Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 25

Paid â Baglu’r “Rhai Bach Yma”

Paid â Baglu’r “Rhai Bach Yma”

“Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn edrych i lawr ar un o’r rhai bach yma.”—MATH. 18:10.

CÂN 113 Ein Heddwch

CIPOLWG *

1. Beth mae Jehofa wedi ei wneud ar gyfer pob un ohonon ni?

MAE Jehofa wedi denu pob un ohonon ni ato. (Ioan 6:44) Meddylia am beth mae hynny’n ei olygu. Wrth i Jehofa edrych yn fanwl ar y biliynau o bobl yn y byd, gwelodd rywbeth gwerthfawr ynot ti—calon dda â’r potensial i’w garu. (1 Cron. 28:9) Mae Jehofa yn dy adnabod di, yn dy ddeall di, ac yn dy garu. Onid ydy hynny’n gysur mawr!

2. Sut gwnaeth Iesu egluro faint mae Jehofa yn caru pob un o’i ddefaid?

2 Mae Jehofa’n dy garu di’n fawr iawn, ac mae hefyd yn caru pob un o dy frodyr a chwiorydd. I egluro hyn, cymharodd Iesu Jehofa â bugail. Petasai un ddafad allan o gant yn mynd ar goll, beth fyddai’r bugail yn ei wneud? Byddai’n “gadael y naw deg naw ar y bryniau ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll.” Pan fydd y bugail yn cael hyd i’r ddafad, fydd ef ddim yn ei dwrdio am grwydro. Fe fydd yn llawenhau. Y pwynt? Mae pob dafad yn bwysig i Jehofa. Dywedodd Iesu: “Dydy’ch Tad yn y nefoedd ddim am i unrhyw un o’r rhai bach yma gael eu colli.”—Math. 18:12-14.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Yn sicr, fydden ni byth eisiau digalonni ein brodyr a chwiorydd. Ond sut gallwn ni osgoi baglu eraill? A beth gallwn ni ei wneud os bydd rhywun yn ein brifo ni? Byddwn ni’n ateb y cwestiynau hynny yn yr erthygl hon. Ond yn gyntaf, gad inni ddysgu mwy am y “rhai bach yma” yn Mathew pennod 18.

PWY YDY’R “RHAI BACH YMA”?

4. Pwy ydy’r “rhai bach yma”?

4 Disgyblion Iesu o bob oed yw’r “rhai bach yma.” Mae pob un ohonyn nhw “fel plant bach” am eu bod nhw’n barod i gael eu dysgu gan Iesu. (Math. 18:3) Er eu bod nhw’n dod o wahanol gefndiroedd a diwylliannau, gyda gwahanol safbwyntiau a phersonoliaethau, mae ganddyn nhw i gyd ffydd yng Nghrist. Ac mae yntau’n eu caru nhw’n fawr iawn.—Math. 18:6; Ioan 1:12.

5. Sut mae Jehofa’n teimlo pan fydd rhywun yn baglu neu’n brifo un o’i bobl?

5 Mae pob un o’r “rhai bach yma” yn werthfawr i Jehofa. I ddeall sut mae’n teimlo, ystyria sut rydyn ni’n teimlo am blant. Maen nhw’n werthfawr inni. Rydyn ni eisiau eu hamddiffyn am nad ydyn nhw mor gryf, profiadol, a doeth ag oedolion. Dydyn ni ddim yn hoffi gweld neb yn cael eu brifo, ond rydyn ni’n ypsetio mwy—neu hyd yn oed yn gwylltio—pan fydd rhywun yn brifo plentyn. Yn yr un modd, mae Jehofa eisiau ein hamddiffyn ni. Mae’n ypsetio—neu hyd yn oed yn gwylltio—pan fydd rhywun yn baglu neu’n brifo un o’i bobl!—Esei. 63:9; Marc 9:42.

6. Yn ôl 1 Corinthiaid 1:26-29 sut mae’r byd yn ystyried disgyblion Iesu?

6 Ym mha ffordd arall mae disgyblion Iesu fel “rhai bach”? Wel, pwy mae’r byd yn eu hystyried yn bwysig? Y cyfoethog, yr enwog, a’r pwerus. Yn wahanol i hyn, mae disgyblion Iesu yn ymddangos yn “rhai bach” di-nod. (Darllen 1 Corinthiaid 1:26-29.) Ond nid fel ’na mae Jehofa yn eu gweld nhw.

7. Sut mae Jehofa eisiau inni deimlo am ein brodyr a chwiorydd?

7 Mae Jehofa’n caru pob un o’i weision, ni waeth pa mor hir maen nhw wedi bod yn ei wasanaethu. Mae pob un o’n brodyr a chwiorydd yn bwysig i Jehofa, felly dylen nhw fod yn bwysig i ni. Rydyn ni eisiau dangos cariad at bob un o’n cyd-Gristnogion, nid jest rhai ohonyn nhw. (1 Pedr 2:17) Dylen ni fod yn barod i wneud beth bynnag fedrwn ni i ofalu amdanyn nhw a’u hamddiffyn. Os ydyn ni’n clywed ein bod ni wedi brifo neu ypsetio rhywun, ddylen ni ddim anwybyddu hynny gan ddod i’r casgliad fod y person yn rhy sensitif a’u bod nhw angen anghofio’r peth. Pam gallai rhai ypsetio? Efallai oherwydd eu cefndir, dydy rhai brodyr a chwiorydd ddim yn meddwl llawer ohonyn nhw’u hunain. Mae eraill yn newydd yn y gwir; dydyn nhw ddim eto wedi dysgu sut i ddelio ag amherffeithion pobl eraill. Beth bynnag yw’r achos, dylen ni wneud beth allwn ni i greu heddwch. Ond hefyd, mae angen i rywun sy’n ypsetio’n hawdd geisio bod yn llai sensitif. Mae angen iddo wneud hynny er lles ei heddwch meddwl ei hun ac er lles pobl eraill.

YSTYRIA ERAILL YN WELL NA TI

8. Pa agwedd gyffredin gafodd effaith ar ddisgyblion Iesu?

8 Pam gwnaeth Iesu siarad am y “rhai bach yma”? Roedd ei ddisgyblion wedi gofyn cwestiwn iddo: “Pwy ydy’r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol?” (Math. 18:1) Roedd llawer o Iddewon y cyfnod yn ystyried statws yn bwysig iawn. Dywedodd un ysgolhaig: “Roedd dynion yn byw ac yn bod i ennill anrhydedd, enw da, enwogrwydd, clod, a pharch.”

9. Beth roedd rhaid i ddisgyblion Iesu ei wneud?

9 Gwyddai Iesu y byddai ei ddisgyblion yn gorfod gweithio’n galed i ddadwreiddio o’u calonnau yr ysbryd cystadleuol oedd wedi treiddio’n ddwfn i’r diwylliant Iddewig. Dywedodd wrthyn nhw: “Dylai’r pwysica ohonoch chi ymddwyn fel y person lleia pwysig, a dylai’r un sy’n arwain fod fel un sy’n gwasanaethu.” (Luc 22:26) Rydyn ni’n ymddwyn fel “y person lleia pwysig” drwy beidio â meddwl ein bod ni’n “well na phobl eraill.” (Phil. 2:3) Y mwyaf byddwn ni’n gwneud hynny, y lleiaf tebygol byddwn ni o faglu eraill.

10. Pa gyngor gan Paul ddylen ni ei gymryd o ddifri?

10 Mae pob un o’n brodyr a’n chwiorydd yn well na ni mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mae’n hawdd gweld hyn pan fyddwn ni’n canolbwyntio ar eu rhinweddau da. Dylen ni gymryd cyngor yr apostol Paul i’r Corinthiaid o ddifri: “Beth sy’n eich gwneud chi’n well na phobl eraill? Beth sydd gynnoch chi ydych chi ddim yn y pen draw wedi ei dderbyn gan Dduw? Ac os mai rhodd gan Dduw ydy’r cwbl, beth sydd i frolio amdano?—fel petaech chi’ch hunain wedi cyflawni rhywbeth!” (1 Cor. 4:7) Dylen ni wrthod unrhyw demtasiwn i dynnu sylw aton ni’n hunain neu i feddwl ein bod ni’n well nag eraill. Er enghraifft, os ydy brawd yn rhoi anerchiadau gwych, neu os ydy chwaer yn arbennig o dda am gychwyn astudiaethau Beiblaidd, dylen nhw wastad roi’r clod i Jehofa am hynny.

MADDEUA’N LLWYR

11. Beth oedd ystyr eglureb Iesu am y brenin a’i was?

11 Yn fuan ar ôl i Iesu rybuddio ei ddilynwyr i beidio â baglu eraill, rhoddodd eglureb am frenin a’i was. Gwnaeth y brenin ganslo dyled fawr nad oedd gan y gwas obaith o’i thalu’n ôl. Yn hwyrach ymlaen, roedd yr un un gwas yn anfodlon canslo dyled llawer llai i was arall. Yn y pen draw, gwnaeth y brenin daflu’r gwas didrugaredd hwnnw i’r carchar. Y wers? Dywedodd Iesu: “Dyna sut fydd fy Nhad nefol yn delio gyda chi os na wnewch chi faddau’n llwyr i’ch gilydd.”—Math. 18:21-35.

12. Sut rydyn ni’n brifo eraill os ydyn ni’n gwrthod maddau?

12 Gwnaeth y gwas frifo eraill yn y broses hefyd. Yn gyntaf, yn gwbl ddideimlad, brifodd y gwas arall drwy “ei daflu i’r carchar nes gallai dalu’r ddyled.” Yn ail, brifodd y gweision eraill. Roedden nhw “wedi ypsetio’n fawr pan welon nhw beth ddigwyddodd.” Mewn ffordd debyg, mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn effeithio ar eraill. Beth all ddigwydd os ydyn ni’n gwrthod maddau i rywun sydd wedi ein brifo ni? Yn gyntaf, mae’n cael ei frifo am ein bod ni’n gwrthod maddau iddo, yn ei anwybyddu, ac yn gadael i’n cariad ato oeri. Ac yn ail, rydyn ni’n gwneud i eraill yn y gynulleidfa deimlo’n annifyr pan fyddan nhw’n synhwyro bod rhywbeth o’i le rhyngon ni.

A fyddi di’n dal dig, neu’n maddau’n llwyr? (Gweler paragraffau 13-14) *

13. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad un arloeswraig?

13 Pan fyddwn ni’n maddau i’n brodyr a chwiorydd, byddwn ni’n teimlo’n well ac yn helpu eraill i deimlo’n well hefyd. Dyna brofiad un arloeswraig wnawn ni ei galw’n Nesta. Cafodd hi ei brifo gan chwaer yn y gynulleidfa. Mae Nesta’n dweud: “Byddai ei geiriau cas weithiau mor finiog â chyllell. Ar y weinidogaeth, doeddwn i ddim hyd yn oed eisiau bod yn yr un car â hi. O’n i’n dechrau colli fy sêl a fy llawenydd.” Roedd Nesta’n meddwl bod ganddi bob rheswm dros ypsetio. Ond wnaeth hi ddim dal dig na chanolbwyntio ar ei theimladau ei hun. Aeth hi ati’n ostyngedig i roi ar waith y cyngor Ysgrythurol yn yr erthygl “Forgive From Your Heartyn rhifyn Hydref 15, 1999, y Tŵr Gwylio. Gwnaeth hi faddau i’w chwaer. Dywedodd Nesta: “Bellach dw i’n sylweddoli ein bod ni i gyd yn gwneud ein gorau i wisgo’r bersonoliaeth newydd a bod Jehofa yn barod i faddau inni bob dydd. Dw i’n teimlo fel petai pwysau trwm wedi cael ei godi oddi ar fy ysgwyddau. Dw i wedi cael fy llawenydd yn ôl.”

14. Yn ôl Mathew 18:21, 22, pa broblem oedd gan yr apostol Pedr, a beth rwyt ti’n ei ddysgu o ymateb Iesu?

14 Gwyddon ni y dylen ni faddau i bobl; dyna’r peth iawn i wneud. Ond mae’n haws dweud na gwneud. Efallai bod yr apostol Pedr wedi teimlo fel ’na ar adegau. (Darllen Mathew 18:21, 22.) Beth all helpu? Yn gyntaf, myfyria ar gymaint mae Jehofa wedi maddau i ti. (Math. 18:32, 33) Dydyn ni ddim yn haeddu ei faddeuant, ond mae’n maddau’n hael. (Salm 103:8-10) Ond ar yr un pryd, “dylen ninnau hefyd garu’n gilydd.” Felly does dim dwywaith amdani, mae angen inni faddau. Mae gynnon ni ddyletswydd i faddau i’n brodyr a chwiorydd. (1 Ioan 4:11) Yn ail, myfyria ar beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n maddau. Byddwn ni’n helpu’r person sydd wedi ein brifo, yn uno’r gynulleidfa, yn amddiffyn ein perthynas â Jehofa, ac yn codi baich oddi ar ein hysgwyddau. (2 Cor. 2:7; Col. 3:14) Yn olaf, gweddïa ar yr Un sy’n gofyn inni faddau. Paid â gadael i Satan darfu ar yr heddwch rhyngot ti a dy frodyr a chwiorydd. (Eff. 4:26, 27) Rydyn ni angen help Jehofa os ydyn ni am osgoi maglau Satan.

PAID AG YPSETIO’N HAWDD

15. Yn ôl Colosiaid 3:13, beth dylet ti ei wneud os ydy brawd neu chwaer wedi dy ypsetio?

15 Beth dylet ti ei wneud os ydy cyd-grediniwr wedi dy ypsetio? Gwna dy orau glas i gadw heddwch. Gweddïa’n daer ar Jehofa. Gofynna iddo fendithio’r person sydd wedi dy ypsetio di ac am help i weld rhinweddau da’r person hwnnw—yr union rinweddau sy’n gwneud i Jehofa ei garu. (Luc 6:28) Os nad wyt ti’n gallu anghofio’r hyn mae dy frawd wedi ei wneud, meddylia am y ffordd orau i siarad ag ef. Mae hi wastad yn well i feddwl nad oedd y brawd wedi bwriadu dy frifo di. (Math. 5:23, 24; 1 Cor. 13:7) Pan fyddi di’n siarad ag ef, edrycha ar ei ochr orau. Ond beth os nad ydy ef eisiau setlo’r mater? Amynedd piau hi, paid â chefnu ar dy frawd. Bydda “yn oddefgar.” (Darllen Colosiaid 3:13.) Yn bwysicaf oll, paid byth â dal dig, oherwydd gallai hynny ddifetha dy berthynas â Jehofa. Paid byth â gadael i unrhyw beth dy faglu. Drwy wneud hynny, byddi di’n profi dy fod ti’n caru Jehofa yn fwy nag unrhyw beth arall.—Salm 119:165.

16. Beth sy’n rhaid i bob un ohonon ni ei wneud?

16 Rydyn ni’n trysori’r fraint o wasanaethu Jehofa mewn undod fel “un praidd” dan ofal “un bugail”! (Ioan 10:16) Mae’r llyfr Organized to Do Jehovah’s Will yn dweud ar dudalen 165: “Gan dy fod ti’n mwynhau’r undod hwnnw, mae’n rhaid i tithau wneud dy ran i’w gadw.” Felly, mae’n rhaid inni ddysgu “gweld ein brodyr a chwiorydd fel mae Jehofa’n eu gweld nhw.” I Jehofa, rydyn ni i gyd yn “rhai bach” gwerthfawr. Ai dyna sut rwyt ti’n gweld dy frodyr a chwiorydd? Mae Jehofa’n sylwi popeth rwyt ti’n ei wneud i’w helpu nhw ac i ofalu amdanyn nhw, ac mae’n gwerthfawrogi hynny’n fawr.—Math. 10:42.

17. Beth ydyn ni’n benderfynol o’i wneud?

17 Rydyn ni’n caru ein brodyr a chwiorydd. Felly, “gadewch i ni benderfynu peidio gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystr i Gristion arall.” (Rhuf. 14:13) Rydyn ni’n ystyried ein brodyr a chwiorydd yn well na ni, ac rydyn ni eisiau maddau’n llwyr iddyn nhw. Gad inni beidio â gadael i eraill ein hypsetio ni’n hawdd. Yn hytrach, “gadewch i ni wneud beth sy’n arwain at heddwch ac sy’n cryfhau pobl eraill.”—Rhuf. 14:19.

CÂN 130 Byddwch Faddeugar

^ Par. 5 Am ein bod ni’n amherffaith, efallai byddwn ni’n brifo teimladau ein brodyr a chwiorydd. Sut rydyn ni’n ymateb? Ydyn ni’n awyddus i drwsio’r berthynas? Ydyn ni’n gyflym i ymddiheuro? Neu os ydyn nhw wedi brifo, ydyn ni’n dod i’r casgliad mai dyna eu problem nhw, nid un ni? Neu beth os ydyn ni’n ypsetio’n hawdd oherwydd beth mae eraill yn ei ddweud neu’n ei wneud? Ydyn ni’n cyfiawnhau ein hymateb drwy ddweud, ‘Fel ’na ydw i, dyna fy mhersonoliaeth’? Neu ydyn ni’n deall bod ein hymateb yn wendid a bod angen inni newid?

^ Par. 53 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae un chwaer wedi ypsetio un arall yn y gynulleidfa. Unwaith i’r ddwy ddatrys y broblem yn breifat, maen nhw’n anghofio am y peth ac yn gwasanaethu’n hapus ochr yn ochr.