Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Yn adeg Iesu, pa fath o drethi roedd rhaid i bobl eu talu?

ERS blynyddoedd lawer, roedd yr Israeliaid wedi arfer rhoi arian i gefnogi gwir addoliad. Ond erbyn adeg Iesu, roedd y mater o dalu trethi wedi mynd yn gymhleth ac yn gwneud bywyd yn anodd i’r Iddewon.

Er mwyn cynnal y tabernacl, a hwyrach ymlaen y deml, roedd rhaid i bob oedolyn Iddewig dalu hanner sicl (dwy ddrachma). Yn y ganrif gyntaf, cafodd y dreth honno ei defnyddio i ddarparu aberthau ac i ofalu am y deml a adeiladodd Herod. Gofynnodd rhai Iddewon i Pedr am safbwynt Iesu ar y mater, ond doedd Iesu ddim yn erbyn talu’r dreth. A dweud y gwir, dywedodd wrth Pedr lle i gael hyd i ddarn o arian i’w thalu.—Math. 17:24-27.

Bryd hynny roedd rhaid i bobl Dduw dalu degwm hefyd, a oedd yn golygu rhoi degfed ran o’u cnydau neu o’u hincwm. (Lef. 27:30-32; Num. 18:26-28) Roedd yr arweinwyr crefyddol yn mynnu bod y degwm yn cael ei dalu ar bob llysieuyn, hyd yn oed ar y “mintys, anis a chwmin!” Doedd Iesu ddim yn erbyn degymu, ond dywedodd fod agwedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid tuag at hynny yn rhagrithiol.—Math. 23:23.

Ond yr adeg honno, roedd rhaid i’r Iddewon dalu llawer o drethi i’r Rhufeiniaid hefyd, gan mai y nhw oedd yn rheoli drostyn nhw. Er enghraifft, roedd y rhai oedd yn berchen ar dir yn gorfod talu treth gydag arian neu gynnyrch ar raddfa o tua 20 i 25 y cant. Roedd ’na hefyd dreth y pen ar bob Iddew. Dyma’r dreth roedd y Phariseaid wedi holi Iesu amdani. Ond dywedodd Iesu’r cwbl drwy ddweud yn syml: “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw.”—Math. 22:15-22.

Hefyd roedd ’na doll ar nwyddau oedd yn dod i mewn ac allan o ardaloedd penodol. Cafodd y dreth honno ei chasglu wrth borthladdoedd, pontydd, croesffyrdd, neu wrth fynd i mewn i drefi a marchnadoedd.

Roedd baich yr holl drethi o dan reolaeth Rufeinig yn ofnadwy o drwm i’r bobl. Wrth gyfeirio at deyrnasiad yr Ymerawdwr Tiberiws pan oedd Iesu ar y ddaear, dywedodd yr hanesydd Rhufeinig Tacitws, bod “Syria a Jwdea wedi erfyn am ostyngiad ar y trethi am eu bod nhw’n gwegian o dan y baich.”

Roedd y baich yn drymach byth oherwydd y ffordd roedden nhw’n casglu’r trethi. Cafodd yr hawl i gasglu trethi ei werthu mewn ocsiwn. Roedd y rhai a enillodd yr hawl i gasglu trethi yn gwneud elw am eu bod nhw’n gofyn am bris yn uwch na’r dreth ei hun, bydden nhw wedyn yn defnyddio’r arian hwnnw i gyflogi eraill i gasglu’r dreth, a byddai’r casglwyr hynny hefyd yn gwneud elw iddyn nhw’u hunain. Mae’n ymddangos bod Sacheus wedi cyflogi casglwyr o’r fath. (Luc 19:1, 2) Mae’n hawdd deall felly pam roedd gas gan y bobl y sefyllfa a pham roedden nhw’n casáu’r casglwyr trethi.