Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 24

“Una Fy Nghalon i Ofni Dy Enw”

“Una Fy Nghalon i Ofni Dy Enw”

“Una fy nghalon i ofni dy enw. Moliannaf di, O Arglwydd fy NUW â’m holl galon.”—SALM 86:11, 12, BC.

CÂN 7 Jehofa, Ein Nerth

CIPOLWG *

1. Beth mae’n ei olygu i ofni Duw, a pham mae’n bwysig i’r rhai sy’n caru Jehofa?

MAE Cristnogion yn caru Duw, a hefyd yn ei ofni. I rai, gall hynny swnio’n anghyson. Ond dydyn ni ddim yn cyfeirio at y math o ofn sy’n dy ddychryn di. Rydyn ni am drafod math arbennig o ofn—math o ofn sy’n golygu parch dwfn tuag at Dduw. Dydy pobl sy’n ofni Duw fel hyn ddim eisiau ei ddigio oherwydd nad ydyn nhw eisiau difetha eu perthynas ag ef.—Salm 111:10; Diar. 8:13.

2. Ar sail geiriau’r Brenin Dafydd yn Salm 86:11, pa ddau beth byddwn ni’n eu trafod?

2 Darllen Salm 86:11, BC. Wrth iti feddwl am y geiriau hynny, mae’n amlwg roedd y Brenin Dafydd yn deall pwysigrwydd parchedig ofn. Gad inni ystyried sut gallwn ni roi ar waith yr hyn a ddywedodd Dafydd yn ei weddi. Yn gyntaf, byddwn ni’n edrych ar rai rhesymau dros barchu enw Duw. Yn ail, byddwn ni’n trafod sut i ddangos ein bod ni’n parchu enw Duw o ddydd i ddydd.

PAM DYLEN NI BARCHU ENW JEHOFA YN DDWFN?

3. Pa brofiad efallai a helpodd Moses i barhau i barchu enw Duw?

3 Dychmyga sut roedd Moses yn teimlo pan gafodd weledigaeth o ogoniant Jehofa yn mynd heibio ac yntau’n cysgodi mewn hollt yn y graig. Mae’n debyg mai dyma oedd y profiad mwyaf rhyfeddol a gafodd unrhyw ddyn cyn i Iesu ddod i’r ddaear! Clywodd Moses y geiriau hyn drwy lais angel: ‘Jehofa, Jehofa, mae’n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel! Mae’n dangos cariad di-droi’n-ôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod.’ (Ex. 33:17-23; 34:5-7) Efallai cofiodd Moses y profiad hwnnw pan ddefnyddiodd enw Jehofa. Does dim rhyfedd bod Moses wedyn wedi rhybuddio pobl Dduw, Israel, i “barchu enw gwych a rhyfeddol yr ARGLWYDD.”—Deut. 28:58.

4. Beth sy’n gallu ein helpu i barchu Jehofa yn fwy byth?

4 Pan feddyliwn am enw Jehofa, peth da fyddai meddwl am yr un sy’n dwyn yr enw hwnnw. Dylen ni feddwl am ei rinweddau, fel ei bŵer, ei ddoethineb, ei gyfiawnder, a’i gariad. Gall myfyrio ar y rhinweddau hyn ac eraill ein hysgogi i’w barchu yn fwy byth.—Salm 77:11-15.

5-6. (a) Beth yw ystyr enw Duw? (b) Yn ôl Exodus 3:13, 14 ac Eseia 64:8, ym mha ffyrdd mae Jehofa yn achosi i bethau ddigwydd?

5 Beth rydyn ni’n ei wybod am ystyr enw Duw? Mae llawer o ysgolheigion yn cytuno bod enw Jehofa, yn fwy na thebyg, yn golygu “Mae Ef yn Achosi i Fod.” Mae’r ystyr hwnnw yn ein hatgoffa nad oes unrhyw beth yn gallu rhwystro Jehofa rhag gwneud ei ewyllys, a gwneud i bethau ddigwydd. Sut felly?

6 Mae Jehofa yn gwneud i bethau ddigwydd drwy ddod yn beth bynnag sydd angen iddo fod er mwyn cyflawni ei ewyllys. (Darllen Exodus 3:13, 14.) Gall yr ymadrodd Hebraeg gwreiddiol am “Fi Ydy’r Un Ydw I,” gael ei gyfieithu fel, “Byddaf Beth Bynnag a Ddewisaf Fod.” Cawn ein hatgoffa yn aml i fyfyrio ar yr agwedd syfrdanol honno o bersonoliaeth Duw. Gall Jehofa hefyd achosi i’w weision amherffaith ddod yn beth bynnag sydd ei angen er mwyn ei wasanaethu a chyflawni ei bwrpas. (Darllen Eseia 64:8.) Yn y ffyrdd hyn, mae Jehofa yn achosi i’w ewyllys gael ei gyflawni. Does dim byd yn gallu ei rwystro rhag gwneud hynny.—Esei. 46:10, 11.

7. Sut gallwn ni feithrin ein gwerthfawrogiad am ein Tad nefol?

7 Gallwn feithrin ein gwerthfawrogiad am ein Tad nefol drwy fyfyrio ar yr hyn mae wedi ei wneud ac wedi ein galluogi ni i’w wneud. Er enghraifft, pan fyfyriwn ar ryfeddodau’r greadigaeth, mae popeth y mae wedi ei greu, yr hyn y mae wedi ei achosi i fodoli, yn ein syfrdanu. (Salm 8:3, 4) A phan fyfyriwn ar beth mae Jehofa wedi achosi inni fod er mwyn gwneud ei ewyllys, rydyn ni’n magu parch dwfn tuag ato. Mae’r enw Jehofa yn wir yn rhyfeddol! Mae’n cynnwys popeth am ein Tad, popeth y mae wedi ei wneud, a phopeth y mae eto i’w wneud.—Salm 89:7, 8.

DW I AM GYHOEDDI ENW JEHOFA

Roedd yr hyn a ddysgodd Moses i eraill yn adfywiol. Canolbwyntiodd ar enw Jehofa Dduw a’i bersonoliaeth (Gweler paragraff 8) *

8. Beth mae Deuteronomium 32:2, 3 yn ei ddatgelu am y ffordd mae Jehofa yn ystyried ei enw?

8 Ychydig cyn i’r Israeliaid gyrraedd Gwlad yr Addewid, dysgodd Jehofa gân i Moses. (Deut. 31:19) Yna, roedd Moses i fod i ddysgu’r gân i’r bobl. (Darllen Deuteronomium 32:2, 3.) Wrth inni fyfyrio ar adnodau 2 a 3, mae’n amlwg nad ydy Jehofa eisiau i’w enw gael ei guddio, a chael ei drin fel rhywbeth rhy gysegredig i’w ynganu. Mae eisiau i bawb wybod ei enw! Dyna i ti fraint oedd hi i’r Israeliaid gael clywed Moses yn eu dysgu am Jehofa a’i enw gogoneddus! Gwnaeth yr hyn a ddysgodd Moses iddyn nhw eu hadfywio a’u hatgyfnerthu fel glaw ysgafn ar blanhigion. Sut gallwn ni sicrhau bod ein ffordd ni o ddysgu yn debyg i hynny?

9. Sut gallwn ni helpu i sancteiddio enw Jehofa?

9 Pan fyddwn ni ar y weinidogaeth, gallwn ddefnyddio ein Beibl i ddangos enw personol Duw, Jehofa, i eraill. Gallwn gynnig llenyddiaeth hyfryd, fideos bendigedig, a deunydd ar ein gwefan sy’n anrhydeddu Jehofa. Efallai cawn gyfle yn y gwaith, yn yr ysgol, neu wrth deithio, i siarad am ein hannwyl Dduw a’i bersonoliaeth. Wrth siarad ag eraill am fwriadau cariadus Jehofa ar gyfer dynolryw a’r ddaear, efallai byddwn ni’n disgrifio ochr gwbl newydd o bersonoliaeth Jehofa iddyn nhw. Wrth inni rannu’r gwir am ein Tad cariadus ag eraill, rydyn ni’n helpu i sancteiddio enw Jehofa. Rydyn ni’n helpu pobl i ddeall eu bod nhw wedi clywed llawer o gelwyddau amdano. Yr hyn rydyn ni’n dysgu i eraill o’r Beibl yw’r peth mwyaf adfywiol gallan nhw ei ddysgu.—Esei. 65:13, 14.

10. Wrth gynnal astudiaethau Beiblaidd, pam mae’n rhaid inni wneud mwy na dysgu eraill am ofynion a safonau Duw?

10 Pan fyddwn yn cynnal astudiaethau Beiblaidd, rydyn ni eisiau helpu ein myfyrwyr i ddod i wybod enw Jehofa a’i ddefnyddio. Ar ben hynny, rydyn ni eisiau eu helpu i ddod i adnabod Jehofa yn dda. A fyddwn ni’n llwyddo i wneud hynny os ydyn ni ond yn rhestru cyfarwyddiadau, safonau dwyfol, a rheolau ymddygiad? Efallai bydd myfyriwr da yn dysgu am ddeddfau Duw, a hyd yn oed yn eu hedmygu. Ond a fydd y myfyriwr yn ufuddhau i Jehofa allan o gariad tuag ato? Cofia, roedd Efa yn gwybod cyfraith Duw, ond doedd hi ddim wir yn caru Duw; a doedd Adda ddim chwaith. (Gen. 3:1-6) Felly mae rhaid inni wneud mwy na dysgu eraill am ofynion a safonau cyfiawn Duw.

11. Wrth inni ddysgu ein myfyrwyr am ddeddfau Duw a’i safonau, sut gallwn ni eu helpu i ddod i garu’r Un sy’n eu rhoi?

11 Mae gofynion Jehofa a’i safonau yn apelgar ac yn wastad yn dda inni. (Salm 119:97, 111, 112) Ond hwyrach na fydd ein myfyrwyr yn cytuno oni bai eu bod nhw’n gweld cariad Jehofa y tu ôl i’r deddfau hynny. Felly gallwn ni ofyn i’n myfyrwyr: “Pam rydych chi’n meddwl bod Duw yn gofyn i’w weision wneud hyn ac i beidio â gwneud y llall? Beth mae hyn yn ei ddweud amdano fel Person?” Os gwnawn ni helpu ein myfyrwyr i feddwl am Jehofa a meithrin gwir gariad tuag at ei enw gogoneddus, byddwn ni’n fwy tebygol o gyrraedd eu calonnau. Bydd ein myfyrwyr yn dod i garu, nid yn unig y deddfau, ond hefyd yr Un sy’n eu gosod. (Salm 119:68) Bydd eu ffydd yn tyfu a byddan nhw’n gallu dyfalbarhau drwy brofion tanllyd y dyfodol.—1 Cor. 3:12-15.

RHODIWN YN ENW JEHOFA

Gadawodd Dafydd i’w galon fod yn rhanedig am gyfnod (Gweler paragraff 12)

12. Sut methodd Dafydd â chadw ei galon yn gyfan, a gyda pha ganlyniad?

12 Ymadrodd pwysig a gawn yn Salm 86:11, BC yw “una fy nghalon.” Cafodd y Brenin Dafydd ei ysbrydoli i ysgrifennu’r geiriau hynny. Yn ystod ei fywyd, gwelodd pa mor hawdd ydy hi i’r galon ddod yn rhanedig. Ar un achlysur, roedd ar y to pan welodd wraig rhywun arall yn ymolchi. Ar y foment honno, a oedd calon Dafydd yn gyfan neu’n rhanedig? Roedd yn gwybod safon Jehofa: ‘Paid chwennych gwraig rhywun arall.’ (Ex. 20:17) Ond eto, fe ddaliodd ati i edrych. Roedd ei galon wedi rhannu rhwng ei chwant am y wraig, Bathseba, a’i ddymuniad i blesio Jehofa. Er bod Dafydd wedi caru Jehofa a’i ofni ers amser maith, fe ildiodd i’w chwant hunanol. Yn yr achos hwnnw, aeth Dafydd ar drywydd drwg iawn. Daeth â gwarth ar enw Jehofa. Hefyd daeth Dafydd â niwed mawr ar bobl ddiniwed, gan gynnwys ei deulu ei hun.—2 Sam. 11:1-5, 14-17; 12:7-12.

13. Sut rydyn ni’n gwybod bod calon Dafydd wedi ei huno unwaith eto?

13 Cafodd Dafydd ei ddisgyblu gan Jehofa, ac adenillodd ei berthynas dda ag Ef. (2 Sam. 12:13; Salm 51:2-4, 17) Cofiodd Dafydd y drafferth a’r tristwch a ddaeth pan adawodd i’w galon ddod yn rhanedig. Ffordd arall o drosi Salm 86:11 yw: “Rho imi galon heb ei rhannu.” A wnaeth Jehofa helpu Dafydd i wneud ei galon yn gyfan, heb ei rhannu? Do, am fod Gair Jehofa yn cyfeirio yn nes ymlaen at Dafydd fel dyn oedd â’i “galon yn llwyr gyda’r ARGLWYDD ei Dduw.”—1 Bren. 11:4; 15:3, BCND.

14. Beth sy’n rhaid inni ofyn i’n hunain, a pham?

14 Mae esiampl Dafydd yn galonogol ac yn ddigon i’n sobri. Mae ei gwymp i bechod difrifol yn rhybudd i weision Duw heddiw. P’un a ydyn ni newydd ddechrau gwasanaethu Jehofa neu wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd lawer, mae angen inni ofyn i’n hunain, ‘A ydw i’n gwrthsefyll ymdrechion Satan i rannu fy nghalon?’

Bydd Satan yn ceisio bob sut i hollti dy galon. Paid ag ildio iddo! (Gweler paragraffau 15-16) *

15. Sut gall parchedig ofn ein hamddiffyn ni pan welwn luniau anweddus?

15 Er enghraifft, sut rwyt ti’n ymateb pan weli di lun ar y teledu neu ar y We a allai wneud iti feddwl am bethau anfoesol? Mae’n ddigon hawdd rhesymu nad ydy’r llun neu’r ffilm wir yn bornograffig. Ond tybed, ai ymdrech gan Satan yw hyn i rannu dy galon? (2 Cor. 2:11) Gall y llun hwnnw fod fel lletem fach, neu gŷn, mae dyn yn ei defnyddio i hollti boncyff mawr. Yn gyntaf, mae’n gyrru blaen tenau, miniog y lletem mewn i’r boncyff. Yna wrth iddo yrru’r lletem yn ddyfnach, mae’r boncyff yn hollti yn ei hanner. A allai lluniau awgrymog fod yn debyg i flaen tenau’r lletem? Gall rhywbeth sy’n ymddangos yn ddiniwed ar y cychwyn rannu’r galon yn gyflym ac arwain rhywun i bechu yn erbyn Jehofa. Felly, paid â gadael unrhyw beth anweddus i mewn i dy galon! Cadwa hi’n gyfan i ofni enw Jehofa!

16. Yn wyneb temtasiwn, beth gallwn ni ei ofyn i ni’n hunain?

16 Ar wahân i luniau anweddus, mae Satan yn defnyddio llawer o bethau eraill i geisio ein hudo ni i wneud y peth anghywir. Sut rydyn ni’n ymateb? Mae’n ddigon hawdd cyfiawnhau’r pethau hyn gan resymu: ‘Cha’ i ddim fy niarddel am wneud hyn, felly rhaid bod o ddim mor ddifrifol â hynny.’ Mae rhesymu fel ’na yn gwbl anghywir. Mae’n well inni ofyn cwestiynau fel hyn i ni’n hunain: ‘Ydy Satan yn defnyddio’r temtasiwn hwn i geisio rhannu fy nghalon? Petaswn i’n ildio i chwantau anghywir, a fyddwn i’n dwyn gwarth ar enw Jehofa? Petaswn i’n gwneud hyn, a fyddwn i’n closio at Dduw, neu’n pellhau oddi wrtho?’ Myfyria ar gwestiynau fel hyn. Gweddïa am ddoethineb i’w hateb yn onest, heb dwyllo dy hun. (Iago 1:5) Gall gwneud hynny dy amddiffyn di a dy helpu i wrthod temtasiwn yn gadarn, fel y gwnaeth Iesu pan ddywedodd: “Dos i ffwrdd Satan!”—Math. 4:10.

17. Pam nad ydy calon ranedig yn beth da? Eglura.

17 Dydy hi ddim yn beth da i gael calon ranedig. Dychmyga fod rhai o aelodau tîm chwaraeon ddim yn cyd-dynnu. Mae rhai eisiau’r clod i gyd, rhai’n gwrthod chwarae yn ôl y rheolau, ac eraill yn amharchu’r hyfforddwr. Mae tîm o’r fath yn annhebygol o ennill gêm. Ar y llaw arall, mae tîm unedig yn fwy tebygol o lwyddo. Gall dy galon di fod yn debyg i’r tîm llwyddiannus hwnnw os bydd dy feddyliau, dy ddymuniadau, a dy emosiynau yn gwasanaethu Jehofa fel un. Cofia, byddai Satan wrth ei fodd petai’n llwyddo i rannu dy galon. Ei ddymuniad yw iti gael brwydr fewnol rhwng yr hyn rwyt ti’n gwybod mae Jehofa eisiau iti ei wneud a dy chwantau drwg dy hun. Ond, mae’n rhaid i dy galon fod yn gyfan er mwyn iti wasanaethu Jehofa. (Math. 22:36-38) Paid byth â gadael i Satan hollti dy galon!

18. Yn unol â geiriau Micha 4:5, beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

18 Gweddïa ar Jehofa fel y gwnaeth Dafydd: “Una fy nghalon i ofni dy enw.” Gwna dy orau i roi’r weddi honno ar waith. Bob dydd, bydda’n benderfynol bod pob un o dy benderfyniadau, yn fach neu’n fawr, yn dangos dy fod ti’n parchu enw sanctaidd Jehofa o waelod calon. Drwy wneud hynny byddi di, fel un o Dystion Jehofa, yn adlewyrchu’n dda ar yr enw hwnnw. (Diar. 27:11) A byddwn ni i gyd yn gallu dweud yr un peth â’r proffwyd Micha: “Fe rodiwn ninnau yn enw’r ARGLWYDD ein Duw dros byth.”—Mich. 4:5, BCND.

CÂN 41 Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi

^ Par. 5 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n canolbwyntio ar ran o weddi’r Brenin Dafydd yn Salm 86:11, 12. Beth mae’n ei olygu i ofni enw Jehofa? Pam dylen ni ofni yr enw mawr hwnnw? A sut gall ofni Duw ein helpu i beidio ag ildio i demtasiwn?

^ Par. 53 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Dysgodd Moses gân i bobl Dduw oedd yn anrhydeddu Jehofa.

^ Par. 57 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Ni wnaeth Efa wrthod chwantau drwg. Yn wahanol i hynny, rydyn ni’n gwrthod lluniau neu negeseuon a allai ddeffro chwantau drwg a dwyn gwarth ar enw Duw.