Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Parchu Jehofa Ein Crochenydd

Parchu Jehofa Ein Crochenydd

“Ond tydi, O ARGLWYDD, . . . yw’r crochenydd; gwaith dy ddwylo ydym i gyd.”—ESEI. 64:8.

CANEUON: 89, 26

1. Pam y gellir dweud mai Jehofa yw’r Crochenydd gorau?

YM MIS Tachwedd 2010, gwerthwyd llestr seramig Tsieineaidd o’r ddeunawfed ganrif am tua 53 miliwn o bunnoedd yn Llundain. Yn amlwg, mae crochenydd yn gallu troi rhywbeth sydd mor gyffredin a rhad â chlai yn rhywbeth hyfryd a gwerthfawr. Ond, nid yw yr un crochenydd yn cymharu â Jehofa. Tua diwedd chweched dydd y creu, lluniodd Duw ddyn perffaith “o lwch [clai] y tir” a rhoi iddo’r gallu i adlewyrchu rhinweddau ei Greawdwr. (Gen. 2:7) Addas felly yw galw Adda, y dyn a gafodd ei greu o’r pridd, yn “fab Duw.”—Luc 3:38.

2, 3. Sut gallwn ni efelychu agwedd yr Israeliaid edifar?

2 Ond, pan gefnodd Adda ar Dduw, nid oedd bellach yn fab iddo. Er hynny, mae “torf o dystion,” sydd i gyd yn ddisgynyddion Adda, wedi dewis cefnogi sofraniaeth Duw. (Heb. 12:1) Drwy ymostwng i’w Creawdwr, maen nhw wedi dangos eu bod nhw’n ei ddewis ef, nid Satan, yn Dad ac yn Grochenydd iddyn nhw. (Ioan 8:44) Mae eu ffyddlondeb i Dduw yn dwyn i gof eiriau Eseia ynglŷn â’r Israeliaid edifar: “Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad; ni yw’r clai a thi yw’r crochenydd; gwaith dy ddwylo ydym i gyd.”—Esei. 64:8.

3 Heddiw, mae pawb sy’n addoli Jehofa mewn ysbryd a gwirionedd yn ceisio adlewyrchu’r agwedd ostyngedig honno. Braint yw galw Jehofa’n Dad ac ildio iddo fel ein Crochenydd. Wyt ti’n dy weld dy hun fel clai meddal yn nwylo Duw, yn barod i gael dy ffurfio’n llestr sy’n ddymunol iddo? Wyt ti hefyd yn ystyried dy frodyr a’th chwiorydd ysbrydol yn waith ar y gweill, yn cael eu llunio gan Dduw? I’n helpu yn hyn o beth, gad inni ystyried tair elfen o waith Jehofa, ein Crochenydd: Sut mae’n dewis y rhai y mae’n eu llunio, pam mae’n eu llunio nhw, a sut mae’n gwneud hynny.

MAE JEHOFA YN DEWIS Y RHAI Y MAE’N EU LLUNIO

4. Sut mae Jehofa yn dewis y rhai y mae’n eu denu ato’i hun? Rho enghreifftiau.

4 Wrth i Jehofa edrych ar bobl, nid yw’n rhoi sylw i’w pryd a’u gwedd. Yn hytrach, mae’n chwilio’r galon, sef y person mewnol. (Darllen 1 Samuel 16:7b.) Cafodd y ffaith honno ei phrofi’n llwyr pan ffurfiodd Duw y gynulleidfa Gristnogol. Denodd ato’i hun, a’i Fab, lawer o unigolion a oedd yn annymunol o safbwynt dynol. (Ioan 6:44) Person o’r fath oedd Saul—Pharisead a oedd yn cablu, yn erlid, ac yn sarhau. (1 Tim. 1:13) Ond, nid clai diwerth oedd Saul yng ngolwg yr un sy’n “profi calonnau.” (Diar. 17:3) Yn hytrach, roedd Duw yn gwybod y byddai’n bosibl iddo fowldio Saul yn llestr dymunol—hyd yn oed yn “llestr dewis,” i dystiolaethu “gerbron y Cenhedloedd a’u brenhinoedd, a cherbron plant Israel.” (Act. 9:15) Gwelodd Duw botensial mewn pobl i fod yn “llestri crand,” hyd yn oed rhai a oedd yn feddwon, yn bobl anfoesol, ac yn lladron. (Rhuf. 9:21, beibl.net; 1 Cor. 6:9-11) Wrth iddyn nhw dderbyn gwybodaeth gywir a rhoi eu ffydd ar waith, roedden nhw’n gadael i Jehofa eu llunio.

5, 6. Sut dylai ymddiried yn Jehofa fel ein Crochenydd effeithio ar ein hagwedd tuag at (a) y bobl yn ein tiriogaeth? (b) ein brodyr a’n chwiorydd?

5 Sut gall gwybod hyn ein helpu ni? Oherwydd ein ffydd yng ngallu Jehofa i ddarllen calonnau a denu ato’i hun y rhai y mae ef yn eu dewis, ni ddylen ni farnu eraill, un ai yn ein tiriogaeth neu yn ein cynulleidfa. Ystyria esiampl Michael. “Pan ddaeth Tystion Jehofa i’m gweld i,” meddai, “roeddwn i’n troi fy nghefn arnyn nhw a’u hanwybyddu. Ro’n i’n hollol ddigywilydd! Yn nes ymlaen, mewn sefyllfa wahanol, dyma fi’n cwrdd â theulu, ac oherwydd eu hymddygiad da, roeddwn i’n eu hedmygu. Wedyn, un diwrnod ges i fraw—roedden nhw’n Dystion Jehofa! Roedd eu hymddygiad yn fy ysgogi i ganfod y rheswm dros fy rhagfarn. Yn fuan, sylweddolais fod fy agwedd yn seiliedig ar ddiffyg gwybodaeth ac ar straeon, nid ar ffeithiau.” Er mwyn canfod y ffeithiau, dechreuodd Michael astudio’r Beibl gyda’r Tystion. Mewn amser, derbyniodd y gwirionedd a dechreuodd wasanaethu’n llawn amser.

6 Gall derbyn mai Jehofa yw ein Crochenydd effeithio ar ein hagwedd tuag at ein cyd-gredinwyr hefyd. Wyt ti’n gweld dy frodyr a’th chwiorydd fel mae Duw yn eu gweld nhw—nid fel gwaith sydd wedi ei gwblhau, ond fel gwaith sydd heb ei orffen? Mae Duw yn gweld y person mewnol yn ogystal â’r math o berson y gall rhywun fod yn ei ddwylo medrus. Felly, mae gan Jehofa agwedd bositif tuag at bobl ac nid yw’n canolbwyntio ar ffaeleddau dros dro. (Salm 130:3) Gallwn efelychu Jehofa drwy edrych ar ei weision mewn ffordd bositif. Hefyd, gallwn gydweithio â’n Crochenydd drwy gefnogi ein brodyr wrth iddyn nhw geisio cynyddu’n ysbrydol. (1 Thes. 5:14, 15) Fel “rhoddion i bobl,” dylai’r henuriaid osod yr esiampl yn hyn o beth.—Eff. 4:8, 11-13.

PAM MAE JEHOFA YN EIN LLUNIO?

7. Pam rwyt ti’n ddiolchgar am ddisgyblaeth Jehofa?

7 Efallai dy fod ti wedi clywed pobl yn dweud rhywbeth tebyg i hyn: “Wnes i ddim gwerthfawrogi disgyblaeth fy rhieni nes i mi gael plant.” Wrth inni gael mwy o brofiad mewn bywyd, byddwn ni’n ystyried disgyblaeth fel y mae Jehofa yn ei hystyried, hynny yw, arwydd o gariad. (Darllen Hebreaid 12:5, 6, 11.) O achos ei gariad tuag at ei blant, mae Jehofa yn ein mowldio ni’n amyneddgar. Mae’n dymuno i’w blant fod yn ddoeth, hapus, ac i’w garu. (Diar. 23:15) Nid yw’n cael unrhyw bleser o’n gweld ni’n dioddef, ac nid yw’n dymuno inni farw o dan “ddigofaint Duw,” sef y dyfodol mae disgynyddion Adda wedi ei etifeddu ganddo.—Eff. 2:2, 3.

8, 9. Sut mae Jehofa yn ein dysgu ni heddiw, a sut bydd yr addysg honno’n parhau yn y dyfodol?

8 A ninnau ar un adeg o dan “ddigofaint Duw,” roedd gennyn ni lawer o dueddiadau a oedd yn annymunol iddo, efallai rhai ofnadwy! Ond, oherwydd i Jehofa ein mowldio, daethon ni’n debycach i ŵyn. (Esei. 11:6-8; Col. 3:9, 10) Felly, mae’r sefyllfa heddiw, lle mae Jehofa yn ein llunio, yn debyg i baradwys ysbrydol sydd wrthi’n cael ei ffurfio. Rydyn ni’n teimlo’n ddiogel er gwaethaf y byd drwg o’n cwmpas. Hefyd, magwyd rhai ohonon ni mewn teuluoedd digariad ond nawr teimlwn wir gariad y gynulleidfa. (Ioan 13:35) Ac rydyn ni wedi dysgu sut i ddangos cariad at eraill. Yn bennaf, rydyn ni wedi dod i adnabod ein Tad Jehofa ac nawr yn profi ei gariad.—Iago 4:8.

9 Yn y byd newydd, byddwn ni’n mwynhau bendithion y baradwys ysbrydol i’r eithaf. Yna, bydd y ddaear yn baradwys lythrennol o dan reolaeth Teyrnas Dduw. Wrth i’r ddaear gael ei hadfer, bydd Jehofa yn parhau i fowldio trigolion y ddaear, a’u dysgu i raddfa sy’n anodd ei dychmygu ar hyn o bryd. (Esei. 11:9) Yn ychwanegol i hynny, bydd Duw yn gwneud ein meddyliau a’n cyrff yn ddi-wall fel y gallwn ni dderbyn ei ddysgeidiaethau a gwneud ei ewyllys yn berffaith. Felly, gad inni fod yn benderfynol o ddal ati i ymostwng i Jehofa, gan ddangos ein bod ni’n ystyried ei waith llunio yn arwydd o’i gariad tuag aton ni.—Diar. 3:11, 12.

SUT MAE JEHOFA YN EIN LLUNIO?

10. Sut roedd Iesu’n adlewyrchu amynedd a sgìl y Crochenydd Mawr?

10 Ac yntau’n grochenydd medrus, mae Jehofa yn ystyried y math o glai sydd o’i flaen a’i ansawdd, ac yn ei ffurfio mewn ffordd briodol. (Darllen Salm 103:10-14.) Yn wir, rydyn ni’n unigolion i Jehofa, ac mae’n ystyried ein gwendidau, ein cyfyngiadau, a’n haeddfedrwydd ysbrydol. Cafodd agwedd Duw tuag at ei weision amherffaith ei amlygu gan ei Fab. Ystyria sut roedd Iesu’n delio â ffaeleddau ei apostolion, yn enwedig eu tueddiad i ffraeo am bwy oedd y gorau. Os oeddet ti wedi gweld yr apostolion yn ffraeo’n chwyrn, a fyddet ti wedi meddwl eu bod nhw’n addfwyn a hyblyg? Ond, roedd gan Iesu agwedd bositif tuag atyn nhw. Roedd yn gwybod y byddai’n bosibl iddyn nhw gael eu mowldio gan gyngor caredig, a thrwy ddilyn ei esiampl ostyngedig. (Marc 9:33-37; 10:37, 41-45; Luc 22:24-27) Ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, ac ar ôl i’r ysbryd glân gael ei dywallt, canolbwyntiodd yr apostolion, nid ar statws ac amlygrwydd, ond ar y gwaith roedd Iesu wedi ei roi iddyn nhw.—Actau 5:42.

11. Ym mha ffyrdd roedd Dafydd yn debyg i glai meddal, a sut gallwn ni ei efelychu?

11 Gan amlaf, mae Jehofa yn mowldio ei bobl heddiw drwy ei Air, ei ysbryd glân, a’r gynulleidfa Gristnogol. Gall Gair Duw ein mowldio wrth inni ei ddarllen, myfyrio arno, a gofyn i Jehofa ein helpu i roi’r hyn rydyn ni’n ei ddarllen ar waith. “Dw i’n meddwl amdanat ti wrth orwedd ar fy ngwely,” meddai Dafydd, “ac yn myfyrio arnat ti yng nghanol y nos.” (Salm 63:6, beibl.net) Ysgrifennodd hefyd: “Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi; yn y nos y mae fy meddyliau’n fy hyfforddi.” (Salm 16:7) Roedd Dafydd yn caniatáu i gyngor dwyfol dreiddio i’w galon, ac iddo lunio ei feddyliau a’i deimladau dyfnaf, hyd yn oed pan oedd y cyngor yn gryf. (2 Sam. 12:1-13) Yn wir, gosododd Dafydd esiampl arbennig o ostyngeiddrwydd! Wyt ti’n myfyrio ar Air Duw, gan adael iddo wreiddio yn ddwfn ynot ti? A ddylet ti wneud hyn yn fwy byth?—Salm 1:2, 3.

12, 13. Sut mae Jehofa yn defnyddio’r ysbryd glân a’r gynulleidfa i’n mowldio?

12 Gall yr ysbryd glân ein llunio mewn sawl ffordd. Er enghraifft, mae’n gallu ein helpu i feithrin y bersonoliaeth Gristnogol, sy’n cael ei nodweddu gan ffrwyth yr ysbryd. (Gal. 5:22, 23) Un agwedd ar yr ysbryd hwnnw yw cariad. Rydyn ni’n caru Duw ac yn dymuno ufuddhau iddo a chael ein llunio ganddo, gan gydnabod nad yw ei orchmynion yn feichus. Hefyd, gall yr ysbryd glân roi’r nerth inni wrthod dylanwad y byd a’i ysbryd drwg, sy’n ceisio ein mowldio. (Eff. 2:2) Pan oedd yr apostol Paul yn llanc ifanc, cafodd ei ddylanwadu’n fawr gan ysbryd balch yr arweinwyr Iddewig. Ond, yn nes ymlaen, ysgrifennodd: “Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.” (Phil. 4:13) Felly, gad i ninnau, fel yr apostol Paul, ofyn am yr ysbryd glân. Fydd Jehofa byth yn anwybyddu gweddïau ei weision gostyngedig.—Salm 10:17.

Mae Jehofa yn defnyddio’r henuriaid i’n llunio, ond mae’n rhaid i ninnau wneud ein rhan hefyd (Gweler paragraffau 12, 13)

13 Mae Jehofa yn defnyddio’r gynulleidfa a’i harolygwyr i’n llunio ar lefel bersonol. Er enghraifft, petai’r henuriaid yn synhwyro bod yna broblem ysbrydol, maen nhw’n ceisio ein helpu—ond nid ar sail doethineb dynol. (Gal. 6:1) Yn hytrach, maen nhw’n troi at Dduw ac yn gofyn am ddealltwriaeth a doethineb. Gan gadw ein sefyllfa mewn cof, maen nhw’n gweithredu ar eu gweddïau drwy wneud ymchwil yn y Beibl a’n cyhoeddiadau. Wedyn gallan nhw roi help sydd wedi ei deilwra i ni. Os ydyn nhw’n dod atat ti i gynnig cymorth caredig, yn ymwneud â’th ffordd o wisgo er enghraifft, a fyddi di’n derbyn eu cyngor fel arwydd o gariad Duw? Drwy wneud hynny, byddi di’n profi dy fod ti fel clai meddal yn nwylo Jehofa, yn barod i gael dy ffurfio ganddo er dy les.

14. Er bod gan Jehofa awdurdod dros y clai, sut mae Jehofa yn parchu ein hewyllys rhydd?

14 Gall deall sut mae Jehofa yn ein llunio ni ein helpu yn ein perthynas â’n cyd-addolwyr ac yn ein hagwedd tuag at y bobl yn ein tiriogaeth, gan gynnwys y rhai sy’n astudio gyda ni. Adeg y Beibl, doedd y crochenydd ddim yn cloddio am glai ac yna yn ei siapio yn syth bin. Roedd rhaid iddo ei baratoi yn gyntaf a chael gwared ar gerrig neu unrhyw beth annymunol. Mewn ffordd ysbrydol, mae Duw yn helpu unigolion sy’n fodlon cael eu ffurfio. Nid yw’n eu gorfodi nhw i wneud newidiadau, ond mae’n datgelu iddyn nhw ei safonau cyfiawn fel y gallan nhw gydymffurfio â’r safonau hynny a gwneud newidiadau o’u gwirfodd.

15, 16. Sut mae pobl sy’n astudio’r Beibl yn dangos eu bod nhw eisiau i Jehofa eu llunio? Eglura.

15 Ystyria esiampl chwaer o’r enw Tessie o Awstralia. “Derbyniodd Tessie wirionedd y Beibl yn weddol hawdd,” meddai’r chwaer a astudiodd gyda hi. “Ond, doedd hi ddim yn gwneud llawer o gynnydd ysbrydol—doedd hi ddim hyd yn oed yn mynychu’r cyfarfodydd! Felly, ar ôl gweddïo a meddwl yn ofalus am y peth, penderfynais stopio astudio gyda hi. Ond wedyn, digwyddodd rywbeth anhygoel. Pan es i i’w gweld hi am y tro olaf, bwriodd Tessie ei bol. Dywedodd ei bod hi’n teimlo fel rhagrithiwr oherwydd ei bod hi’n mwynhau gamblo. Ond roedd hi bellach wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi.”

16 Yn fuan wedyn, dechreuodd Tessie fynychu’r cyfarfodydd a gwisgo’r bersonoliaeth Gristnogol—er bod ei chyd-weithwyr yn ei gwawdio am hyn. Ychwanegodd y chwaer: “Mewn amser, cafodd Tessie ei bedyddio ac, yn hwyrach ymlaen, dechreuodd arloesi, er bod ganddi blant bach.” Pan fydd pobl sy’n astudio’r Beibl yn dechrau newid eu bywydau er mwyn plesio Duw, bydd Jehofa yn agosáu atyn nhw ac yn eu llunio’n llestri deniadol.

17. (a) Pam rwyt ti’n meddwl bod Jehofa yn Grochenydd medrus? (b) Pa agweddau ar fowldio y byddwn ni’n eu hystyried nesaf?

17 Hyd heddiw, mae pobl yn gwneud llestri o waith llaw, ac mae’r crochenydd yn gweithio ar y clai â’i ddwylo ei hun. Mewn modd tebyg, mae ein Crochenydd amyneddgar yn defnyddio ei ddwylo, fel petai, i’n llunio ni drwy ei gyngor ac mae hefyd yn cymryd sylw o’n hymateb. (Darllen Salm 32:8.) Wyt ti’n gweld bod gan Jehofa ddiddordeb ynot ti? Wyt ti’n gweld dy hun yn cael dy lunio yn ei ddwylo caredig? Os felly, pa rinweddau ychwanegol a fydd yn dy helpu i aros yn glai meddal a hyblyg gerbron Jehofa? Pa agweddau y dylet ti eu hosgoi fel nad wyt ti’n troi’n anhyblyg? A sut gall rhieni gydweithio â Jehofa i fowldio eu plant? Bydd yr erthygl nesaf yn trafod hynny.