Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 36

CÂN 89 Gwrandewch, Ufuddhewch, a Chewch Fendithion

‘Gweithreda yn Unol â’r Gair’

‘Gweithreda yn Unol â’r Gair’

“Gweithredwch yn unol â’r gair yn hytrach na gwrando arno’n unig.”IAGO 1:22.

PWRPAS

Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i gryfhau ein hawydd, nid yn unig i ddarllen Gair Duw bob dydd, ond hefyd i feddwl amdano a’i roi ar waith.

1-2. Beth sy’n gwneud gweision Jehofa’n hapus? (Iago 1:​22-25)

 MAE Jehofa a’i fab annwyl eisiau inni fod yn hapus. Dywedodd ysgrifennydd Salm 119:2: “Mae’r rhai sy’n gwneud beth mae’n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi eu bendithio’n fawr!” Ychwanegodd Iesu at hyn drwy ddweud: “Hapus ydy’r rhai sy’n clywed gair Duw ac yn ei gadw!”Luc 11:28.

2 Fel addolwyr Jehofa, rydyn ni’n hapus. Pam? Mae gynnon ni lawer o resymau dros fod yn hapus. Ond, ddylen ni ddim esgeuluso darllen Gair Duw yn rheolaidd a gweithredu arno.—Darllen Iago 1:​22-25.

3. Sut rydyn ni’n elwa o weithredu ar beth rydyn ni’n ei ddarllen yng Ngair Duw?

3 Rydyn ni’n elwa mewn llawr o ffyrdd pan ydyn ni’n ‘gweithredu yn unol â’r gair.’ Rydyn ni’n gwybod bod gwneud hyn yn gam pwysig er mwyn inni blesio Jehofa. Mae sylweddoli hyn yn ein gwneud ni’n hapus. (Preg. 12:13) Wrth inni roi ar waith beth rydyn ni’n ei ddarllen yng Ngair ysbrydoledig Duw, rydyn ni’n gwella ein bywyd teuluol ac yn cryfhau ein perthynas ag eraill yn y gynulleidfa. Mae’n siŵr dy fod ti wedi profi hyn yn dy fywyd di. Ar ben hynny, rydyn ni hefyd yn osgoi’r problemau sy’n dod i’r rhai sydd ddim yn dilyn ffordd Jehofa. Ar ôl i’r Brenin Dafydd sôn am gyfraith a barnedigaethau Jehofa Dduw mewn cân, daeth i’r casgliad: “Mae gwobr fawr i’r rhai sy’n ufuddhau.” (Salm 19:​7-11) Mae’n siŵr ein bod ni’n cytuno â’r geiriau hynny.

4. Pam dydy hi ddim yn beth hawdd inni weithredu’n unol â Gair Duw?

4 Ond mae’n rhaid inni fod yn realistig, dydy hi ddim yn beth hawdd inni ‘weithredu yn unol â gair Duw’ drwy’r amser. Mae’n rhaid inni neilltuo amser yn ystod ein bywydau prysur er mwyn darllen Gair Duw a deall beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud. Felly, gad inni adolygu sylwadau sy’n mynd i’n helpu ni i ddarllen Gair Duw yn ddyddiol. Byddwn ni hefyd yn edrych ar awgrymiadau sy’n mynd i’n helpu ni i feddwl am beth rydyn ni’n ei ddarllen a gweithredu ar beth rydyn ni’n ei ddysgu.

NEILLTUA AMSER I DDARLLEN GAIR DUW

5. Pa gyfrifoldebau sy’n cymryd llawer o’n hamser?

5 Mae gan y rhan fwyaf o bobl Jehofa fywydau hynod o brysur. Rydyn ni’n treulio lot o amser yn edrych ar ôl cyfrifoldebau Ysgrythurol. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n gweithio’n seciwlar i ennill digon o arian i ofalu amdanon ni’n hunain a’n teuluoedd. (1 Tim. 5:8) Mae nifer o Gristnogion yn edrych ar ôl perthnasau sy’n sâl neu sydd wedi mynd yn hŷn. Mae gan bawb y cyfrifoldeb o edrych ar ôl eu hiechyd eu hunain, sy’n cymryd amser. Ar ben hyn, mae gynnon ni aseiniadau yn y gynulleidfa. Un o’n cyfrifoldebau mwyaf yw bod yn selog yn y weinidogaeth. Gyda’r holl ddyletswyddau hyn, sut gallwn ni ffeindio amser i ddarllen y Beibl yn ddyddiol, i fyfyrio arno, ac i weithredu arno?

6. Sut gelli di flaenoriaethu darllen y Beibl? (Gweler hefyd y llun.)

6 Darllen y Beibl yw un o’r pethau mwyaf pwysig mae’n rhaid inni ei wneud fel Cristnogion, felly mae angen iddo fod yn flaenoriaeth inni. (Phil. 1:10) Ynglŷn â’r dyn hapus, mae’r salm gyntaf yn dweud ei fod “wrth ei fodd yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau, ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu [eu darllen, NWT] ddydd a nos.” (Salm 1:​1, 2) Felly, mae’n glir bod rhaid inni neilltuo amser ar gyfer darllen y Beibl. Pryd yw’r amser gorau i wneud hynny? Wel, efallai bydd yn wahanol i bob un ohonon ni. Ond yn syml, dylai fod ar amser y gallwn ni ei wneud yn rheolaidd. Mae brawd o’r enw Victor yn dweud: “Rydw i’n hoffi darllen y Beibl yn y bore er nad ydw i’n berson sy’n hoffi boreau. Ond, yn gynnar yn y diwrnod, mae ’na lai o bethau i dynnu fy sylw a galla i ffocysu fy meddwl yn well.” Ydy hynny’n wir amdanoch chi? Gofynna i ti dy hun, ‘Pryd yw’r amser gorau i fi ddarllen y Beibl?’

Pa amser sydd orau i ddarllen y Beibl? Pryd wyt ti’n gallu gwneud hynny’n rheolaidd? (Gweler paragraff 6)


YSTYRIA BETH RWYT TI’N EI DDARLLEN

7-8. Beth all ein rhwystro ni rhag cymryd y wybodaeth i mewn? Eglura.

7 Y realiti yw, er ein bod ni’n darllen yn aml, dydyn ni ddim yn cymryd llawer o’r wybodaeth i mewn. Wyt ti erioed wedi darllen rhywbeth ac yna, eiliadau wedyn, anghofio beth rwyt ti wedi ei ddarllen? Mae hynny wedi digwydd i bob un ohonon ni. Yn anffodus, gall hynny ddigwydd pan ydyn ni’n darllen y Beibl. Efallai y byddwn ni’n gosod nod o ddarllen nifer o benodau bob diwrnod, ac mae hynny’n dda iawn. Dylen ni osod nod a cheisio glynu wrtho. (1 Cor. 9:26) Ond, darllen y Beibl yw dechrau’r broses. Mae angen inni wneud mwy i gael y buddion o ddarllen Gair Duw.

8 Meddylia am hyn: Mae dŵr, yn aml ar ffurf glaw, yn hollbwysig ar gyfer bywyd. Ond os ydy gormod o law yn disgyn mewn amser byr, mae’r tir yn mynd yn ddirlawn. Pan mae hynny’n digwydd, fyddai mwy o law ddim yn fuddiol. Mae eisiau amser ar y tir i amsugno’r dŵr o’r glaw a’i ddarparu ar gyfer y planhigion. Yn yr un modd, dylen ni osgoi darllen y Beibl yn gyflym, hynny yw, mor gyflym fel nad ydyn ni’n amsugno’r wybodaeth rydyn ni’n ei ddarllen.—Iago 1:24.

Yn union fel mae’n cymryd amser i dir amsugno dŵr, mae’n cymryd amser i ddarllen Gair Duw, i feddwl amdano, ac i weithredu arno (Gweler paragraff 8)


9. Os ydyn ni’n tueddu i ddarllen y Beibl yn rhy glou, beth dylen ni ei wneud?

9 Wyt ti erioed wedi teimlo dy fod ti’n darllen y Beibl yn rhy glou? Beth dylet ti ei wneud? Arafa. Ymdrecha i feddwl am beth rwyt ti wedi ei ddarllen. Os ydy’r syniad o fyfyrio’n teimlo’n anodd iti, paid â gorfeddwl y sefyllfa. Yn syml, mae myfyrio yn golygu creu cyfle iti feddwl am beth rwyt ti newydd ei ddarllen. Efallai bydd angen ehangu’r amser rwyt ti’n ei ddefnyddio i ddarllen y Beibl a meddwl amdano. Ar y llaw arall, efallai gelli di benderfynu darllen llai o adnodau a defnyddio gweddill yr amser i feddwl amdanyn nhw. “Rydw i’n cadw fy narlleniad o’r Beibl yn fyr, efallai dim ond un bennod,” dywedodd Victor a ddyfynnwyd yn gynharach. “Am fy mod yn darllen yn gynnar yn y bore, galla i fyfyrio arno drwy weddill y diwrnod.” Pa bynnag dull rwyt ti’n ei ddefnyddio, mae’n bwysig dy fod ti’n darllen ar gyflymder sy’n dy alluogi di i gael y buddion mwyaf o beth rwyt ti’n ei ddarllen.—Salm 119:97; gweler y blwch “ Cwestiynau i’w Hystyried.”

10. Sut gelli di roi ar waith beth rwyt ti’n ei ddysgu? Eglura. (1 Thesaloniaid 5:​17, 18)

10 Does dim ots pryd rwyt ti’n darllen y Beibl neu faint o amser rwyt ti’n ei gymryd. Ond, sicrha dy fod ti’n defnyddio beth rwyt ti’n ei ddysgu yn dy fywyd. Wrth ddarllen, meddylia, ‘Sut galla i weithredu ar hyn nawr neu yn y dyfodol agos?’ I egluro, efallai byddi di’n darllen 1 Thesaloniaid 5:​17, 18. (Darllen.) Ar ôl darllen y ddwy adnod hyn, gelli di stopio a meddwl am ba mor aml rwyt ti’n gweddïo. Hefyd, gelli di feddwl am bethau rwyt ti’n ddiolchgar amdanyn nhw, a gosod nod o weddïo ar Jehofa i ddiolch iddo am dri pheth sbesiffig. Os wyt ti’n neilltuo cwpl o funudau yn unig i wneud hyn, byddi di’n wir yn gweithredu ar Air Duw. Meddylia, petaset ti’n gwneud hyn ar wahanol ddarnau o’r Beibl am gwpl o funudau bob diwrnod, byddet ti’n tyfu cymaint yn fwy yn dy wasanaeth i Dduw. Beth os oes yna nifer o bethau y mae angen iti weithio arnyn nhw?

GOSODA NODAU RHESYMOL

11. Pam gelli di deimlo’n ddigalon weithiau? Rho esiampl.

11 Mae’n bosib inni deimlo’n ddigalon wrth inni ddarllen y Beibl a gweld cymaint mae’n rhaid inni weithio arno. Meddylia am y senario hon: Heddiw, mae dy ddarlleniad o’r Beibl yn cynnwys cyngor ar sut i osgoi dangos ffafriaeth. (Iago 2:​1-8) Rwyt ti’n gweld sut gelli di wella’r ffordd rwyt ti’n trin eraill, ac rwyt ti’n penderfynu gwneud newidiadau. Gwych! Ond efallai fory rwyt ti’n darllen rhywbeth sy’n sôn am bwysigrwydd ffrwyno dy dafod. (Iago 3:​1-12) Rwyt ti’n gweld dy fod ti weithiau’n siarad mewn ffordd negyddol. Felly rwyt ti’n penderfynu bod yn fwy positif. Mae dy ddarlleniad o’r Beibl y diwrnod ar ôl hynny yn rhoi rhybudd ar sut ddylen ni ddim bod yn ffrind i’r byd. (Iago 4:​4-12) Rwyt ti’n sylwi dylet ti fod yn graff gyda dy benderfyniadau o ran adloniant. Erbyn y diwrnod olynol, efallai byddi wedi dy orlwytho gyda’r holl bethau y mae’n rhaid iti weithio arnyn nhw.

12. Pam na ddylen ni ddigalonni os ydyn ni’n sylweddoli bod rhaid inni wneud newidiadau? (Gweler hefyd y troednodyn.)

12 Os oes rhaid iti wneud nifer o newidiadau, paid â digalonni. Dyma dystiolaeth sy’n dangos bod dy galon yn y lle cywir. Mae person gonest a gostyngedig yn darllen y Beibl ac eisiau gweld beth mae’n rhaid iddo weithio arno. a Cofia fod gwisgo’r “bersonoliaeth newydd” yn rhywbeth sy’n digwydd yn barhaol. (Col. 3:10; cymhara’r nodyn astudio “is being made new.”) Beth fydd yn dy helpu di i ddal ati i weithredu yn unol â Gair Duw?

13. Sut gelli di fod yn rhesymol wrth osod nodau? (Gweler hefyd y llun.)

13 Yn lle gweithredu ar bopeth ar yr un pryd, bydda’n rhesymol. (Diar. 11:2) Beth am ysgrifennu rhestr o bethau y mae’n rhaid iti weithio arnyn nhw? Wedyn, gweithia ar un neu ddau ar y tro, gan adael y gweddill i’r dyfodol. Ble dylet ti ddechrau?

Yn hytrach na gweithio ar bopeth rwyt ti’n ei ddysgu o’r Beibl ar unwaith, beth am osod nodau rhesymol? Gelli di ganolbwyntio ar un neu ddau o bethau yn unig (Gweler paragraffau 13-14)


14. Sut gelli di ddewis dy nod?

14 Beth am ddechrau gyda nod sy’n hawdd ei gyrraedd neu un sydd angen mwy o sylw? Ar ôl iti ddewis dy nod, gwna ymchwil yn ein cyhoeddiadau, gan ddefnyddio’r Watch Tower Publications Index neu Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa. Gweddïa ar Jehofa am y “dymuniad a’r grym i weithredu.” (Phil. 2:13) Rho ar waith beth rwyt ti wedi ei ddysgu. Yn wir, wrth weithio i wella un rhinwedd, bydd yn haws gweithio ar bethau eraill.

GAD I AIR DUW FOD ‘AR WAITH YNOT TI’

15. Sut mae pobl Jehofa yn wahanol i lawer o bobl sy’n darllen y Beibl? (1 Thesaloniaid 2:13)

15 Mae rhai pobl yn dweud eu bod nhw wedi darllen y Beibl dwsinau o weithiau. Ond a ydyn nhw’n wir yn credu ynddo ac yn gadael i Air Duw weithredu yn eu bywydau? Yn anffodus, fel arfer dydyn nhw ddim. Onid ydy pobl Jehofa’n wahanol! Yn debyg i Gristnogion yn y ganrif gyntaf, rydyn ni’n derbyn y Beibl “fel y mae mewn gwirionedd, sef gair Duw.” Ar ben hynny, rydyn ni’n ymdrechu i’w roi ar waith yn ein bywydau.—Darllen 1 Thesaloniaid 2:13.

16. Beth all ein helpu ni i weithredu’n unol â’r Gair?

16 Weithiau, gall fod yn anodd i ddarllen Gair Duw a gweithredu arno. Gall amser i ddarllen fod yn brin. Efallai fod gynnon ni’r tueddiad i ddarllen yn glou heb gymryd llawer i mewn. Neu gall yr holl bethau y mae’n rhaid inni weithio arnyn nhw deimlo’n ormod inni. Beth bynnag yw’r her, gallwn ni lwyddo gyda help Jehofa. Bydda’n benderfynol o dderbyn ei help a dod, “nid yn rhywun sy’n gwrando ac yn anghofio, ond yn rhywun sy’n gwneud y gwaith.” Drwy ddarllen Gair Duw a gweithredu arno’n fwy, byddwn ni’n llawer hapusach.—Iago 1:25.

CÂN 94 Gwerthfawrogi Gair Duw

a Gweler y fideo ar jw.org Barn Dy Gyfoedion —Darllen y Beibl.