ERTHYGL ASTUDIO 26
Aros yn Barod am Ddydd Jehofa
“[Mae] dydd Jehofa yn dod yn union fel lleidr yn y nos.”—1 THES. 5:2.
CÂN 143 Gweithiwn, Gwyliwn, a Disgwyliwn
CIPOLWG a
1. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i oroesi dydd Jehofa?
BETH mae “dydd Jehofa” yn ei olygu yn y Beibl? Mae’n cyfeirio at Jehofa yn barnu ei elynion ac yn achub ei bobl. Mae Jehofa wedi gwneud hynny yn y gorffennol. (Esei. 13:1, 6; Esec. 13:5; Seff. 1:8) Yn ein hoes ni, bydd “dydd Jehofa” yn dechrau pan fydd arweinwyr gwleidyddol yn ymosod ar Fabilon Fawr, a bydd yn gorffen gyda rhyfel Armagedon. Er mwyn goroesi’r “dydd” hwnnw, dywedodd Iesu fod rhaid inni baratoi nawr ar gyfer y ‘trychineb mawr.’ Ond mae angen mwy, mae’n rhaid inni ‘aros yn barod’ amdano.—Math. 24:21; Luc 12:40.
2. Pam gallwn ni elwa o lyfr 1 Thesaloniaid?
2 Yn 1 Thesaloniaid defnyddiodd yr apostol Paul lawer o eglurebau. Roedd hynny er mwyn helpu Cristnogion i aros yn barod am ddydd barn Jehofa. Er bod Paul yn gwybod na fyddai dydd Jehofa yn dod yn syth, gwnaeth ef annog ei frodyr i baratoi amdano fel petai’n dod y diwrnod wedyn. (2 Thes. 2:1-3) Gallwn ni ddilyn yr un cyngor. Dewch inni drafod beth ddywedodd Paul am: (1) sut byddai dydd Jehofa yn dod, (2) pwy fyddai ddim yn goroesi’r dydd hwnnw, a (3) sut gallwn ni baratoi i oroesi.
SUT BYDD DYDD JEHOFA YN DOD?
3. Sut bydd dydd Jehofa yn dod fel lleidr yn y nos? (Gweler hefyd y llun.)
3 “Fel lleidr yn y nos.” (1 Thes. 5:2) Dyma’r eglureb gyntaf ddefnyddiodd Paul i ddisgrifio dydd Jehofa yn dod. Fel arfer mae lladron yn gweithredu yn gyflym ac yn ystod y nos pan does neb yn eu disgwyl. Mewn ffordd debyg bydd dydd Jehofa hefyd yn dod yn sydyn, ac yn annisgwyl i’r rhan fwyaf o bobl. Efallai bydd pethau yn digwydd mor gyflym, bydd hyd yn oed gwir Gristnogion yn cael eu synnu. Ond yn wahanol i bobl ddrwg, fyddwn ni ddim yn cael ein dinistrio.
4. Ym mha ffordd mae dydd Jehofa yn debyg i boenau geni?
4 “Fel poenau geni ar ddynes feichiog.” (1 Thes. 5:3) Dydy dynes feichiog ddim yn gwybod yn union pryd bydd hi’n cael ei babi. Ond mae hi’n gwybod yn iawn y bydd hi’n cael y babi, ac mae’n debyg bydd y poenau yn dechrau yn sydyn a fydd ’na ddim stopio’r enedigaeth. Mewn ffordd debyg, dydyn ni ddim yn gwybod y dydd na’r awr pan fydd dydd Jehofa yn dechrau, ond rydyn ni’n gwybod ei fod yn dod. Bydd yn sydyn, ac ni fydd y rhai drwg yn gallu ffoi oddi wrth farnedigaeth Duw.
5. Sut mae’r trychineb mawr yn debyg i’r wawr?
5 Fel y wawr. Yn ei drydedd eglureb mae Paul eto yn sôn am ladron yn dod yn y nos. Ond y tro yma mae’n cymharu dydd Jehofa â’r wawr. (1 Thes. 5:4) I ladron sy’n dod yn y nos, gall amser fynd heibio heb iddyn nhw sylwi. Efallai bydd golau’r dydd yn eu dal nhw allan, a byddan nhw’n amlwg i bawb. Yn yr un ffordd, bydd y rhai sydd yn aros yn y tywyllwch drwy fynnu gwneud pethau drwg yn dod i’r amlwg yn ystod y trychineb mawr. Yn wahanol iddyn nhw, gallwn ni fod yn barod drwy wrthod gwneud pethau mae Jehofa yn eu casáu, a gwneud “pob math o ddaioni a chyfiawnder a gwirionedd.” (Eff. 5:8-12) Nesaf, defnyddiodd Paul ddwy eglureb debyg i ddisgrifio’r rhai fydd ddim yn goroesi.
PWY FYDD DDIM YN GOROESI DYDD JEHOFA?
6. Ym mha ffordd mae’r rhan fwyaf o bobl yn cysgu? (1 Thesaloniaid 5:6, 7)
6 ‘Y rhai sy’n cysgu.’ (Darllen 1 Thesaloniaid 5:6, 7.) Gwnaeth Paul gymharu’r rhai fydd ddim yn goroesi dydd Jehofa â phobl sy’n cysgu. Dydyn nhw ddim yn ymwybodol o beth sy’n digwydd o’u cwmpas, nac o amser. Felly dydyn nhw ddim yn gwybod pan mae pethau pwysig yn digwydd, nac yn gallu ymateb iddyn nhw. Mae’r rhan fwyaf o bobl heddiw yn cysgu mewn ffordd ysbrydol. (Rhuf. 11:8) Dydyn nhw ddim yn credu ein bod ni’n byw yn “y dyddiau olaf” a bod y trychineb mawr yn dod yn fuan. Gall rhai gael eu deffro gan ddigwyddiadau mawr ar lwyfan y byd, ac maen nhw’n dangos diddordeb yn neges y Deyrnas. Ond mae llawer yn mynd yn ôl i gysgu yn lle aros yn effro. Mae ’na eraill sy’n credu yn nydd y farn hyd yn oed, ond yn meddwl ei fod yn bell yn y dyfodol. (2 Pedr 3:3, 4) Ond wrth i bob dydd fynd heibio, rydyn ni’n sylweddoli ei bod hi mor bwysig inni ddilyn cyngor y Beibl i aros yn effro.
7. Sut mae’r rhai a fydd yn cael eu dinistrio gan Dduw fel meddwon?
7 ‘Y rhai sy’n meddwi.’ Gwnaeth yr apostol Paul gymharu pobl a fydd yn cael eu dinistrio gan Dduw â rhai sydd wedi meddwi. Mae rhywun sydd wedi meddwi yn araf i ymateb i beth sy’n mynd ymlaen o’i gwmpas ac yn gwneud penderfyniadau gwael. Yn yr un modd, dydy pobl ddrwg ddim yn ymateb i rybuddion Duw. Maen nhw’n dewis ffordd o fyw sy’n arwain at ddinistr. Ond dylai Cristnogion gadw eu pennau a bod yn sobr. (1 Thes. 5:6) Mae un ysgolhaig Beiblaidd yn dweud bod rhywun sy’n sobr yn “cadw ei ben a ddim yn cynhyrfu, felly mae’n gallu meddwl yn glir a gwneud penderfyniadau da.” Pam dylen ni gadw ein pennau? Er mwyn inni osgoi cymryd rhan mewn dadlau gwleidyddol a chymdeithasol. Wrth i ddydd Jehofa agosáu, bydd ’na fwy o bwysau arnon ni i gymryd rhan mewn dadlau o’r fath. Ond does dim rhaid inni boeni am sut byddwn ni’n ymateb, achos bydd ysbryd Duw yn ein helpu ni i beidio â chynhyrfu ac i wneud penderfyniadau doeth.—Luc 12:11, 12.
BETH GALLWN NI EI WNEUD I BARATOI AR GYFER DYDD JEHOFA?
8. Sut mae 1 Thesaloniaid 5:8 yn rhoi darlun o rinweddau fydd yn ein helpu ni i aros yn effro a chadw ein pennau? (Gweler hefyd yn llun.)
8 ‘Gadewch inni roi amdanon ni’r arfogaeth sy’n amddiffyn y fron, a’r helmed.’ Mae Paul yn ein cymharu ni â milwyr sy’n effro ac sydd wedi eu gwisgo ar gyfer brwydr. (Darllen 1 Thesaloniaid 5:8.) Dylai milwr sydd ar ddyletswydd fod yn barod ar gyfer brwydr ar unrhyw adeg. Mae’r un peth yn wir amdanon ni. Er mwyn bod yn barod ar gyfer dydd Jehofa, dylen ni wisgo’r helmed o obaith a’r arfogaeth o ffydd a chariad sy’n amddiffyn y fron. Bydd y rhinweddau hyn yn help mawr inni.
9. Sut mae ein ffydd yn ein hamddiffyn ni?
9 Roedd arfogaeth yn amddiffyn calon milwr, ac mewn ffordd debyg mae cariad a ffydd yn amddiffyn ein calon ffigurol. Byddan nhw’n ein helpu ni i barhau i wasanaethu Duw a dilyn Iesu. Mae cael ffydd yn ein sicrhau ni y bydd Jehofa yn ein gwobrwyo ni os ydyn ni’n ei geisio â’n holl galon. (Heb. 11:6) Bydd yn ein hysgogi ni i aros yn ffyddlon i’n harweinydd Iesu, hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd. Sut gallwn ni gryfhau ein ffydd, fel ein bod ni’n gallu wynebu heriau bywyd? Un ffordd ydy drwy ddysgu o esiamplau modern o rai sydd wedi aros yn ffyddlon yn wyneb erledigaeth neu galedi economaidd. A gallwn ni osgoi caru pethau materol drwy efelychu rhai sydd wedi symleiddio eu bywydau i roi’r Deyrnas yn gyntaf. b
10. Sut mae cariad at Dduw a’n cymydog yn ein helpu i ddal ati?
10 Mae cariad hefyd yn hanfodol er mwyn inni aros yn effro a chadw ein pennau. (Math. 22:37-39) Mae caru Duw yn ein helpu ni i ddal ati i bregethu, hyd yn oed os ydy hynny’n achosi trafferthion inni. (2 Tim. 1:7, 8) Oherwydd ein bod ni’n caru’r rhai sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa, rydyn ni’n parhau i bregethu i bawb yn ein tiriogaeth, gan gynnwys tystiolaethu dros y ffôn neu drwy lythyrau. Rydyn ni’n dal i obeithio bydd ein cymdogion yn newid ac yn dechrau gwneud beth sy’n iawn.—Esec. 18:27, 28.
11. Sut mae cariad at ein brodyr a’n chwiorydd yn ein helpu ni? (1 Thesaloniaid 5:11)
11 Rydyn ni hefyd yn caru ein brodyr a’n chwiorydd, ac yn dangos hynny drwy ‘annog ein gilydd a chryfhau ein gilydd.’ (Darllen 1 Thesaloniaid 5:11.) Fel milwyr sy’n brwydro ochr yn ochr, rydyn ni’n calonogi ein gilydd. Wrth gwrs, yng nghanol brwydr efallai bydd milwr yn brifo ei gyfaill yn ddamweiniol. Ond fyddai ef byth yn gwneud hynny’n fwriadol. Mewn ffordd debyg, fyddwn ni byth yn brifo ein brodyr a’n chwiorydd yn fwriadol nac yn talu drwg am ddrwg i unrhyw un. (1 Thes. 5:13, 15) Rydyn ni hefyd yn dangos cariad drwy barchu’r brodyr sy’n arwain yn y gynulleidfa. (1 Thes. 5:12) Roedd y gynulleidfa yn Thesalonica yn llai na blwydd oed pan ysgrifennodd Paul y llythyr hwn atyn nhw. Mae’n debyg roedd y brodyr apwyntiedig yno yn ddibrofiad ac wedi gwneud camgymeriadau. Ond er hynny, roedden nhw’n dal yn haeddu parch. Wrth i’r trychineb mawr agosáu, efallai byddwn ni’n colli cysylltiad â’r pencadlys a’r swyddfa gangen, ac o ganlyniad yn gorfod dibynnu ar yr henuriaid lleol am arweiniad yn fwy byth. Felly mae’n bwysig iawn ein bod ni’n dysgu i garu a pharchu ein henuriaid nawr. Ni waeth beth sydd o’n blaenau, dewch inni gadw ein pennau drwy beidio â chanolbwyntio ar eu gwendidau. Yn hytrach, dewch inni ganolbwyntio ar y ffaith bod Jehofa’n defnyddio Crist i arwain y dynion ffyddlon hyn.
12. Sut mae ein gobaith yn amddiffyn ein ffordd o feddwl?
12 Yn union fel mae helmed yn amddiffyn pen milwr, mae ein gobaith o gael ein hachub yn amddiffyn ein ffordd o feddwl. Os ydy ein gobaith yn gryf, byddwn ni’n deall bod popeth sydd gan y byd i’w gynnig yn ddi-werth. (Phil. 3:8) Mae ein gobaith yn ein helpu i beidio â chynhyrfu ac i aros yn sefydlog. Roedd hyn yn wir am Wallace a Laurinda sy’n gwasanaethu yn Affrica. Gwnaeth y ddau ohonyn nhw golli rhiant o fewn tair wythnos o’i gilydd. Oherwydd y pandemig COVID-19, doedden nhw ddim yn gallu mynd adref i fod gyda’u teuluoedd. Ysgrifennodd Wallace: “Mae gobaith yr atgyfodiad yn fy helpu i beidio â meddwl amdanyn nhw fel oedden nhw yn eu dyddiau olaf ond fel byddan nhw yn y byd newydd. Mae’r gobaith hwn yn tawelu fy meddwl pan dw i’n cael fy llethu gan dristwch neu alar.”
13. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i dderbyn ysbryd glân?
13 “Peidiwch â diffodd tân yr ysbryd.” (1 Thes. 5:19) Gwnaeth Paul gymharu’r ysbryd glân â than y tu mewn inni. Pan fydd ysbryd Duw arnon ni, byddwn ni’n llawn sêl a brwdfrydedd am yr hyn sy’n iawn a bydd gynnon ni egni i weithio i Jehofa. (Rhuf. 12:11) Beth sy’n rhaid inni ei wneud i dderbyn ysbryd glân? Gallwn ni weddïo amdano, astudio Gair Duw, a chymryd rhan yng ngweithgareddau’r gyfundrefn. Bydd gwneud hynny yn ein helpu ni i feithrin “ffrwyth yr ysbryd.”—Gal. 5:22, 23.
14. Beth sy’n rhaid inni ei osgoi er mwyn parhau i dderbyn ysbryd Duw? (Gweler hefyd y llun.)
14 Ar ôl inni dderbyn ysbryd glân gan Dduw, mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â “diffodd tân yr ysbryd.” Mae Duw ond yn rhoi ei ysbryd i’r rhai sy’n aros yn lân yn y ffordd maen nhw’n meddwl ac ymddwyn. Petasen ni’n parhau i feddwl am bethau aflan, a gweithredu ar y meddyliau hynny byddai Duw yn stopio rhoi ei ysbryd inni. (1 Thes. 4:7, 8) I barhau i dderbyn ysbryd glân, mae’n rhaid inni hefyd osgoi “dirmygu proffwydoliaethau.” (1 Thes. 5:) Yn yr adnod hon, mae “proffwydoliaethau” yn cyfeirio at negeseuon mae Jehofa’n eu cyflwyno drwy ei ysbryd glân. Mae hynny’n cynnwys rhai sy’n sôn am ddydd Jehofa, a pha mor agos rydyn ni at y diwedd. Wrth feddwl am Armagedon, rhaid inni beidio â meddwl na fydd yn dod yn ein hamser ni. Yn hytrach, drwy aros yn brysur yn gwneud “gweithredoedd o ddefosiwn duwiol” bob dydd, ac aros yn lân, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n disgwyl i ddydd Jehofa ddod yn fuan.— 202 Pedr 3:11, 12.
“GWNEWCH YN SIŴR FOD POB PETH YN GYWIR”
15. Sut gallwn ni osgoi cael ein twyllo gan wybodaeth ffals a phropaganda’r cythreuliaid? (1 Thesaloniaid 5:21)
15 Mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, bydd gwrthwynebwyr Duw yn datgan: “Heddwch a diogelwch!” yn y dyfodol agos. (1 Thes. 5:3) Bydd propaganda sydd wedi ei ysbrydoli gan gythreuliaid yn llenwi’r ddaear ac yn camarwain y rhan fwyaf o bobl. (Dat. 16:13, 14) A fyddwn ni’n cael ein camarwain? Dim os ydyn ni’n ‘gwneud yn siŵr [neu, “profi”] fod pob peth yn gywir.’ (Darllen 1 Thesaloniaid 5:21; gweler nodiadau astudio.) Roedd y gair Groeg sydd wedi cael ei gyfieithu “gwnewch yn siŵr” yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sut roedd pobl yn profi metelau gwerthfawr i weld a oedden nhw’n bur neu beidio. Yn yr un ffordd, rydyn ni angen profi cywirdeb yr hyn rydyn ni’n ei glywed a’i ddarllen. Roedd hynny’n bwysig i’r Thesaloniaid, ond bydd yn dod yn bwysicach byth i ni wrth i’r trychineb mawr agosáu. Yn hytrach na chredu popeth mae eraill yn ei ddweud, rydyn ni’n meddwl yn ofalus ac yn cymharu beth rydyn ni’n ei ddarllen neu’n ei glywed â beth mae’r Beibl a’r gyfundrefn yn ei ddweud. Os gwnawn ni hynny, fyddwn ni ddim yn cael ein twyllo gan bropaganda’r cythreuliaid.—Diar. 14:15; 1 Tim. 4:1.
16. Pa obaith sicr sydd gynnon ni, a beth ydyn ni’n benderfynol o’i wneud?
16 Rydyn ni’n gwybod y bydd pobl Dduw fel grŵp yn goroesi’r trychineb mawr. Ond fel unigolion, dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd yfory. (Iago 4:14) P’un a ydyn ni’n byw drwy’r trychineb mawr neu’n marw cyn hynny, byddwn ni’n cael y wobr o fyw am byth os ydyn ni’n aros yn ffyddlon. Bydd yr eneiniog gyda Iesu yn y nef, a’r defaid eraill mewn paradwys ar y ddaear. Gad inni i gyd ffocysu ar ein gobaith hyfryd ac aros yn barod am ddydd Jehofa!
CÂN 150 Trowch at Dduw am Waredigaeth
a Mae 1 Thesaloniaid pennod 5 yn cynnwys llawer o eglurebau ynglŷn â dydd Jehofa. Beth ydy’r “dydd” hwnnw, a sut bydd yn dod? Pwy fydd yn ei oroesi, a phwy fydd ddim yn ei oroesi? Sut gallwn ni baratoi amdano? Dewch inni drafod geiriau’r apostol Paul er mwyn ateb y cwestiynau hynny.
b Gweler y gyfres “Gwasanaethu o’u Gwirfodd.”