Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Gwersi Hapus ac Annisgwyl yn Dod o Wasanaethu Jehofa

Gwersi Hapus ac Annisgwyl yn Dod o Wasanaethu Jehofa

WRTH dyfu i fyny, bob tro roeddwn i’n gweld awyren yn hedfan uwchben, roeddwn i’n ysu i hedfan i ryw wlad wahanol. Ond ar y pryd roedd hynny’n teimlo fel breuddwyd amhosib.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwnaeth fy rhieni adael Estonia a symud i’r Almaen, lle ges i fy ngeni. Yn fuan wedyn dechreuon nhw baratoi i symud i Ganada. Ein cartref cyntaf, ger Ottawa, Canada, oedd sied fach wen lle roedd ieir yn cadw cwmni â ni. Roedden ni’n dlawd iawn, ond o leiaf roedd gynnon ni wyau i frecwast.

Un diwrnod, darllenodd un o Dystion Jehofa yr adnodau yn Datguddiad 21:3, 4 i fy mam. Cyffyrddodd hyn â’i chalon gymaint nes iddi ddechrau crio. Gwnaeth fy mam a fy nhad barhau i astudio’r Beibl, ac ar ôl amser byr roedden nhw’n barod i gael eu bedyddio.

Er nad Saesneg oedd iaith gyntaf fy rhieni, gwnaethon nhw gymryd y gwir o ddifri. Bron bob dydd Sadwrn, hyd yn oed ar ôl gweithio drwy’r nos yn mwyndoddi nicel yn Sudbury, Ontario, roedd fy nhad yn mynd â fi a fy chwaer ifanc Sylvia, allan yn y weinidogaeth. A phob wythnos roedden ni’n astudio’r Tŵr Gwylio fel teulu. Roedd cariad at Dduw yn treiddio i lawr at fy nghalon i oherwydd beth roedd mam a dad yn ei ddysgu imi. Felly penderfynais gysegru fy mywyd i Jehofa ym 1956 pan oeddwn i’n ddeg mlwydd oed. Mae cariad cryf fy rhieni at Jehofa wedi rhoi nerth i mi drwy gydol fy mywyd.

Ar ôl gadael ysgol uwchradd, doeddwn i ddim yn canolbwyntio gymaint ar wasanaethu Jehofa. Roeddwn i wastad eisiau hedfan a gweld y byd, ac roeddwn i’n meddwl byddai arloesi yn fy stopio rhag gwneud hynny. Ges i swydd fel DJ gyda gorsaf radio leol, ac roeddwn i wrth fy modd. Ond roeddwn i’n gorfod gweithio nosweithiau ac o ganlyniad roeddwn i’n methu cyfarfodydd yn aml ac yn treulio amser gyda rhai doedd ddim yn caru Duw. Yn y pen draw, roedd fy nghydwybod a oedd wedi ei hyfforddi gan y Beibl yn fy mhigo i gymaint, nes imi newid cyfeiriad.

Gwnes i symud i Oshawa, Ontario a chyfarfod Ray Norman, ei chwaer Lesli, ac arloeswyr eraill. Gwnaethon nhw fy nghymryd i o dan eu hadain. Roedd gweld pa mor hapus oedden nhw yn fy ysgogi i i feddwl eto am fy amcanion. O ganlyniad, dechreuais arloesi ym mis Medi 1966. Roeddwn i’n mor hapus. Ond roedd pethau annisgwyl am ddigwydd a fyddai’n newid fy mywyd.

PAN FYDD JEHOFA’N DY WAHODD I WNEUD RHYWBETH, RHO GYNNIG ARNI

Tra oeddwn i dal yn yr ysgol uwchradd, rhoddais i gais i mewn i wasanaethu yn y Bethel yn Toronto, Canada. Yn hwyrach, pan oeddwn i’n arloesi, ges i wahoddiad i wasanaethu yn y Bethel am bedair blynedd. Ond roeddwn i wedi dod yn hoff iawn o Lesli, ac roedd gen i ofn y byddai derbyn y gwahoddiad yn golygu fyddwn i byth yn ei gweld hi eto. Ar ôl gweddïo yn hir ac yn daer, yn y pen draw gwnes i dderbyn y gwahoddiad i’r Bethel a ffarwelio â Lesli yn drist.

Gweithiais yng ngolchdy’r Bethel ac yna fel ysgrifennydd. Yn y cyfamser, daeth Lesli yn arloeswraig arbennig yn Gatineau, Cwebéc. Meddyliais amdani yn aml, ac amau fy mod i wedi gwneud y penderfyniad iawn. Yna digwyddodd rhywbeth arbennig. Cafodd Ray, brawd Lesli, ei wahodd i’r Bethel, ac roedden ni’n rhannu ystafell â’n gilydd! Gwnaeth hynny arwain imi gysylltu’n ôl â Lesli unwaith eto. Priodon ni ar Chwefror 27, 1971, diwrnod diwethaf fy aseiniad pedair blynedd.

Dechrau ar y gwaith cylch ym 1975

Cafodd Lesli a minnau yr aseiniad i wasanaethu mewn cynulleidfa Ffrangeg yng Nghwebéc. Ar ôl ychydig o flynyddoedd, roeddwn i wedi synnu i gael fy ngwahodd i fod yn arolygwr cylchdaith pan oeddwn i’n 28 mlwydd oed. Roeddwn i’n teimlo’n ifanc ac yn ddibrofiad, ond roedd y geiriau yn Jeremeia 1:7, 8 yn fy nghalonogi. Ond, roedd Lesli yn cael trafferth cysgu o ganlyniad i ddwy ddamwain car. Felly, a fyddai’r gwaith cylch yn ormod inni? Er hynny, dywedodd hi, “Os ydy Jehofa yn ein gwahodd ni i wneud rhywbeth, oni ddylen ni roi cynnig arni?” Gwnaethon ni dderbyn yr aseiniad a mwynhau’r gwaith cylch am 17 mlynedd.

Roedd y gwaith cylch yn brysur, ac weithiau doedd gen i ddim digon o amser i roi sylw i Lesli. Roedd rhaid imi ddysgu gwers arall. Un bore Llun, canodd y gloch. Doedd neb yno, ond ar y stepen drws roedd basged bicnic gyda lliain bwrdd, ffrwyth, caws, bara, botel o win, gwydrau, a nodyn heb enw oedd yn dweud, “Dos â dy wraig ar bicnic.” Roedd hi’n ddiwrnod braf a heulog, ond esboniais i Lesli fod gen i anerchiadau i’w paratoi a fyddai’n rhwystro imi fynd. Roedd hi’n deall yn iawn, ond yn drist. Wrth imi eistedd wrth y ddesg, dechreuodd fy nghydwybod fy mhoeni i. Daeth Effesiaid 5:25, 28 i fy meddwl. A oedd y geiriau hynny gan Jehofa yn fy annog i edrych ar ôl teimladau fy ngwraig? Ar ôl gweddïo, dywedais wrth Lesli, “Tyrd, awn ni,” ac roedd hi wrth ei bodd. Gwnaethon ni yrru i le hyfryd ger afon, a gosod y lliain bwrdd ar y llawr. Dyna oedd un o’r diwrnodau hapusaf rydyn ni erioed wedi ei gael. A gwnes i dal llwyddo i baratoi fy anerchiadau.

Cawson ni lawer o aseiniadau hapus yn y gwaith cylch, o Golumbia Brydeinig i’r Tir Newydd. Roedd fy awydd i deithio wedi dod yn realiti. Roeddwn i wedi meddwl am fynd i ysgol Gilead, ond doedd gen i ddim awydd bod yn genhadwr mewn gwlad arall. Yn fy meddwl i, roedd cenhadon yn bobl arbennig, a doeddwn i ddim yn teimlo’n gymwys. Ar ben hynny, roedd gen i ofn y bydden ni’n cael ein gyrru i wlad yn Affrica lle roedd ’na heintiau a rhyfeloedd. Roeddwn i’n hapus ble roeddwn i.

GWAHODDIAD ANNISGWYL I FYND I ESTONIA A GWLEDYDD BALTIG

Teithio trwy’r gwledydd Baltig

Ym 1992, roedd y gwaith yn agor i fyny mewn rhai o’r gwledydd a oedd wedi bod yn rhan o’r Undeb Sofietaidd. Felly gofynnodd y brodyr a fydden ni’n fodlon symud i Estonia i fod yn genhadon. Roedd hyn yn syndod mawr inni, ond gwnaethon ni weddïo amdano. Unwaith eto, meddylion ni, ‘Os ydy Jehofa yn ein gwahodd ni i wneud rhywbeth, oni ddylen ni roi cynnig arni?’ Wedi derbyn yr aseiniad, meddyliais, ‘Wel, o leiaf dydyn ni ddim yn mynd i Affrica.’

Dechreuon ni ddysgu’r iaith Estoneg yn syth. Ar ôl ychydig o fisoedd yn y wlad, cawson ni ein gwahodd i wneud gwaith cylch. Yr aseiniad oedd ymweld â rhyw 46 o gynulleidfaoedd a grwpiau mewn tri o’r gwledydd Baltig, yn ogystal â Kaliningrad, Rwsia. Roedd hynny’n golygu ceisio dysgu ychydig o Latfieg, Lithwaneg, a Rwseg—dipyn o her! Er hynny, roedd y brodyr yn gwerthfawrogi ein hymdrechion, a gwnaethon nhw ein helpu ni. Ym 1999, cafodd swyddfa gangen ei hagor yn Estonia. Ac fe ges i’r aseiniad o wasanaethu ar bwyllgor y gangen gyda Toomas Edur, Lembit Reile, a Tommi Kauko.

I’r chwith: Siarad mewn cynhadledd yn Lithwania

I’r dde: Pwyllgor Cangen Estonia, gafodd ei ffurfio ym 1999

Daethon ni i adnabod llawer o Dystion oedd wedi cael eu halltudio i Siberia yn y gorffennol. Er gwaetha’r gamdriniaeth yn y carchar a chael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, doedden nhw byth yn chwerw. Roedd eu llawenydd a’u sêl am y weinidogaeth yn llosgi’n gryf yn eu calonnau. Dysgon ni o’u hesiamplau nhw ein bod ni’n gallu dal ati a bod yn llawen er gwaethaf amgylchiadau anodd.

Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio heb lawer o ddyddiau i orffwys, dechreuodd Lesli deimlo’n hynod o flinedig. Wnaethon ni ddim sylweddoli ar y pryd bod ganddi ffibromyalgia. Roedden ni’n meddwl o ddifri am fynd yn ôl i Ganada. Pan gawson ni ein gwahodd i Patterson, Efrog Newydd, UDA, am hyfforddiant, roeddwn i’n amau na fydden ni’n gallu mynd. Ond, ar ôl gweddïo’n daer, gwnaethon ni dderbyn y gwahoddiad, a gwnaeth Jehofa fendithio ein penderfyniad. Tra oedden ni yn yr ysgol hyfforddi, derbyniodd Lesli’r sylw meddygol oedd hi ei angen. Fel canlyniad, roedden ni’n gallu dal ati yn ein haseiniad.

GWAHODDIAD ANNISGWYL—CYFANDIR ARALL

Yn ôl yn Estonia, yn 2008, ges i alwad gan y pencadlys yn gofyn inni dderbyn aseiniad yn Congo—am syndod! Yn enwedig gan fod rhaid imi roi ateb y diwrnod wedyn. Doeddwn i ddim eisiau poeni Lesli, felly dywedais dim wrthi. Ond, fi oedd yr un oedd yn poeni ac yn gweddïo drwy’r nos am fy mhryderon ynglŷn â mynd i Affrica.

Y diwrnod wedyn, ar ôl imi rannu’r newyddion â Lesli, gwnaethon ni resymu, “Mae Jehofa’n ein gwahodd ni i fynd i Affrica. Os nad ydyn ni trio, sut byddwn ni’n gwybod os ydyn ni’n gallu?” Felly ar ôl 16 mlynedd yn Estonia, gwnaethon ni hedfan i Kinshasa, Congo. Roedd gan y swyddfa gangen ardd hyfryd, ac roedd yn heddychlon iawn. Un o’r pethau cyntaf rhoddodd Lesli ar wal ein hystafell oedd cerdyn roedd hi wedi ei gadw ers gadael Canada a oedd yn dweud, “Blodeua yn lle rwyt ti wedi cael dy blannu.” Roedd ein llawenydd yn cynyddu ar ôl cwrdd â’r brodyr, cynnal astudiaethau Beiblaidd, a phrofi’r bendithion o fod yn genhadon. Mewn amser, cawson ni’r fraint o ymweld â changhennau mewn rhyw 13 o wledydd eraill yn Affrica. Roedd hyn yn agor ein llygaid i weld amrywiaeth a harddwch y bobl. Diflannodd unrhyw bryderon oedd gen i gynt am fod yn Affrica, a gwnaethon ni ddiolch i Jehofa am ein hanfon ni yno.

Yn Congo, cawson ni ein cyflwyno i fwydydd newydd doedden ni erioed wedi bwyta o’r blaen, fel pryfed. Ond wrth weld ein brodyr yn mwynhau eu bwyta nhw, gwnaethon ni eu blasu nhw ac er syndod, gwnaethon ni fwynhau.

Gwnaethon ni deithio i ddwyrain y wlad i fynd â chymorth materol ac ysbrydol i’r brodyr. Yn y llefydd yna, roedd grwpiau o filwyr yn ymosod ar bentrefi ac yn anafu merched a phlant. Doedd gan y brodyr ddim llawer o bethau materol. Ond roedd eu gobaith cryf yn yr atgyfodiad, eu cariad at Jehofa, a’u ffyddlondeb i’w gyfundrefn, yn cyffwrdd â’n calonnau. Roedd eu hesiampl yn ein hysgogi ni i feddwl am pam rydyn ni’n gwasanaethu Jehofa, ac yn cryfhau ein ffydd ynddo. Roedd rhai o’r brodyr wedi colli eu cnydau a’u cartrefi. Gwnaeth hyn wneud imi feddwl am ba mor sydyn gall pethau materol ddiflannu a pha mor werthfawr ydy cyfoeth ysbrydol. Er gwaetha’r caledi enbyd, doedd y brodyr ddim yn cwyno’n aml. Roedd eu hagwedd nhw yn ein hannog ni i wynebu ein treialon a phroblemau iechyd â dewrder.

I’r chwith: Rhoi anerchiad i grŵp o ffoaduriaid

I’r dde: Cymryd nwyddau a meddyginiaeth i Dungu, Congo

BLAS AR ASIA

Yna daeth gwahoddiad annisgwyl eto i symud i’r gangen yn Hong Cong. Doedd symud i’r Dwyrain Pell erioed wedi dod i’n meddyliau ni! Ond roedden ni wedi gweld llaw gariadus Jehofa ym mhob aseiniad arall, felly derbynion ni’r gwahoddiad. Yn 2013, gyda dagrau yn ein llygaid, gadawon ni ein ffrindiau annwyl yn Affrica, heb wybod beth oedd o’n blaenau ni.

Roedd hi’n dipyn o newid inni i symud i ddinas fawr fel Hong Cong. Roedd yr iaith Cantoneg yn her, ond cawson ni groeso cynnes gan y brodyr, ac roedd y bwyd yn flasus iawn. Roedd y gwaith yn cynyddu’n gyflym, ond roedd prisiau tai yn mynd trwy’r to. Felly gwnaeth y Corff Llywodraethol benderfynu i werthu’r rhan fwyaf o adeiladau’r gangen. Yn fuan wedyn, yn 2015, cawson ni ein symud i De Corea, ble rydyn ni’n dal i wasanaethu heddiw. Yma mae ’na iaith heriol arall, ond er ein bod ni’n parhau i ddysgu Coreeg, mae’r brodyr a’r chwiorydd yn gweld ein cynnydd ac mae hynny’n ein calonogi ni.

I’r chwith: Barod am fywyd yn Hong Cong

I’r dde: Cangen Corea

GWERSI RYDYN NI WEDI EU DYSGU

Dydy gwneud ffrindiau newydd ddim bob tro yn hawdd, ond mae cymryd y cam cyntaf i fod yn lletygar yn ein helpu ni i ddod i adnabod pobl yn gynt. Rydyn ni wedi gweld ein bod ni’n fwy tebyg i’n brodyr nag oedden ni’n disgwyl, ac mae Jehofa wedi ein creu ni mewn ffordd ryfeddol gyda’r gallu i agor ein calonnau a charu gymaint o ffrindiau.—2 Cor. 6:11.

Mae Jehofa wedi ein dysgu bod angen inni dderbyn pobl fel mae ef yn ei wneud, ac edrych am dystiolaeth o gariad ac arweiniad Jehofa yn ein bywydau. Bryd bynnag roedden ni’n teimlo’n isel neu’n amau a oedd y brodyr a’r chwiorydd yn ein hoffi ni, roedden ni’n ail-ddarllen cardiau a llythyrau roedd ffrindiau wedi eu hanfon aton ni i’n calonogi ni. Heb os, mae Jehofa wedi ateb ein gweddïau ac mae’n amlwg yn ein caru ac yn ein cryfhau.

Dros y blynyddoedd, mae Lesli a minnau wedi sylweddoli pa mor bwysig yw hi i wneud amser i’n gilydd, ni waeth pa mor brysur ydyn ni. Rydyn ni hefyd wedi dysgu pa mor bwysig yw chwerthin am ein camgymeriadau, yn enwedig wrth drio dysgu iaith newydd. A phob nos, rydyn ni’n ceisio meddwl am rywbeth rydyn ni wedi ei fwynhau i ddiolch i Jehofa amdano.

Fyddwn i byth wedi dychmygu byddwn i’n gallu bod yn genhadwr mewn gwledydd eraill. Ond rydw i wedi cael llawenydd mawr o ddysgu bod pob peth yn bosib gyda help Jehofa. Mae geiriau’r proffwyd Jeremeia yn dod i fy meddwl: “ARGLWYDD, ti wedi fy nhwyllo i.” (Jer. 20:7) Yn sicr, mae wedi rhoi inni lawer o fendithion annisgwyl ac anhygoel, hyd yn oed yn gwireddu fy mreuddwyd o hedfan mewn awyren. Rydyn ni wedi hedfan i gymaint o wledydd gwahanol, ac wedi cael ein haseinio i ymweld â changhennau ar bum cyfandir. Rydw i mor ddiolchgar i Lesli am ei chefnogaeth yn ein holl aseiniadau.

Rydyn ni wastad yn ceisio cofio ein bod ni’n gwneud popeth oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa. Mae’r bendithion rydyn ni’n eu mwynhau heddiw yn rhoi blas inni o ba mor rhyfeddol fydd hi i fyw am byth pan fydd Jehofa yn agor ei law ac yn rhoi popeth “sydd ei angen i bob creadur byw.”—Salm 145:16.