Cefnoga Sofraniaeth Jehofa!
“Ein Harglwydd a’n Duw! Rwyt ti’n deilwng o’r clod a’r anrhydedd a’r nerth. Ti greodd bob peth.”—DAT. 4:11.
CANEUON: 112, 133
1, 2. O beth y dylai pob un ohonon ni fod yn sicr? (Gweler y llun agoriadol.)
FEL y trafodwyd yn yr erthygl ddiwethaf, mae’r Diafol yn honni bod Jehofa yn rheolwr annheg ac y byddai pobl yn well allan petasen nhw’n eu rheoli eu hunain. Ydy Satan yn iawn? Dychmyga fod pobl sy’n dewis eu rheoli eu hunain yn gallu byw am byth. A fydden nhw’n well eu byd heb frenhiniaeth Duw? A fyddet tithau’n hapusach petaset ti’n hollol annibynnol ac yn gallu byw am byth?
2 Ni all neb ateb y cwestiynau hynny drosot ti. Dylai pob unigolyn feddwl yn ofalus am y peth. Wrth wneud hynny, dylai ddod yn amlwg mai sofraniaeth Duw sy’n gywir. Dyna’r frenhiniaeth orau posibl. Ac mae’n haeddu ein holl gefnogaeth. Y Beibl sy’n rhoi sail i’r safiad hwnnw. Er enghraifft, ystyria beth mae’r Ysgrythurau’n ei ddweud am hawl Jehofa i reoli.
JEHOFA SYDD Â’R HAWL I REOLI
3. Pam mai Jehofa yn unig sydd â’r hawl i reoli?
3 Jehofa yn unig sydd â’r hawl i fod yn Benarglwydd y bydysawd oherwydd ef yw’r Duw hollalluog a’r Creawdwr. (1 Cron. 29:11; Act. 4:24) Yn Datguddiad 4:11, mae cyd-reolwyr Crist, y 144,000, yn cael eu disgrifio mewn gweledigaeth, ac maen nhw’n dweud: “Ein Harglwydd a’n Duw! Rwyt ti’n deilwng o’r clod a’r anrhydedd a’r nerth. Ti greodd bob peth, ac mae popeth wedi eu creu yn bodoli am mai dyna oeddet ti eisiau.” Fel y Creawdwr, mae gan Jehofa berffaith hawl i reoli dros bawb a phopeth.
4. Pam mae gwrthwynebu sofraniaeth Duw yn gamddefnydd o ewyllys rhydd?
4 Nid yw Satan wedi creu dim. Felly, nid oes ganddo’r hawl i reoli’r bydysawd. Drwy wrthryfela yn erbyn sofraniaeth Jehofa, roedd Satan a’r cwpl cyntaf yn ymddwyn yn drahaus. (Jer. 10:23) Yn wir, oherwydd bod ganddyn nhw ewyllys rhydd, roedden nhw’n gallu dewis byw’n annibynnol ar Dduw. Ond, a oedd ganddyn nhw’r hawl i wneud hynny? Nac oedd. Mae ewyllys rhydd yn caniatáu i bobl wneud dewisiadau priodol. Ond, nid yw’n caniatáu iddyn nhw wrthryfela yn erbyn eu Creawdwr. Yn amlwg, camddefnyddio ewyllys rhydd yw sefyll yn erbyn Jehofa. A ninnau’n fodau dynol, ein lle priodol ni yw o dan frenhiniaeth Jehofa.
5. Pam gallwn ni fod yn sicr fod penderfyniadau Duw yn wastad yn gyfiawn?
5 Jehofa yw’r Penarglwydd am reswm arall hefyd. Cyfiawnder perffaith sy’n sail i’w awdurdod. Mae’n dweud: “Fi ydy’r ARGLWYDD sy’n llawn cariad, yn deg, ac yn gwneud beth sy’n iawn ar y ddaear. A dw i eisiau i bobl wneud yr un fath.” (Jer. 9:24) Nid yw’n dibynnu ar ddeddfau amherffaith dynion er mwyn gwybod beth sy’n deg. Mae ei gyfiawnder perffaith yn deillio ohono ef ei hun, a dyna yw sail ei gyfreithiau i fodau dynol. “Tegwch a chyfiawnder ydy sylfaen” gorsedd Jehofa, felly, gallwn fod yn sicr fod pob un o’i ddeddfau, ei egwyddorion, a’i benderfyniadau yn gyfiawn. (Salm 89:14; 119:128) Ar y llaw arall, er bod Satan yn honni fod sofraniaeth Jehofa yn ddiffygiol, dydy’r Diafol ddim wedi llwyddo i greu byd llawn cyfiawnder.
6. Beth yw un rheswm dros ddweud bod gan Jehofa yr hawl i reoli’r byd?
6 Ar ben hynny, mae Jehofa yn deilwng o fod yn Benarglwydd oherwydd bod ganddo’r wybodaeth a’r doethineb i ofalu am y bydysawd. Er enghraifft, gwnaeth Duw alluogi ei Fab i iacháu afiechydon nad oedd doctoriaid yn gallu eu hiacháu. (Math. 4:23, 24; Marc 5:25-29) O safbwynt Jehofa, nid gwyrth oedd hyn. Mae Duw yn deall y prosesau dan sylw ac mae ganddo’r gallu i ddad-wneud unrhyw niwed. Mae’r un peth yn wir ynglŷn â’i allu i godi’r meirw ac i atal trychinebau naturiol.
7. Sut mae doethineb Jehofa yn uwch na doethineb byd Satan?
7 Mae byd Satan yn dal i chwilio am ffordd i leddfu tensiynau cenedlaethol a rhyngwladol; Jehofa yn unig sydd â’r doethineb i ddod â heddwch i’r byd. (Esei. 2:3, 4; 54:13) Wrth inni ddysgu am ddoethineb Jehofa, rydyn ni’n teimlo fel yr oedd yr apostol Paul: “Mae Duw mor ffantastig! Mae e mor aruthrol ddoeth! Mae’n deall popeth! Mae beth mae e’n ei benderfynu y tu hwnt i’n hamgyffred ni, a beth mae’n ei wneud y tu hwnt i’n deall ni!”—Rhuf. 11:33.
RHEOLAETH JEHOFA SYDD ORAU
8. Beth sy’n cyffwrdd â dy galon di ynglŷn â’r ffordd mae Jehofa’n rheoli?
8 Mae’r Beibl yn gwneud mwy na sefydlu hawl Jehofa i reoli. Mae’n dangos pam mai sofraniaeth Jehofa yw’r gorau. Un rheswm yw ei fod yn rheoli mewn ffordd gariadus. Mae ffordd Jehofa o weithredu ei sofraniaeth yn cyffwrdd â’n calonnau. “Mae’n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni Ex. 34:6) Mae Duw yn trin ei weision dynol ag urddas a pharch. Mae’n gofalu amdanon ni’n well nag yr ydyn ni’n gofalu amdanon ni ein hunain. Yn groes i honiadau’r Diafol, dydy Jehofa byth yn dal yn ôl unrhyw beth da oddi wrth ei addolwyr ffyddlon. Fe wnaeth hyd yn oed roi ei Fab annwyl er mwyn inni gael y cyfle i fyw am byth!—Darllen Salm 84:11; Rhufeiniaid 8:32.
a’i ffyddlondeb yn anhygoel!” (9. Sut rydyn ni’n gwybod bod gan Jehofa ddiddordeb mewn unigolion?
9 Mae gofal Jehofa yn golygu mwy na lles ei bobl fel grŵp. Mae ganddo hefyd ddiddordeb mawr ym mhob unigolyn. Er enghraifft, meddylia am y cyfnod o dair canrif pan roddodd Jehofa awdurdod i farnwyr i achub Israel rhag ei gelynion. Yn ystod y cyfnod cythryblus hwnnw, sylwodd Duw fod dynes o’r enw Ruth, nad oedd yn dod o Israel, wedi troi at wir addoliad. Rhoddodd Jehofa ŵr a mab iddi. Ond, yn fwy na hynny, pan fydd Ruth yn cael ei hatgyfodi, bydd hi’n gweld bod ei mab wedi bod yn rhan o’r llinach a arweiniodd at y Meseia. A dychmyga pa mor hapus y bydd hi i ddarganfod bod hanes ei bywyd wedi ei gadw yn un o lyfrau’r Beibl, a’i henw hi’n deitl arno!—Ruth 4:13; Math. 1:5, 16.
10. Pam nad yw sofraniaeth Jehofa yn ormesol?
10 Dydy ffordd Jehofa o reoli ddim yn ormesol nac yn haearnaidd. Mae’n caniatáu rhyddid ac yn hybu llawenydd. (2 Cor. 3:17) Dyma beth ddywedodd Dafydd: “Mae ei ysblander a’i urddas yn amlwg; mae cryfder a llawenydd yn ei bresenoldeb.” (1 Cron. 16:7, 27) Hefyd, ysgrifennodd y salmydd Ethan: “Mae’r rhai sy’n dy addoli di’n frwd wedi eu bendithio’n fawr! O ARGLWYDD, nhw sy’n profi dy ffafr di. Maen nhw’n llawenhau ynot ti drwy’r dydd; ac yn cael eu cynnal gan dy gyfiawnder.”—Salm 89:15, 16.
11. Sut gallwn ni fod yn sicr mai sofraniaeth Jehofa sydd orau?
11 Gall myfyrio’n rheolaidd ar ddaioni Jehofa gadarnhau yn ein meddyliau mai ei reolaeth ef yw’r gorau. Rydyn ni’n teimlo’r un fath ag yr oedd y salmydd: “Mae un diwrnod yn dy deml yn well na miloedd rhywle arall!” (Salm 84:10) Onid wyt ti’n cytuno? Oherwydd bod Jehofa wedi ein dylunio ni a’n creu ni, mae’n gwybod beth sydd ei angen arnon ni i fod yn hapus, ac mae’n cwrdd â’r angen hwnnw yn hael. Mae beth bynnag mae Jehofa yn ei ofyn gennyn ni er ein lles ac yn dod â’r llawenydd mwyaf inni. Mae hyn yn wir hyd yn oed pan fydd ei ofynion yn golygu gwneud aberthau.—Darllen Eseia 48:17.
12. Beth sy’n ein cymell ni i gefnogi sofraniaeth Jehofa?
12 Mae’r Beibl yn dweud y bydd rhai pobl yn dewis gwrthryfela yn erbyn sofraniaeth Jehofa ar ôl Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist. (Dat. 20:7, 8) Beth fyddai’n eu cymell nhw i wneud y fath beth? Heb os, ar ôl i’r Diafol gael ei ryddhau o’i garchar, bydd yn benderfynol o gamarwain pobl drwy apelio at eu hunanoldeb. Dyna beth mae wedi ei wneud erioed. Efallai bydd yn ceisio perswadio pobl fod yna ffordd i gael bywyd tragwyddol heb wrando ar Jehofa. Wrth gwrs, dydy hynny ddim yn wir. Ond, a fydd y celwydd hwnnw’n apelio aton ni? Os ydyn ni’n caru Jehofa ac yn ei wasanaethu oherwydd ei ddaioni ac oherwydd bod ganddo’r hawl i fod yn Benarglwydd y bydysawd, ni fyddwn ni’n cael ein twyllo gan y celwydd ffiaidd hwnnw. Yr unig fywyd y byddwn yn dyheu amdano fydd y bywyd o dan sofraniaeth gariadus a chyfiawn Jehofa.
CEFNOGA SOFRANIAETH JEHOFA
13. Sut mae efelychu Duw yn dangos ein bod ni’n ei gefnogi?
13 Yn wir, mae sofraniaeth Jehofa yn haeddu ein cefnogaeth lwyr. Fel rydyn ni eisoes wedi ei weld, ef sydd â’r hawl i reoli, a’i ffordd ef o reoli sydd orau. Gallwn gefnogi sofraniaeth Jehofa drwy aros yn ffyddlon iddo a thrwy barhau i’w wasanaethu. Oes yna ffordd arall i ddangos ein cefnogaeth? Gallwn hefyd ddilyn ffordd Jehofa o wneud pethau. Pan ydyn ni’n gwneud hynny, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n caru ei ffordd o reoli ac yn ei chefnogi.—Darllen Effesiaid 5:1, 2.
14. Sut gall pennau teuluoedd a henuriaid efelychu Jehofa?
14 O astudio’r Beibl, rydyn ni’n gweld bod awdurdod Jehofa yn cael ei weithredu mewn ffordd gariadus. Yn unol â hynny, ni fydd pennau teuluoedd nac henuriaid sy’n caru sofraniaeth Duw yn disgwyl gormod gan eraill, fel petaen nhw’n gweithredu eu sofraniaeth fach nhw eu hunain. Yn hytrach, byddan nhw’n efelychu Jehofa. Roedd Paul yn efelychu Duw a’i Fab. (1 Cor. 11:1) Doedd Paul ddim yn codi cywilydd ar eraill nac yn pwyso arnyn nhw i ddilyn cwrs penodol. Yn lle hynny, roedd yn apelio atyn nhw. (Rhuf. 12:1; Philem. 8-10) Dyna ffordd Jehofa o ddelio gyda phethau. Felly, dyna’r ffordd y dylai pawb sy’n cefnogi ei frenhiniaeth ymddwyn.
15. Sut mae parchu trefn theocrataidd yn dangos ein bod ni’n caru ffordd Jehofa o reoli?
15 Sut rydyn ni’n ymateb i’r rhai sydd wedi eu penodi yn ben arnon ni? Drwy gydweithredu’n barchus, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n cefnogi sofraniaeth Jehofa. Hyd yn oed os nad ydyn ni’n deall neu’n cytuno â phenderfyniad, byddwn ni’n dal eisiau cefnogi’r drefn theocrataidd. Eff. 5:21, 22; 6:1-3; Heb. 13:17) Er ein lles yw hyn, oherwydd bod Duw eisiau gofalu amdanon ni.
Mae hynny’n wahanol iawn i ffordd y byd, ond dyna ffordd bywyd o dan frenhiniaeth Jehofa. (16. Sut mae’r rhai sy’n cefnogi sofraniaeth Duw yn gwneud penderfyniadau personol?
16 Hefyd, mae ein penderfyniadau personol yn gallu dangos ein bod ni’n cefnogi sofraniaeth Duw. Nid yw Jehofa yn rhoi gorchymyn ar gyfer pob sefyllfa. Yn hytrach, wrth iddo ein harwain, mae’n datgelu ei feddyliau. Er enghraifft, nid yw’n rhoi rheolau manwl ynglŷn â sut y dylai Cristnogion wisgo. Yn lle hynny, mae’n dangos ei fod eisiau inni ddewis steiliau o wisg a thrwsiad sy’n wylaidd ac yn briodol ar gyfer gweinidogion Cristnogol. (1 Tim. 2:9, 10) Dydy Duw ddim eisiau i’n penderfyniadau personol faglu pobl eraill nac achosi i bobl deimlo’n anesmwyth. (1 Cor. 10:31-33) Yn hytrach na gadael i’n dymuniadau personol ein harwain, mae dibynnu ar feddwl Jehofa i wneud hynny yn dangos ein bod ni’n cefnogi ei sofraniaeth.
17, 18. Sut gall cyplau priod ddangos eu bod nhw’n cefnogi sofraniaeth Jehofa?
17 Ystyria sut gall cyplau priod gefnogi ffyrdd Jehofa a’i sofraniaeth. Beth petai bywyd priodasol yn anoddach na’r disgwyl neu’n dy siomi hyd yn oed? Call fyddai oedi am funud bach a meddwl am sut gwnaeth Jehofa ddelio gyda’r Israeliaid. Cyfeiriodd ato’i hun fel gŵr i’r genedl honno. (Esei. 54:5; 62:4) Am “briodas” anodd oedd honno! Ond, ni wnaeth Jehofa roi’r gorau iddi’n gyflym. Dro ar ôl tro, roedd yn drugarog wrthyn nhw ac arhosodd yn ffyddlon i’r cyfamod rhyngddo ef a nhw. (Darllen Salm 106:43-45.) Onid ydy’r cariad hwnnw’n ein denu at Jehofa?
18 Yn yr un modd, mae cyplau priod sy’n caru ffyrdd Jehofa yn ei efelychu. Dydyn nhw ddim yn edrych am ffordd anysgrythurol i roi terfyn ar briodas anodd. Maen nhw’n sylweddoli bod Jehofa wedi “uno” y cwpl a’i fod eisiau’r ddau ohonyn nhw aros yn un cnawd. Yr unig sail Ysgrythurol a all ganiatáu i rywun ysgaru ac ailbriodi yw anfoesoldeb rhywiol. (Math. 19:5, 6, 9) Drwy wneud y gorau o’u sefyllfa a cheisio ei gwella, maen nhw’n cefnogi ffordd gyfiawn Jehofa o reoli.
19. Os ydyn ni’n gwneud camgymeriad wrth geisio cefnogi sofraniaeth Duw, beth dylen ni ei wneud?
19 Oherwydd ein bod ni’n amherffaith, byddwn ni weithiau’n gwneud pethau sy’n siomi Jehofa. Mae’n gwybod hynny ac wedi rhoi help inni drwy gyfrwng pridwerth Crist. Felly, pan ydyn ni’n syrthio’n fyr mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, dylen ni ofyn i Jehofa am faddeuant. (1 Ioan 2:1, 2) Yn hytrach na’n dwrdio ein hunain drwy’r amser, dylen ni geisio dysgu o’r camgymeriad. Os ydyn ni’n aros yn agos at Jehofa, bydd ef yn maddau inni ac yn ein helpu i wella ac i lwyddo mewn sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol.—Salm 103:3.
20. Pam dylen ni gefnogi sofraniaeth Jehofa nawr?
20 Yn y byd newydd, bydd pawb yn byw o dan sofraniaeth Jehofa ac yn dysgu ei ffyrdd cyfiawn. (Esei. 11:9) Ond, rydyn ni’n derbyn llawer o’r addysg honno nawr. Ac mae’r gwaith o ateb y cwestiwn ynglŷn â sofraniaeth eisoes wedi dechrau. Nawr yw’r amser i gefnogi sofraniaeth Duw drwy aros yn ffyddlon iddo, drwy ei wasanaethu, a thrwy geisio ei efelychu ym mhob peth rydyn ni’n ei wneud.