Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae Jehofa Ein Duw yn Un Jehofa

Mae Jehofa Ein Duw yn Un Jehofa

“Gwrando, O Israel: Y mae’r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD.”—DEUT. 6:4.

CANEUON: 138, 112

1, 2. (a) Pam mae’r geiriau yn Deuteronomium 6:4 yn adnabyddus? (b) Pam dywedodd Moses y geiriau hynny?

AM GANRIFOEDD, mae’r chwe gair cyntaf o Deuteronomium 6:4 wedi cael eu defnyddio gan Iddewon fel rhan o weddi arbennig. Maen nhw’n adrodd y weddi bob dydd, yn y bore a chyda’r nos. Enw’r weddi yw’r Shema, gan mai hwnnw yw’r gair cyntaf yn yr adnod yn Hebraeg. Drwy’r weddi hon, mae’r Iddewon yn datgan eu hymgysegriad llwyr i Dduw.

2 Mae’r geiriau hynny yn dod o araith olaf Moses i genedl Israel a oedd wedi ymgynnull ar wastadedd Moab yn y flwyddyn 1473 COG. Roedd y genedl ar fin croesi’r Iorddonen er mwyn meddiannu Gwlad yr Addewid. (Deut. 6:1) Roedd Moses, arweinydd y genedl am y 40 mlynedd ddiwethaf, eisiau iddyn nhw fod yn ddewr wrth wynebu’r her o’u blaenau. Roedd angen iddyn nhw ymddiried yn Jehofa eu Duw, a bod yn ffyddlon iddo. Byddai geiriau Moses yn cael effaith ddofn ar y bobl. Wedi iddo sôn am y Deg Gorchymyn, a deddfau eraill roedd Jehofa wedi eu rhoi i’r genedl, gwnaeth Moses y datganiad pwerus yn Deuteronomium 6:4, 5. (Darllen.)

3. Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?

3 Onid oedd yr Israeliaid a oedd yna gyda Moses yn gwybod bod Jehofa eu Duw yn un Jehofa? Wrth gwrs roedden nhw. Roedd yr Israeliaid ffyddlon yn addoli un Duw yn unig, sef Duw eu cyndadau Abraham, Isaac, a Jacob. Felly, pam roedd Moses yn tynnu eu sylw at y ffaith fod eu Duw Jehofa yn un Jehofa? Ydy’r ffaith fod Jehofa yn un Jehofa yn cyfeirio at yr angen i’w garu â’n holl galon, ein holl enaid, a’n holl nerth, fel y dywed adnod 5? A sut mae’r geiriau yn Deuteronomium 6:4, 5 yn berthnasol i ni heddiw?

MAE EIN DUW YN UN JEHOFA

4, 5. (a) Beth yw un o ystyron yr ymadrodd “un Jehofa”? (b) Sut mae Jehofa yn wahanol i dduwiau’r cenhedloedd?

4 Unigryw. Mae’r gair “un” yn Hebraeg, ac mewn llawer o ieithoedd eraill, yn gallu golygu llawer mwy na rhif yn unig. Mae’n gallu golygu bod yn unigryw, sef yr unig un. Mae’n ymddangos nad oedd Moses yma yn ceisio gwrthbrofi athrawiaeth y drindod. Jehofa yw Creawdwr y nefoedd a’r ddaear, Penarglwydd y bydysawd. Nid oes yr un gwir Dduw arall; does dim duw yn debyg iddo chwaith. (2 Sam. 7:22) Felly, roedd Moses yn atgoffa’r Israeliaid fod angen iddyn nhw addoli Jehofa yn unig. Nid oedden nhw i ddilyn esiampl y bobl o’u cwmpas a oedd yn addoli sawl duw gwahanol. Crêd gyffredin oedd bod y duwiau hynny yn rheoli dros wahanol elfennau o fyd natur.

5 Er enghraifft, addolai’r Eifftiaid Ra, Nut, Geb, a Hapi, sef duwiau’r haul, yr awyr, y ddaear, a’r afon Neil, yn ogystal ag ambell anifail sanctaidd. Dangosodd Jehofa ei fod yn fwy nerthol na’r duwiau hynny drwy ddefnyddio’r Deg Pla. Prif dduw’r Canaaneaid oedd Baal. Baal oedd duw ffrwythlondeb, a duw’r awyr, y glaw, a’r stormydd hefyd. Mewn llawer o lefydd, roedd pobl yn dibynnu ar Baal i’w gwarchod. (Num. 25:3) Roedd yr Israeliaid i fod i gofio bod eu Duw nhw, Jehofa, yn un Jehofa.—Deut. 4:35, 39.

6, 7. Beth yw ystyr arall i’r gair “un,” a sut dangosodd Jehofa ei fod yn “un” Duw?

6 Yn Gyson ac yn Ffyddlon. Mae’r gair “un” hefyd yn awgrymu bod pwrpas Jehofa a’i weithredoedd yn wastad yn ddibynadwy. Nid Duw rhanedig yw Jehofa ac nid yw’n gwneud pethau ar hap. Yn hytrach, y mae’n wastad yn ffyddlon, yn gyson, ac yn wir. Addawodd Duw i Abraham y byddai ei ddisgynyddion yn etifeddu Gwlad yr Addewid, a gwnaeth Jehofa wyrthiau pwerus iawn er mwyn cyflawni ei addewid. Er bod 430 o flynyddoedd wedi mynd heibio, roedd Jehofa yr un mor benderfynol o gyflawni ei addewid.—Gen. 12:1, 2, 7; Ex. 12:40, 41.

7 Ganrifoedd yn ddiweddarach, pan oedd Jehofa yn cydnabod mai’r Israeliaid oedd ei dystion, dywedodd ef: “Yr un Un wyf i. Nid oedd Duw wedi ei lunio o’m blaen, ac nid oes yr un wedi bod ar fy ôl.” Gan bwysleisio ei fwriad digyfnewid, ychwanegodd Jehofa: “Rwyf bob amser yr un Un.” (Esei. 43:10, 13, NW; 44:6; 48:12) Am fraint anhygoel oedd gan yr Israeliaid—a chan ninnau hefyd—i fod yn weision Jehofa, y Duw sy’n gyson ac yn ffyddlon yn ei holl ffyrdd!—Mal. 3:6; Iago 1:17.

8, 9. (a) Beth yw gofynion Jehofa ar gyfer ei addolwyr? (b) Sut dangosodd Iesu bwysigrwydd geiriau Moses?

8 Atgoffodd Moses y bobl fod Jehofa yn gyson yn ei gariad tuag atyn nhw ac yn ei ofal drostyn nhw. Oherwydd hynny, rhesymol oedd disgwyl iddyn nhw’n ymroi’n llwyr iddo, ac iddyn nhw ei garu â’u holl galon, eu holl enaid, a’u holl nerth. Oherwydd bod yr Israeliaid yn dysgu eu plant ar bob cyfle, roedd y plant hefyd yn ymroi yn llwyr i Jehofa.—Deut. 6:6-9.

9 Oherwydd bod Jehofa yn gyson a byth yn newid ei bwrpas a’i ewyllys, mae’n amlwg fod ei ofynion sylfaenol ar gyfer gwir addolwyr wedi aros yr un fath hyd heddiw. Er mwyn i’n haddoliad fod yn dderbyniol iddo, mae’n rhaid inni ymroi yn llawn iddo a’i garu’n llwyr. A dyna’n union beth ddywedodd Iesu. (Darllen Marc 12:28-31.) Gad inni weld, felly, sut y gallwn ni ddangos yn ein gweithredoedd ein bod ni’n deall gwir ystyr y geiriau: “Mae’r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD.”

ADDOLA JEHOFA YN UNIG

10, 11. (a) Beth mae’n ei olygu i ymroi yn llwyr i Jehofa? (b) Sut dangosodd dynion ifanc ym Mabilon eu bod nhw’n addoli Jehofa yn unig?

10 Er mwyn derbyn mai Jehofa yw’r unig wir Dduw, mae’n rhaid inni ymroi iddo yn llwyr. Ni allwn ni rannu ein haddoliad ag unrhyw dduw arall na gadael i’n haddoliad gael ei lygru gan arferion crefyddau eraill. Nid yw Jehofa yn Dduw sydd uwchben duwiau eraill yn unig nac yn Dduw sy’n fwy nerthol na hwy. Ef yw’r unig wir Dduw. Dylen ni addoli dim ond Jehofa.—Darllen Datguddiad 4:11.

11 Yn llyfr Daniel, darllenwn am yr Hebreaid ifanc Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia. Dangoson nhw eu hymroddiad llwyr i Jehofa nid yn unig drwy wrthod bwyd a oedd wedi ei halogi, ond hefyd drwy wrthod plygu o flaen delw aur Nebuchadnesar. Roedd eu blaenoriaethau yn amlwg; nid oedd cyfaddawdu yn dderbyniol iddyn nhw.—Dan. 1:1–3:30.

12. Beth dylwn ni ei osgoi os ydyn ni am ymroi yn llwyr i Jehofa?

12 Er mwyn ymroi yn llwyr i Jehofa, mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gadael i unrhyw beth ein rhwystro rhag rhoi’r lle cyntaf i Jehofa. Pa bethau a all wneud hynny? Yn y Deg Gorchymyn, roedd yn hollol eglur fod Jehofa yn disgwyl i’w bobl addoli ef yn unig, ac iddyn nhw osgoi pob math o eilunaddoliaeth. (Deut. 5:6-10) Heddiw, gall eilunaddoliaeth gynnwys llawer o bethau, ac mae rhai yn anodd eu hadnabod. Ond nid yw safonau Jehofa wedi newid—y mae’n dal yn un Jehofa. Gad inni weld beth mae hynny’n ei olygu inni.

13. Beth gallwn ni ei garu’n fwy na Jehofa?

13 Yn Colosiaid 3:5 (darllen, beibl.net.), cawn gyngor cryf i Gristnogion ynglŷn â’r hyn a all chwalu ein perthynas arbennig â Jehofa. Sylwa fod chwant yn gysylltiedig ag eilunaddoliaeth. Mae hynny’n wir oherwydd gall yr hyn y mae chwant arnon ni amdano, fel cyfoeth neu bethau moethus, fod mor bwerus nes iddo ddod yn dduw nerthol yn ein bywydau. Ond o ystyried yr adnod gyfan, nid yw’n anodd gweld bod y pechodau y cyfeirir atyn nhw i gyd yn gysylltiedig â chwant mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac felly yn gysylltiedig ag eilunaddoliaeth. Gall blysio am y fath bethau ymyrryd ar ein cariad tuag at Jehofa. A ddylwn ni adael i’r pethau hyn beryglu ein perthynas â Jehofa fel nad yw’n un Jehofa inni bellach? Na ddylwn.

14. Pa rybudd a roddodd yr apostol Ioan?

14 Gwnaeth yr apostol Ioan yr un pwynt wrth iddo ddweud nad yw pobl sy’n caru pethau’r byd, sef “trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau,” yn caru’r Tad. (1 Ioan 2:15, 16) Golyga hynny fod angen inni chwilio ein calon yn barhaus er mwyn gweld a yw’n cael ei denu gan adloniant, cymdeithasu, neu steiliau gwisgo bydol. Gall caru’r byd gynnwys ceisio pethau mawrion i ni ein hunain fel, er enghraifft, ceisio addysg uwch. (Jer. 45:4, 5) Rydyn ni ar drothwy’r byd newydd. Felly, mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n cadw mewn cof eiriau pwerus Moses! Os ydyn ni’n deall ac yn credu bod yr “ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD,” byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ymroi yn llwyr i Jehofa, ac i’w wasanaethu mewn ffordd sy’n dderbyniol ganddo.—Heb. 12:28, 29.

CADW UNDOD CRISTNOGOL

15. Pam roedd yr apostol Paul wedi atgoffa Cristnogion fod Duw yn un Jehofa?

15 Mae’r ymadrodd “un Jehofa” hefyd yn ein helpu i ddeall fod Jehofa eisiau i’w weision fod yn unedig ac i ddilyn yr un pwrpas mewn bywyd. Roedd cynulleidfa Gristnogol y ganrif gyntaf yn cynnwys Iddewon, Groegiaid, Rhufeiniaid, a phobl o genhedloedd eraill hefyd. Cyn deall y gwirionedd, roedd ganddyn nhw eu crefyddau, eu harferion, a’u moesau gwahanol. Oherwydd hynny, roedd rhai yn ei chael hi’n anodd cefnu ar eu hen ffyrdd a derbyn y ffordd newydd o addoli. Gwelodd yr apostol Paul yr angen i’w hatgoffa nhw fod gan Gristnogion un Duw, sef Jehofa.—Darllen 1 Corinthiaid 8:5, 6.

16, 17. (a) Pa broffwydoliaeth sy’n cael ei chyflawni heddiw, a beth yw’r canlyniad? (b) Beth all danseilio ein hundod?

16 Beth yw’r sefyllfa yn y gynulleidfa Gristnogol heddiw? Rhagfynegodd y proffwyd Eseia y byddai pobl o bob cenedl yn dod at ei gilydd i addoli Jehofa “yn y dyddiau diwethaf.” Byddan nhw’n dweud: “Bydd [Jehofa] yn dysgu i ni ei ffyrdd, a byddwn ninnau’n rhodio yn ei lwybrau.” (Esei. 2:2, 3) Mor hapus ydyn ni i weld y broffwydoliaeth hon yn cael ei chyflawni o flaen ein llygaid! Y canlyniad yw bod llawer o gynulleidfaoedd yn amlhiliol, amlddiwylliannol, ac amlieithog, a hynny er gogoniant Jehofa. Ond, mae’r amrywiaeth hon yn gallu achosi problemau sy’n gofyn am ein sylw.

Wyt ti’n cyfrannu at undod y gynulleidfa Gristnogol? (Gweler paragraffau 16-19)

17 Er enghraifft, sut rwyt ti’n teimlo am dy gyd-Gristnogion sy’n dod o ddiwylliannau gwahanol iawn i’th ddiwylliant di? Efallai nad wyt ti’n gyfarwydd â’u mamiaith, eu ffordd o wisgo, eu ffordd o ymddwyn, a’u bwyd. Wyt ti’n tueddu i gadw draw oddi wrthyn nhw a threulio amser dim ond gyda phobl sydd â’r un cefndir â thi? Neu, beth os yw’r arolygwyr yn y gynulleidfa, y gylchdaith, neu yn nhiriogaeth y gangen, yn iau na thi, neu’n wahanol o ran diwylliant neu hil? Wyt ti’n gadael i wahaniaethau o’r fath effeithio arnat ti neu iddyn nhw danseilio undod pobl Jehofa?

18, 19. (a) Pa gyngor rydyn ni’n ei gael yn Effesiaid 4:1-3? (b) Sut gallwn ni gyfrannu at undod y gynulleidfa?

18 Beth all ein helpu i osgoi’r maglau hynny? Rhoddodd Paul gyngor ymarferol i’r Cristnogion yn Effesus, dinas gyfoethog ac amlddiwylliannol. (Darllen Effesiaid 4:1-3.) Sylwa fod Paul yn gyntaf wedi sôn am rinweddau fel gostyngeiddrwydd, addfwynder, amynedd, a chariad. Gallwn gymharu’r rhinweddau hyn â’r pileri sy’n cadw tŷ rhag syrthio. Ond yn ogystal â’r pileri, mae angen cynnal a chadw tŷ, ac mae angen gwneud hynny’n rheolaidd neu byddai’r tŷ yn dechrau dadfeilio. Anogodd Paul y Cristnogion yn Effesus i “gadw . . . rhwymyn tangnefedd.”

19 Dylai pob un ohonon ni dderbyn ein cyfrifoldeb personol i gadw undod y gynulleidfa. Sut gallwn ni wneud hyn? Yn gyntaf, ceisia feithrin y rhinweddau y soniodd Paul amdanyn nhw, sef gostyngeiddrwydd, addfwynder, amynedd, a chariad. Yna, gwna ymdrech lew i hybu’r “undod y mae’r Ysbryd yn ei roi.” Mae anghytundebau yn y gynulleidfa yn debyg i graciau bach sy’n gallu ymddangos; felly mae’n rhaid inni weithio’n galed i’w trwsio. Drwy wneud hynny rydyn ni’n cyfrannu at ein hundod a’n heddwch gwerthfawr.

20. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n deall mai un Jehofa yw ein Duw ni?

20 “Mae’r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD.” Am ddatganiad pwerus! Roedd y geiriau hynny yn atgyfnerthu’r Israeliaid i wynebu unrhyw her wrth iddyn nhw feddiannu Gwlad yr Addewid. A bydd credu’r geiriau hynny yn ein hatgyfnerthu ninnau hefyd i wynebu’r gorthrymder mawr ac i gyfrannu at heddwch ac undod y Baradwys sydd i ddod. Gad inni ddal ati i ymroi yn llwyr i Jehofa drwy ei garu a’i wasanaethu â’n holl enaid gan wneud pob ymdrech i feithrin undod y frawdoliaeth. Os gwnawn ni hynny, gallwn edrych ymlaen at weld geiriau Iesu yn cael eu cyflawni pan ddywedodd am y rhai a fydd yn cael eu barnu’n ddefaid: “Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu’r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd.”—Math. 25:34.