Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rhinwedd Sy’n Fwy Gwerthfawr Nag Unrhyw Ddiemwnt

Rhinwedd Sy’n Fwy Gwerthfawr Nag Unrhyw Ddiemwnt

Ers canrifoedd, mae pobl wedi ystyried diemwntau yn emau hynod o werthfawr. Mae rhai yn werth miliynau o bunnoedd. Ond, ydy’n bosibl fod yna bethau mwy gwerthfawr o safbwynt Duw na diemwntau neu emau eraill?

Gwnaeth Haykanush, cyhoeddwr difedydd yn Armenia, ddarganfod pasbort wrth ymyl ei chartref. Y tu mewn i’r pasbort roedd cardiau debyd a swm sylweddol o arian. Dywedodd hi wrth ei gŵr, a oedd hefyd yn gyhoeddwr difedydd, am yr hyn yr oedd hi wedi ei ddarganfod.

Roedd gan y cwpl broblemau ariannol difrifol ac roedden nhw mewn dyled; er hynny, penderfynon nhw fynd â’r arian i’r cyfeiriad a restrwyd yn y pasbort. Roedd y dyn a oedd wedi ei golli, ynghyd â’i deulu, wedi syfrdanu. Eglurodd Haykanush a’i gŵr eu bod nhw’n onest oherwydd yr hyn roedden nhw wedi ei ddysgu yn y Beibl. Roedden nhw’n teimlo bod angen iddyn nhw fod yn onest, a defnyddion nhw’r cyfle i sôn am Dystion Jehofa a gadael llenyddiaeth gyda’r teulu.

Roedd y teulu eisiau gwobrwyo Haykanush drwy roi arian iddi, ond dyma hi’n gwrthod. Drannoeth, ymwelodd y wraig â’r cwpl yn eu cartref, ac i ddangos gwerthfawrogiad y teulu roedd hi’n mynnu bod Haykanush yn derbyn modrwy ddiemwnt.

Fel y teulu hwnnw, byddai llawer o bobl yn synnu at onestrwydd Haykanush a’i gŵr. Ond a fyddai Jehofa yn synnu? Sut byddai Duw yn ystyried eu gonestrwydd? A oedd eu gonestrwydd yn werth yr ymdrech?

RHINWEDDAU SY’N WERTH MWY NA PHETHAU MATEROL

Nid yw’r atebion i’r cwestiynau hynny’n anodd. Mae gweision Duw yn credu bod dangos rhinweddau Jehofa yn fwy gwerthfawr iddo na diemwntau, aur, neu bethau materol eraill. Yn wir, mae barn Jehofa ynglŷn â’r hyn sy’n werthfawr neu ddim yn wahanol iawn i farn y mwyafrif o bobl. (Esei. 55:8, 9) Mae gweision Jehofa yn teimlo bod eu hymdrechion i efelychu ei rinweddau yn werthfawr iawn.

Mae hyn i’w weld yn y Beibl. Ynglŷn â dirnadaeth a doethineb, dywed Diarhebion 3:13-15: “Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb, a’r un sy’n berchen deall. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a’i chynnyrch yn well nag aur. Y mae’n fwy gwerthfawr na gemau, ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.” Nid oes unrhyw amheuaeth, felly, fod Jehofa yn ystyried rhinweddau o’r fath yn llawer iawn mwy gwerthfawr na thrysorau materol.

Beth, felly, am onestrwydd?

Wel, mae Jehofa ei hun yn onest; ef yw’r Duw “digelwyddog.” (Titus 1:2) Ac ysbrydolodd Jehofa yr apostol Paul i ysgrifennu at y Cristnogion Hebrëig yn y ganrif gyntaf: “Gweddïwch drosom ni; oherwydd yr ydym yn sicr fod gennym gydwybod lân, am ein bod yn dymuno ymddwyn yn iawn ym mhob peth.”—Heb. 13:18.

Esiampl dda o onestrwydd oedd Iesu Grist. Wyt ti’n cofio’r achlysur pan oedd yr Archoffeiriad Caiaffas yn dweud, “Dw i’n dy orchymyn di yn enw’r Duw byw i’n hateb ni! Ai ti ydy’r Meseia, mab Duw?” Cyfaddefodd Iesu mai ef oedd y Meseia. Roedd Iesu’n onest wrth ateb er iddo wybod y gallai hynny achosi i’r Sanhedrin ei gyhuddo o fod yn gablwr a’i roi i farwolaeth.—Math. 26:63-67, beibl.net.

Ond beth amdanon ni? A fyddwn ni’n dewis bod yn hollol onest, a pheidio â gwyrdroi’r gwir, hyd yn oed os yw hynny’n golygu y bydden ni ar ein colled yn ariannol?

YR HER O FOD YN ONEST

Her yw bod yn onest yn y dyddiau diwethaf hyn mewn byd llawn pobl hunangar ac ariangar. (2 Tim. 3:2) Mae problemau ariannol neu ansicrwydd am gyflogaeth yn ei gwneud hi’n anodd bod yn onest. Mae llawer yn cyfiawnhau dwyn, twyllo, a phethau eraill sy’n anonest. Mor boblogaidd yw’r syniad hwn nes bod llawer yn meddwl ei bod hi’n gwbl amhosibl i fod yn onest. Mae hyd yn oed rhai Cristnogion wedi gwneud penderfyniadau drwg yn hyn o beth ac wedi gwneud “elw anonest.” O ganlyniad, maen nhw wedi colli eu henw da yn y gynulleidfa.—1 Tim. 3:8; Titus 1:7.

Mae’r rhan fwyaf o Gristnogion yn efelychu Iesu. Sylweddolon nhw fod rhinweddau duwiol yn fwy pwysig nag unrhyw gyfoeth na manteision eraill. O’r herwydd, nid yw Cristnogion ifanc yn twyllo er mwyn cael marciau da yn yr ysgol. (Diar. 20:23) Mae’n wir, nid yw bod yn onest bob tro yn arwain at gael dy wobrwyo, fel yn achos Haykanush. Ond, er gwaethaf hynny, mae bod yn onest yn dda yng ngolwg Duw, ac mae’n ein galluogi ni i gadw cydwybod lân—rhywbeth amhrisiadwy!

Mae esiampl Gagik yn dangos hynny. Mae’n dweud: “Cyn imi ddod yn Gristion, ro’n i’n cael fy nghyflogi gan gwmni mawr lle roedd y perchennog yn osgoi talu trethi drwy adrodd dim ond rhan o elw’r cwmni. Fel rheolwr y cwmni, roedd disgwyl imi ddod i ‘gytundeb’ â’r dyn treth drwy ei lwgrwobrwyo er mwyn iddo anwybyddu’r ymarferion twyllodrus. O ganlyniad, roedd gen i enw drwg am fod yn anonest. Pan ddysgais y gwir, ro’n i’n gwrthod gwneud hynny, er bod y swydd yn talu’n dda iawn. Yn hytrach, dechreuais fy musnes fy hun. Ac o’r diwrnod cyntaf, wnes i gofrestru’r cwmni’n gyfreithlon a thalu pob treth.”—2 Cor. 8:21.

Mae Gagik yn adrodd: “Ro’n i’n ennill dim ond tua hanner yr arian, felly roedd hi’n anodd darparu ar gyfer fy nheulu. Sut bynnag, rwy’n hapusach nawr. Mae gen i gydwybod lân o flaen Jehofa. Rwy’n esiampl dda ar gyfer fy nau fab, a bellach, rwy’n gymwys ar gyfer breintiau yn y gynulleidfa. Gyda’r archwilwyr trethi ac eraill rwy’n gwneud busnes â nhw, mae gen i enw am fod yn onest.”

MAE JEHOFA YN HELPU

Mae Jehofa yn caru’r rhai sy’n dod â chlod iddo drwy efelychu ei rinweddau hyfryd, gan gynnwys gonestrwydd. (Titus 2:10) Ysbrydolodd Jehofa y Brenin Dafydd i ysgrifennu: “Bûm ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen, ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael, na’i blant yn cardota am fara.”—Salm 37:25.

Mae hanes Ruth hefyd yn profi hynny. Roedd hi’n glynu wrth ei mam yng nghyfraith, Naomi, yn hytrach na’i gadael hi ar ei phen ei hun yn hen ddynes. Symudodd Ruth i Israel fel ei bod hi’n gallu addoli’r gwir Dduw. (Ruth 1:16, 17) Gweithiwr caled a gonest oedd Ruth, ac roedd hi’n lloffa fel yr oedd y Gyfraith yn caniatáu iddi wneud. Yn unol â’r hyn y byddai Dafydd yn ei brofi yn y dyfodol, ni wnaeth Jehofa adael Ruth a Naomi mewn angen. (Ruth 2:2-18) Pwysig yw cofio y gwnaeth Jehofa lawer mwy na darparu ar gyfer Ruth mewn ffordd faterol. Cafodd ei dewis gan Dduw i fod yn llinach deuluol y Brenin Dafydd a hyd yn oed y Meseia addawedig!—Ruth 4:13-17; Math. 1:5, 16.

Weithiau, mae rhai o weision Duw yn ei chael hi’n anodd ennill digon o arian i gwrdd â’u hanghenion sylfaenol. Yn hytrach na cheisio datrys hyn drwy fod yn anonest, maen nhw’n ceisio gweithio’n galed. Drwy wneud hynny, maen nhw’n dangos bod rhinweddau Duw, gan gynnwys gonestrwydd, yn bwysicach iddyn nhw nag unrhyw beth materol.—Diar. 12:24; Eff. 4:28.

Fel Ruth, mae Cristnogion o gwmpas y byd wedi dangos ffydd yn nerth Jehofa i’w helpu. Maen nhw’n ymddiried yn llwyr yn yr Un sydd wedi cofnodi’r addewid hwn: “Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.” (Heb. 13:5) Dro ar ôl tro, mae Jehofa wedi dangos ei fod yn gallu helpu’r rhai sy’n onest, ac fe fydd yn parhau i wneud hynny. Mae wedi cyflawni ei addewid ynglŷn â darparu’r hyn sydd ei angen ar ei weision.—Math. 6:33.

Yn wir, efallai fod pobl yn trysori diemwntau a phethau eraill o werth. Ond yn sicr, mae ein gonestrwydd a’n rhinweddau eraill yn werth llawer iawn mwy i’n Tad nefol nag unrhyw ddiemwnt!

Mae bod yn onest yn caniatáu inni siarad â chydwybod lân yn y weinidogaeth