ERTHYGL ASTUDIO 37
CÂN 118 Rho Inni Fwy o Ffydd
Llythyr a All Ein Helpu Ni i Ddyfalbarhau yn Ffyddlon i’r Diwedd
“Dal ein gafael yn dynn hyd at y diwedd yn yr hyder a oedd gynnon ni ar y cychwyn.”—HEB. 3:14.
PWRPAS
Bydd dysgu gwersi ymarferol o’r llythyr at yr Hebreaid yn ein helpu ni i ddyfalbarhau yn ffyddlon hyd at ddiwedd y system hon.
1-2. (a) Pan ysgrifennodd Paul i’r Hebreaid yn Jwdea, sut roedd bywyd i’r Cristnogion hynny? (b) Pam roedd llythyr Paul yn help mawr iddyn nhw?
AR ÔL i Iesu farw, gwnaeth y Cristnogion Hebreig a oedd yn byw yn Jerwsalem brofi amserau anodd. Yn fuan ar ôl i’r gynulleidfa Gristnogol gael ei sefydlu, gwnaeth y Cristnogion wynebu erledigaeth ofnadwy. (Act. 8:1) Rhyw 20 mlynedd yn hwyrach, roedden nhw’n dioddef oherwydd newyn a thlodi. (Act. 11:27-30) Er hynny, tua 61 OG, roedd y Cristnogion yn mwynhau amser o heddwch o’i gymharu â beth oedd i ddod. Yn ystod yr adeg honno, gwnaeth Jehofa ysbrydoli’r apostol Paul i ysgrifennu atyn nhw—roedd y cyngor yn y llythyr yn union beth roedden nhw’n ei angen.
2 Roedd y llythyr i’r Cristnogion Hebreig yn amserol oherwydd doedd yr heddwch roedden nhw’n ei brofi ddim yn mynd i bara. Rhoddodd Paul gyngor ymarferol a fyddai’n helpu’r Cristnogion i ddyfalbarhau yn ystod y trychineb i ddod. Roedd dinistr y system Iddewig yn agos, yn union fel rhagfynegodd Iesu. (Luc 21:20) Wrth gwrs, doedd Paul na’r Cristnogion yn Jwdea ddim yn gwybod yn union pryd byddai’r dinistr yn digwydd. Er hynny, gallai’r Cristnogion ddefnyddio’r amser oedd ar ôl i baratoi eu hunain drwy gryfhau rhinweddau fel ffydd a dyfalbarhad.—Heb. 10:25; 12:1, 2.
3. Pam dylai Cristnogion heddiw roi sylw arbennig i’r llythyr i’r Hebreaid?
3 Yn fuan, byddwn ni’n wynebu trychineb llawer mwy na’r un a wnaeth yr Hebreaid ei brofi. (Math. 24:21; Dat. 16:14, 16) Gad inni ystyried sut gallwn ni elwa o’r cyngor ymarferol gwnaeth Jehofa ei roi i’r Cristnogion.
‘BWRW YMLAEN AT AEDDFEDRWYDD’
4. Pa heriau wynebodd y Cristnogion Iddewig? (Gweler hefyd y llun.)
4 Roedd y Cristnogion Iddewig yn wynebu her fawr. Ar un adeg, roedd yr Iddewon wedi bod yn bobl gysegredig i Jehofa. Am flynyddoedd, roedd Jerwsalem wedi bod yn hynod o bwysig. Roedd y brenin yno yn cynrychioli Jehofa, ac roedd rhaid i’r bobl fynd yno er mwyn addoli Jehofa yn y deml. Roedd pob Iddew ffyddlon yn dilyn Cyfraith Moses a’r rheolau roedd yr arweinwyr crefyddol yn eu dysgu iddyn nhw. Roedd ’na reolau am fwyd, am enwaedu, ac am sut i drin pobl o genhedloedd eraill. Ond ar ôl i Iesu farw, doedd Jehofa ddim bellach yn derbyn aberthau yn y deml. Felly, roedd yn anodd i’r Cristnogion Iddewig newid eu dull o addoli. (Heb. 10:1, 4, 10) Roedd hyd yn oed Cristnogion aeddfed, fel yr apostol Pedr, yn ei chael hi’n anodd gwneud y newidiadau hyn. (Act. 10:9-14; Gal. 2:11-14) Oherwydd hyn, cafodd y Cristnogion eu herlid gan yr arweinwyr crefyddol Iddewig.
5. Pam roedd yn rhaid i’r Cristnogion fod yn ofalus?
5 Cafodd y Cristnogion Hebreig eu herlid gan ddau grŵp o bobl. Ar un ochr, roedd yr arweinwyr crefyddol Iddewig yn eu trin nhw fel gwrthgilwyr. Ar yr ochr arall, roedd rhai yn y gynulleidfa yn mynnu bod yn rhaid i’r Cristnogion barhau i ddilyn Cyfraith Moses, efallai er mwyn osgoi erledigaeth. (Gal. 6:12) Beth fyddai’n helpu’r Cristnogion i aros yn ffyddlon i Jehofa?
6. Beth gwnaeth Paul annog ei gyd-addolwyr i’w wneud? (Hebreaid 5:14–6:1)
6 Yn ei lythyr i’r Hebreaid, anogodd Paul ei gyd-addolwyr i astudio Gair Duw a myfyrio arno. (Darllen Hebreaid 5:14–6:1.) Gan ddefnyddio’r Ysgrythurau Hebraeg, esboniodd Paul pam bod y ffordd Gristnogol o addoli yn llawer gwell na’r ffordd Iddewig o addoli. a Roedd Paul yn gwybod y byddan nhw’n gallu gwrthod gau-ddysgeidiaethau wrth iddyn nhw ddod i wybod y gwir yn well.
7. Pa heriau rydyn ni’n eu hwynebu heddiw?
7 Heddiw, mae pobl yn lledaenu gwybodaeth neu syniadau sy’n mynd yn erbyn safonau cyfiawn Jehofa. Yn aml, mae gwrthwynebwyr yn ymosod ar ein safonau moesol Beiblaidd gan ddweud ein bod ni’n greulon. Mae meddylfryd ac agwedd y byd yn mynd yn fwy ac yn fwy yn erbyn ffordd Jehofa o feddwl. (Diar. 17:15) Felly, mae mor bwysig inni ddysgu i fod yn effro i gau-ddysgeidiaethau, fel nad ydyn ni’n cael ein camarwain.—Heb. 13:9.
8. Sut gallwn ni aeddfedu’n ysbrydol?
8 Mae’n bwysig inni ddilyn cyngor Paul i’r Cristnogion Hebreig i aeddfedu’n ysbrydol. Mae hyn yn golygu dyfnhau ein dealltwriaeth o’r gwir er mwyn inni ddod i adnabod Jehofa a’i ffordd o feddwl yn well. Ni waeth faint o amser rydyn ni wedi bod yn y gwir, mae hyn yn broses parhaol sydd ddim yn stopio ar ôl bedydd. Felly, mae angen inni i gyd ddarllen ac astudio Gair Duw yn rheolaidd. (Salm 1:2) Bydd gwneud hyn yn ein helpu ni i gryfhau ein ffydd—y rhinwedd a bwysleisiodd Paul yn ei lythyr i’r Hebreaid.—Heb. 11:1, 6.
“FFYDD I’N CADW NI’N FYW”
9. Pam roedd angen ffydd gref ar y Cristnogion Hebreig?
9 Roedd angen ffydd gref ar y Cristnogion Hebreig er mwyn iddyn nhw oroesi’r trychineb a oedd yn dod i Jwdea. (Heb. 10:37-39) Roedd Iesu wedi rhybuddio ei ddilynwyr y dylen nhw ffoi i’r mynyddoedd pan fyddan nhw’n gweld byddin yn amgylchynu’r ddinas. Roedd y cyngor yn berthnasol i bob Cristion, ni waeth os oedden nhw’n byw yn y ddinas neu yng nghefn gwlad Jwdea. (Luc 21:20-24) Fel arfer, pan oedd byddin yn ymosod, roedd pobl yn mynd i mewn i’r ddinas oherwydd byddai’r waliau yn eu hamddiffyn nhw. Felly, byddai ffoi o’r ddinas i’r mynyddoedd wedi gofyn am ffydd gref.
10. Beth byddai ffydd gref wedi ysgogi’r Cristnogion i’w wneud? (Hebreaid 13:17)
10 Roedd rhaid i’r Hebreaid hefyd drystio’r rhai roedd Iesu wedi eu penodi i gymryd y blaen. Yn ôl pob tebyg, rhoddon nhw arweiniad penodol i helpu pawb yn y gynulleidfa i ddilyn arweiniad Iesu ar yr amser iawn ac mewn ffordd drefnus. (Darllen Hebreaid 13:17.) Mae’r gair Groeg yn Hebreaid 13:17 ar gyfer “byddwch yn ufudd” yn awgrymu bod rhywun yn ufuddhau am ei fod yn trystio’r un sy’n rhoi’r arweiniad, yn hytrach nag allan o ddyletswydd. Roedd rhaid i’r Hebreaid adeiladu eu hyder yn y rhai a oedd yn cymryd y blaen cyn i’r trychineb daro. Byddai bod yn ufudd yn ystod adegau heddychlon wedi eu helpu nhw i fod yn ufudd yn ystod adegau anodd.
11. Pam bod angen ffydd gref ar Gristnogion heddiw?
11 Mae’n rhaid inni gael ffydd debyg i’r Hebreaid heddiw. Mae’r rhan fwyaf o bobl o’n cwmpas ni’n gwrthod ac yn bychanu rhybuddion y Beibl am ddiwedd y system hon. (2 Pedr 3:3, 4) Ar ben hynny, er bod y Beibl yn datgelu rhai manylion am y trychineb mawr, mae ’na lawer o bethau dydyn ni ddim eto’n gwybod. Mae’n rhaid inni fod yn hyderus na fydd diwedd y system hon yn hwyr, a bydd Jehofa’n gofalu amdanon ni yn ystod yr adeg honno.—Hab. 2:3.
12. Beth fydd yn ein helpu ni i oroesi’r trychineb mawr?
12 Mae’n rhaid inni hefyd gryfhau ein ffydd bod Jehofa’n defnyddio’r “gwas ffyddlon a chall” i’n harwain ni heddiw. (Math. 24:45) Mae’n bosib bod y Cristnogion wedi derbyn cyfarwyddiadau penodol a wnaeth achub eu bywydau wrth i fyddin Rhufain amgylchynu Jerwsalem. Wrth i’r trychineb mawr daro, efallai bydd rhywbeth tebyg yn digwydd i ni. Nawr yw’r amser inni gryfhau ein hyder yn yr arweiniad rydyn ni’n ei gael oddi wrth y rhai sy’n cymryd y blaen yng nghyfundrefn Jehofa. Os nad oes gynnon ni hyder yn eu cyfarwyddiadau nawr nac yn eu dilyn nhw, fydd ’na ddim siawns o wneud hynny’n hyderus yn ystod y trychineb mawr.
13. Pam roedd y cyngor yn Hebreaid 13:5 yn angenrheidiol?
13 Tra eu bod nhw’n disgwyl am yr arwydd i ffoi, roedd angen i’r Cristnogion Hebreig gadw bywyd syml drwy beidio â “charu arian.” (Darllen Hebreaid 13:5.) Roedd rhai ohonyn nhw wedi profi amser o newyn a thlodi. (Heb. 10:32-34) Er eu bod nhw wedi dyfalbarhau ar gyfer y newyddion da ar un adeg, efallai fod rhai wedi dechrau gweld arian yn angenrheidiol i’w hamddiffyn. Ond fyddai arian ddim wedi gallu achub eu bywydau pan gafodd Jerwsalem ei dinistrio. (Iago 5:3) Y ffaith yw, byddai pobl a oedd yn caru pethau materol wedi ei gweld hi’n anoddach i ffoi a gadael eu cartrefi a’u heiddo.
14. Sut gall ffydd gref effeithio ar ein penderfyniadau ynglŷn â phethau materol heddiw?
14 Bydd yn haws inni wrthod materoliaeth os ydyn ni’n credu’n gryf bod diwedd y system hon yn wir yn dod i ben. Bydd pobl yn gweld eu harian “fel sbwriel ar y stryd” oherwydd byddan nhw’n sylweddoli “fydd eu cyfoeth ddim yn eu hachub nhw ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu!” (Esec. 7:19) Yn hytrach na ffocysu ar gasglu cymaint o arian a phosib, mae’n rhaid inni wneud penderfyniadau a fydd yn ein helpu ni i gael bywyd syml a chytbwys. Mae hyn yn cynnwys osgoi’r temtasiwn i fynd i ddyled ddiangen ac osgoi treulio gormod o amser yn edrych ar ôl ein pethau materol. Hefyd, mae’n rhaid inni fod yn ofalus nad ydy ein pethau materol yn cymryd y lle cyntaf yn ein bywydau. (Math. 6:19, 24) Wrth i’r diwedd agosáu, bydd rhaid inni wneud penderfyniad rhwng rhoi ein ffydd yn Jehofa neu yn ein pethau materol.
“MAE ANGEN DYFALBARHAD”
15. Pam roedd rhaid i Gristnogion yn Jwdea ddyfalbarhau?
15 Roedd rhaid i Gristnogion yn Jwdea ddyfalbarhau yn eu gwasanaeth i Jehofa wrth i’r sefyllfa waethygu. (Heb. 10:36) Er bod rhai Cristnogion wedi dyfalbarhau drwy adeg o erledigaeth ffyrnig, roedd rhai wedi dod yn Gristnogion yn ystod adeg heddychlon. Felly, fe wnaeth Paul eu hatgoffa nhw i baratoi ar gyfer mwy o erledigaeth ac i fod yn ffyddlon hyd at farwolaeth, fel Iesu. (Heb. 12:4) Roedd llawer o Iddewon yn flin ac yn chwerw oherwydd bod cymaint o bobl yn dod yn Gristnogion. Cynllwyniodd yr Iddewon yn erbyn Paul pan oedd yn pregethu yn Jerwsalem. Roedd ’na dros 40 o ddynion a wnaeth “gosod eu hunain dan felltith, gan ddweud na fydden nhw’n bwyta nac yn yfed nes iddyn nhw ladd Paul.” (Act. 22:22; 23:12-14) Er bod eraill yn casáu ac yn erlid y Cristnogion, roedd rhaid iddyn nhw barhau i addoli gyda’i gilydd, i bregethu’r newyddion da, ac i gadw eu hunain yn gryf yn y ffydd.
16. Sut gall y llythyr i’r Hebreaid ein helpu ni i gael yr agwedd iawn tuag at erledigaeth? (Hebreaid 12:7)
16 Beth fyddai wedi helpu’r Cristnogion Hebreig i ddyfalbarhau yn wyneb erledigaeth? Roedd Paul eisiau helpu’r Cristnogion i weld y bendithion o wneud hyn. Er enghraifft, pan ydyn ni’n wynebu treial, gall Duw ei ddefnyddio i’n hyfforddi ni. (Darllen Hebreaid 12:7.) Gall treialon fel hyn helpu i feithrin rhinweddau angenrheidiol ar gyfer Cristnogion. Byddai canolbwyntio ar y canlyniadau da o’u treialon wedi helpu’r Hebreaid i ddyfalbarhau yn well.—Heb. 12:11.
17. Beth roedd Paul wedi ei ddysgu am ddyfalbarhau yn wyneb erledigaeth?
17 Gwnaeth Paul annog y Cristnogion i fod yn benderfynol o ddyfalbarhau. Roedd Paul mewn sefyllfa dda i ysgrifennu hyn am ei fod wedi erlid Cristnogion yn y gorffennol, ac felly’n gwybod beth roedden nhw’n ei wynebu. Hefyd, roedd yn gwybod sut i ddal ati yn wyneb erledigaeth. Wedi’r cwbl, profodd Paul wahanol fathau o erledigaeth ar ôl iddo ddod yn Gristion. (2 Cor. 11:23-25) Felly, roedd yn gallu siarad gydag argyhoeddiad am beth mae’n ei gymryd i ddyfalbarhau. Gwnaeth ef hefyd atgoffa’r Cristnogion byddai’n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar Jehofa, nid ar eu hunain, wrth iddyn nhw ddyfalbarhau er gwaethaf treialon. Roedd Paul yn gallu dweud yn ddewr: “Jehofa ydy fy helpwr; dydw i ddim yn mynd i ofni.”—Heb. 13:6.
18. Beth fydd yn ein helpu ni yn y dyfodol i wynebu erledigaeth?
18 Heddiw, gallwn ni gefnogi ein brodyr sy’n profi erledigaeth gan weddïo amdanyn nhw, ac weithiau eu helpu nhw mewn ffyrdd ymarferol. (Heb. 10:33) Mae’r Beibl yn dweud “bydd pawb sydd eisiau byw mewn undod â Christ Iesu ac sydd eisiau dangos defosiwn duwiol hefyd yn cael eu herlid.” (2 Tim. 3:12) Am y rheswm hwn, mae angen inni i gyd baratoi am beth sydd i ddod yn y dyfodol. Gad inni barhau i drystio’n llwyr yn Jehofa, yn hyderus bydd yn ein helpu ni drwy unrhyw dreial y byddwn ni’n ei wynebu. Mewn amser, bydd yn dod â rhyddhad i bawb sy’n ffyddlon iddo.—2 Thes. 1:7, 8.
19. Pa gamau ymarferol a all ein helpu ni i baratoi ar gyfer y trychineb mawr? (Gweler hefyd y llun.)
19 Yn sicr, byddai llythyr Paul wedi paratoi’r Cristnogion yn y ganrif gyntaf ar gyfer y trychineb oedd i ddod. Fe wnaeth annog ei frodyr i gryfhau eu ffydd drwy astudio Gair Duw yn ofalus ac i wella eu dealltwriaeth er mwyn iddyn nhw wrthod dysgeidiaethau niweidiol. Byddai hyn wedi eu helpu nhw i ymateb yn gyflym i arweiniad Iesu a’r rhai a oedd yn cymryd y blaen yn y gynulleidfa. Ac fe wnaeth helpu’r Cristnogion i ystyried eu treialon fel cyfle gan eu Tad cariadus i ddysgu dyfalbarhad. Gad inni hefyd roi ar waith y cyngor o lythyr Paul. Wedyn, byddwn ni’n gallu dyfalbarhau yn ffyddlon i’r diwedd.—Heb. 3:14.
CÂN 126 Byddwch Effro, Byddwch yn Wrol!
a Yn y bennod gyntaf, dyfynnodd Paul o’r Ysgrythurau Hebraeg o leiaf saith gwaith i brofi bod y ffordd Gristnogol o addoli yn well na’r ffordd Iddewig o addoli.—Heb. 1:5-13.