Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Gadael i’r Crochenydd Mawr Dy Lunio Di?

Wyt Ti’n Gadael i’r Crochenydd Mawr Dy Lunio Di?

“Fel clai yn llaw’r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i.”—JER. 18:6.

CANEUON: 60, 22

1, 2. Pam roedd gan Daniel ffafr yng ngolwg Duw, a sut gallwn ni fod yn ufudd fel Daniel?

PAN aeth yr alltudion Iddewig i mewn i Fabilon gynt, gwelon nhw ddinas a oedd yn llawn delwau a phobl yn addoli ysbrydion drwg. Er gwaethaf hynny, roedd Iddewon ffyddlon, fel Daniel a’i dri chyfaill, yn gwrthod cael eu mowldio gan bobl Babilon. (Dan. 1:6, 8, 12; 3:16-18) Roedd Daniel a’i dri chyfaill yn benderfynol o addoli eu Crochenydd Jehofa yn unig. Ac fe lwyddon nhw! Treuliodd Daniel ei fywyd cyfan bron ym Mabilon; ac eto dywedodd angel Duw fod gan Daniel ffafr yng ngolwg Duw.—Dan. 10:11, 19.

2 Adeg y Beibl, byddai crochenydd weithiau yn gwasgu clai i mewn i fowld er mwyn ei siapio. Mae gwir addolwyr heddiw yn cydnabod mai Jehofa yw Penarglwydd y Bydysawd, yr un gyda’r awdurdod i lunio pobl a chenhedloedd. (Darllen Jeremeia 18:6.) Hefyd, mae gan Dduw yr awdurdod i’n llunio ni’n bersonol. Sut bynnag, mae’n cydnabod ein hewyllys rhydd ac mae eisiau inni ymostwng iddo o’n gwirfodd. Gad inni drafod tri chwestiwn a all ein helpu ni i aros yn feddal yn ei ddwylo: (1) Sut gallwn ni osgoi tueddiadau a all ein caledu ni rhag derbyn cyngor Duw? (2) Sut gallwn ni feithrin rhinweddau a fydd yn ein helpu ni i aros yn feddal ac yn ostyngedig? (3) Sut gall rheini Cristnogol ymostwng i Dduw wrth iddyn nhw lunio eu plant?

OSGOI TUEDDIADAU A ALL GALEDU’R GALON

3. Pa dueddiadau all galedu ein calon? Eglura.

3 “Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall, achos dyna ffynhonnell dy fywyd,” dywed Diarhebion 4:23. (beibl.net) Pa dueddiadau sydd angen inni ein hamddiffyn ein hunain rhagddyn nhw? Maen nhw’n cynnwys balchder gormodol, ymarfer pechod, a diffyg ffydd. Gall y nodweddion hyn feithrin ysbryd anufudd ynon ni. (Dan. 5:1, 20; Heb. 3:13, 18, 19) Roedd Usseia, Brenin Jwda, yn or-falch. (Darllen 2 Cronicl 26:3-5, 16-21.) Yn y cychwyn, gwnaeth Usseia “yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.” Ond, “wedi iddo fynd yn rymus aeth ei falchder yn drech nag ef,” er bod ei nerth wedi dod oddi wrth Dduw! Ceisiodd hyd yn oed losgi arogldarth yn y deml—braint wedi ei neilltuo ar gyfer disgynyddion Aaron yn unig. Pan rybuddiodd yr offeiriaid Usseia, fe aeth yn flin iawn. Beth oedd y canlyniad? Cododd Duw gywilydd arno, a daeth yn wahanglwyfus tan iddo farw.—Diar. 16:18.

4, 5. Beth all ddigwydd petaen ni’n methu gwarchod ein hunain rhag balchder? Rho enghraifft.

4 Petaen ni’n methu gwarchod ein hunain rhag bod yn falch, gallwn ninnau fod yn euog o feddwl mwy nag y dylen ni ohonon ni’n hunain, efallai hyd yn oed i’r pwynt o wrthod cyngor Ysgrythurol. (Rhuf. 12:3; Diar. 29:1) Meddylia am Jim, henuriad a oedd yn anghytuno â’i gyd-henuriaid ynglŷn â mater yn y gynulleidfa. Dywedodd Jim: “Dywedais wrth y brodyr nad oedden nhw’n gariadus, ac yna gadewais y cyfarfod.” Tua chwe mis wedi hynny, symudodd Jim i gynulleidfa gyfagos ond ni chafodd ei ail-benodi. Mae’n cyfaddef: “Ges i fy siomi’n arw. Roeddwn i mor hunangyfiawn fel y gwnes i adael y gwir.” Arhosodd Jim yn anweithredol yn ysbrydol am ddeng mlynedd. Meddai: “Teimlais gywilydd a dechreuais feio Jehofa am bopeth. Dros y blynyddoedd, daeth y brodyr i’m gweld i a cheisio rhesymu gyda mi, ond roeddwn i’n gwrthod eu help.”

5 Mae profiad Jim yn dangos sut gall balchder achosi inni gyfiawnhau ein gweithredoedd, a’n gwneud ni’n anhyblyg. (Jer. 17:9) “Roeddwn i’n methu stopio canolbwyntio ar y ffaith fod yr henuriaid yn anghywir yn fy marn i,” eglurodd Jim. Wyt ti erioed wedi cael dy frifo gan gyd-addolwr, neu oherwydd dy fod ti wedi colli breintiau? Os felly, beth oedd dy ymateb? A oedd balchder yn chwarae rhan? Neu, a oeddet ti’n sylweddoli bod heddwch â’th frawd a ffyddlondeb i Jehofa yn bwysicach na dim byd arall?—Darllen Salm 119:165; Colosiaid 3:13.

6. Beth all ddigwydd os ydyn ni’n ymarfer pechod?

6 Gall ymarfer pechod, hyd yn oed yn y dirgel, wneud rhywun yn ddiymateb i gyngor. Wedyn, gall pechu fod yn haws. Dywedodd un brawd nad oedd ei ymddygiad drwg yn pwyso ar ei gydwybod wrth i amser fynd heibio. (Preg. 8:11) Cyfaddefodd brawd arall a oedd wedi mynd i’r arfer o wylio pornograffi: “Ro’n i’n gweld agwedd feirniadol tuag at yr henuriaid yn datblygu ynof fi.” Roedd ei arfer drwg yn ei niweidio’n ysbrydol. Yn y diwedd, daeth ei ymddygiad i’r golwg, a derbyniodd yr help roedd yn ei wir angen. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn amherffaith. Os ydyn ni’n dechrau meithrin agwedd feirniadol neu’n esgeuluso ymddygiad drwg yn hytrach na cheisio maddeuant Duw a gofyn am ei help, gall ein calon fod wedi dechrau caledu yn barod.

7, 8. (a) Pa effaith oedd diffyg ffydd yn ei chael ar yr Israeliaid? (b) Beth gallwn ni ei ddysgu?

7 Drwy edrych ar esiampl yr Israeliaid a gafodd eu hachub gan Jehofa o’r Aifft, gallwn weld sut gall diffyg ffydd galedu calonnau. Roedd y genedl honno wedi gweld Duw yn gwneud gwyrthiau lawer ar ei rhan! Ond, pan agosaodd y bobl at Wlad yr Addewid, roedd ganddyn nhw ddiffyg ffydd. Yn hytrach nag ymddiried yn Jehofa, daethon nhw’n ofnus a dechrau grwgnach yn erbyn Moses. Roedden nhw hyd yn oed eisiau dychwelyd i’r Aifft, lle roedden nhw wedi bod yn gaethion. Roedd Jehofa wedi ei frifo i’r byw. Gofynnodd Jehofa am ba hyd y byddai’r bobl yn ei drin heb barch. (Num. 14:1-4, 11; Salm 78:40, 41) Oherwydd eu calonnau caled a’u diffyg ffydd, bu farw’r genhedlaeth honno yn yr anialwch.

8 Heddiw, wrth i’r byd newydd agosáu, mae ein ffydd ni yn cael ei phrofi. Peth da fyddai asesu dyfnder ein ffydd. Er enghraifft, gallwn feddwl am ein hagwedd tuag at eiriau Iesu yn Mathew 6:33. Gofynna i ti dy hun: ‘Ydy fy mlaenoriaethau a’m penderfyniadau yn dangos fy mod i’n gwir gredu geiriau Iesu? A fyddwn i’n methu cyfarfodydd neu’r weinidogaeth er mwyn ennill arian? Beth byddwn i’n ei wneud petai fy swydd yn gofyn am fwy o amser ac egni gennyf? A fyddwn i’n caniatáu i’r byd fy ngwasgu i’w fowld—ac efallai yn syth allan o’r gwir?’

9. Pam dylen ni ddal ati i brofi a ydyn ni yn y ffydd neu beidio, a sut gallwn ni wneud hynny?

9 Dyma enghraifft arall. Dychmyga un o weision Jehofa sy’n anfodlon dilyn safonau’r Beibl ynglŷn â chymdeithasu drwg, y drefn ddiarddel, neu adloniant drwg. Gofynna i ti dy hun: ‘Ydy hyn yn wir yn fy achos i?’ Os ydyn ni’n synhwyro ein bod ni wedi dechrau meithrin agwedd galed, mae dwys angen arnon ni i asesu ein ffydd! Mae’r Beibl yn cynghori: “Profwch eich hunain i weld a ydych yn y ffydd; chwiliwch eich hunain.” (2 Cor. 13:5) Bydda’n onest gyda thi dy hun, a defnyddia’r Beibl i gywiro dy ffordd o feddwl.

AROS YN HYBLYG

10. Beth gall ein helpu ni i fod yn feddal fel clai yn nwylo Jehofa?

10 Mae darpariaethau Duw, sy’n ein helpu ni i aros yn feddal fel clai, yn cynnwys ei Air, y gynulleidfa Gristnogol, a’r weinidogaeth. Fel mae dŵr yn meddalu clai, gall darllen y Beibl yn ddyddiol a myfyrio arno ein helpu ni i aros yn hyblyg yn nwylo Jehofa. Gofynnodd Jehofa i frenhinoedd Israel ysgrifennu copi personol o Gyfraith Duw a’i ddarllen bob dydd. (Deut. 17:18, 19) Sylweddolodd yr apostolion fod darllen a myfyrio ar yr Ysgrythurau yn hanfodol ar gyfer eu gweinidogaeth. Roedden nhw’n cyfeirio at yr Ysgrythurau Hebraeg gannoedd o weithiau wrth ysgrifennu, ac yn annog pobl yn y diriogaeth i wneud yr un peth. (Act. 17:11) Heddiw, gwelwn ninnau hefyd bwysigrwydd darllen Gair Duw yn ddyddiol a myfyrio arno. (1 Tim. 4:15) Mae gwneud felly yn ein helpu ni i aros yn ostyngedig o flaen Jehofa ac yn hyblyg yn ei ddwylo.

Defnyddia ddarpariaethau Duw i’th helpu i aros yn feddal yn ei ddwylo (Gweler paragraffau 10-13)

11, 12. Sut gall Jehofa ddefnyddio’r gynulleidfa i’n llunio ni yn ôl ein hanghenion personol? Eglura.

11 Mae Jehofa yn defnyddio’r gynulleidfa Gristnogol i’n llunio ni yn ôl ein hanghenion personol. Dechreuodd agwedd Jim, y soniwyd amdano gynt, feddalu pan ddangosodd henuriad ddiddordeb personol ynddo. “Doedd y brawd ddim yn fy meio i o gwbl am fy sefyllfa, nac yn fy meirniadu i,” dywedodd Jim. “Yn hytrach, fe arhosodd yn bositif a dangos ei fod yn gwir ddymuno fy helpu.” Ar ôl tua thri mis, dyma’r henuriad yn gwahodd Jim i un o’r cyfarfodydd. “Rhoddodd y gynulleidfa groeso cynnes imi,” meddai Jim, “a’u cariad nhw oedd y trobwynt yn fy mywyd i. Sylweddolais nad fy nheimladau i oedd y peth pwysig. Gyda chefnogaeth y brodyr a’m gwraig annwyl—a arhosodd yn ffyddlon i Jehofa—yn araf deg bach, roeddwn i’n dod yn gryfach yn ysbrydol. Hefyd, cefais fy nghalonogi gan yr erthyglau ‘Jehovah Is Not to Blame’ a ‘Serve Jehovah Loyally,’ yn Tŵr Gwylio 15 Tachwedd 1992.”

12 Mewn amser, cafodd Jim ei ail-benodi fel henuriad. Ers hynny, mae wedi helpu llawer o frodyr eraill i ddod dros yr un fath o dreialon ac i wella’n ysbrydol. Mae’n gorffen drwy ddweud: “Ro’n i’n credu bod fy mherthynas â Jehofa yn gryfach nag yr oedd hi mewn gwirionedd! Dw i’n difaru caniatáu i falchder fy nallu i rhag gweld beth sy’n bwysig, ac achosi imi ganolbwyntio’n llwyr ar ffaeleddau pobl eraill.”—1 Cor. 10:12.

13. Pa rinweddau gall y weinidogaeth ein helpu ni i’w meithrin, a chyda pha ganlyniadau?

13 Sut gall y weinidogaeth ein llunio ni er ein lles? Gall dysgu eraill am y newyddion da ein helpu ni i feithrin gostyngeiddrwydd ac ambell agwedd ar ffrwyth yr ysbryd. (Gal. 5:22, 23) Meddylia am rinweddau da rwyt ti wedi eu meithrin drwy fod ar y weinidogaeth. Gall efelychu Crist ddenu pobl at ein neges a newid eu hagweddau nhw tuag aton ni. Er enghraifft, dyma ddau Dyst yn Awstralia yn gwrando’n barchus pan oedd deiliad yn gas wrthyn nhw. Yn hwyrach, roedd y deiliad yn difaru oherwydd y ffordd roedd hi wedi eu trin nhw a dyma hi’n ysgrifennu i swyddfa’r gangen, gan ddweud: “I’r ddau unigolyn amyneddgar a gostyngedig hynny, rwy’n ymddiheuro am fy ymddygiad hunangyfiawn a balch. Ffŵl ydw i i sefyll o flaen dau berson sy’n lledaenu Gair Duw a cheisio eu hel nhw i ffwrdd.” O’r profiad hwn, gallwn weld pa mor bwysig yw bod yn addfwyn wrth bregethu. Yn bendant, felly, mae’r weinidogaeth o les i ni ac i’n cymdogion!

YMOSTWNG I DDUW WRTH LUNIO DY BLANT

14. Beth sydd angen i rieni ei wneud os ydyn nhw eisiau mowldio eu plant yn llwyddiannus?

14 Mae’r mwyafrif o blant yn awyddus i ddysgu, ac maen nhw’n tueddu bod yn ostyngedig. (Math. 18:1-4) Gall rhieni fanteisio ar hynny a cheisio dysgu eu plant i garu’r gwirionedd. (2 Tim. 3:14, 15) Wrth gwrs, er mwyn bod yn llwyddiannus yn hyn o beth, mae angen i’r gwirionedd fod yng nghalonnau’r rhieni yn gyntaf, ac iddyn nhw ei weithredu yn eu bywydau eu hunain. Pan fo rhieni yn gwneud hyn, nid clywed y gwirionedd yn unig y mae’r plant, ond ei brofi hefyd. Yn fwy na hynny, maen nhw’n dysgu bod disgyblaeth eu rhieni yn arwydd o gariad sydd, yn ei dro, yn adlewyrchu cariad Jehofa.

15, 16. Petai plentyn yn cael ei ddiarddel, sut dylai rhieni ddangos eu bod nhw’n ymddiried yn Nuw?

15 Ond, er gwaethaf magwraeth Gristnogol, mae rhai plant yn hwyrach ymlaen yn penderfynu gadael y gwirionedd, neu’n cael eu diarddel, ac yn achosi loes calon i’r teulu. “Pan gafodd fy mrawd ei ddiarddel,” dywedodd un chwaer o Dde Affrica, “roeddwn i’n teimlo fel petasai ef wedi marw. Roedd yn dorcalonnus!” Sut roedd hi a’i rhieni yn ymateb? Dilynon nhw y cyfarwyddyd yng Ngair Duw. (Darllen 1 Corinthiaid 5:11, 13.) “Penderfynon ni roi cyngor y Beibl ar waith,” meddai’r rhieni, “gan gydnabod byddai dilyn safonau Duw yn dod â’r canlyniadau gorau. Roedden ni’n ystyried y drefn o ddiarddel rhywun fel disgyblaeth ddwyfol, ac roedden ni’n sicr fod Jehofa yn disgyblu oherwydd ei gariad a dim ond i’r raddfa briodol. Felly, dim ond cyfathrebu ynglŷn â materion angenrheidiol roedden ni’n ei wneud gyda’n mab.”

16 Sut roedd y mab yn teimlo? “Ro’n i’n gwybod nad oedd fy nheulu yn fy nghasáu,” dywedodd yn hwyrach ymlaen, “ond mai bod yn ufudd i Jehofa a’i gyfundrefn roedden nhw.” Hefyd dywedodd: “Dim ond pan wyt ti’n gorfod ymbil ar Jehofa am ei help a’i faddeuant rwyt ti’n sylweddoli cymaint rwyt ti’n ei angen.” Dychmyga lawenydd y teulu pan ddaeth y dyn ifanc yn ei ôl i’r gwir! Yn sicr, pan ydyn ni’n gwrando ar Dduw ym mhob agwedd o’n bywydau, mae’r canlyniadau gorau yn dod inni.—Diar. 3:5, 6; 28:26.

17. Pam y dylen ni ymostwng i Jehofa ym mhob agwedd o’n bywydau ni, a sut byddwn ni’n elwa ar wneud hynny?

17 Rhagfynegodd y proffwyd Eseia y byddai’r Iddewon ym Mabilon yn edifarhau ac yn dweud: “Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad; ni yw’r clai a thi yw’r crochenydd.” Wedyn, bydden nhw’n ymbil: “Paid â digio’n llwyr, ARGLWYDD, na chofio camwedd am byth. Edrych, yn awr, dy bobl ydym ni i gyd.” (Esei. 64:8, 9) Pan ydyn ni’n ymostwng i Jehofa byddwn ni’n ennill ei ffafr, fel y digwyddodd i’r proffwyd Daniel. Bydd Jehofa yn parhau i’n llunio ni drwy ei Air, ei ysbryd, a thrwy ei gyfundrefn, ac un diwrnod byddwn yn sefyll o’i flaen yn blant perffaith iddo.—Rhuf. 8:21.