Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 24

Gelli Di Ddianc o Faglau Satan!

Gelli Di Ddianc o Faglau Satan!

“Dianc o drap y diafol.”—2 TIM. 2:26.

CÂN 36 Gwarchodwn Ein Calonnau

CIPOLWG *

1. Pam gallwn ni gymharu Satan â heliwr?

MAE gan heliwr un nod—dal anifail neu ei ladd. Gall ddefnyddio amrywiaeth o drapiau neu faglau, fel dywedodd un o gysurwyr Job. (Job 18:8-10) Ond, sut mae heliwr yn mynd ati i ddenu anifail i’w drap? Mae’n gwylio’r anifail yn ofalus. Lle mae’n mynd? Beth mae’n ei hoffi? Beth fydd yn ei ddal allan? Mae Satan fel yr heliwr hwnnw. Mae’n ein gwylio ni yn ofalus. Mae’n sylwi ar le rydyn ni’n mynd a beth yw ein diddordebau. Yna, mae’n gosod magl yn y gobaith y bydd yn ein dal ni allan. Ond eto, mae’r Beibl yn dweud wrthon ni, os ydyn ni’n cael ein dal, mae hi’n bosib inni ddianc. Mae hefyd yn dysgu ni sut i osgoi’r maglau hynny yn gyfan gwbl.

Balchder a thrachwant yw dwy o faglau mwyaf effeithiol Satan (Gweler paragraff 2) *

2. Beth yw dwy o faglau mwyaf effeithiol Satan?

2 Balchder a thrachwant * yw dwy o faglau mwyaf effeithiol Satan. Mae Satan wedi defnyddio’r maglau hyn yn llwyddiannus ers miloedd o flynyddoedd. Mae’n debyg i heliwr adar sy’n denu aderyn i fagl, neu sy’n ei ddal mewn rhwyd. (Salm 91:3) Ond does dim rhaid inni gael ein dal gan Satan. Pam ddim? Achos mae Jehofa wedi datgelu tactegau Satan inni.—2 Cor. 2:11.

Gallwn ni ddysgu o esiamplau rhybuddiol ac felly osgoi neu ddianc o faglau Satan (Gweler paragraff 3) *

3. Pam mae Jehofa wedi cynnwys esiamplau rhybuddiol yn y Beibl?

3 Un o’r ffyrdd mae Jehofa yn ein rhybuddio ni am falchder a thrachwant yw drwy ein hannog i ddysgu oddi wrth brofiadau pobl eraill. Sylwa yn yr esiamplau y byddwn ni’n eu hystyried fod Satan wedi llwyddo i ddal hyd yn oed rhai a oedd wedi gwasanaethu Jehofa am gyfnod hir. Ydy hynny’n golygu ein bod ni’n sicr o fethu? Ddim o gwbl! Gwnaeth Jehofa gynnwys yr esiamplau hyn yn y Beibl “i’n rhybuddio ni.” (1 Cor. 10:11) Mae’n gwybod y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw sut i osgoi maglau Satan neu ddianc ohonyn nhw.

MAGL BALCHDER

Gweler paragraff 4

4. At beth fydd balchder yn arwain?

4 Mae Satan eisiau inni fagu balchder anghytbwys. Mae’n gwybod os byddwn ni’n mynd yn rhy falch, byddwn ni’n debyg iddo ef ac yn colli allan ar fywyd tragwyddol. (Diar. 16:18) Felly, rhybuddiodd yr apostol Paul y gallai rhywun droi’n falch a “chael ei farnu fel cafodd y diafol ei farnu.” (1 Tim. 3:6, 7) Gallai hynny ddigwydd i unrhyw un ohonon ni, p’un a ydyn ni’n newydd yn y gwir neu wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am lawer o flynyddoedd.

5. Yn ôl Pregethwr 7:16, 20, sut gallai rhywun ddangos balchder?

5 Mae pobl falch yn hunanol. Mae Satan yn ceisio ein gwneud ni’n hunanol, a’n cael ni i ganolbwyntio ar ein hunain yn fwy nag ar Jehofa, yn enwedig pan wynebwn her. Er enghraifft, wyt ti wedi cael bai ar gam? Neu, a wyt ti wedi cael dy drin yn annheg? Byddai Satan wrth ei fodd yn dy weld di’n rhoi’r bai ar Jehofa neu ar dy frodyr. Ac mae’r Diafol eisiau iti feddwl mai’r unig ffordd o ddatrys y broblem yw drwy wneud pethau dy ffordd dy hun yn hytrach na dilyn yr arweiniad mae Jehofa yn ei roi iti yn ei Air.—Darllen Pregethwr 7:16, 20.

6. Beth gelli di ei ddysgu o brofiad chwaer yn yr Iseldiroedd?

6 Ystyria brofiad chwaer yn yr Iseldiroedd a oedd yn gadael i amherffeithrwydd eraill ei chynhyrfu. Penderfynodd nad oedd hi’n gallu dioddef eu cwmni bellach. “O’n i’n teimlo’n unig ofnadwy, ac yn meddwl nad o’n i’n gallu newid fy nheimladau tuag atyn nhw,” meddai. “Dywedais wrth fy ngŵr y byddai’n rhaid inni symud i gynulleidfa arall.” Yna, fe wnaeth hi wylio darllediad JW Broadcasting® Mawrth 2016. Roedd y rhaglen honno yn cynnwys awgrymiadau ar sut i ddelio ag amherffeithion pobl eraill. Aeth hi ymlaen i ddweud: “Gwelais fod rhaid imi edrych yn onest ac yn ostyngedig ar fy nghamgymeriadau fy hun yn hytrach na trio newid y brodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa. Gwnaeth y rhaglen fy helpu i ganolbwyntio ar Jehofa a’i sofraniaeth.” Wyt ti’n gweld y pwynt? Pan wyt ti’n wynebu treial, canolbwyntia ar Jehofa. Erfynia arno i dy helpu i weld eraill fel y mae ef yn eu gweld. Mae dy Dad nefol yn gweld eu camgymeriadau, ond eto mae’n fodlon maddau iddyn nhw. Mae ef eisiau i ti wneud yr un peth.—1 Ioan 4:20.

Gweler paragraff 7

7. Beth ddigwyddodd i’r Brenin Wseia?

7 Roedd y Brenin Wseia o Jwda yn falch ofnadwy ac felly gwrthododd gyngor a gwneud rhywbeth nad oedd ganddo’r hawl i’w wneud. Roedd Wseia yn ddyn galluog. Enillodd lawer o ryfeloedd, adeiladodd lawer o ddinasoedd, ac roedd ganddo lawer o ffermydd. “Roedd Duw yn gwneud iddo lwyddo.” (2 Cron. 26:3-7, 10) “Ond wrth fynd yn gryf dyma fe’n troi’n falch. Ac aeth ei falchder yn drech nag e,” meddai’r Beibl. Roedd Jehofa eisoes wedi gorchymyn mai dim ond yr offeiriaid oedd â’r hawl i losgi arogldarth yn y deml. Ond fe wnaeth y Brenin Wseia gymryd arno’i hun i fynd i mewn i’r deml i losgi arogldarth. Doedd Jehofa ddim yn hapus â hynny, felly tarodd y dyn balch hwnnw â’r gwahanglwyf. Treuliodd Wseia weddill ei fywyd â’r cyflwr hwnnw.—2 Cron. 26:16-21.

8. Yn ôl 1 Corinthiaid 4:6, 7, sut gallwn ni osgoi bod yn falch?

8 A allai balchder ein denu i fagl fel digwyddodd i Wseia? Ystyria esiampl José. Roedd yn ddyn busnes llwyddiannus iawn ac yn henuriad mawr ei barch. Roedd yn rhoi anerchiadau mewn cynadleddau a chynulliadau, ac roedd arolygwyr cylchdaith yn troi ato am gyngor. “Ond, o’n i’n dibynnu ar fy ngallu a fy mhrofiad fy hun,” mae’n cyfaddef. “Do’n i ddim yn dibynnu ar Jehofa. O’n i’n meddwl fy mod i’n gryf, felly wnes i ddim gwrando ar    ei rybuddion na’i gyngor.” Pechodd José yn ddifrifol ac fe gafodd ei ddiarddel. Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd ei adfer i’r gynulleidfa. Nawr mae’n dweud: “Mae Jehofa wedi dysgu imi mai gwneud yr hyn mae’n ei ofyn sy’n bwysig, nid cael teitl.” Gad inni gofio bod unrhyw ddoniau sydd gynnon ni, neu unrhyw freintiau yn y gynulleidfa, yn dod oddi wrth Jehofa. (Darllen 1 Corinthiaid 4:6, 7.) Os ydyn ni’n falch, fydd Jehofa ddim yn ein defnyddio ni.

MAGL TRACHWANT

Gweler paragraff 9

9. Beth gwnaeth trachwant achosi i Satan ac Efa ei wneud?

9 Pan fyddwn ni’n meddwl am drachwant, mae’n debyg fod Satan y Diafol yn dod i feddwl. Fel un o angylion Jehofa, mae’n rhaid oedd ganddo lawer o freintiau. Ond roedd eisiau mwy. Roedd ef eisiau’r addoliad sy’n perthyn i Jehofa’n unig. Mae Satan eisiau inni fod yr un fath ag ef, felly mae’n ceisio gwneud inni deimlo’n anfodlon â’r hyn sydd gynnon ni. Ceisiodd wneud hyn am y tro cyntaf pan siaradodd ag Efa. Yn ei gariad, roedd Jehofa wedi rhoi digonedd o fwyd i Efa a’i gŵr gael bwyta, a hynny o “unrhyw goeden yn yr ardd” heblaw un. (Gen. 2:16) Ond eto, gwnaeth Satan dwyllo Efa i feddwl ei bod hi angen bwyta o’r union goeden honno. Doedd Efa ddim yn fodlon â’r hyn roedd ganddi; roedd hi eisiau mwy. Ac rydyn ni’n gwybod beth ddigwyddodd nesaf. Ildiodd Efa i bechod a buodd hi farw yn y pen draw.—Gen. 3:6, 19.

Gweler paragraff 10

10. Sut daeth trachwant yn fagl i’r Brenin Dafydd?

10 Oherwydd trachwant, gwnaeth y Brenin Dafydd anghofio’r hyn roedd Jehofa wedi rhoi iddo, gan gynnwys cyfoeth, statws, a buddugoliaeth dros lawer o’i elynion. Ar un adeg, roedd Dafydd yn ddiolchgar am hyn i gyd, a dywedodd ei fod wedi cael gymaint o roddion gan Jehofa roedd ’na “ormod ohonyn nhw i’w cyfrif!” (Salm 40:5) Ond wedyn, anghofiodd Dafydd beth roedd Jehofa wedi ei roi iddo. Doedd ef ddim bellach yn fodlon â’r hyn roedd ganddo; roedd ef eisiau mwy. Er roedd gan Dafydd sawl gwraig yn barod, gadawodd i chwant am wraig rhywun arall dyfu yn ei galon. Bathseba oedd y wraig honno, ac Wreia yr Hethiad oedd ei gŵr. Yn gwbl hunanol, cafodd Dafydd ryw â Bathseba, a daeth hi’n feichiog. Roedd yr hyn a wnaeth Dafydd yn ddigon drwg ynddo’i hun, ond yna fe drefnodd Dafydd i Wreia gael ei ladd! (2 Sam. 11:2-15) Pam yn y byd wnaeth ef y fath beth? A oedd ef o dan yr argraff fod Jehofa yn methu ei weld? Er bod Dafydd wedi gwasanaethu Jehofa am gyfnod hir, trodd yn farus a thalodd yn ddrud am hynny. Ymhen amser, gwnaeth Dafydd gyfaddef ei bechod ac edifarhau. Roedd yn hynod o ddiolchgar i gael ffafr Jehofa unwaith eto!—2 Sam. 12:7-13.

11. Yn ôl Effesiaid 5:3, 4, beth all ein helpu i drechu trachwant?

11 Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Dafydd? Dysgwn ein bod ni’n gallu trechu trachwant os ydyn ni’n aros yn ddiolchgar i Jehofa am bopeth mae wedi ei roi inni. (Darllen Effesiaid 5:3, 4.) Mae’n rhaid inni fod yn fodlon â’r hyn sydd gynnon ni. Mae myfyrwyr newydd y Beibl yn cael eu hannog i feddwl am un fendith benodol, ac i ddiolch i Jehofa amdani. Os bydd rhywun yn gwneud hynny bob dydd am wythnos, bydd wedi gweddïo am saith gwahanol beth. (1 Thes. 5:18) A wyt ti’n gwneud rhywbeth tebyg? Os wyt ti’n myfyrio ar bopeth mae Jehofa wedi ei wneud drostot ti, bydd hynny’n dy helpu di i fod yn ddiolchgar. Pan fyddi di’n ddiolchgar, byddi di’n fodlon â’r hyn sydd gen ti. Pan fyddi di’n fodlon, bydd trachwant yn colli ei afael arnat ti.

Gweler paragraff 12

12. Beth wnaeth Jwdas o ganlyniad i’w drachwant?

12 Trachwant a achosodd i Jwdas Iscariot droi’n fradwr. Doedd Jwdas ddim yn berson drwg ar y cychwyn. (Luc 6:13, 16) Fe wnaeth Iesu ei ddewis fel apostol. Mae’n amlwg yr oedd Jwdas yn alluog ac yn ddibynadwy am mai ef oedd yn gofalu am y blwch arian. Roedd Iesu a’r apostolion yn defnyddio’r arian hwnnw i dalu eu costau tra oedden nhw’n pregethu. Mewn ffordd, roedd yr arian fel cyfraniadau at y gwaith byd-eang heddiw. Ond, rywbryd neu’i gilydd, dechreuodd Jwdas ddwyn, er iddo glywed Iesu’n rhybuddio pobl am drachwant fwy nag unwaith. (Marc 7:22, 23; Luc 11:39; 12:15) Anwybyddodd Jwdas y rhybuddion hynny.

13. Pryd daeth trachwant Jwdas yn amlwg?

13 Daeth trachwant Jwdas yn amlwg ychydig cyn i Iesu gael ei ladd. Roedd Iesu a’i ddisgyblion, gan gynnwys Mair a’i chwaer Martha, yn westeion i Simon y gwahanglwyfus. Tra oedden nhw wrth y bwrdd, cododd Mair a thywallt olew persawrus drud ar ben Iesu. Roedd Jwdas a’r disgyblion eraill wedi cynhyrfu’n lân. Mae’n bosib bod y disgyblion eraill wedi meddwl y byddai’n well defnyddio’r arian yn y weinidogaeth. Ond roedd cymhelliad Jwdas yn wahanol. Roedd “yn lleidr,” ac roedd eisiau dwyn arian o’r blwch. Yn hwyrach ymlaen, gwnaeth trachwant Jwdas ei gymell i fradychu Iesu am bris caethwas.—Ioan 12:2-6; Math. 26:6-16; Luc 22:3-6.

14. Sut gwnaeth un cwpl roi’r wers yn Luc 16:13 ar waith?

14 Atgoffodd Iesu ei ddilynwyr o’r gwirionedd sylfaenol hwn: “Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac arian ar yr un pryd.” (Darllen Luc 16:13.) Mae hynny dal yn wir. Ystyria sut gwnaeth un cwpl yn Rwmania adael i eiriau Iesu ddylanwadu arnyn nhw. Cawson nhw gynnig swydd dros dro mewn gwlad fwy cyfoethog. “Oedd gynnon ni fenthyciad mawr i dalu’n ôl i’r banc, felly ar y cychwyn oedden ni’n meddwl bod y swydd yn fendith gan Jehofa,” maen nhw’n cyfaddef. Ond, roedd ’na fagl. Byddai’r swydd yn amharu ar eu gwasanaeth i Jehofa. Ar ôl darllen yr erthygl “Maintain Loyalty With a Unified Heart” yn rhifyn Awst 15, 2008, y Tŵr Gwylio, gwnaethon nhw benderfyniad. Dywedon nhw: “Os mai ennill mwy o arian oedd yn ein cymell i weithio mewn gwlad arall, fydden ni ddim yn rhoi Jehofa’n gyntaf. Oedden ni’n gwbl sicr y byddai ein perthynas â Jehofa yn dioddef.” Felly wnaethon nhw wrthod y cynnig. Beth ddigwyddodd? Cafodd y gŵr hyd i swydd yn ei famwlad a oedd yn talu digon ar gyfer eu hanghenion. Dywedodd y wraig: “Dydy llaw Jehofa byth yn fyr.” Mae’r cwpl yn falch eu bod nhw wedi blaenoriaethu Jehofa yn hytrach nag arian.

OSGOI MAGLAU SATAN

15. Pam gallwn ni fod yn sicr ei bod hi’n bosib dianc o faglau Satan?

15 Beth os ydyn ni’n sylweddoli ein bod ni wedi ildio i falchder neu drachwant? Gallwn ni ddianc! Dywedodd Paul y gallai’r rhai sydd wedi cael eu dal gan y Diafol ddianc o’r fagl. (2 Tim. 2:26) Wedi’r cwbl, gwrandawodd Dafydd ar gyngor cryf Nathan, edifarhau am ei drachwant, ac adfer ei berthynas â Jehofa. Paid byth ag anghofio, mae Jehofa yn gryfach na Satan. Felly os ydyn ni’n derbyn help Jehofa, gallwn ni ddianc o unrhyw fagl neu drap mae’r Diafol wedi ei osod.

16. Beth fydd yn ein helpu i osgoi maglau Satan?

16 Wrth gwrs, yn hytrach na gorfod dianc o faglau Satan, byddai’n well eu hosgoi yn y lle cyntaf. Gallwn ni ond gwneud hynny gyda help Duw. Ddylen ni byth â’i chymryd yn ganiataol ein bod ni mor gryf na fydden ni’n troi’n falch ac yn farus! Gall hynny ddigwydd hyd yn oed i rai sydd wedi gwasanaethu Jehofa ers blynyddoedd. Felly erfynia ar Jehofa i dy helpu di i weld os yw’r agweddau hyll hynny wedi dechrau dylanwadu ar dy feddyliau neu ar dy weithredoedd. (Salm 139:23, 24) Paid byth â gadael i falchder na thrachwant gael gafael arnat ti!

17. Beth fydd yn digwydd cyn bo hir i’n gelyn y Diafol?

17 Mae Satan wedi bod yn hela am filoedd o flynyddoedd. Ond yn fuan iawn bydd yn cael ei rwymo ac yn y pen draw ei ddinistrio. (Dat. 20:1-3, 10) Rydyn ni’n dyheu am y diwrnod hwnnw. Yn y cyfamser, bydda’n effro i faglau Satan. Gweithia’n galed i rwystro balchder a thrachwant rhag dy reoli. Bydda’n benderfynol o ddal dy dir yn erbyn ‘y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthot ti.’—Iago 4:7.

CÂN 127 Y Math o Berson y Dylwn Fod

^ Par. 5 Mae Satan fel heliwr sydd allan i’n dal ni, ni waeth pa mor hir rydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n dysgu sut mae Satan yn defnyddio balchder a thrachwant i geisio difetha ein perthynas â Duw. Byddwn ni hefyd yn dysgu o esiamplau rhai sydd wedi cael eu dal yn y maglau hynny, a sut gallwn ninnau eu hosgoi.

^ Par. 2 ESBONIADAU: Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar falchder amhriodol, sef y teimlad bod un person yn well na’r llall, ac ar drachwant, sef y dymuniad cryf i gael mwy o arian, grym, rhyw, a phethau eraill tebyg.

^ Par. 53 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ei falchder, mae brawd yn gwrthod cyngor doeth. Mae chwaer yn meddwl am gael mwy o bethau er bod ganddi lawer yn barod.

^ Par. 55 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gwnaeth hyd yn oed angel droi’n falch fel y gwnaeth y Brenin Wseia. Oherwydd trachwant gwnaeth Efa fwyta o’r goeden, gwnaeth Dafydd odinebu â Bathseba, a gwnaeth Jwdas ddwyn arian.