Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ymateb i Ganiadau Utgyrn Heddiw

Ymateb i Ganiadau Utgyrn Heddiw

RYDYN ni i gyd yn credu bod Jehofa yn arwain ac yn cynnal ei bobl yn ysbrydol yn ystod y dyddiau diwethaf hyn. (2 Tim. 3:1) Ond mae angen i bob un ohonon ni ymateb drwy ufuddhau i Jehofa. Gallwn gymharu ein sefyllfa ni â sefyllfa’r Israeliaid yn yr anialwch. Roedd rhaid iddyn nhw ymateb i ganiadau utgyrn.

Gofynnodd Jehofa i Moses wneud dau utgorn o arian gyr “i alw’r bobl at ei gilydd, ac i alw’r gwersyll i symud.” (Num. 10:2) Roedd rhaid i’r offeiriaid ganu’r utgyrn mewn gwahanol ffyrdd er mwyn cyfleu i’r bobl beth roedden nhw angen ei wneud. (Num. 10:3-8) Heddiw, mae pobl Dduw yn derbyn cyfarwyddyd mewn sawl ffordd. Ystyria dair ffordd sy’n ein hatgoffa ni o ganiadau’r utgyrn gynt. Heddiw, mae pobl Dduw yn cael eu gwahodd i gynulliadau mawr, mae arolygwyr apwyntiedig yn cael hyfforddiant, ac mae trefniadau theocrataidd ar gyfer pob cynulleidfa yn cael eu diwygio neu eu haddasu.

YR ALWAD I GYNULLIADAU MAWR

Pan oedd Jehofa eisiau ‘galw’r bobl at ei gilydd’ wrth y fynedfa ar ochr ddwyreiniol y tabernacl, canodd yr offeiriaid y ddau utgorn. (Num. 10:3) Clywodd pob llwyth, a oedd yn gwersylla mewn pedair adran o gwmpas y tabernacl, y caniad penodol hwnnw. Mae’n debyg fod y rhai oedd yn gwersylla’n agos at y fynedfa yn gallu ymateb o fewn munudau. Roedd eraill yn bellach i ffwrdd, ac efallai bod angen mwy o amser ac ymdrech arnyn nhw i gyrraedd. Beth bynnag oedd y sefyllfa, roedd Jehofa eisiau i bawb fod yno i elwa ar ei gyfarwyddyd.

Heddiw, dydyn ni ddim yn ymgasglu wrth dabernacl, ond rydyn ni yn cael ein gwahodd i gynulliadau pobl Dduw. Mae’r rhain yn cynnwys cynadleddau rhanbarthol a digwyddiadau arbennig eraill, lle cawn ni wybodaeth a chyfarwyddyd pwysig. Ar hyd a lled y byd, mae pobl Jehofa yn mwynhau’r un rhaglen. Felly, mae’r rhai sy’n derbyn y gwahoddiad i’r cynulliadau hyn yn mwynhau bod yn rhan o grŵp mawr hapus. Mae’n rhaid i rai deithio’n bellach nag eraill. Er hynny, mae’r rhai sy’n ymateb i’r gwahoddiad yn cytuno ei fod yn werth yr holl ymdrech.

Beth am y rhai sydd mewn grwpiau anghysbell, sy’n bell oddi wrth y cynulliadau hynny? Diolch i dechnoleg fodern, mae llawer ohonyn nhw yn gallu elwa ar yr un rhaglen a theimlo’n rhan o’r cynulliadau mawr. Er enghraifft, yn ystod ymweliad gan un o gynrychiolwyr y pencadlys, fe ddarlledodd cangen Benin y rhaglen i Arlit, Niger, tref fwyngloddio yn Anialwch Sahara. Daeth 21 o frodyr, chwiorydd, a rhai â diddordeb ynghyd. Er eu bod nhw ymhell i ffwrdd, roedden nhw’n teimlo’n rhan o’r cynulliad mawr o 44,131. Ysgrifennodd un brawd: “Diolch o waelod ein calonnau am ddarlledu’r digwyddiad hwn. Dangosodd inni unwaith eto faint rydych chi’n ein caru ni.”

YR ALWAD I AROLYGWYR APWYNTIEDIG

Pan fyddai un o offeiriaid Israel yn canu utgorn unigol, “yr arweinwyr yn unig, sef penaethiaid llwythau Israel,” oedd yn gorfod ymddangos wrth babell y cyfarfod. (Num. 10:4, BCND) Yno, roedden nhw’n gallu derbyn gwybodaeth a hyfforddiant gan Moses. Byddai hynny yn eu helpu i ofalu am eu cyfrifoldebau yn eu llwythau. Petaset ti’n un o’r penaethiaid hynny, oni fyddet ti wedi gwneud popeth o fewn dy allu i fod yn bresennol ac i elwa ar y trefniant?

Heddiw, nid “penaethiaid” mo’r henuriaid; a dydyn nhw ddim chwaith yn ei lordio hi dros braidd Duw, sydd yn eu gofal. (1 Pedr 5:1-3) Ond maen nhw’n bendant yn gwneud eu gorau i fugeilio’r praidd. Felly, maen nhw’n barod iawn i dderbyn gwahoddiad am hyfforddiant ychwanegol, fel Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas. Yn ystod y sesiynau hyn, mae henuriaid yn dysgu sut i ofalu am faterion y gynulleidfa yn well. O ganlyniad, mae pawb yn y gynulleidfa yn gryfach yn ysbrydol. Hyd yn oed os nad wyt ti wedi bod i un o’r ysgolion hyn, mae’n debyg dy fod ti’n elwa oddi wrth y rhai a aeth yno.

YR ALWAD I ADDASU

Ar adegau, roedd offeiriaid Israel yn canu nodyn hir amrywiol ar yr utgyrn. Roedd hyn yn orchymyn gan Jehofa i’r gwersyll cyfan symud. (Num. 10:5, 6) Roedd symud y gwersyll yn enghraifft wych o fod yn drefnus, ond roedd yn gofyn am ymdrech fawr. Ond efallai fod rhai Israeliaid wedi bod yn gyndyn o symud. Pam?

Hwyrach bod rhai yn teimlo bod y galwadau i symud yn dod yn rhy aml ac yn rhy annisgwyl. “Weithiau doedd y cwmwl ddim ond yn aros dros nos.” Ac ar adegau eraill, roedd hi’n “ddeuddydd, yn fis, neu’n flwyddyn” rhwng symud. (Num. 9:21, 22) A faint o weithiau symudodd y gwersyll? Mae Numeri pennod 33 yn sôn am tua 40 o lefydd lle gwnaeth yr Israeliaid wersylla.

Weithiau, byddai’r Israeliaid yn gwersylla mewn llefydd cysgodol. Byddai hynny wedi bod yn eithaf dymunol ynghanol yr “anialwch mawr peryglus.” (Deut. 1:19) Ac felly hawdd fyddai meddwl bod symud yn golygu mynd i rywle llai dymunol.

Unwaith i’r llwythau ddechrau gadael, efallai bod rhai yn ei chael hi’n anodd disgwyl eu tro. Clywodd pawb yr utgyrn yn canu, ond doedd pawb ddim yn gallu gadael ar yr un adeg. Roedd y nodyn hir amrywiol hwnnw yn golygu bod y llwythau oedd yn gwersylla i’r dwyrain, sef Jwda, Issachar, a Sabulon, yn gorfod gadael. (Num. 2:3-7; 10:5, 6) Unwaith iddyn nhw adael, canodd yr offeiriaid y nodyn hir amrywiol unwaith eto i roi’r arwydd i’r adran tri llwyth a oedd yn gwersylla i’r de. Parhaodd yr offeiriaid i wneud hyn nes bod y gwersyll cyfan wedi gadael.

Efallai dy fod wedi ei chael hi’n anodd derbyn ambell newid yn y gyfundrefn. Hwyrach dy fod wedi meddwl bod ’na ormod o newidiadau annisgwyl. Efallai roeddet ti’n ddigon hapus gyda phethau fel roedden nhw, a ddim eisiau iddyn nhw newid. Am ba bynnag reswm, mae’n bosib dy fod ti wedi ei chael hi’n anodd bod yn amyneddgar wrth ddod i arfer â’r newid. Er hyn i gyd, os ydyn ni’n ymdrechu i ymateb fel y dylen ni, mae’n debyg y gwelwn ni fod Duw yn ein bendithio.

Yn nyddiau Moses, arweiniodd Jehofa filiynau o ddynion, merched, a phlant drwy’r anialwch. Heb ei ofal a’i gyfarwyddyd, ni fydden nhw wedi goroesi. Heddiw, rydyn ni’n goroesi’n ysbrydol o dan arweiniad Jehofa. Mewn gwirionedd, rydyn ni’n ffynnu! Felly, gad i bob un ohonon ni fod yn benderfynol o ymateb i ganiadau gwahanol yr utgyrn fel y gwnaeth yr Israeliaid ffyddlon!