Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Amddiffyn ein Hunain Rhag un o Faglau Satan

Sut i Amddiffyn ein Hunain Rhag un o Faglau Satan

WRTH i’r Israeliaid baratoi ar gyfer croesi’r Iorddonen i Wlad yr Addewid, daeth ymwelwyr i’w gweld. Roedd yr ymwelwyr yn ferched estron a wahoddodd y dynion i wledd. Gallai fod wedi ymddangos fel cyfle unigryw. Efallai roedd y syniad o wneud ffrindiau newydd, dawnsio, a chael pryd o fwyd da yn apelio atyn nhw. Er bod defodau a moesau’r merched hyn yn wahanol iawn i’r rhai a ddysgodd yr Israeliaid yng Nghyfraith Duw, gallai rhai o’r dynion hyn fod wedi meddwl: ‘Mi fyddwn ni’n iawn. Mi fyddwn ni’n ofalus.’

Beth ddigwyddodd? Mae’r hanes ysbrydoledig yn dweud wrthon ni: “Dyma’r dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab.” Mewn gwirionedd, roedd y merched hyn eisiau i’r Israeliaid addoli gau dduwiau. A dyna beth wnaethon nhw! Wrth reswm, “roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio’n lân gyda phobl Israel.”—Num. 25:1-3.

Gwnaeth yr Israeliaid hynny dorri Cyfraith Duw mewn dwy ffordd: Gwnaethon nhw blygu o flaen delwau, a chyflawni anfoesoldeb rhywiol. Bu farw miloedd am iddyn nhw fod yn anufudd. (Ex. 20:4, 5, 14; Deut. 13:6-9) Beth wnaeth y sefyllfa druenus hon yn waeth? Yr amseru. Petai’r dynion heb dorri Cyfraith Duw, byddai’r Israeliaid hynny wedi croesi’r Iorddonen i Wlad yr Addewid.—Num. 25:5, 9.

Ynglŷn â’r digwyddiadau hynny, ysgrifennodd yr apostol Paul: “Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i’n rhybuddio ni sy’n byw ar ddiwedd yr oesoedd.” (1 Cor. 10:7-11) Yn sicr, roedd Satan yn hapus iawn fod rhai o’r Israeliaid hynny wedi ildio i bechod difrifol ac felly doedden nhw ddim yn cael mynd i mewn i Wlad yr Addewid. Peth doeth fyddai inni ddysgu o’u camgymeriadau, gan wybod y byddai Satan wrth ei fodd petai’n gallu ein rhwystro ni rhag mynd i mewn i fyd newydd Duw!

MAGL BERYGLUS

Mae Satan yn targedu Cristnogion, gan ddefnyddio triciau sydd wedi gweithio’n llwyddiannus o’r blaen. Fel y gwnaethon ni ddysgu yn achos yr Israeliaid, gwnaeth Satan ddefnyddio rhyw anfoesol. Yn ein dyddiau ni, mae anfoesoldeb yn dal i fod yn fagl beryglus. Un ffordd effeithiol o’n dal ni mewn magl yw pornograffi.

Heddiw, gall rhywun edrych ar bornograffi heb i neb wybod am y peth. Ddegawdau yn ôl, roedd yn rhaid mynd i’r sinema i weld ffilmiau anweddus neu i siopau penodol i brynu deunydd pornograffig. Mae’n debyg fod llawer o bobl wedi osgoi mynd i lefydd felly oherwydd y cywilydd o gael eu gweld yno. Ond nawr, gall person sy’n mynd ar y Rhyngrwyd edrych ar bornograffi yn y gweithle neu hyd yn oed mewn car sydd wedi ei barcio. Ac mewn llawer o wledydd, gall dyn neu ddynes edrych ar bornograffi yn eu cartref eu hunain.

Nid dyna’r cyfan. Mae dyfeisiau symudol wedi eu gwneud hi’n haws i edrych ar bornograffi. Wrth i bobl gerdded i lawr y stryd neu deithio ar fws neu drên, gallan nhw wylio delweddau anfoesol ar sgrin dyfais symudol.

Gan ei bod hi’n haws i edrych ar bornograffi ac i berson guddio’r ffaith ei fod yn gwneud hyn, mae pornograffi yn niweidio mwy o bobl heddiw nag yr oedd yn y gorffennol. Mae llawer o’r rhai sy’n edrych ar bornograffi yn niweidio eu priodas, eu hunan-barch, a’u cydwybod. Yn waeth byth, maen nhw’n risgio difetha eu cyfeillgarwch â Duw. Yn sicr, mae pornograffi yn niweidio’r rhai sy’n edrych arno. Mewn llawer o achosion, mae’n achosi briwiau emosiynol dwfn iawn. Gall y briwiau hyn wella yn araf bach ond efallai eu bod nhw’n gadael creithiau sy’n para am yn hir.

Dylen ni fod yn ymwybodol, fodd bynnag, fod Jehofa’n cynnig ein hamddiffyn rhag y fagl satanaidd hon. Er mwyn inni gael ein hamddiffyn gan Jehofa, rydyn ni angen gwneud beth fethodd yr Israeliaid ei wneud—gwrando arno ac ufuddhau iddo. (Ex. 19:5) Rydyn ni angen cydnabod bod Duw yn casáu pornograffi. Pam rydyn ni’n dweud hynny?

CASÁU PORNOGRAFFI FEL Y MAE JEHOFA

Meddylia am hyn: Roedd cyfreithiau Duw ar gyfer cenedl Israel yn wahanol i gyfreithiau unrhyw wlad arall bryd hynny. Yn debyg i wal, roedden nhw’n gallu amddiffyn yr Israeliaid rhag dylanwad ffiaidd cenhedloedd eraill. (Deut. 4:6-8) Dangosodd y cyfreithiau hynny rywbeth yn glir: Mae Jehofa’n casáu anfoesoldeb rhywiol.

Wrth sôn am y pethau anfoesol roedd cenhedloedd eraill yn eu gwneud, dywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid: “Peidiwch gwneud yr un fath . . . â phobl Canaan, ble dw i’n mynd â chi. . . . Mae’r tir ei hun wedi cael ei wneud yn aflan yn fy ngolwg i. Dyna pam dw i’n eu cosbi nhw.” Yng ngolwg Duw sanctaidd Israel, roedd ffordd o fyw’r Canaaneaid mor ffiaidd nes i’r tir roedden nhw’n byw arno droi’n aflan ac yn llygredig.—Lef. 18:3, 25.

Er i Jehofa gosbi’r Canaaneaid, gwnaeth pobl eraill barhau i gyflawni anfoesoldeb rhywiol. Dros 1,500 o flynyddoedd wedyn, dywedodd Paul y canlynol am y cenhedloedd lle’r oedd Cristnogion yn byw: “Does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw.” Mewn gwirionedd, doedden nhw’n “gwneud dim byd ond byw’n anfoesol a gadael i’w chwantau mochaidd gael penrhyddid llwyr.” (Eff. 4:17-19) Mewn modd tebyg heddiw, does gan bobl ddim cywilydd o fod yn anfoesol. Cyn belled ag y mae hi’n bosib, dylai gwir addolwyr osgoi edrych ar weithredoedd anfoesol y byd hwn.

Mae pornograffi yn amharchu Duw. Creodd fodau dynol ar ei ddelw ei hun a rhoi inni’r gallu i deimlo bod rhywbeth yn iawn neu fod rhywbeth yn anghywir. Yn ei ddoethineb, rhoddodd Duw gyfyngiadau rhesymol ar ryw. Bwriadodd iddo fod yn rhywbeth y gallai cyplau priod fwynhau gyda’i gilydd. (Gen. 1:26-28; Diar. 5:18, 19) Ond beth y mae’r rhai sy’n cynhyrchu neu’n hyrwyddo pornograffi yn ei wneud? Maen nhw’n anwybyddu safonau moesol Duw yn llwyr. Yn wir, mae pobl sy’n hyrwyddo pornograffi yn dwyn gwarth ar Jehofa. Bydd Duw yn barnu’r rhai sy’n cynhyrchu neu’n hyrwyddo deunydd anfoesol ac sy’n anwybyddu ei safonau.—Rhuf. 1:24-27.

Ond beth am y rhai sy’n darllen neu’n edrych ar bornograffi yn fwriadol? Efallai fod rhai’n teimlo ei fod yn adloniant diniwed. Sut bynnag, mewn gwirionedd maen nhw’n cefnogi’r rhai sy’n anwybyddu safonau Jehofa. Mae’n debyg nad oedden nhw’n bwriadu gwneud hyn pan ddechreuon nhw edrych ar bornograffi. Er hynny, mae’n hollol eglur y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu Duw gasáu pornograffi â chas perffaith. Anogaeth y Beibl yw: “Mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n casáu drygioni.”—Salm 97:10.

Gall hyd yn oed y rhai sydd eisiau osgoi edrych ar bornograffi ei chael hi’n anodd. Rydyn ni’n amherffaith, ac efallai bydd rhaid inni frwydro i wrthsefyll chwantau rhywiol aflan. Ar ben hynny, gallwn ni ein twyllo ein hunain i feddwl nad yw’n anghywir i wylio pornograffi. (Jer. 17:9) Ond mae llawer sydd wedi dod yn Gristnogion wedi ennill y frwydr hon. Gall gwybod hyn roi hyder iti dy fod tithau hefyd yn gallu gwrthsefyll pornograffi. Sylwa ar sut gall Gair Duw dy helpu i osgoi magl Satan o bornograffi.

CAEL GWARED AR FEDDYLIAU ANFOESOL

Fel y soniwyd amdano yn gynharach, gwnaeth llawer o Israeliaid adael i chwantau anghywir eu harwain i drychineb. Gall yr un peth ddigwydd heddiw. Disgrifiodd Iago, hanner brawd Iesu, y peryg: “Eu chwantau drwg eu hunain sy’n temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd. Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg.” (Iago 1:14, 15) Unwaith i chwant anfoesol ddechrau datblygu yng nghalon rhywun, mae’n debygol iawn y bydd y person yn pechu. Felly, dylen ni gael gwared ar feddyliau anfoesol, nid parhau i feddwl amdanyn nhw.

Os wyt ti’n cael dy demtio gan feddyliau anfoesol, gwna rywbeth ynghylch y peth yn syth. Dywedodd Iesu: “Os ydy dy law neu dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a’i thaflu ymaith. . . . Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a’i thaflu i ffwrdd.” (Math. 18:8, 9) Nid oedd Iesu’n awgrymu y dylen ni niweidio’n cyrff yn llythrennol. Defnyddiodd eglureb i’n helpu ni ddeall bod angen cael gwared ar yr hyn sy’n achosi inni faglu—yn gyflym a heb oedi. Sut gallwn ni roi’r cyngor hwnnw ar waith yn achos pornograffi?

Os wyt ti’n dod ar draws pornograffi, paid â meddwl, ‘Dw i’n gallu delio â hyn.’ Edrych i ffwrdd yn syth. Diffodd y teledu heb oedi. Cau’r cyfrifiadur neu’r ddyfais symudol ar unwaith. Canolbwyntia unwaith eto ar rywbeth glân. Gall gwneud hyn dy helpu i reoli dy feddwl yn lle gadael i chwantau anghywir dy reoli di.

ATGOFION O ADLONIANT ANFOESOL

Beth os wyt ti wedi llwyddo i stopio edrych ar bornograffi ond, o bryd i’w gilydd, rwyt ti’n cofio’r hyn a welaist ti? Gall delweddau neu feddyliau pornograffig aros yn y cof am amser hir. Gallan nhw ddod i’r meddwl heb rybudd. Os ydy hynny’n digwydd, efallai y byddi di’n teimlo’r ysfa i wneud rhywbeth aflan, fel mastyrbio. Bydda’n ymwybodol y gall meddyliau o’r fath godi’n ddisymwth i dy aflonyddu di, felly bydda’n barod i frwydro yn eu herbyn.

Bydda’n fwy penderfynol byth o gadw dy feddyliau ac ymddygiad yn unol ag ewyllys Duw. Efelycha’r apostol Paul, a oedd yn “gwthio [ei] hun i’r eithaf ac yn ennill rheolaeth lwyr.” (1 Cor. 9:27) Paid â gadael i chwantau aflan dy gaethiwo. “Gadewch i Dduw . . . chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe.” (Rhuf. 12:2) Cofia: Mae meddyliau ac ymddygiad sy’n unol ag ewyllys Duw yn dod â llawer iawn mwy o hapusrwydd nag ufuddhau i chwantau anfoesol.

Mae meddyliau ac ymddygiad sy’n unol ag ewyllys Duw yn dod â llawer iawn mwy o hapusrwydd nag ufuddhau i chwantau anfoesol

Ceisia gadw ysgrythurau penodol ar gof. Yna pan fydd meddyliau anghywir yn dod i’r meddwl, gorfoda dy hun i feddwl am yr adnodau hynny. Bydd ysgrythurau fel Salm 119:37; Eseia 52:11; Mathew 5:28; Effesiaid 5:3; Colosiaid 3:5; a 1 Thesaloniaid 4:4-8 yn dy helpu i deimlo’r un fath â Jehofa am bornograffi a deall beth mae ef yn ei ddisgwyl gen ti.

Beth ddylet ti ei wneud os wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n gallu gwrthsefyll edrych ar bethau anfoesol neu feddwl amdanyn nhw? Efelycha Iesu, ein Hesiampl, yn ofalus. (1 Pedr 2:21) Ar ôl i Iesu gael ei fedyddio, gwnaeth Satan barhau i’w demtio. Beth wnaeth Iesu? Parhaodd i wrthsefyll y temtasiynau. Gan ddefnyddio un ysgrythur ar ôl y llall, fe wrthododd temtasiynau Satan. Dywedodd: “Dos i ffwrdd Satan!” a gwnaeth Satan ei adael. Dylen ni efelychu Iesu drwy wrthsefyll y Diafol bob tro. (Math. 4:1-11) Bydd Satan a’i fyd yn parhau i geisio llenwi dy feddwl â meddyliau anfoesol, ond dal ati i frwydro yn eu herbyn. Gelli di ennill y frwydr yn erbyn pornograffi. Gyda help Jehofa, gelli di drechu dy elyn.

GWEDDÏA AR JEHOFA, AC UFUDDHAU IDDO

Dibynna ar Jehofa drwy weddïo arno. Dywedodd Paul: “Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen . . . Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg—yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau.” (Phil. 4:6, 7) Bydd Duw’n rhoi heddwch meddwl iti yn dy frwydr yn erbyn pechod. Os wyt ti’n closio at Jehofa, “bydd e’n closio atoch chi.”—Iago 4:8.

Byddwn ni’n cael ein hamddiffyn rhag maglau Satan os gwnawn ni gadw’n agos at Benarglwydd y bydysawd. Dywedodd Iesu fod “Satan, tywysog y byd hwn, ar ei ffordd.” Yna dywedodd: “Ond does ganddo ddim awdurdod drosof fi.” (Ioan 14:30) Pam roedd gan Iesu hyder o’r fath? Esboniodd ar un achlysur: “Mae’r un sydd wedi fy anfon i gyda mi; dydy e ddim wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, achos dw i bob amser yn gwneud beth sy’n ei blesio.” (Ioan 8:29) Wrth iti wneud beth sy’n plesio Jehofa, bydd ef byth yn dy adael di ar dy ben dy hun chwaith. Paid â syrthio i edrych ar bornograffi, ac ni fydd Satan felly yn gallu dy ddal yn ei fagl.