Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 25

Henuriaid—Dysgwch Oddi Wrth Esiampl Gideon

Henuriaid—Dysgwch Oddi Wrth Esiampl Gideon

“Does gen i ddim digon o amser i fynd ymlaen i sôn am Gideon.”—HEB. 11:32.

CÂN 124 Bythol Ffyddlon

CIPOLWG a

1. Pa fraint sydd gan henuriaid yn ôl 1 Pedr 5:2?

 MAE gan henuriaid y cyfrifoldeb o ofalu am ddefaid gwerthfawr Jehofa. Maen nhw’n gweithio’n galed i fugeilio a “gofalu’n iawn” am eu brodyr a’u chwiorydd ac maen nhw’n trysori’r fraint o wneud hynny. (Jer. 23:4; darllen 1 Pedr 5:2.) Rydyn ni mor ddiolchgar i gael dynion fel hyn yn ein cynulleidfaoedd.

2. Pa heriau sy’n wynebu rhai henuriaid?

2 Ystyria rai o’r heriau sy’n wynebu henuriaid. I ddechrau, mae gofalu am gynulleidfa yn gofyn am lawer o waith. Roedd yn rhaid i Tony, henuriad yn yr Unol Daleithiau, ddysgu i fod yn wylaidd ynglŷn â faint o waith roedd yn cytuno i’w wneud. Mae’n esbonio: “Ar ddechrau pandemig COVID-19, ceisiais wneud mwy o waith yn trefnu’r cyfarfodydd a’r weinidogaeth. Ond roedd ’na gymaint i’w wneud. Yn y pen draw, roedd fy rhaglen o ddarllen y Beibl, astudiaeth bersonol a gweddi yn dechrau dioddef.” Roedd Ilir, henuriad yn Cosofo, yn wynebu her wahanol. Roedd yn ei chael hi’n anodd bod yn ufudd i arweiniad y gyfundrefn yn ystod rhyfel. Mae’n dweud: “Ces i aseiniad gan y swyddfa gangen i helpu’r brodyr a’r chwiorydd mewn ardal beryglus. Ond doedd yr arweiniad ddim i’w weld yn ymarferol ac roeddwn i’n ofnus.” Roedd cenhadwr yn Asia o’r enw Tim yn ei chael hi’n anodd gwneud popeth oedd ei angen o ddydd i ddydd. Dywedodd: “Weithiau, ro’n i wedi blino’n lân, yn feddyliol ac yn emosiynol.” Beth all helpu henuriaid sy’n wynebu heriau fel hyn?

3. Sut gall pawb elwa o ystyried esiampl y Barnwr Gideon?

3 Mae’r Barnwr Gideon yn esiampl dda i henuriaid heddiw. (Heb. 6:12; 11:32) Roedd yn amddiffyn pobl Dduw a’u bugeilio. (Barn. 2:16; 1 Cron. 17:6) Fel Gideon, mae henuriaid heddiw wedi eu penodi i ofalu am bobl Dduw yn ystod cyfnod anodd iawn. (Act. 20:28; 2 Tim. 3:1) Gallwn ni i gyd ddysgu o esiampl Gideon o ran bod yn wylaidd, yn ostyngedig, ac yn ufudd. Roedd angen iddo ddyfalbarhau wrth gyflawni ei aseiniadau. P’un a wyt ti’n henuriad neu beidio, gelli di ddangos dy fod ti’n ddiolchgar am y dynion ysbrydol hyn a chefnogi eu gwaith caled.—Heb. 13:17.

PAN MAE’N ANODD BOD YN WYLAIDD AC YN OSTYNGEDIG

4. Sut dangosodd Gideon ei fod yn ostyngedig ac yn wylaidd?

4 Roedd Gideon yn ddyn wylaidd a gostyngedig. b Pan ddywedodd angel wrtho ei fod wedi cael ei ddewis i achub Israel rhag y Midianiaid, dywedodd yn ostyngedig: “Dw i’n dod o’r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!” (Barn. 6:15) Doedd Gideon ddim yn teimlo’n gymwys am yr aseiniad, ond roedd Jehofa yn gwybod yn well. Gyda help Jehofa, llwyddodd Gideon i gyflawni ei aseiniad.

5. Beth gall ei gwneud hi’n anodd i henuriad fod yn wylaidd ac yn ostyngedig?

5 Mae henuriaid yn gwneud eu gorau i fod yn wylaidd ac yn ostyngedig bob amser. (Mich. 6:8; Act. 20:18, 19) Dydyn nhw ddim yn brolio am eu galluoedd neu am yr hyn maen nhw wedi ei wneud. Hefyd dydyn nhw ddim yn rhy galed arnyn nhw eu hunain os ydyn nhw’n gwneud camgymeriadau neu oherwydd eu gwendidau. Ond pa bethau all ei gwneud hi’n anodd i henuriad fod yn wylaidd ac yn ostyngedig? Efallai bydd yn derbyn nifer o aseiniadau ac yna’n cael trafferth eu cyflawni nhw i gyd. Neu efallai bydd rhywun yn ei ganmol am y ffordd y gwnaeth un aseiniad, neu’n cwyno am y ffordd mae wedi mynd ati mewn aseiniad arall. Sut gall esiampl Gideon helpu henuriaid mewn sefyllfaoedd o’r fath?

Mae henuriad gwylaidd yn dilyn esiampl Gideon ac yn fodlon gofyn am help, er enghraifft wrth drefnu tystiolaethu cyhoeddus (Gweler paragraff 6)

6. Beth gall henuriaid ei ddysgu am wyleidd-dra o esiampl Gideon? (Gweler hefyd y llun.)

6 Gofynna am help. Mae rhywun sy’n wylaidd yn gwybod nad yw’n gallu gwneud popeth. Dyna’r math o berson oedd Gideon, felly roedd yn barod i ofyn i eraill am help. (Barn. 6:27, 35; 7:24) Mae henuriaid doeth yn gwneud yr un peth. Esboniodd Tony, a ddyfynnwyd ynghynt: “Oherwydd y ffordd ces i fy magu, roeddwn i’n tueddu i dderbyn mwy o waith nag roeddwn i’n gallu ei wneud. Felly penderfynais drafod gwyleidd-dra yn ystod ein haddoliad teuluol a gofyn i fy ngwraig am ei barn. Hefyd, gwyliais y fideo Train, Trust, and Empower Others, as Jesus Does, ar jw.org.” Ar ôl hynny, dechreuodd Tony ofyn i eraill ei helpu gyda’i waith. Mae Tony yn esbonio beth oedd y canlyniad: “Mae’r gwaith yn y gynulleidfa yn cael ei wneud, ac mae gen i fwy o amser ar gyfer pethau ysbrydol.”

7. Sut gall henuriaid efelychu Gideon os bydd eraill yn pigo beiau? (Iago 3:13)

7 Ymateba’n addfwyn os bydd eraill yn pigo beiau. Gall fod yn anodd i henuriaid os ydy eraill yn beirniadu eu gwaith. Ond eto, gall esiampl Gideon eu helpu. Roedd Gideon yn gwybod nad oedd yn berffaith, ac felly ymatebodd yn addfwyn pan aeth dynion Effraim ato i gwyno. (Barn. 8:1-3) Yn hytrach na digio, dangosodd Gideon ei fod yn ostyngedig drwy wrando ar eu pryderon a siarad yn garedig â nhw. Roedd hyn yn tawelu’r sefyllfa. Pan fydd henuriaid yn efelychu Gideon drwy wrando’n ofalus ac ymateb yn addfwyn, mae’n cyfrannu at heddwch y gynulleidfa.—Darllen Iago 3:13.

8. Sut dylai dynion apwyntiedig ymateb wrth dderbyn clod? Rho esiampl.

8 Rho’r clod i Jehofa. Pan gafodd Gideon ei ganmol am y fuddugoliaeth dros Midian, cyfeiriodd y clod at Jehofa. (Barn. 8:22, 23) Gall dynion apwyntiedig efelychu Gideon drwy roi’r clod i Jehofa am y pethau maen nhw’n eu cyflawni. (1 Cor. 4:6, 7) Er enghraifft, os bydd henuriad yn cael ei ganmol am ei sgiliau dysgu, gallai dynnu sylw at Air Duw, ffynhonnell yr arweiniad, neu at yr hyfforddiant rydyn ni’n ei gael gan gyfundrefn Jehofa. Byddai’n dda i henuriaid ystyried a ydyn nhw’n tynnu gormod o sylw atyn nhw eu hunain yn y ffordd maen nhw’n dysgu. Ystyria brofiad Timothy, a oedd wrth ei fodd yn rhoi anerchiadau cyhoeddus pan oedd yn henuriad newydd. Mae’n dweud: “Byddwn i’n defnyddio cyflwyniadau ac eglurebau hir a chymhleth, ac yn aml, roedd eraill yn fy nghanmol. Ond yn anffodus, fi oedd yn cael y sylw yn lle Jehofa a’r Beibl.” Ymhen amser, sylweddolodd Timothy fod angen newid ei ffordd o ddysgu er mwyn peidio â thynnu gormod o sylw ato ef ei hun. (Diar. 27:21) Beth oedd y canlyniad? Mae’n esbonio: “Nawr mae fy mrodyr a chwiorydd yn sôn am sut mae fy anerchiadau wedi eu helpu nhw i ddelio â phroblemau, i wynebu treialon, neu i agosáu at Jehofa. Mae clywed y sylwadau hyn yn fy ngwneud i’n hapusach nag oeddwn i flynyddoedd yn ôl pan oeddwn i’n cael y clod.”

PAN FYDD HI’N ANODD BOD YN DDEWR NEU’N UFUDD

Yn hollol ufudd, gwnaeth Gideon leihau maint ei fyddin, gan ddewis 300 o ddynion wnaeth ddangos eu bod nhw’n wyliadwrus (Gweler paragraff 9)

9. Pam roedd hi’n anodd i Gideon fod yn ufudd ac yn ddewr? (Gweler y llun ar y clawr.)

9 Roedd angen i Gideon fod yn ddewr ac yn ufudd ar ôl iddo gael ei benodi’n farnwr. Pam? Cafodd aseiniad peryglus iawn, sef i ddinistrio allor Baal ei dad. (Barn. 6:25, 26) Yn nes ymlaen, ar ôl casglu byddin at ei gilydd, dywedodd Jehofa wrth Gideon am leihau nifer y milwyr, a hynny nid unwaith ond ddwywaith. (Barn. 7:2-7) Wedyn dywedodd Jehofa wrtho am ymosod ar y gelyn yng nghanol y nos.—Barn. 7:9-11.

10. Beth all ei gwneud hi’n anodd i henuriad fod yn ufudd?

10 Dylai henuriaid fod “yn barod i ufuddhau.” (Iago 3:17) Mae hynny yn golygu dilyn beth mae’r Beibl yn ei ddweud yn ogystal ag arweiniad gan gyfundrefn Duw. Pan fydd henuriad yn gwneud hynny, mae’n gosod esiampl dda i eraill. Ond dydy hi ddim wastad yn hawdd. Er enghraifft, gallai ei chael hi’n anodd darllen yr holl gyfarwyddiadau sy’n gallu newid yn gyflym, a’u rhoi nhw ar waith. Weithiau gallai hyd yn oed dechrau meddwl nad ydy’r cyfarwyddyd yn ymarferol neu’n ddoeth. Neu gallai gael ei wahodd i dderbyn aseiniad lle mae peryg iddo gael ei arestio. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, sut gall henuriaid fod yn ufudd fel Gideon?

11. Beth all helpu henuriaid i fod yn ufudd?

11 Gwranda’n astud ar arweiniad a’i roi ar waith. Dywedodd Duw wrth Gideon sut i fynd ati i ddinistrio allor ei dad, ble i adeiladu allor newydd i Jehofa, a pha anifail i’w offrymu. Wnaeth Gideon ddim cwestiynu’r cyfarwyddiadau. Fe wnaeth yn union beth ddywedodd Jehofa wrtho. Heddiw, mae henuriaid yn derbyn arweiniad gan gyfundrefn Jehofa drwy lythyrau, cyhoeddiadau, a chanllawiau sy’n ein harbed ni’n gorfforol ac yn ysbrydol. Pan fydd henuriaid yn dilyn cyfarwyddiadau’n ffyddlon, mae’r gynulleidfa gyfan yn elwa. Rydyn ni’n caru ein henuriaid yn fawr iawn am hynny.—Salm 119:112.

12. Sut gall henuriaid roi Hebreaid 13:17 ar waith, os bydd arweiniad theocrataidd yn newid?

12 Bydda’n barod i addasu. Cofia fod Gideon wedi dilyn cyfarwyddyd Jehofa ac anfon 99 y cant o’i fyddin adref. (Barn. 7:8) Efallai ei fod wedi meddwl: ‘Oes wir angen gwneud hyn? A fydd hyn yn gweithio?’ Er hynny, roedd Gideon yn ufudd. Heddiw, mae henuriaid yn efelychu Gideon drwy ufuddhau pan mae’r gyfundrefn yn dweud wrthyn nhw am newid y ffordd maen nhw’n gwneud pethau. (Darllen Hebreaid 13:17.) Er enghraifft, yn 2014, newidiodd y Corff Llywodraethol y ffordd mae prosiectau adeiladu Neuaddau’r Deyrnas a Neuaddau Cynulliad yn cael eu hariannu. (2 Cor. 8:12-14) Yn y gorffennol, byddai’r gyfundrefn yn benthyg arian i gynulleidfaoedd ar gyfer prosiectau adeiladu. Ond nawr mae cyfraniadau gan gynulleidfaoedd ar draws y byd yn cael eu defnyddio i adeiladau neuaddau, ble bynnag bydd eu hangen, hyd yn oed os nad yw’r gynulleidfa leol yn gallu cyfrannu llawer. Pan glywodd José am hyn, roedd yn amau na fyddai’n gweithio, gan feddwl: ‘Fydd ddim un Neuadd y Deyrnas yn cael ei hadeiladu. Nid dyna’r ffordd mae pethau’n cael eu gwneud yn y rhan hon o’r byd.’ Beth helpodd José i ddilyn yr arweiniad? Dywedodd: “Roedd y geiriau yn Diarhebion 3:5, 6 yn fy atgoffa i drystio Jehofa. Ac mae’r canlyniadau yn fendigedig! Nid yn unig rydyn ni’n adeiladu mwy o Neuaddau, ond rydyn ni wedi dysgu i gyfrannu mewn ffyrdd gwahanol, fel bod pawb yn gyfartal.”

Gallwn ni ddangos dewrder drwy dystiolaethu hyd yn oed ble mae ein gwaith wedi ei wahardd (Gweler paragraff 13)

13. (a) Beth roedd Gideon yn sicr ohono? (b) Sut gall henuriaid efelychu Gideon? (Gweler hefyd y llun)

13 Bydda’n ddewr wrth wneud ewyllys Jehofa. Er bod Gideon yn ofnus a gydag aseiniad peryglus, roedd yn ufudd i Jehofa. (Barn. 9:16, 17) Dywedodd Jehofa wrth Gideon y byddai’n ei gefnogi wrth iddo amddiffyn pobl Dduw. Roedd Gideon felly yn hollol hyderus yn Nuw. Mae henuriaid sy’n byw mewn gwledydd lle mae’r gwaith wedi ei wahardd yn efelychu Gideon. Maen nhw’n cymryd y blaen yn y cyfarfodydd ac yn y weinidogaeth, er gwaetha’r posibilrwydd y byddan nhw’n cael eu harestio, eu croesholi, colli eu swyddi, neu gael eu curo. c Yn ystod y trychineb mawr, bydd angen i henuriaid fod yn ddewr er mwyn ufuddhau i’r cyfarwyddiadau ni waeth beth fydd y peryglon. Er enghraifft, efallai cawn ni gyfarwyddiadau am gyhoeddi neges o farn sydd yn debyg i genllysg, ac am sut i oroesi ymosodiad Gog o dir Magog.—Esec. 38:18; Dat. 16:21.

PAN FYDD HI’N ANODD DYFALBARHAU

14. Pam roedd hi’n anodd i Gideon ddyfalbarhau?

14 Roedd aseiniad Gideon fel barnwr yn cynnwys llawer o waith corfforol. Pan wnaeth y Midianiaid ffoi o’r frwydr yng nghanol y nos, aeth Gideon ar eu holau nhw. Roedd hynny’n golygu mynd yr holl ffordd o Ddyffryn Jesreel at afon Iorddonen. (Barn. 7:22) Efallai roedd ’na lawer o lwyni o gwmpas yr afon. Ond wnaeth Gideon ddim stopio ar ôl cyrraedd yr afon. Er ei fod wedi blino, gwnaeth ef a’i 300 o ddynion groesi’r afon a pharhau i fynd ar ôl y Midianiaid. O’r diwedd, dyma nhw’n dal i fyny gyda nhw ac yn eu gorchfygu.—Barn. 8:4-12.

15. Pam mae hi weithiau’n anodd i henuriaid ddyfalbarhau?

15 Ar adegau, efallai bydd gofalu am ei deulu a’r gynulleidfa yn gwneud i henuriad flino’n lân yn gorfforol, yn feddyliol, ac yn emosiynol. Sut gall henuriaid efelychu Gideon os ydyn nhw’n teimlo fel ’na?

Mae henuriaid cariadus wedi llwyddo i atgyfnerthu llawer sydd angen cymorth (Gweler paragraffau 16-17)

16-17. Beth wnaeth helpu Gideon i ddyfalbarhau, a beth gall henuriaid fod yn sicr ohono? (Eseia 40:28-31) (Gweler hefyd y llun.)

16 Trystia Jehofa i dy gryfhau di. Roedd Gideon yn hyderus y byddai Jehofa yn rhoi nerth iddo, a chafodd ef ddim ei siomi. (Barn. 6:14, 34) Un tro, roedd Gideon a’i ddynion yn rhedeg ar ôl dau o frenhinoedd Midian, a oedd efallai ar gefn camelod. (Barn. 8:12, 21) Ond gyda help Duw, gwnaeth yr Israeliaid ddal i fyny gyda nhw ac ennill y frwydr. Gall henuriaid hefyd ddibynnu ar Jehofa oherwydd “Dydy ei nerth e ddim yn pallu; Dydy e byth yn blino.” Bydd yn rhoi nerth iddyn nhw pan maen nhw ei angen.—Darllen Eseia 40:28-31.

17 Mae Matthew yn aelod o’r Pwyllgor Cyswllt Ysbytai. Ystyria beth sy’n ei helpu i ddyfalbarhau. Mae’n dweud: “Dw i wedi gweld Philipiaid 4:13 ar waith yn fy mywyd. Sawl gwaith, pan o’n i wedi blino ac wedi fy llethu’n llwyr, wnes i erfyn ar Dduw am yr egni corfforol a meddyliol i allu cefnogi fy mrodyr. Ar adegau fel ’na, dw i wedi teimlo ysbryd Jehofa yn rhoi egni imi, ac yn fy helpu i ddyfalbarhau.” Fel Gideon, mae ein henuriaid yn gweithio’n galed i ofalu am bobl Jehofa er dydy hynny ddim wastad yn hawdd. Wrth gwrs, dylen nhw fod yn wylaidd a sylweddoli dydyn nhw ddim yn gallu gwneud popeth. Ond gallan nhw fod yn hollol hyderus y bydd Jehofa yn gwrando ar eu gweddïau am help ac yn rhoi’r nerth maen nhw eu angen i ddyfalbarhau.—Salm 116:1; Phil. 2:13.

18. Sut gall henuriaid efelychu Gideon?

18 Pa wersi ymarferol gall henuriaid eu dysgu oddi wrth Gideon? Dylai henuriaid fod yn wylaidd ac yn ostyngedig ynglŷn â faint o waith maen nhw’n cytuno i’w wneud, a hefyd yn y ffordd maen nhw’n ymateb i ganmoliaeth neu i gwynion. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn ufudd ac yn ddewr, yn enwedig wrth i ddiwedd y system hon agosáu. Ac mae angen iddyn nhw drystio y bydd Jehofa yn eu cryfhau nhw ni waeth pa heriau maen nhw’n eu hwynebu. Yn bendant, rydyn ni’n gwerthfawrogi gwaith caled y bugeiliaid hyn, ac yn parhau “i feddwl yn fawr o ddynion o’r fath.”—Phil. 2:29.

CÂN 120 Efelychu Addfwynder Crist

a Cafodd Gideon ei benodi gan Jehofa i fugeilio ac i warchod Ei bobl yn ystod cyfnod heriol iawn yn hanes Israel. Er gwaethaf yr heriau, fe wnaeth Gideon gyflawni ei aseiniad yn ffyddlon am ryw 40 o flynyddoedd. Dewch inni weld sut gall henuriaid heddiw ddysgu o’i esiampl wrth iddyn nhw wynebu treialon.

b Mae gwyleidd-dra a gostyngeiddrwydd yn debyg iawn. Mae bod yn wylaidd yn golygu peidio â meddwl gormod ohonon ni’n hunain a deall bod rhai pethau na allwn ni mo’u gwneud. Ac os ydyn ni’n ostyngedig, byddwn ni’n parchu eraill ac yn eu hystyried nhw’n bwysicach na ni. (Phil. 2:3) Fel arfer, mae rhywun gwylaidd hefyd yn ostyngedig.

c Gweler yr erthygl “Dal Ati i Wasanaethu Jehofa o dan Waharddiad” yn rhifyn Gorffennaf 2019, y Tŵr Gwylio, tt. 10-11, par. 10-13.