ERTHYGL ASTUDIO 39
CÂN 125 “Gwyn Eu Byd y Rhai Trugarog”
Dod yn Hapusach Drwy Roi i Eraill
“Mae mwy o hapusrwydd yn dod o roi nag o dderbyn.”—ACT. 20:35.
PWRPAS
Ffyrdd o gadw ein llawenydd wrth roi, ac i ddod yn hapusach byth.
1-2. Pam mae Jehofa wedi ein dylunio ni i gael mwy o hapusrwydd o roi nag o dderbyn?
GWNAETH Jehofa ein dylunio ni gyda’r gallu i gael mwy o hapusrwydd o roi nag o dderbyn. (Act. 20:35) Wrth gwrs, rydyn ni’n gwybod o brofiad ein bod ni’n mwynhau derbyn anrhegion. Ond, rydyn ni’n teimlo’n hapusach byth pan ydyn ni’n rhoi i eraill. Ac mae’n beth da bod Jehofa wedi ein creu ni fel hyn. Pam?
2 Drwy ein creu ni fel hyn, mae Jehofa’n caniatáu inni gael rheolaeth dros ein hapusrwydd. Gallwn ni gael mwy o lawenydd drwy chwilio am ffyrdd i roi i eraill. Onid ydy hynny’n rhyfeddol?—Salm 139:14.
3. Pam mae’r Beibl yn disgrifio Jehofa fel “y Duw hapus”?
3 Yn ôl y Beibl, mae rhoi yn ein gwneud ni’n hapus. Felly, rydyn ni’n deall pam mae’r Beibl yn disgrifio Jehofa fel “y Duw hapus.” (1 Tim. 1:11) Ef oedd yr un cyntaf i roi i eraill, a does neb yn rhoi mwy nag y mae Jehofa. Diolch i Dduw “mae gynnon ni fywyd ac rydyn ni’n symud ac yn bodoli,” yn union fel dywedodd yr apostol Paul. (Act. 17:28) Yn wir, “mae pob rhodd dda a phob anrheg berffaith” yn dod oddi wrth Jehofa.—Iago 1:17.
4. Sut gallwn ni fod yn hapusach?
4 Mae’n debyg bod pob un ohonon ni eisiau teimlo mwy o’r hapusrwydd sy’n dod o roi. Bydd hynny’n bosib os ydyn ni’n efelychu haelioni Jehofa. (Eff. 5:1) Wrth inni ystyried ei haelioni, byddwn ni hefyd yn trafod beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni’n teimlo nad ydy eraill yn gwerthfawrogi ein hymdrechion. Bydd hyn yn ein cymell ni i ddal ati i roi i eraill ac i ddod yn hapusach byth.
EFELYCHA HAELIONI JEHOFA
5. Pa bethau materol y mae Jehofa wedi eu rhoi inni?
5 Sut mae Jehofa’n dangos ei haelioni? Ystyria rai esiamplau. Mae Jehofa’n rhoi pethau materol inni. Efallai fydd Ef ddim yn rhoi pethau moethus inni, ond mae Jehofa yn rhoi inni beth rydyn ni’n ei angen. Er enghraifft, mae’n rhoi bwyd, dillad, a lloches inni. (Salm 4:8; Math. 6:31-33; 1 Tim. 6:6-8) A ydy Jehofa ond yn gwneud hyn allan o ddyletswydd? Ddim o gwbl! Felly, beth sy’n ei gymell?
6. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Mathew 6:25, 26?
6 Yn syml, mae cariad yn cymell Jehofa i ofalu amdanon ni. Ystyria geiriau Iesu yn Mathew 6:25, 26. (Darllen.) Wrth sôn am adar, dywedodd Iesu: “Dydyn nhw ddim yn hau hadau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau.” Ond, sylwa beth mae’n dweud nesaf: “Mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw.” Yna, mae Iesu’n gofyn: “Onid ydych chithau yn werth mwy na nhw?” Beth ydy’r wers? Yng ngolwg Jehofa, mae ei bobl yn fwy gwerthfawr nag anifeiliaid. Ac os ydy Jehofa yn gofalu am anifeiliaid, gallwn ni fod yn sicr y bydd yn gofalu amdanon ni! Fel tad cariadus, mae Jehofa’n gofalu am ei deulu.—Salm 145:16; Math. 6:32.
7. Sut gallwn ni efelychu haelioni Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)
7 Fel Jehofa, gall cariad ein cymell ni i roi pethau materol i eraill. Er enghraifft, wyt ti’n gallu meddwl am frawd neu chwaer sydd angen bwyd neu ddillad? Gall Jehofa dy ddefnyddio di i’w helpu nhw. Mae pobl Jehofa yn enwog am ddangos haelioni pan mae trychineb yn taro. Er enghraifft, yn ystod y pandemig COVID-19, gwnaeth brodyr a chwiorydd rannu bwyd, dillad, a phethau eraill gyda rhai a oedd mewn angen. Roedd llawer yn hael wrth gyfrannu arian at y gwaith byd-eang i gefnogi ymdrechion i roi cymorth ar ôl trychineb. Rhoddon nhw ar waith y geiriau yn Hebreaid 13:16: “Peidiwch ag anghofio gwneud daioni a rhannu’r hyn sydd gynnoch chi ag eraill, oherwydd bod aberthau o’r fath yn plesio Duw’n fawr.”
8. Sut mae nerth Jehofa yn ein helpu ni? (Philipiaid 2:13)
8 Mae Jehofa’n rhoi nerth inni. Mae Jehofa’n hapus i rannu ei rym di-ben-draw â’i addolwyr ffyddlon. (Darllen Philipiaid 2:13.) A wyt ti erioed wedi gweddïo am y nerth i wrthod temtasiwn, neu’r grym i ddyfalbarhau treial anodd? Efallai rwyt ti hefyd wedi gweddïo am ddigon o egni i ddal ati am un diwrnod arall. Pan gafodd dy weddi ei hateb, mae’n siŵr dy fod ti wedi teimlo’r un fath â’r apostol Paul, a ysgrifennodd: “Mae gen i’r grym i wynebu pob peth drwy’r un sy’n rhoi nerth imi.”—Phil. 4:13.
9. Sut gallwn ni efelychu ffordd Jehofa o ddefnyddio nerth? (Gweler hefyd y llun.)
9 Er ein bod ni’n amherffaith, gallwn ni efelychu ffordd hael Jehofa o ddefnyddio ei bŵer. Dydyn ni ddim yn gallu rhoi nerth nac egni llythrennol i eraill, ond gallwn ni ddefnyddio ein grym i’w helpu nhw. Er enghraifft, gallwn ni wneud jobsys bach neu waith o gwmpas y tŷ ar gyfer brawd neu chwaer sy’n hŷn neu sy’n sâl. Yn ôl ein hamgylchiadau, gallwn ni wirfoddoli i lanhau’r Neuadd neu i wneud gwaith cynnal a chadw. Drwy ddefnyddio ein nerth fel hyn gallwn ni wneud cymaint o ddaioni i’n brodyr a’n chwiorydd.
10. Sut gallwn ni ddefnyddio geiriau i gryfhau eraill?
10 Paid ag anghofio’r effaith gall dy eiriau ei chael ar eraill. A wyt ti’n gallu meddwl am rywun sydd angen cymeradwyaeth neu gysur? Os felly, beth am gymryd y cam cyntaf i gynnig help? Gelli di wneud hynny mewn person, dros y ffôn, neu efallai drwy anfon cerdyn, e-bost, neu neges destun. Does dim rhaid iti boeni am beth i’w ddweud. Gall cwpl o eiriau syml helpu dy frawd neu chwaer i aros yn ffyddlon am un diwrnod arall, neu i deimlo’n well am ei sefyllfa.—Diar. 12:25; Eff. 4:29.
11. Sut mae Jehofa’n defnyddio ei ddoethineb?
11 Mae Jehofa’n rhoi doethineb. Ysgrifennodd Iago: “Os oes gan unrhyw un ohonoch chi ddiffyg doethineb, fe ddylai ddal ati i ofyn i Dduw a bydd yn cael ei roi iddo, oherwydd mae ef yn rhoi’n hael i bob un heb geryddu.” (Iago 1:5; tdn.) Mae’r geiriau hyn yn dangos dydy Jehofa ddim yn cadw ei ddoethineb iddo’i hun. Mae’n ei rannu ag eraill. Sylwa hefyd, wrth iddo roi doethineb i eraill, mae’n gwneud hynny heb ‘geryddu’r’ person, neu “heb weld bai arno.” Dydy ef byth yn ein dwrdio ni am gyfaddef ein bod ni angen ei arweiniad. Yn hytrach, mae’n ein hannog ni i chwilio amdano.—Diar. 2:1-6.
12. Pa gyfleoedd sydd gynnon ni i rannu ein doethineb?
12 Beth amdanon ni? A allwn ni efelychu Jehofa drwy rannu ein doethineb ag eraill? (Salm 32:8) Mae gynnon ni lawer o gyfleoedd i rannu beth rydyn ni’n gwybod ag eraill. Er enghraifft, rydyn ni’n hyfforddi pobl newydd yn y weinidogaeth. Mae henuriaid yn dysgu gweision y gynulleidfa a brodyr eraill am sut i ofalu am aseiniadau yn y gynulleidfa. Ac mae’r rhai profiadol yn dysgu eraill sut i weithio ar brosiectau adeiladu theocrataidd.
13. Pan ydyn hyfforddi eraill, sut gallwn ni efelychu ffordd Jehofa o rannu doethineb?
13 Byddai’n syniad da i’r rhai sy’n hyfforddi eraill efelychu ffordd Jehofa o rannu ei ddoethineb. Cofia fod Jehofa yn gwneud hynny’n hael. Mewn ffordd debyg, rydyn ni eisiau bod yn hael wrth rannu ein gwybodaeth a’n profiad â’r rhai sy’n dysgu. Dydyn ni ddim yn dal yn ôl rhag hyfforddi eraill gan ofni y byddan nhw’n cymryd ein haseiniad. Dydyn ni ddim chwaith yn meddwl: ‘Wnaeth neb fy hyfforddi i! Gad iddo ddysgu ar ei ben ei hun.’ Does gan agwedd o’r fath ddim lle yng nghyfundrefn Jehofa. Felly, rydyn ni’n rhoi nid yn unig ein gwybodaeth “ond hefyd ni’n hunain” i’r rhai rydyn ni’n eu hyfforddi. (1 Thes. 2:8) Rydyn ni’n gobeithio byddan nhw’n “ddigon cymwys i ddysgu eraill hefyd.” (2 Tim. 2:1, 2) Trwy rannu ein doethineb ag eraill, byddwn ni i gyd ar ein hennill ac yn hapusach.
PAN NAD YDY ERAILL YN DANGOS EU GWERTHFAWROGIAD
14. Sut mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymateb i’n haelioni?
14 Pan ydyn ni’n hael, yn enwedig tuag at ein brodyr a’n chwiorydd, maen nhw’n aml yn dangos eu gwerthfawrogiad. Efallai byddan nhw’n gwneud hynny drwy anfon cerdyn neu mewn ffordd arall. (Col. 3:15) Mae clywed geiriau o ddiolch yn codi ein calonnau.
15. Beth dylen ni ei gofio pan nad ydy eraill yn dweud diolch?
15 Ond, dydy pobl ddim bob tro yn dangos eu diolch. Efallai byddwn ni’n rhoi o’n hamser, o’n hegni, ac o’n hadnoddau, ond yna ddim yn gwybod os ydy’r person wedi gwerthfawrogi ein hymdrechion. Os ydy hynny’n digwydd, sut gallwn ni osgoi colli ein llawenydd neu droi’n chwerw? Cofia geiriau ein prif adnod, Actau 20:35. Dydy ein hapusrwydd ddim yn dibynnu ar ymateb eraill. Gallwn ni ddewis bod yn hapus wrth roi i eraill, hyd yn oed os dydyn nhw ddim yn ymddangos yn ddiolchgar. Sut? Ystyria rai ffyrdd.
16. Beth dylen ni ganolbwyntio arno wrth inni roi?
16 Canolbwyntia ar efelychu Jehofa. Mae’n rhoi pethau da i bobl, ni waeth os ydyn nhw’n ddiolchgar neu ddim. (Math. 5:43-48) Mae Jehofa’n addo pan ydy’n ni’n rhoi “heb obeithio am gael unrhyw beth yn ôl,” bydd ein “gwobr yn fawr.” (Luc 6:35) Gall “unrhyw beth” gynnwys diolchgarwch. Hyd yn oed os nad ydy eraill yn ddiolchgar, pan fyddwn ni’n rhoi yn llawen, bydd Jehofa yn talu’n ôl inni am yr holl bethau da rydyn ni’n eu gwneud ar gyfer eraill.—Diar. 19:17; 2 Cor. 9:7.
17. Ar beth dylen ni ganolbwyntio? (Luc 14:12-14)
17 Gallwn ni hefyd efelychu Jehofa drwy roi ar waith beth ddywedodd Iesu yn Luc 14:12-14. (Darllen.) Dydy hi ddim yn anghywir i fod yn hael i’r rhai sy’n gallu gwneud rhywbeth tebyg inni. Ond, beth os oes gynnon ni’r arfer, i ryw raddau, o roi gan ddisgwyl rhywbeth yn ôl? Byddai’n beth da inni roi ar waith beth ddywedodd Iesu. Gallwn ni fod yn hael i rywun sydd ddim yn gallu rhoi yn ôl inni. Yna, byddwn ni’n hapus am ein bod ni’n efelychu Jehofa. Bydd yr agwedd honno’n ein helpu ni i gadw ein llawenydd pan nad ydy eraill yn dangos eu gwerthfawrogiad.
18. Beth fydd yn ein helpu ni i faddau i eraill?
18 Paid â chwestiynu eu cymhellion. (1 Cor. 13:7) Os nad ydy eraill yn dangos eu diolch, gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘A ydyn nhw’n wir yn anniolchgar, neu ydyn nhw ond wedi anghofio dweud diolch?’ Mae’n bosib na fyddan nhw’n ymateb yn y ffordd rydyn ni’n gobeithio amdani am resymau eraill. Efallai eu bod nhw’n teimlo’n ddiolchgar iawn, ond yn ei chael hi’n anodd dangos hynny. Neu, beth os ydyn nhw’n teimlo cywilydd am ofyn am help, yn enwedig os oedden nhw wedi arfer rhoi help i eraill? Beth bynnag yw’r achos, bydd cariad Cristnogol yn ein cymell ni i faddau iddyn nhw, ac i ddal ati i fod yn llawen wrth roi.—Eff. 4:2.
19-20. Sut gall amynedd ein helpu ni wrth roi i eraill? (Gweler hefyd y llun.)
19 Bydda’n amyneddgar. Wrth sôn am fod yn hael, dywedodd y Brenin Solomon: “Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd; canys ti a’i cei ar ôl llawer o ddyddiau.” (Preg. 11:1, BC) Fel mae’r geiriau hyn yn dangos, efallai bydd rhai yn ymateb i’n haelioni ar ôl i gryn dipyn o amser fynd heibio, neu “ar ôl llawer o ddyddiau.” Ystyria brofiad sy’n dangos hyn.
20 Blynyddoedd yn ôl, anfonodd gwraig arolygwr cylchdaith lythyr calonogol at chwaer a oedd newydd gael ei bedyddio i’w hannog hi i aros yn ffyddlon. Tua wyth mlynedd wedyn, fe wnaeth y chwaer ymateb mewn llythyr a dweud: “Roedd yn rhaid imi ysgrifennu atat ti i ddweud faint rwyt ti wedi fy helpu i heb iti wybod. Roedd dy nodyn yn gynnes iawn, ond gwnaeth yr adnod fe wnest ti ei chynnwys wir gyffwrdd fy nghalon a dydw i erioed wedi anghofio hynny.” a Ar ôl iddi esbonio ychydig o’r problemau roedd hi wedi eu hwynebu, dywedodd y chwaer: “Weithiau o’n i’n teimlo fel fy mod i eisiau cefnu ar bopeth—y gwir, fy nghyfrifoldebau—popeth. Ond roedd yr adnod fe wnest ti ei hanfon yn pigo fy nghalon ac o’n i’n dal ati.” Ychwanegodd hi: “Ni wnaeth unrhyw beth gael cymaint o effaith arna i dros yr wyth mlynedd diwethaf hyn.” Dychmyga ba mor hapus roedd gwraig yr arolygwr cylchdaith i gael y llythyr hwnnw “ar ôl llawer o ddyddiau”! Efallai byddwn ninnau hefyd yn clywed gair o ddiolch yn hir ar ôl inni roi i eraill.
21. Pam rwyt ti’n benderfynol o efelychu haelioni Jehofa?
21 Yn wir, mae Jehofa wedi rhoi gallu arbennig inni. Er ein bod ni’n mwynhau derbyn, rydyn ni’n teimlo’n hapusach byth pan ydyn ni’n rhoi i eraill. Rydyn ni’n teimlo’n dda pan ydyn ni’n gallu helpu ein cyd-addolwyr, ac rydyn ni’n hapus pan maen nhw’n dangos eu gwerthfawrogiad. Ond, hyd yn oed os nad ydy’r person yn diolch inni, gall gwneud y peth iawn roi boddhad inni. Paid byth ag anghofio, ni waeth beth rwyt ti’n ei roi, “mae [Jehofa] yn gallu rhoi lot mwy na hynny i ti.” (2 Cron. 25:9) Dydyn ni ddim yn gallu rhoi mwy nag y mae Ef yn gallu ei roi. Y llawenydd mwyaf posib ydy cael ein gwobrwyo gan Jehofa ei hun. Felly, gad inni fod yn benderfynol o efelychu ein Tad hael.
CÂN 17 ‘Dwi Eisiau Dy Helpu’
b DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae’r llun yn portreadu gwraig arolygwr cylchdaith a roddodd anogaeth i rywun. Blynyddoedd yn ddiweddarach, mae hi’n derbyn llythyr yn diolch iddi.