Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae Jehofa yn Gofalu Amdanat Ti

Mae Jehofa yn Gofalu Amdanat Ti

SUT rwyt ti’n gwybod ag unrhyw sicrwydd fod gan Jehofa wir ofal amdanat ti? Un rheswm yw bod y Beibl yn dweud yn union felly. Mae 1 Pedr 5:7 yn dweud: “Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.”

MAE DUW YN DARPARU AR GYFER POBL YN FATEROL

Gan osod yr esiampl, mae Jehofa yn garedig

Yn un peth, mae gan Dduw rinweddau rwyt ti’n debygol o edrych amdanyn nhw mewn cyfaill da. Yn aml, mae pobl sy’n garedig a hael wrth ei gilydd yn dod yn ffrindiau pennaf. Fel y gelli di weld yn hawdd, mae Jehofa yn garedig a hael bob dydd i fodau dynol. Rho sylw i’r canlynol: “Y mae ef yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn rhoi glaw i’r cyfiawn a’r anghyfiawn.” (Math. 5:45) Beth mae’r heulwen a’r glaw yn ei gyflawni? Ymhlith pethau eraill, mae Duw yn eu defnyddio i roi digon o fwyd i bobl ac i’w bywydau fod yn llawen. (Act. 14:17, beibl.net) Mae Duw yn sicrhau bod y ddaear yn cynhyrchu digon o fwyd, a does dim byd yn ein gwneud ni’n hapusach na bwyta pryd o fwyd da!

Pam felly y mae cynifer o bobl yn llwgu? Oherwydd yr hyn sy’n bwysig i reolwyr dynol yw ennill grym gwleidyddol a gwneud elw yn hytrach na gwella safon byw y bobl. Yn fuan, bydd Jehofa yn cael gwared ar y trachwant hwnnw ac yn disodli’r drefn wleidyddol sydd ohoni drwy gyfrwng y Deyrnas nefol, gyda’i Fab Iesu’n Frenin arni. Yr adeg honno, ni fydd neb yn newynu. Yn y cyfamser, mae Jehofa yn cynnal ei weision ffyddlon. (Salm 37:25) Onid yw hynny’n dangos gofal Jehofa ar waith?

MAE JEHOFA YN HAEL EI AMSER

Gan osod yr esiampl, mae Jehofa yn hael ei amser

Mae ffrind da yn hoff o dreulio amser yn dy gwmni. Gallwch dreulio oriau yn trafod pethau sydd o ddiddordeb i chi’ch dau. Ac mae ffrind da yn gwrando’n astud pan wyt ti’n sôn wrtho am dy bryderon. Ydy Jehofa yn rhoi sylw o’r fath i ni? Ydy wir! Mae’n barod i wrando ar ein gweddïau. Felly, mae’r Beibl yn ein hannog ni: “Daliwch ati i weddïo,” a hefyd: “Gweddïwch yn ddi-baid.”—Rhuf. 12:12; 1 Thes. 5:17.

Faint o amser y mae Jehofa yn fodlon ei dreulio yn gwrando ar dy weddïau? Mae un hanes yn y Beibl yn rhoi’r ateb inni. Cyn i Iesu ddewis ei apostolion, “bu ar hyd y nos yn gweddïo ar Dduw.” (Luc 6:12) Yn y weddi honno, mae’n debyg fod Iesu wedi trafod llawer o’i ddisgyblion wrth eu henwau, gan ystyried eu rhinweddau a’u gwendidau, a gofyn i’w Dad am help i’w dewis nhw. Erbyn i’r haul dywynnu ar ddiwrnod newydd, roedd Iesu yn gwybod ei fod wedi dewis y rhai a oedd yn fwyaf cymwys i fod yn apostolion iddo. Fel y Duw “sy’n gwrando gweddi,” mae Jehofa yn hapus i wrando ar bob weddi ddiffuant. (Salm 65:2) Hyd yn oed os ydy person yn treulio oriau yn gweddïo am rywbeth sy’n achosi pryder mawr iddo, nid yw Jehofa yn cadw cofnod o’r amser.

MAE DUW YN FODLON MADDAU

Gan osod yr esiampl, mae Jehofa yn fodlon maddau

Mae hyd yn oed ffrindiau da yn cael trafferth maddau weithiau. Ar adegau, mae hen gyfeillgarwch yn rhwygo oherwydd bod maddau yn gallu bod yn rhy anodd i bobl. Ond nid yw Jehofa fel hynny. Mae’r Beibl yn argymell unigolion diffuant i ofyn i Dduw am ei faddeuant, “oherwydd fe faddau’n helaeth.” (Esei. 55:6, 7) Beth sy’n ysgogi Duw i fod mor faddeugar?

Y rheswm yw cariad anghymharol Duw. Mae’n caru’r byd gymaint nes iddo roi ei Fab, Iesu, i achub bodau dynol rhag pechod a rhag y niwed y mae’n ei achosi i ddynolryw. (Ioan 3:16) Yn wir, mae’r pridwerth yn cyflawni llawer iawn mwy na hynny. Trwy aberth Crist, mae Duw yn barod i faddau i’r rhai y mae’n eu caru. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau.” (1 Ioan 1:9) Oherwydd maddeuant Jehofa, gall pobl barhau i gael perthynas ag ef, ac mae gwybod hyn yn cyffwrdd â’n calonnau?

MAE’N DY HELPU PAN FO ANGEN

Gan osod yr esiampl, mae Jehofa yn barod i’n helpu pan fo angen

Mae gwir gyfaill yn rhoi help llaw i eraill pan fo angen. Ydy Jehofa yn gwneud yr un peth? Dywed ei Air: “Er iddo [un o weision Duw] syrthio, nis bwrir i’r llawr, oherwydd y mae’r ARGLWYDD yn ei gynnal â’i law.” (Salm 37:24) Mae Jehofa yn cynnal ei weision mewn amryw ffyrdd. Ystyriwch y profiad hwn o St Croix, un o ynysoedd y Caribî.

Cafodd geneth ifanc ei rhoi o dan bwysau gan ei chyd-ddisgyblion am resymau crefyddol oherwydd nad oedd hi’n fodlon saliwtio’r faner. Ar ôl gweddïo ar Jehofa am help, penderfynodd wynebu’r sefyllfa. Rhoddodd adroddiad i’r dosbarth ar y pwnc o saliwtio’r faner. Gan ddefnyddio’r llyfr Storïau o’r Beibl, esboniodd sut y gwnaeth hanes Sadrach, Mesach, ac Abednego ddylanwadu ar ei dewis. Dywedodd: “Gwnaeth Jehofa amddiffyn y tri Hebread hynny oherwydd nad oedden nhw’n fodlon addoli delw.” Yna cynigiodd y llyfr i bawb oedd yn bresennol. Roedd un ar ddeg o’i chyd-ddisgyblion eisiau copi. Gan sylweddoli bod Jehofa wedi rhoi’r nerth a’r doethineb iddi dystiolaethu ar y pwnc sensitif hwnnw, roedd yr eneth ifanc yn teimlo’n hapus dros ben.

Os wyt ti’n amau nad yw Jehofa yn gofalu amdanat ti, myfyria ar rannau o’r Beibl fel Salm 34:17-19; 55:22; a 145:18, 19. Gofynna i rai sydd wedi bod yn Dystion am flynyddoedd maith esbonio sut mae Jehofa wedi gofalu amdanyn nhw. A phan fo angen help Duw arnat ti, gweddïa arno ynglŷn â’r mater. Yn fuan, byddi di’n gweld sut mae Jehofa yn gofalu amdanat ti.