Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Yn y cyflawniad cyfoes, mae’r dyn ag offer ysgrifennu wrth ei wasg yn cynrychioli Iesu Grist, yr un sydd y tu ôl i’r llenni yn nodi’r rhai a fydd yn goroesi

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pwy yw’r dyn ag offer ysgrifennu wrth ei wasg a’r chwech o ddynion ag arfau marwol yn eu dwylo a ddisgrifiwyd yng ngweledigaeth Eseciel yn eu cynrychioli?

Maen nhw’n symboleiddio’r fyddin nefol a oedd yn cymryd rhan yn dinistrio Jerwsalem ac a fydd yn cymryd rhan yn y gwaith o ddinistrio byd drwg Satan yn ystod Armagedon. Pam mae’r diwygiad hwn yn ein dealltwriaeth yn rhesymol?

Cyn y dinistriwyd y ddinas wrthgiliol Jerwsalem yn 607 COG, gwelodd Eseciel bethau drwg iawn yn cael eu gwneud yno, a chafodd weledigaeth o’r hyn a fyddai’n arwain at y dinistr hwnnw. Fe welodd chwe dyn ag arfau marwol yn eu dwylo. Gwelodd hefyd ddyn yn eu plith “wedi ei wisgo â lliain” ac “offer ysgrifennu wrth ei wasg.” (Esec. 8:6-12; 9:2, 3) Gofynnwyd i’r dyn fynd trwy’r ddinas a rhoi “nod ar dalcen pob un sy’n gofidio ac yn galaru am yr holl bethau ffiaidd a wneir ynddi.” Wedyn, dywedwyd wrth y dynion ag arfau marwol i ladd unrhyw un yn y ddinas heb y nod ar ei dalcen. (Esec. 9:4-7) Beth mae’r weledigaeth hon yn ei ddysgu inni, a phwy yw’r dyn ag offer ysgrifennu wrth ei wasg?

Rhoddwyd y broffwydoliaeth hon yn 612 COG, ac mae’r cyflawniad cyntaf yn cyfeirio at ddinistr Jerwsalem gan fyddin y Babiloniaid, rhywbeth a fyddai’n digwydd dim ond pum mlynedd wedi hynny. Er mai’r Babiloniaid paganaidd a oedd wedi achosi’r dinistr hwnnw, roedden nhw’n gweithredu fel dienyddwyr Jehofa. (Jer. 25:9, 15-18) Roedd hyn oherwydd bod Jehofa wedi defnyddio’r Babiloniaid i gosbi ei bobl wrthgiliol. Ond ni fyddai pawb yn cael eu lladd. Ni fyddai’r cyfiawn yn cael eu dinistrio ynghyd â’r drygionus. Oherwydd ei gariad, gwnaeth Jehofa achub yr Iddewon nad oedden nhw’n cytuno â’r pethau ffiaidd a oedd yn digwydd yn y ddinas.

Nid oedd Eseciel yn cymryd rhan yn y gwaith o nodi, nac yn y dinistrio ei hun. Yn hytrach, byddai’r gweithredu barn yn cael ei arwain gan yr angylion. Felly, mae’r broffwydoliaeth hon yn caniatáu inni weld y tu ôl i’r llenni, fel petai, i’r byd nefol. Roedd Jehofa wedi comisiynu’r angylion nid yn unig i drefnu’r gwaith o ddinistrio’r drygionus, ond hefyd i ddidoli’r cyfiawn er mwyn iddyn nhw oroesi. *

Yn y gorffennol, rydyn ni wedi egluro mai’r cyflawniad cyfoes o’r weledigaeth hon yw bod y dyn ag offer ysgrifennu wrth ei wasg yn cynrychioli’r gweddill eneiniog. Deallwyd ar un adeg fod y rhai sy’n ymateb yn ffafriol i’r newyddion da yn cael eu nodi nawr ar gyfer goroesi. Ond, yn ddiweddar, daeth yn amlwg fod angen diwygio’r eglurhad hwn. Yn ôl Mathew 25:31-33, Iesu yw’r un sy’n barnu pobl. Bydd Iesu’n barnu’n derfynol yn ystod y gorthrymder mawr, gan ddidoli’r “defaid,” sef y rhai a fydd yn goroesi, oddi wrth y “geifr,” sef y rhai a fydd yn cael eu dinistrio.

Felly, yng ngoleuni ein dealltwriaeth newydd, beth rydyn ni’n ei ddysgu o weledigaeth Eseciel? Ceir pum gwers o leiaf:

  1. Yn ystod yr amser cyn i Jerwsalem gael ei dinistrio, roedd Eseciel yn gwasanaethu fel gwyliwr ynghyd â Jeremeia, yn union fel yr oedd Eseia wedi ei wneud gynt. Heddiw, mae Jehofa yn defnyddio grŵp bychan o’i weision eneiniog i fwydo ei bobl ac i rybuddio eraill cyn i’r gorthrymder mawr ddechrau. Yn eu tro, mae gan holl weision tŷ Iesu Grist ran yn y gwaith rhybuddio.—Math. 24:45-47.

  2. Nid oedd Eseciel yn cymryd rhan yn y gwaith o nodi pobl ar gyfer goroesi, ac nid yw gweision Jehofa heddiw yn gwneud hynny ychwaith. Dim ond cyhoeddi neges Jehofa y mae ei bobl, ac mae hynny’n rhan o’u gwaith pregethu a wnaethpwyd o dan arweiniad yr angylion.—Dat. 14:6.

  3. Adeg Eseciel, doedd neb yn derbyn nod llythrennol ar ei dalcen. Mae’r un peth yn wir heddiw. Beth sy’n rhaid i bobl ei wneud er mwyn iddyn nhw gael eu nodi’n symbolaidd i oroesi? Mae angen iddyn nhw ymateb yn ffafriol i’r gwaith pregethu, gwisgo’r bersonoliaeth Gristnogol, ymgysegru i Jehofa, a chefnogi brodyr Crist. (Math. 25:35-40) Bydd y rhai sy’n gwneud y pethau hyn yn derbyn y nod ar gyfer goroesi’r gorthrymder mawr sydd i ddod.

  4. Yn y cyflawniad cyfoes, mae’r dyn ag offer ysgrifennu wrth ei wasg yn cynrychioli Iesu Grist, yr un sydd y tu ôl i’r llenni yn nodi’r rhai a fydd yn goroesi. Bydd pawb sy’n rhan o’r dyrfa fawr yn derbyn eu nod pan fyddan nhw’n cael eu barnu’n ddefaid yn ystod y gorthrymder mawr. Byddan nhw felly yn cael byw am byth yma ar y ddaear.—Math. 25:34, 46. *

  5. Yn y cyflawniad cyfoes, mae’r chwe dyn ag arfau marwol yn cynrychioli byddin nefol Iesu, gyda Iesu ei hun yn ben arni. Cyn bo hir, byddan nhw’n dinistrio’r cenhedloedd a phob drygioni.—Esec. 9:2, 6, 7; Dat. 19:11-21.

Mae deall y gwersi gwerthfawr hyn yn cryfhau ein hyder na fydd Jehofa yn dinistrio’r cyfiawn ynghyd â’r drygionus. (2 Pedr 2:9; 3:9) Rydyn ni hefyd yn cael ein hatgoffa o bwysigrwydd y gwaith pregethu heddiw. Mae’n hanfodol fod pawb yn clywed y rhybudd cyn i’r diwedd ddod!—Math. 24:14.

^ Par. 6 Er nad oedd ganddyn nhw nod gweladwy ar eu talcennau, cafodd pobl fel Baruch (ysgrifennydd Jeremeia), Ebed-melech yr Ethiopiad, a’r Rechabiaid, eu hachub. (Jer. 35:1-19; 39:15-18; 45:1-5) Cawson nhw eu nodi’n symbolaidd i oroesi.

^ Par. 12 Nid oes rhaid i’r eneiniog ffyddlon dderbyn y nod hwn i oroesi. Yn hytrach, byddan nhw’n derbyn eu sêl olaf naill ai cyn iddyn nhw farw neu cyn i’r gorthrymder mawr gychwyn.—Dat. 7:1, 3.