Sheila dros y ddwy flynedd nesaf, ac roedden ni’n gallu derbyn aseiniad yn y gwaith cylch. Roedd y gylchdaith ym Manitoba, talaith o Ganada sy’n adnabyddus am fod yn ddychrynllyd o oer yn y gaeaf. Er hynny, roedd cynhesrwydd y brodyr a’r chwiorydd yno yn codi ein calon. Dysgon ni nad ydy hi’n bwysig lle rydyn ni’n gwasanaethu—y peth pwysig ydy ein bod ni’n gwasanaethu Jehofa ble bynnag ydyn ni.

DYSGU GWERS BWYSIG

Ar ôl rhai blynyddoedd yn y gwaith cylch, derbynion ni wahoddiad i wasanaethu yn y Bethel yng Nghanada ym 1978. Yn fuan wedyn, dysgais wers a oedd yn bwysig ond hefyd yn boenus. Fe ges i aseiniad i roi anerchiad Ffrangeg awr a hanner o hyd mewn cyfarfod arbennig ym Montreal. Ond, doedd fy anerchiad ddim yn dal sylw’r gynulleidfa, a gwnaeth brawd o’r Adran Wasanaeth roi cyngor imi amdano. I fod yn onest, dylwn i fod wedi sylweddoli bryd hynny nad ydw i’r siaradwr gorau. Wnes i ddim cymryd y cyngor yn rhy dda. Roedd ein personoliaethau yn wahanol iawn. Roeddwn i’n teimlo ei fod wedi bod yn rhy llym a heb roi unrhyw ganmoliaeth. Yn anffodus, fe wnes i’r camgymeriad o ganolbwyntio ar sut roeddwn i’n teimlo am y person ac ar y ffordd cafodd y cyngor ei roi.

Dysgais wers bwysig ar ôl rhoi anerchiad Ffrangeg

Rai dyddiau wedyn, gwnaeth brawd ar Bwyllgor y Gangen gael gair â mi am y mater. Fe wnes i gyfaddef nad oeddwn i wedi ymateb yn dda i’r cyngor ac roeddwn i’n teimlo’n sori am hynny. Nesaf, siaradais â’r brawd a oedd wedi rhoi’r cyngor imi, ac fe wnaeth ef faddau imi’n garedig. Gwnaeth y profiad hwnnw ddangos imi’r pwysigrwydd o ostyngeiddrwydd, a fydda i byth yn anghofio hynny. (Diar. 16:18) Rydw i wedi gweddïo ar Jehofa llawer gwaith am hyn, ac rydw i’n benderfynol o byth edrych i lawr ar gyngor eto.

Rydw i wedi bod yn gwasanaethu yn y Bethel yng Nghanada am dros 40 o flynyddoedd, ac ers 1985 wedi cael y fraint o wasanaethu ar Bwyllgor y Gangen. Yn Chwefror 2021, bu farw Sheila annwyl. Yn ogystal â delio â’r galar, mae gen i fy mhroblemau iechyd fy hun. Ond, rydw i mor brysur ac yn hapus yng ngwasanaeth Jehofa fel nad ydw i’n ‘meddwl yn ormodol am ddyddiau fy mywyd.’ (Preg. 5:​20, BCND) Er fy mod i wedi cael llawer o broblemau, rydw i wedi cael llawer iawn mwy o fendithion. Mae rhoi Jehofa’n gyntaf yn fy mywyd a’i wasanaethu’n llawn amser am 70 o flynyddoedd wedi rhoi boddhad llwyr imi. Rydw i’n gweddïo y bydd ein brodyr a’n chwiorydd ifanc hefyd yn rhoi Jehofa’n gyntaf yn eu bywydau. Bydd gwasanaethu Jehofa’n rhoi bywyd cyffrous a llawn bendithion iddyn nhw!

a Gweler hanes bywyd Marcel Filteau, “Jehovah Is My Refuge and Strength,” yn rhifyn Chwefror 1, 2000, o’r Tŵr Gwylio Saesneg.

b Hyd at 1957, roedd yr ardal hon o Affrica yn drefedigaeth Brydeinig a elwir y Traeth Aur, neu’r Gold Coast.

c Gweler hanes bywyd Herbert Jennings, “You Do Not Know What Your Life Will Be Tomorrow,” yn rhifyn Rhagfyr 1, 2000, o’r Tŵr Gwylio Saesneg.

d Roedd Nathan H. Knorr yn cymryd y blaen yn ein gwaith ar y pryd.