Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pam gwnaeth Joseff a Mair aros ym Methlehem ar ôl i Iesu gael ei eni yn lle mynd yn ôl adref i Nasareth?

Er nad ydy’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw, mae’n rhoi ambell i fanylyn diddorol a allai esbonio eu dewis.

Pan ddywedodd angel wrth Mair y byddai hi’n dod yn feichiog ac yn cael plentyn, roedd hi a Joseff yn byw yn Nasareth, tref yng Ngalilea. (Luc 1:26-31; 2:4) Yn nes ymlaen, ar ôl bod yn yr Aifft, daethon nhw’n ôl i Nasareth, ble gwnaeth Iesu dyfu i fyny a dod yn Nasaread. (Math. 2:19-23) Dyna pam rydyn ni’n cysylltu Iesu, Joseff, a Mair gyda Nasareth.

Roedd un o berthnasau Mair, Elisabeth, yn byw yn Jwda. Hi oedd gwraig yr offeiriad Sechareia, a daeth hi’n fam i Ioan Fedyddiwr. (Luc 1:5, 9, 13, 36) Roedd Mair wedi mynd i Jwda i weld Elisabeth ac aros gyda hi am dri mis. Yna, aeth hi’n ôl i Nasareth. (Luc 1:39, 40, 56) Dyna pam roedd Mair yn gyfarwydd ag ardal Jwda.

Ymhen amser, gwnaeth Joseff deithio o Nasareth i Fethlehem er mwyn ufuddhau i’r gorchymyn i bawb “gael eu cofrestru.” Dyna oedd “dinas Dafydd,” ac yn ôl proffwydoliaeth, byddai’r Meseia yn cael ei eni yno. (Luc 2:3, 4; 1 Sam. 17:15; 20:6; Mich. 5:2) Ar ôl i Iesu gael ei eni yno, doedd Joseff ddim yn disgwyl i Mair fynd ar y daith hir yn ôl i Nasareth gyda babi bach. Arhoson nhw ym Methlehem, oedd tua 6 milltir (9 km) o Jerwsalem. Byddai felly yn gyfleus iddyn nhw fynd a’u babi i’r deml i gyflwyno’r offrwm yn ôl y Gyfraith.—Lef. 12:2, 6-8; Luc 2:22-24.

Cyn i Iesu gael ei eni, roedd angel wedi dweud wrth Mair y byddai ei mab yn derbyn “gorsedd Dafydd” ac yn “rheoli fel Brenin.” A oedd Joseff a Mair wedi deall pwysigrwydd Iesu yn cael ei eni yn ninas Dafydd? (Luc 1:32, 33; 2:11, 17) Efallai roedden nhw’n meddwl ei bod hi’n syniad da iddyn nhw aros yno nes iddyn nhw ffeindio allan beth roedd Duw eisiau iddyn nhw ei wneud nesaf.

Dydyn ni ddim yn gwybod am faint roedden nhw wedi bod ym Methlehem pan ddaeth rhai astrolegwyr atyn nhw. Ond erbyn hynny, roedd y teulu yn byw mewn tŷ, ac roedd eu mab yn ‘blentyn bach’ yn hytrach na babi. (Math. 2:11) Yn lle mynd yn ôl i Nasareth, mae’n ymddangos fel eu bod nhw wedi aros ym Methlehem yn ddigon hir i setlo yno.

Roedd Herod wedi “gorchymyn i ladd yr holl fechgyn ym Methlehem . . . a oedd yn ddwyflwydd oed neu lai.” (Math. 2:16) Gan fod angel wedi rhybuddio Joseff am hynny, dyma ef, Mair, ac Iesu yn ffoi i’r Aifft ac yn aros yno nes i Herod farw. Yn nes ymlaen, gwnaeth Joseff gymryd ei deulu i fyny i Nasareth. Pam na wnaethon nhw fynd yn ôl i Fethlehem? Ar y pryd, roedd mab Herod, Archelaus, yn rheoli Jwdea, ac roedd yn ddyn creulon. Ac unwaith eto, roedd angel wedi rhybuddio Joseff am y peryg o fynd yno. Felly, yn Nasareth, roedd Joseff yn gallu magu Iesu yn saff a’i ddysgu i addoli Duw.—Math. 2:19-22; 13:55; Luc 2:39, 52.

Mae’n ymddangos fel bod Joseff wedi marw cyn i aberth Iesu ei gwneud hi’n bosib i eraill fyw yn y nef. Felly, bydd Joseff yn cael ei atgyfodi i’r ddaear. Bydd llawer yn gallu ei gyfarfod, a’i holi am pam gwnaeth ef a Mair aros ym Methlehem ar ôl i Iesu gael ei eni.