Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Hunanreolaeth—Hanfodol ar Gyfer Plesio Jehofa

Hunanreolaeth—Hanfodol ar Gyfer Plesio Jehofa

“Pan ddechreuodd fy nghefnder gwffio efo fi, ges i afael ar ei wddf a dechrau ei dagu. O’n i eisiau ei ladd o.”—Paul.

“Gartre byddwn i’n ffrwydro ar y peth lleiaf. Byddwn i’n malu celfi, teganau fy mhlant, beth bynnag oedd wrth law.”—Marco.

Efallai na fydden ni mor eithafol â hynny. Ond eto, mae pob un ohonon ni’n cael trafferth rheoli ein hunain ar adegau. Mae hyn yn bennaf oherwydd ein bod ni wedi etifeddu pechod gan y dyn cyntaf, Adda. (Rhuf. 5:12) Mae rhai, fel Paul a Marco, yn cael trafferth i reoli eu tymer. Efallai bod eraill yn ei chael hi’n dipyn o her i reoli’r hyn maen nhw’n meddwl amdano. Maen nhw’n hel meddyliau sy’n eu dychryn neu’n gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ac efallai bod eraill eto’n ei chael hi’n anodd ffrwyno’r awydd i fod yn anfoesol yn rhywiol, i oryfed, neu i gamddefnyddio cyffuriau.

Gall y rhai sydd ddim yn rheoli eu meddyliau, chwantau, a’u gweithredoedd ddifetha eu bywydau. Ond gallwn ni osgoi hynny. Sut? Drwy feithrin hunanreolaeth. I’n helpu ni i wneud hynny, gad inni drafod tri chwestiwn: (1) Beth ydy hunanreolaeth? (2) Pam mae’n hanfodol? (3) Sut gallwn ni feithrin y rhinwedd hon sydd yn un o agweddau ffrwyth yr ysbryd? (Gal. 5:22, 23) Yna, byddwn ni’n ystyried beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni ar brydiau yn colli rheolaeth ar ein hunain.

BETH YDY HUNANREOLAETH?

Dydy rhywun sydd â hunanreolaeth ddim yn gweithredu ar bob awydd sy’n codi. Yn hytrach, mae’n dal yn ôl rhag siarad a gweithredu mewn ffyrdd sydd ddim yn plesio Duw.

Dangosodd Iesu’n glir beth yw hunanreolaeth

Dangosodd Iesu inni beth mae hunanreolaeth yn ei olygu. Mae’r Beibl yn dweud: “Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a’i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e’n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu’n deg.” (1 Pedr 2:23) Llwyddodd Iesu i reoli ei hun pan wnaeth ei elynion sbort am ei ben tra oedd ar y pren. (Math. 27:39-44) Yn gynharach, ffrwynodd ei hun mewn ffordd ryfeddol pan ofynnodd yr arweinwyr crefyddol lawer o gwestiynau i geisio gwneud iddo ddweud rhywbeth anghywir. (Math. 22:15-22) A gosododd esiampl wych pan gododd rhai Iddewon blin gerrig i’w lluchio ato! Yn hytrach na chwffio’n ôl, “cuddiodd Iesu ei hun, a llithro allan o’r deml.”—Ioan 8:57-59.

A allwn ni efelychu esiampl Iesu? Gallwn, i ryw raddau. Ysgrifennodd yr apostol Pedr: “A’r esiampl i chi ei dilyn ydy’r Meseia.” (1 Pedr 2:21) Er ein bod ni’n amherffaith, gallwn ddilyn esiampl Iesu o hunanreolaeth yn agos. Pam mae’n hanfodol inni wneud hynny?

PAM MAE HUNANREOLAETH YN HANFODOL?

Mae’n rhaid inni gael hunanreolaeth er mwyn plesio Jehofa. Hyd yn oed os ydyn ni wedi gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon ers amser maith, gallen ni ddifetha ein perthynas ag ef os nad ydyn ni’n rheoli ein hunain mewn gair a gweithred.

Ystyria Moses a oedd yn “ddyn gostyngedig iawn. Doedd neb llai balch drwy’r byd i gyd” ar yr adeg honno. (Num. 12:3) Gwrandawodd Moses yn amyneddgar ar gwynion yr Israeliaid am flynyddoedd. Ond un diwrnod, collodd reolaeth arno’i hun pan gwynodd y bobl unwaith eto am brinder dŵr. Fe waeddodd ar y bobl yn ei dymer, gan ddweud: “Gwrandwch, chi rebeliaid! Oes rhaid i ni ddod â dŵr allan o’r graig yma i chi?”—Num. 20:2-11.

Methodd Moses â rheoli ei hun. Ni roddodd y clod i Jehofa am y wyrth o roi dŵr iddyn nhw. (Salm 106:32, 33) O ganlyniad, ni adawodd Jehofa iddo fynd i mewn i Wlad yr Addewid. (Num. 20:12) Mae’n debyg y difarodd Moses am weddill ei oes ei fod wedi colli ei dymer.—Deut. 3:23-27.

Y wers i ni? Hyd yn oed os ydyn ni wedi bod yn y gwirionedd am flynyddoedd, ddylen ni byth siarad yn amharchus â’r rhai sy’n mynd dan ein croen neu sydd angen eu cywiro. (Eff. 4:32; Col. 3:12) Y gwir amdani yw, mae hi weithiau’n anoddach inni ddangos amynedd wrth heneiddio. Ond cofia am Moses. Dydyn ni ddim eisiau difetha ein henw da o flaen Jehofa oherwydd ein bod ni ddim yn dangos hunanreolaeth. Beth gallwn ni ei wneud er mwyn meithrin y rhinwedd hanfodol hon?

SUT I FEITHRIN HUNANREOLAETH

Gweddïa am ysbryd glân. Pam? Am fod hunanreolaeth yn rhan o ffrwyth ysbryd glân Duw, ac mae Jehofa yn rhoi ei ysbryd i’r rhai sy’n gofyn amdano. (Luc 11:13) Drwy ei ysbryd, gall Jehofa roi inni’r nerth sydd ei angen arnon ni. (2 Cor. 4:7) Gall hefyd ein helpu i feithrin agweddau eraill ar ffrwyth yr ysbryd, fel cariad, a fydd yn helpu i gryfhau ein hunanreolaeth.—1 Cor. 13:5.

Cadwa draw rhag unrhyw beth sy’n gwanhau dy hunanreolaeth

Cadwa draw rhag unrhyw beth a all wanhau dy hunanreolaeth. Er enghraifft, cadwa draw oddi wrth wefannau ac adloniant sy’n cynnwys pethau anweddus. (Eff. 5:3, 4) Mewn gwirionedd, mae’n rhaid inni osgoi unrhyw beth a allai ein temtio ni i wneud rhywbeth drwg. (Diar. 22:3; 1 Cor. 6:12) Er enghraifft, efallai bydd rhywun sy’n cael ei demtio’n hawdd i fod yn anfoesol yn rhywiol yn gorfod osgoi llyfrau a ffilmiau rhamantus yn gyfan gwbl.

Efallai bydd yn anodd inni roi’r cyngor hwn ar waith. Ond, os ymdrechwn i wneud hynny, bydd Jehofa yn rhoi’r nerth sydd ei angen arnon ni i reoli ein hunain. (2 Pedr 1:5-8) Bydd yn ein helpu i reoli ein meddyliau, ein geiriau, a’n gweithredoedd. Mae Paul a Marco, y soniwyd amdanyn nhw gynt, yn brawf o hynny, am eu bod nhw wedi dysgu sut i reoli eu tymer wyllt. Ystyria hefyd frawd a oedd yn aml yn colli ei dymer wrth yrru, gan hyd yn oed ffraeo â gyrwyr eraill. Beth wnaeth ef ynghylch y peth? “Gweddïais yn daer bob diwrnod. Astudiais erthyglau am hunanreolaeth a dysgu adnodau defnyddiol o’r Beibl ar fy nghof. Er fy mod i wedi bod yn gweithio ar hyn am flynyddoedd, dw i’n dal i atgoffa fy hun bob bore i beidio â chynhyrfu. A dw i’n gadael yn gynnar ar gyfer apwyntiadau fel nad ydw i’n gorfod rhuthro.”

OS YDYN NI’N COLLI HUNANREOLAETH

Ar adegau, fe fyddwn ni’n colli ein hunanreolaeth. Pan fydd hynny’n digwydd, efallai byddwn ni’n teimlo gormod o gywilydd i weddïo ar Jehofa. Ond dyma’r union adeg rydyn ni angen gweddïo. Felly gweddïa ar Jehofa ar unwaith. Erfynia arno am faddeuant, gofynna am ei help, a bydda’n benderfynol i beidio â gwneud yr un camgymeriad eto. (Salm 51:9-11) Fydd Jehofa ddim yn diystyru dy weddi daer am drugaredd. (Salm 102:17) Mae’r apostol Ioan yn ein hatgoffa bod gwaed Mab Duw yn ein “glanhau ni o bob pechod.” (1 Ioan 1:7; 2:1; Salm 86:5) Cofia fod Jehofa yn gofyn i’w bobl faddau drosodd a throsodd. Felly gallwn fod yn hyderus y bydd ef yn gwneud yr un peth i ninnau.—Math. 18:21, 22; Col. 3:13.

Digiodd Jehofa pan gollodd Moses ei hunanreolaeth ar un achlysur yn yr anialwch. Ond er hynny, fe wnaeth Jehofa faddau iddo. Ac mae Gair Duw yn sôn am Moses fel esiampl ragorol o ffydd. (Deut. 34:10; Heb. 11:24-28) Ni chaniataodd Jehofa i Moses gamu i mewn i Wlad yr Addewid, ond fe fydd yn croesawu Moses i’r Baradwys ddaear a rhoi’r cyfle iddo fyw am byth. Gallwn ninnau edrych ymlaen at fywyd tragwyddol os ydyn ni’n dal ati i feithrin y rhinwedd hanfodol hon, sef hunanreolaeth.—1 Cor. 9:25.