Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 25

Mae Jehofa yn Bendithio’r Rhai Sy’n Maddau

Mae Jehofa yn Bendithio’r Rhai Sy’n Maddau

“Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi.”—COL. 3:13.

CÂN 130 Byddwch Faddeugar

CIPOLWG *

1. Beth mae Jehofa yn ei addo i’r rhai sydd yn wir edifar?

 YN OGYSTAL â bod yn Greawdwr, yn Llywodraethwr, ac yn Farnwr, mae Jehofa hefyd yn Dad cariadus inni. (Salm 100:3; Esei. 33:22) Mae hynny’n golygu ei fod, nid yn unig yn gallu maddau inni, ond ei fod hefyd yn awyddus i wneud hynny os ydyn ni’n edifar. (Salm 86:5) Gwnaeth Jehofa hyd yn oed addo drwy’r proffwyd Eseia: “Os ydy’ch pechodau chi’n goch llachar, gallan nhw droi’n wyn fel yr eira.”—Esei. 1:18.

2. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn cadw heddwch a bod yn ffrindiau ag eraill?

2 Rydyn ni i gyd yn amherffaith, felly byddwn ni’n brifo ein gilydd weithiau. (Iago 3:2) Ond dydy hynny ddim yn golygu na allwn ni fod yn ffrindiau. Gallwn ni ddysgu bod yn faddeugar. (Diar. 17:9; 19:11; Math. 18:21, 22) Dyna mae Jehofa eisiau inni ei wneud, hyd yn oed os ydyn ni wedi brifo ein gilydd yn y pethau bach. (Col. 3:13) Gan fod Jehofa “mor barod i faddau,” pa reswm sydd gynnon ni dros beidio â’i efelychu?—Esei. 55:7.

3. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried sut gallwn ni, fel pobl amherffaith, efelychu maddeuant Jehofa. Ond pa bechodau sydd angen sylw’r henuriaid? Pam mae Jehofa yn ein hannog ni i faddau i eraill? A beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth rai o’n brodyr a chwiorydd sydd wedi dioddef yn ofnadwy oherwydd pechodau pobl eraill? Gad inni weld.

PAN FYDD CRISTION YN PECHU’N DDIFRIFOL

4. (a) Beth sydd rhaid i Gristion ei wneud ar ôl pechu’n ddifrifol? (b) Pa gyfrifoldeb sydd gan yr henuriaid wrth ddelio â’r rhai sydd wedi pechu’n ddifrifol?

4 Mae 1 Corinthiaid 6:9, 10 yn rhoi enghreifftiau o bechodau sy’n ddifrifol iawn ac yn mynd yn gwbl groes i gyfraith Duw. Felly os bydd Cristion yn gwneud rhywbeth o’r fath, mae’n rhaid iddo weddïo ar Jehofa a mynd at yr henuriaid. (Salm 32:5; Iago 5:14) Dim ond Jehofa sydd â’r hawl i faddau ein pechodau’n llawn, a hynny ar sail y pridwerth. * Felly beth yw rôl yr henuriaid? Mae Jehofa wedi eu trystio nhw â’r cyfrifoldeb o benderfynu ar sail yr Ysgrythurau a all rhywun aros yn y gynulleidfa ar ôl pechu’n ddifrifol. (1 Cor. 5:12) Er mwyn cyrraedd penderfyniad, byddan nhw hefyd yn ystyried pethau fel: A wnaeth yr unigolyn gynllunio o flaen llaw a phechu’n fwriadol? A wnaeth ef geisio cuddio’r pechod rhag pobl eraill? A ydy ef wedi ailadrodd y pechod dros amser? Ac yn bwysicaf oll, a ydy ef yn dangos ei fod yn wir edifar? Ac a oes ’na unrhyw dystiolaeth bod Jehofa wedi maddau iddo?—Act. 3:19.

5. Pa fuddion sy’n dod o waith yr henuriaid?

5 Wrth ddelio â’r mater, nod yr henuriaid yw cyrraedd yr un penderfyniad sydd eisoes wedi ei gyrraedd yn y nef. (Math. 18:18) Mae’r broses honno yn amddiffyn y gynulleidfa drwy wneud yn siŵr bod pechaduriaid diedifar, a allai niweidio’r gynulleidfa, yn cael eu diarddel. (1 Cor. 5:6, 7, 11-13; Titus 3:10, 11) Gall hefyd helpu pechadur i edifarhau a chael maddeuant Jehofa. (Luc 5:32) Os ydy rhywun yn edifar, bydd yr henuriaid yn gweddïo am i Jehofa ei helpu i wella’n ysbrydol.—Iago 5:15.

6. Ydy maddeuant dal yn bosib os ydy rhywun wedi cael ei ddiarddel? Esbonia.

6 Beth os nad ydy rhywun yn edifar pan mae’r henuriaid yn siarad ag ef? Bydd yn cael ei ddiarddel o’r gynulleidfa. A p’un a yw’n edifar neu ddim, os ydy ef wedi torri’r gyfraith, fydd yr henuriaid ddim yn ei amddiffyn rhag y canlyniadau. Mae Jehofa yn caniatáu i’r awdurdodau farnu a chosbi unrhyw un sy’n mynd yn erbyn cyfraith y wlad. (Rhuf. 13:4) Os ydy ef, ymhen amser, yn edifarhau go iawn, ac yn newid ei ffyrdd, bydd Jehofa yn barod i faddau iddo. (Luc 15:17-24) Mae hyn yn wir hyd yn oed os oedd ei bechod yn ddifrifol iawn.—2 Cron. 33:9, 12, 13; 1 Tim. 1:15.

7. Ym mha ystyr gallwn ni faddau i rywun sydd wedi pechu yn ein herbyn?

7 Mae’n gysur i wybod nad oes rhaid i’r un ohonon ni benderfynu a fydd Jehofa yn maddau i rywun neu ddim. Ond beth os ydy rhywun wedi pechu yn ein herbyn ni’n bersonol? Efallai bydd yn ymddiheuro ac yn gofyn inni faddau iddo, ond efallai na fydd hynny’n digwydd. Naill ffordd neu’r llall, mae gynnon ni benderfyniad i’w wneud. Gallwn ni ddewis maddau iddo drwy beidio â dal dig na bod yn flin. Gall hynny gymryd amser ac ymdrech, yn enwedig os wyt ti wedi cael dy frifo i’r byw. Ond dyma ddywedodd rhifyn Medi 15, 1994, y Tŵr Gwylio Saesneg: “Dydy maddau i rywun ddim yn golygu dy fod ti’n esgusodi beth wnaethon nhw. I Gristnogion, mae maddau yn golygu trystio Jehofa a gadael y mater yn ei ddwylo ef. Wedi’r cwbl, Jehofa ydy Barnwr gorau’r bydysawd a bydd yn sicrhau cyfiawnder ar yr adeg gywir.” Ond pam mae Jehofa yn ein hannog ni i faddau ac i’w drystio ef i ddelio â’r mater yn deg?

PAM MAE JEHOFA YN EIN HANNOG NI I FADDAU

8. Sut mae bod yn faddeugar yn dangos ein bod ni’n ddiolchgar am drugaredd Jehofa?

8 Mae bod yn faddeugar yn dangos ein bod ni’n ddiolchgar. Yn un o’i ddamhegion, gwnaeth Iesu gymharu Jehofa â meistr a ganslodd ddyled enfawr roedd un o’i weision yn methu ei thalu. Ond wnaeth y gwas hwnnw ddim dangos yr un trugaredd tuag at was arall, er bod dyled yr ail was yn llawer iawn llai. (Math. 18:23-35) Pa wers roedd Iesu’n ei dysgu inni? Os ydyn ni’n wir ddiolchgar am y trugaredd mae Jehofa wedi ei ddangos tuag aton ni, bydd hynny yn ein cymell i faddau i eraill. (Salm 103:9) Fel dywedodd y Tŵr Gwylio flynyddoedd yn ôl: “Allwn ni ddim cystadlu â maddeuant Jehofa. Ni waeth faint o weithiau rydyn ni’n maddau i eraill, bydd Duw wastad wedi maddau’n fwy i ni ar sail aberth Crist.”

9. At bwy mae Jehofa yn dangos trugaredd? (Mathew 6:14, 15)

9 Bydd Jehofa’n maddau i ni os ydyn ni’n maddau i eraill. Mae Jehofa yn dangos trugaredd at y rhai sy’n drugarog. (Math. 5:7; Iago 2:13) Esboniodd Iesu hynny yn glir pan ddangosodd i’w ddisgyblion sut i weddïo. (Darllen Mathew 6:14, 15.) Rydyn ni’n dysgu rhywbeth tebyg o beth ddywedodd Jehofa wrth Job ar ôl iddo gael ei frifo gan eiriau tri dyn o’r enw Eliffas, Bildad, a Soffar. Dywedodd Jehofa wrth Job am weddïo dros y tri dyn. Ar ôl iddo wneud hynny, cafodd Job ei fendithio gan Jehofa.—Job 42:8-10.

10. Sut rydyn ni’n brifo ein hunain drwy ddal dig? (Effesiaid 4:31, 32)

10 Rydyn ni’n brifo ein hunain drwy ddal dig. Mae dicter yn faich trwm, ac mae Jehofa eisiau inni deimlo’r heddwch sy’n dod o gael gwared arno. (Darllen Effesiaid 4:31, 32.) Mae’n dweud wrthon ni: “Paid gwylltio . . . , na cholli dy dymer.” (Salm 37:8) Mae hynny’n gyngor doeth, oherwydd gall dal dig niweidio ein hiechyd corfforol a meddyliol. (Diar. 14:30) Ac os ydyn ni’n dal dig, fydd hynny ddim yn niweidio’r un wnaeth ein brifo ni. Mae fel petasen ni’n yfed gwenwyn gan ddisgwyl iddo niweidio’r person wnaeth ein brifo. Felly, mae maddau i eraill o les i ni, am ei fod yn rhoi heddwch meddwl inni, a byddwn ni’n gallu symud ymlaen yn ein gwasanaeth i Jehofa.—Diar. 11:17.

11. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am dalu’r pwyth yn ôl? (Rhufeiniaid 12:19-21)

11 Jehofa sydd â’r hawl i ddial. Dydy Jehofa ddim wedi rhoi caniatâd inni ddial ar rywun sydd wedi pechu yn ein herbyn. (Darllen Rhufeiniaid 12:19-21.) Yn wahanol i Jehofa, rydyn ni’n amherffaith, a dydyn ni ddim yn gallu gweld popeth. Felly, allwn ni ddim barnu’n gywir. (Heb. 4:13) Hefyd, ar adegau, mae ein teimladau’n dylanwadu arnon ni, ac yn ei gwneud hi’n anodd inni wneud y penderfyniad iawn. Fel ysgrifennodd Iago yn ei lythyr ysbrydoledig: “Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw.” (Iago 1:20) Ond, gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa yn gwneud y peth iawn, ac yn sicrhau cyfiawnder yn y pen draw.

Paid â dal dig na gwylltio. Gad bethau yn nwylo Jehofa. Bydd yn dad-wneud yr holl niwed mae pechod wedi ei achosi (Gweler paragraff 12)

12. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n trystio cyfiawnder Jehofa?

12 Drwy faddau, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n trystio cyfiawnder Jehofa. Rydyn ni’n trystio y bydd yn dad-wneud yr holl niwed mae pechod wedi ei achosi. Dyna pam gallwn ni fod yn hyderus i adael pethau yn ei ddwylo ef. Yn y byd newydd sydd ar y gorwel, bydd atgofion poenus “wedi eu hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl.” (Esei. 65:17) Ond ydy hi wir yn bosib stopio dal dig yn erbyn rhywun sydd wedi ein brifo ni i’r byw? Beth am ystyried sut mae rhai wedi llwyddo i wneud hynny.

BENDITHION MADDAU I ERAILL

13-14. Beth wnest ti ei ddysgu am faddeuant o brofiad Tony ac José?

13 Mae llawer o’n brodyr a chwiorydd wedi dewis maddau i eraill hyd yn oed ar ôl cael eu brifo’n ofnadwy. Pa fendithion maen nhw wedi eu cael o wneud hynny?

14 Ystyria brofiad dyn o’r enw Tony, * sy’n byw yn Ynysoedd y Philipinau. Lawer o flynyddoedd cyn iddo ddysgu’r gwir, clywodd fod un o’i frodyr hŷn wedi cael ei lofruddio gan ddyn o’r enw José. Cafodd José ei arestio a’i garcharu am hynny. Ar y pryd, roedd Tony yn ddyn blin a threisgar iawn. Felly, pan gafodd José ei ryddhau, roedd Tony yn benderfynol o dalu’r pwyth yn ôl, a’i ladd. Gwnaeth ef hyd yn oed brynu gwn er mwyn gwneud hynny. Ond yn hwyrach ymlaen, dyma Tony yn dechrau astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Dywedodd: “Wrth imi astudio, dysgais fod angen imi newid fy ffyrdd, a stopio dal dig.” Ymhen amser, cafodd Tony ei fedyddio, ac yn y pen draw cafodd ei benodi’n henuriad. Dychmyga faint o sioc cafodd Tony pan glywodd fod José hefyd wedi cael ei fedyddio! Beth ddigwyddodd pan wnaeth y ddau gyfarfod? Dyma nhw’n rhoi hyg mawr i’w gilydd a dywedodd Tony wrth José ei fod wedi maddau iddo. Yn ôl Tony, roedd hi’n anodd disgrifio’r teimlad, ond roedd maddau i José wedi rhoi llawenydd pur iddo. Yn sicr, fe wnaeth Jehofa fendithio Tony am fod yn barod i faddau.

Mae esiampl Peter a Sue yn dangos ei bod hi’n bosib peidio â dal dig (Gweler paragraffau 15-16)

15-16. Beth gwnest ti ei ddysgu am faddeuant o brofiad Peter a Sue?

15 Ym 1985, roedd Peter a Sue mewn cyfarfod yn Neuadd y Deyrnas. Allan o nunlle, roedd ’na ffrwydrad enfawr. Roedd dyn wedi gosod bom tu mewn i’r Neuadd! Cafodd Sue anafiadau difrifol. Collodd ei gallu i arogli, a chafodd ei golwg a’i chlyw ei heffeithio hefyd. * Roedd Peter a Sue yn aml yn gofyn, ‘Pa fath o berson fyddai’n gwneud rhywbeth mor ofnadwy?’ Lawer o flynyddoedd wedyn, cafodd dyn oedd ddim yn un o Dystion Jehofa ei arestio a’i ddedfrydu i fywyd yn y carchar. Pan ofynnodd rywun iddyn nhw a oedden nhw wedi maddau i’r dyn, dywedodd Peter a Sue: “Mae Jehofa yn ein dysgu ni bod dal dig a chanolbwyntio ar ein poen yn gallu achosi niwed corfforol, emosiynol, a meddyliol inni. Felly yn fuan ar ôl y ffrwydrad, gwnaethon ni ofyn i Jehofa ein helpu ni i beidio â bod yn ddig, ac i symud ymlaen gyda’n bywydau.”

16 Ydy hi wedi bod yn hawdd iddyn nhw faddau i’r dyn? Nac ydy, mae hi wedi bod yn anodd ar adegau. Aethon nhw ymlaen i ddweud: “Mae’r teimladau o ddicter yn dod yn ôl bob hyn a hyn, pan mae anafiadau Sue yn effeithio ar ein bywydau. Ond, am ein bod ni’n gwneud ein gorau i stopio meddwl am y peth, maen nhw’n pasio’n fuan. A gallwn ni ddweud yn gwbl onest y byddwn ni’n rhoi croeso i’r bomiwr os daw yn un o’n brodyr ryw ddydd. Ac mae’r profiad wedi ein dysgu ni bod egwyddorion y Beibl yn gallu ein rhyddhau ni mewn mwy o ffyrdd nag y gallwn ni ddychmygu. Ac mae gwybod y bydd Jehofa yn dad-wneud yr holl niwed yn fuan yn gysur mawr inni.”

17. Beth gwnest ti ei ddysgu am faddeuant o brofiad Myra?

17 Pan wnaeth chwaer o’r enw Myra ddysgu’r gwir, roedd hi eisoes yn briod, gyda dau o blant bach. Wnaeth ei gŵr ddim derbyn y gwir, ac ymhen amser, gwnaeth ef odinebu a gadael y teulu. Dywedodd Myra: “Pan wnaeth y gŵr gefnu arna i a’r hogiau, o’n i’n teimlo fel pawb arall sydd wedi cael eu bradychu gan anwylyn. O’n i’n teimlo cymysgedd o sioc, galar, a dicter. O’n i’n methu credu’r peth, ac o’n i’n beio fy hun.” Er bod y briodas wedi dod i ben, doedd y boen ddim. Ychwanegodd Myra: “O’n i’n dal i deimlo’n bryderus ac yn flin am fisoedd wedyn, a sylweddolais fod y teimladau yn effeithio ar fy mherthynas â Jehofa ac eraill.” Mae hi’n dweud ei bod hi ddim yn flin bellach, a dydy hi ddim yn casáu ei chyn-ŵr. Mae hi’n gobeithio y bydd ef yn closio at Jehofa ryw ddydd. Felly, mae hi’n gallu canolbwyntio ar y dyfodol. Fel mam sengl, gwnaeth hi fagu’r ddau blentyn i wasanaethu Jehofa, ac erbyn heddiw, mae ganddi’r fraint o wasanaethu ochr yn ochr â nhw a’u teuluoedd.

CYFIAWNDER PERFFAITH JEHOFA

18. Beth gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa, y Barnwr Gorau, yn ei wneud?

18 Onid ydyn ni’n falch mai nid ni sydd yn gorfod barnu pobl? Mae’n rhoi heddwch meddwl inni wybod mai Jehofa, y Barnwr Gorau, sy’n gwneud hynny. (Rhuf. 14:10-12) Ac rydyn ni’n gwybod, heb os, y bydd yn barnu’n deg ac yn gyfiawn.—Gen. 18:25; 1 Bren. 8:32.

19. Beth fydd cyfiawnder perffaith Jehofa yn ei gyflawni?

19 Rydyn ni wir yn dyheu am yr adeg pan fyddwn ni ddim yn gorfod delio ag amherffeithrwydd a phechod—yr adeg pan fydd unrhyw boen corfforol neu emosiynol rydyn ni’n ei deimlo nawr wedi diflannu, ac wedi ei anghofio. (Salm 72:12-14; Dat. 21:3, 4) Yn y cyfamser, rydyn ni’n hynod o ddiolchgar bod Jehofa wedi rhoi’r gallu inni efelychu ei faddeuant.

CÂN 18 Gwerthfawrogi’r Pridwerth

^ Mae Jehofa yn awyddus i faddau i bechaduriaid sy’n edifar. Ac rydyn ni, fel ei bobl, eisiau efelychu ei esiampl pan fydd rhywun yn ein brifo ni. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pa bechodau gallwn ni eu maddau’n bersonol, a pha bechodau sydd angen sylw’r henuriaid. Byddwn ni hefyd yn trafod pam mae Jehofa eisiau inni faddau i’n gilydd, a sut rydyn ni’n elwa ar wneud hynny.

^ Gweler “Questions From Readers,” yn rhifyn Ebrill 15, 1996, y Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Newidiwyd rhai enwau.

^ Gweler rhifyn Ionawr 8, 1992, tt. 9-13 y Deffrwch! Saesneg. Gweler hefyd y fideo ar JW Broadcasting® sy’n dwyn y teitl Peter and Sue Schulz: A Trauma Can Be Overcome.