Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt ti wedi darllen y rhifynnau diweddar o’r Tŵr Gwylio yn ofalus? Tybed a fedri di ateb y cwestiynau hyn?

Pam y cymeradwyodd Jehofa ryfeloedd Israel gynt?

Mae Jehofa yn gariadus. Ond, ar adegau, caniataodd ryfeloedd pan oedd drygioni neu ormes yn bygwth ei bobl. Duw yn unig a benderfynodd pwy fyddai’n rhyfela a phryd.—w15-E 11/1, tt. 4-5.

Pa bethau pwysig gall rhieni eu gwneud i hyfforddi eu plant sydd yn eu harddegau i wasanaethu Jehofa?

Mae’n hanfodol bod rhieni’n caru eu plant ac yn gosod esiampl iddyn nhw o fod yn ostyngedig. Pwysig hefyd yw bod rhieni’n ceisio deall eu plant.—w15-E 11/15, tt. 9-11.

Pam na ddylid ystyried y pab yn olynydd i Pedr?

Nid yw Mathew 16:17, 18 yn dweud y byddai’r apostol Pedr yn ben ar y gynulleidfa Gristnogol. Dywed y Beibl mai Iesu yw conglfaen y gynulleidfa, ac nid yw’n dweud y byddai Pedr yn cael y lle blaenaf. (1 Pedr 2:4-8)—w15-E 12/1, tt. 12-14.

Beth dylen ni ei ystyried cyn siarad?

Dylen ni gofio (1) pryd i siarad (Preg. 3:7), (2) beth i’w ddweud (Diar. 12:18), a (3) sut i siarad (Diar. 25:15).—w15-E 12/15, tt. 19-22.

Pa bethau anonest dylai Cristnogion eu hosgoi?

Mae gwir Gristnogion yn osgoi dweud celwyddau, enllibio, dwyn, twyllo, a dweud pethau cas sy’n brifo eraill.—wp16.1-E, t. 5.

Pwy oedd y “prif offeiriaid” y soniwyd amdanyn nhw yn y Beibl?

Gall yr ymadrodd “prif offeiriaid” gyfeirio at brif aelodau’r offeiriadaeth, gan gynnwys cyn-archoffeiriaid.—wp16.1-E, t. 10.

Sut dylen ni drin rhywun sy’n cyfranogi o’r elfennau yn y Goffadwriaeth?

Nid yw Cristnogion yn dyrchafu’r rhai hyn. Ni fyddai rhywun sy’n wirioneddol yn un o’r eneiniog yn disgwyl hynny, ac ni fyddai’n dymuno hysbysebu ei berthynas arbennig â Duw. (Math. 23:8-12)—w16.01, tt. 21-23.

Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r ffordd y daeth Abraham yn ffrind i Dduw?

Dysgodd Abraham am Dduw, efallai oddi wrth Sem. Daeth i adnabod Jehofa drwy weld sut roedd Duw yn delio gydag ef a’i deulu. Gallwn ninnau hefyd geisio gwneud yr un peth.—w16.02, tt. 4-6.

Beth yw’r hanes y tu ôl i’r syniad o rifo penodau ac adnodau’r Beibl?

Yn y 13eg ganrif, gwnaeth y clerigwr Stephen Langton rannu’r Beibl yn benodau. Copïwyr Iddewig oedd y cyntaf i rannu’r Beibl Hebraeg yn adnodau, ac yn y 16eg ganrif, gwnaeth yr ysgolhaig Robert Estienne yr un fath yn achos yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol.—wp16.2-E, tt. 14-15.

A wnaeth Satan gymryd Iesu i’r deml go iawn er mwyn ei demtio?

Ni allwn fod yn sicr. Efallai fod Mathew 4:5 a Luc 4:9 yn golygu bod Iesu wedi cael ei gymryd yno mewn gweledigaeth neu ei fod wedi sefyll ar ryw fan uchel ar safle’r deml.—w16.03, tt. 31-32.

Ym mha ffyrdd gall ein gweinidogaeth ni fod yn debyg i’r gwlith?

Mae’r gwlith yn ffurfio’n raddol, yn adfywio, ac yn cynnal bywyd. Mae gwlith llythrennol yn fendith oddi wrth Dduw. (Deut. 33:13) Mae ymdrechion pob un o weision Duw yn y weinidogaeth yn debyg i hynny.—w16.04, t. 32.