Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Beth roedd yr apostol Paul yn ei olygu pan ddywedodd: “Trwy gyfraith bûm farw i gyfraith”?—Gal. 2:19, BCND.

Ysgrifennodd Paul: “Trwy gyfraith bûm farw i gyfraith, er mwyn byw i Dduw.”—Gal. 2:19, BCND.

Roedd yr hyn a ysgrifennodd Paul yn gysylltiedig â phwynt pwysig a wnaeth i’r cynulleidfaoedd yn nhalaith Rufeinig Galatia. Roedd rhai o’r Cristnogion yno yn cael eu dylanwadu gan athrawon ffals. Roedden nhw’n dysgu bod rhaid i’r rhai oedd eisiau cael eu hachub ddilyn gofynion Cyfraith Moses, yn enwedig ynglŷn ag enwaedu. Ond roedd Paul yn gwybod nad oedd Duw yn gofyn i gredinwyr gael eu henwaedu bellach. Gyda rhesymu pwerus llwyddodd i brofi nad oedd y dysgeidiaethau hyn yn wir, yn ogystal â chryfhau ffydd y brodyr yn aberth pridwerthol Iesu Grist.—Gal. 2:4; 5:2.

Mae’r Beibl yn dweud yn glir, unwaith mae rhywun yn marw mae’n anymwybodol a dydy ef ddim yn cael ei effeithio gan unrhyw beth o’i gwmpas. (Preg. 9:5) Pan ddywedodd Paul: “Bûm farw i gyfraith,” roedd yn golygu nad oedd gan Gyfraith Moses unrhyw ddylanwad drosto bellach. Yn hytrach, roedd Paul yn sicr ei fod yn ‘fyw i Dduw’ oherwydd ei ffydd yn yr aberth pridwerthol.

Newidiodd sefyllfa Paul “trwy gyfraith.” Sut? Roedd newydd esbonio “na chaiff neb ei gyfiawnhau ond trwy ffydd yn Iesu Grist, nid trwy gadw gofynion cyfraith.” (Gal. 2:16, BCND) Mae’n wir fod y Gyfraith wedi cyflawni rhywbeth pwysig iawn. Esboniodd Paul i’r Galatiaid: “Cafodd ei rhoi i ddangos i bobl beth ydy ystyr pechu, hyd nes i’r ‘hedyn’ y soniwyd amdano gyrraedd—sef yr un oedd yr addewid yn cyfeirio ato.” (Gal. 3:19) Fe wnaeth y Gyfraith ei gwneud hi’n amlwg nad oedd pobl amherffaith, pechadurus yn gallu cadw’r Gyfraith yn berffaith a bod angen aberth perffaith, terfynol arnyn nhw. Felly, helpodd y Gyfraith i bobl ddeall mai Iesu oedd yr “hedyn.” Drwy ddangos ffydd yn Iesu Grist, gallai rhywun fod yn gyfiawn yng ngolwg Duw. (Gal. 3:24) Daeth Paul yn gyfiawn yng ngolwg Duw oherwydd, drwy’r Gyfraith, roedd wedi derbyn Iesu a rhoi ffydd ynddo. Felly, buodd Paul “farw i gyfraith” a daeth yn ‘fyw i Dduw.’ Duw oedd yn dylanwadu arno bellach, nid y Gyfraith.

Mynegodd Paul syniad tebyg yn ei lythyr at y Rhufeiniaid. “Drwy farwolaeth y Meseia ar y groes dych chi hefyd wedi ‘marw’ yn eich perthynas â’r Gyfraith . . . Ond bellach, dydy’r rheol yna ddim yn cyfrif ddim mwy. Dŷn ni wedi marw i beth oedd yn ein caethiwo ni o’r blaen.” (Rhuf. 7:4, 6) Mae’r adnod hon, a Galatiaid 2:19, yn datgelu nad oedd Paul yn siarad am farw fel pechadur wedi ei gondemnio o dan y Gyfraith. Yn hytrach, roedd yn siarad am gael ei ryddhau. Doedd y Gyfraith ddim bellach yn dylanwadu arno ef na Christnogion eraill tebyg iddo. Cawson nhw eu rhyddhau oherwydd eu ffydd ym mhridwerth Crist.