Y TŴR GWYLIO—RHIFYN ASTUDIO Mehefin 2020

Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys yr erthyglau astudio ar gyfer Awst 3-30, 2020.

“Sancteiddier Dy Enw”

Erthygl astudio 23: Awst 3-9, 2020. Pa fater sy’n bwysig i’r holl greadigaeth ddeallus? Pam mae’r mater mor bwysig, a pha ran rydyn ni’n ei chwarae ynddo? Bydd deall yr atebion i’r cwestiynau hynny a rhai tebyg yn ein helpu i gryfhau ein perthynas â Jehofa.

“Una Fy Nghalon i Ofni Dy Enw”

Erthygl astudio 24: Awst 10-16, 2020. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n canolbwyntio ar ran o weddi’r Brenin Dafydd yn Salm 86:11, 12. Beth mae’n ei olygu i ofni enw Jehofa? Pam dylen ni ofni yr enw mawr hwnnw? A sut gall ofni Duw ein helpu i beidio ag ildio i demtasiwn?

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Ai dim ond y rhinweddau a restrir yn Galatiaid 5:22, 23 sy’n rhan o ffrwyth yr ysbryd?

Dw i Fy Hun am Chwilio am Fy Nefaid

Erthygl astudio 25: Awst 17-23, 2020. Pam mae rhai sydd wedi gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd wedi crwydro oddi wrth y gynulleidfa? Sut mae Duw yn teimlo amdanyn nhw? Mae’r erthygl hon yn trafod atebion i’r cwestiynau hynny, yn ogystal â’r hyn gallwn ei ddysgu o’r ffordd a wnaeth Jehofa helpu rhai yn adeg y Beibl a grwydrodd oddi wrtho am gyfnod.

Tro yn ôl Ata I

Erthygl astudio 26: Awst 24-30, 2020. Mae Jehofa eisiau i’r rhai sydd ddim yn pregethu nac yn mynd i’r cyfarfodydd ddod yn ôl ato. Mae ’na lawer gallwn ni ei wneud i annog y rhai sydd eisiau derbyn gwahoddiad Jehofa: “Trowch yn ôl ata i.” Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried sut gallwn ni eu helpu i wneud hynny.