Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pan sefydlodd Iesu Swper yr Arglwydd, ble roedd y 70 disgybl a gafodd eu hanfon allan i bregethu yn gynharach? A oedden nhw wedi cefnu ar Iesu?

Does dim rhaid meddwl bod y 70 disgybl wedi cefnu ar Iesu gan nad oedden nhw gydag ef pan sefydlodd Swper yr Arglwydd. Roedd Iesu ond eisiau bod gyda’i apostolion ar yr adeg honno.

Roedd y 12 a’r 70 yn werthfawr i Iesu. Allan o’i holl ddisgyblion, gwnaeth Iesu ddewis 12 dyn a’u galw nhw’n apostolion. (Luc 6:​12-16) Roedd Iesu yng Ngalilea pan ‘alwodd ef y Deuddeg’ a’u “hanfon nhw allan i bregethu Teyrnas Dduw ac i iacháu.” (Luc 9:​1-6) Yn nes ymlaen, yn Jwdea, penododd Iesu “70 o rai eraill a’u hanfon nhw allan o’i flaen mewn parau.” (Luc 9:51; 10:1) O ganlyniad, roedd gan Iesu lawer o ddilynwyr a oedd yn pregethu ei neges mewn llawer o lefydd.

Mae’n debyg bod yr Iddewon a ddaeth yn ddisgyblion i Iesu wedi dathlu’r Pasg blynyddol gyda’u teuluoedd. (Ex. 12:​6-11, 17-20) Yn fuan cyn iddo farw, aeth Iesu a’i apostolion i Jerwsalem. Ond ni wnaeth ofyn i’w holl ddisgyblion o Jwdea, Galilea, a Perea ddod i ddathlu’r Pasg gyda’i gilydd. Yn amlwg, roedd Iesu eisiau bod gyda’i apostolion yn unig ar yr adeg hon. Fe ddywedodd wrthyn nhw: “Rydw i wedi dymuno’n fawr iawn gael bwyta’r Pasg hwn gyda chi cyn imi ddioddef.”—Luc 22:15.

Roedd ’na reswm da dros hyn. Roedd Iesu am farw’n fuan fel “Oen Duw sy’n cymryd pechod y byd i ffwrdd.” (Ioan 1:29) Byddai hynny’n digwydd yn Jerwsalem, lle roedd aberthau i Dduw wedi cael eu haberthu am yn hir. Byddai marwolaeth Iesu yn rhoi llawer mwy o ryddid nag oen y Pasg. Roedd yr oen yn atgoffa pobl bod Jehofa wedi achub yr Israeliaid o’r Aifft. Ond, byddai aberth Iesu’n rhyddhau pobl rhag pechod a marwolaeth! (1 Cor. 5:​7, 8) O ganlyniad i aberth Iesu, byddai’r Deuddeg yn gallu dod yn rhan sylfaenol o’r gynulleidfa Gristnogol. (Eff. 2:​20-22) Yn ddiddorol, mae gan y ddinas sanctaidd, Jerwsalem, “12 carreg sylfaen, ac arnyn nhw roedd 12 enw 12 apostol yr Oen.” (Dat. 21:​10-14) Felly, roedd yr apostolion ffyddlon am gael rhan bwysig yng nghyflawniad ewyllys Duw. Gallwn ni ddeall pam roedd Iesu eisiau iddyn nhw fod gydag ef am y Pasg olaf ac am beth a fyddai’n digwydd nesaf—Swper yr Arglwydd.

Nid oedd y 70 na’r disgyblion eraill gyda Iesu ar gyfer Swper yr Arglwydd. Ond eto, byddai pob disgybl ffyddlon yn elwa o’r trefniad hwnnw. Byddai pob Cristion eneiniog yn dod yn rhan o gyfamod y Deyrnas y gwnaeth Iesu sôn amdano i’w apostolion ffyddlon ar y noson honno.—Luc 22:​29, 30.