Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 27

Pam Dylen Ni Ofni Jehofa?

Pam Dylen Ni Ofni Jehofa?

“Mae Jehofa yn ffrind agos i’r rhai sy’n ei ofni.”—SALM 25:14, NWT.

CÂN 8 Jehofa Yw Ein Noddfa

CIPOLWG a

1-2. Yn ôl Salm 25:14, NWT beth sy’n rhaid inni ei wneud i fod yn ffrind agos i Jehofa?

 PA RINWEDDAU dylai ffrindiau agos eu dangos? Mae’n debyg fyddet ti’n dweud dylen nhw garu a pharchu ei gilydd. Ond mae’n debyg fyddet ti byth yn meddwl dylai ffrindiau da ofni ei gilydd. Sut bynnag, fel sy’n cael ei ddangos yn yr adnod sy’n thema i’r erthygl hon, er mwyn bod yn ffrind agos i Jehofa mae’n rhaid inni “ei ofni.”—Darllen Salm 25:14, NWT o’r troednodyn. b

2 Ni waeth pa mor hir rydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa, rydyn ni i gyd angen parhau i ofni Duw. Ond beth mae hynny’n ei olygu? Sut gallwn ni ddysgu i ofni Jehofa? A beth gallwn ni ei ddysgu am ofni Duw o esiamplau’r stiward Obadeia, yr Archoffeiriad Jehoiada, a’r Brenin Jehoas?

BETH MAE’N EI OLYGU I OFNI DUW?

3. Disgrifia beth sy’n achosi inni deimlo ofn, a sut gall hynny ein hamddiffyn ni.

3 Efallai byddwn ni’n teimlo’n ofnus os ydyn ni’n meddwl ein bod ni am gael ein niweidio. Gall y math hwn o ofn fod yn dda inni achos mae’n ein helpu ni i wneud penderfyniadau da. Er enghraifft wrth gerdded ar glogwyn, bydd ofn yn ein stopio ni rhag mynd yn rhy agos i’r ochr. Ac mewn sefyllfa beryglus, gall ofn cael ein niweidio ein hysgogi ni i redeg i ffwrdd. A gall ofn brifo ffrind rydyn ni’n ei garu ein dal ni’n ôl rhag dweud na gwneud rhywbeth angharedig.

4. Ym mha ffordd mae Satan eisiau inni ofni Jehofa?

4 Mae Satan eisiau i bobl fod â’r math anghywir o ofn tuag at Jehofa. Mae eisiau inni gredu bod Jehofa yn Dduw creulon a gwyllt sy’n amhosib ei blesio, fel dywedodd Eliffas wrth Job. (Job 4:18, 19) Nod Satan ydy inni ofni Jehofa cymaint nes inni stopio ei wasanaethu. I osgoi’r fagl honno, rydyn ni angen datblygu’r math cywir o ofn tuag at Dduw.

5. Beth mae’n ei olygu i ofni Duw?

5 Mae rhywun sy’n ofni Duw yn y ffordd iawn yn ei garu, a dydy ef ddim eisiau gwneud unrhyw beth a fyddai’n niweidio ei berthynas â Duw. Roedd gan Iesu y math hwnnw o “ofn duwiol.” (Heb. 5:7) Doedd ef ddim yn ofni Duw mewn ffordd arswydus. (Esei. 11:2, 3) Yn hytrach, roedd ganddo gariad dwfn tuag ato ac roedd eisiau ufuddhau iddo. (Ioan 14:21, 31) Fel Iesu, rydyn ni’n parchu Jehofa yn fawr iawn oherwydd Ei fod mor gariadus, doeth, cyfiawn, a phwerus. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod Jehofa yn ein caru ni yn fawr iawn, ac mae ganddo ddiddordeb yn y ffordd rydyn ni’n ymateb i’w arweiniad. Mae’r ffordd rydyn ni’n ymddwyn naill ai yn gallu brifo Jehofa neu ei wneud yn hapus.—Salm 78:41; Diar. 27:11.

DYSGU I OFNI DUW

6. Beth yw un ffordd gallwn ni ddysgu i ofni Duw? (Salm 34:11, BCND)

6 Dydy ofn Duw ddim yn dod yn awtomatig, mae’n rhywbeth sy’n rhaid inni ei feithrin. (Darllen Salm 34:11, BCND.) Un ffordd gallwn ni wneud hynny ydy drwy edrych ar ei greadigaeth. Pan ydyn ni’n gweld doethineb, nerth, a chariad Jehofa yn “y pethau mae ef wedi eu creu,” bydd gynnon ni fwy o barch a chariad tuag ato. (Rhuf. 1:20) Dywedodd chwaer o’r enw Adrienne, “Pan dw i’n gweld doethineb Jehofa yn y greadigaeth, dw i’n rhyfeddu ac mae’n fy helpu i sylweddoli mai Jehofa sy’n gwybod beth sydd orau imi.” Ar ôl myfyrio, daeth hi i’r casgliad hwn, “Pam fyddwn i eisiau gwneud unrhyw beth a fyddai’n difetha fy mherthynas â Jehofa, Ffynhonnell fy mywyd?” A elli di dreulio ychydig o amser yr wythnos hon yn meddwl am rywbeth mae Jehofa wedi ei greu? Drwy wneud hynny, bydd dy barch a chariad at Jehofa yn tyfu.—Salm 111:2, 3.

7. Sut gall gweddi ein helpu i ofni Duw?

7 Ffordd arall gallwn ni ddysgu i ofni Duw ydy drwy weddïo yn rheolaidd. Bob tro rydyn ni’n gweddïo ar Jehofa, rydyn ni’n dod i’w adnabod yn well. A phob tro rydyn ni’n gofyn iddo am y nerth i ddal ati, rydyn ni’n cael ein hatgoffa o’i rym anhygoel. Pan ydyn ni’n diolch iddo am rodd ei Fab, rydyn ni’n cofio faint mae Jehofa yn ein caru ni. Ac wrth inni erfyn ar Jehofa am ei help gyda phroblem, mae’n ein hatgoffa ni pa mor ddoeth yw ef. Mae gweddïau o’r fath yn ein helpu ni i barchu Jehofa yn fwy byth, ac yn ein gwneud ni’n fwy penderfynol o osgoi unrhyw beth all niweidio ein perthynas ag ef.

8. Sut gallwn ni ddal ati i ofni Duw?

8 Gallwn ni ddal ati i ofni Duw drwy astudio’r Beibl gyda’r nod o ddysgu o esiamplau da a drwg sydd ynddo. Gadewch inni drafod dau o weision ffyddlon Jehofa—Obadeia a oedd yn rheoli palas y Brenin Ahab, a’r Archoffeiriad Jehoiada. Wedyn byddwn ni’n dysgu o esiampl y Brenin Jehoas o Jwda, a oedd yn ffyddlon ar y dechrau ond yna stopiodd addoli Jehofa.

BYDDA’N DDEWR FEL OBADEIA

9. Sut gwnaeth ofn Duw helpu Obadeia? (1 Brenhinoedd 18:3, 4, 12, BCND)

9 Mae’r Beibl yn cyflwyno Obadeia c gyda’r geiriau: “Yr oedd Obadeia yn ofni’r ARGLWYDD yn fawr.” (Darllen 1 Brenhinoedd 18:3, 4, ac 12, o BCND.) Sut roedd yr ofn hwn yn helpu Obadeia? Roedd yn ei helpu i fod yn onest ac yn ddibynadwy, ac felly cafodd y cyfrifoldeb o reoli dros balas y brenin. (Cymhara Nehemeia 7:2) Yr hyn oedd yn gwneud Obadeia yn ddewr oedd ei fod yn ofni Duw. Roedd ef bendant angen y rhinwedd honno achos roedd yn byw yn ystod teyrnasiad y Brenin Ahab, a wnaeth “fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o’i flaen.” (1 Bren. 16:30) Hefyd roedd gwraig Ahab, Jesebel, yn addoli Baal, ac roedd hi’n casáu Jehofa cymaint gwnaeth hi geisio cael gwared ar addoliad pur yn y deyrnas ogleddol. Aeth hi mor bell â lladd llawer o broffwydi Duw. Heb os, roedd Obadeia yn addoli Duw yn ystod adeg anodd iawn.

10. Sut dangosodd Obadeia ddewrder arbennig?

10 Sut dangosodd Obadeia ddewrder arbennig? Pan oedd Jesebel yn chwilio am broffwydi Duw er mwyn eu lladd nhw, gwnaeth Obadeia guddio 100 ohonyn nhw mewn ogof ‘fesul pum deg, a rhoi bwyd iddyn nhw a dŵr i’w yfed.’ (1 Bren. 18:13, 14) Petai Jesebel wedi gwybod beth roedd Obadeia yn ei wneud, byddai hi wedi ei ladd. Wrth gwrs, roedd Obadeia yn ofni am ei fywyd a doedd ef ddim eisiau marw. Ond roedd yn caru Jehofa a’r rhai oedd yn Ei addoli yn fwy na’i fywyd ei hun.

Er bod y gwaith o dan waharddiad, mae’r brawd yn ddewr wrth ddosbarthu bwyd ysbrydol i’w frodyr a’i chwiorydd (Gweler paragraff 11) d

11. Sut mae gweision Jehofa heddiw yn debyg i Obadeia? (Gweler hefyd y llun.)

11 Heddiw mae llawer o weision Jehofa yn byw mewn gwledydd ble mae ein gwaith wedi ei wahardd. Wrth gwrs maen nhw’n parchu’r awdurdodau seciwlar ond, fel Obadeia, mae’r brodyr a’r chwiorydd annwyl hyn yn gwrthod stopio addoli Jehofa. (Math. 22:21) Maen nhw’n dangos eu bod nhw’n ofni Duw drwy fod yn ufudd iddo ef yn hytrach na dynion. (Act. 5:29) Maen nhw’n gwneud hyn drwy barhau i bregethu’r newyddion da a chyfarfod gyda’i gilydd yn ddistaw bach. (Math. 10:16, 28) Maen nhw’n gwneud eu gorau i sicrhau bod eu brodyr a’u chwiorydd yn cael y bwyd ysbrydol maen nhw ei angen. Ystyria esiampl Henri, sy’n byw mewn gwlad yn Affrica ble roedd ein gwaith wedi ei wahardd dros dro. Yn ystod y gwaharddiad, roedd Henri yn gwirfoddoli i ddosbarthu bwyd ysbrydol i’w frodyr a’i chwiorydd. Ysgrifennodd: “Dw i’n berson swil, felly dw i’n hollol sicr mai fy mharch dwfn tuag at Jehofa wnaeth roi’r dewrder o’n ei angen imi.” A elli di ddychmygu dy hun yr un mor ddewr ag Henri? Mae hynny’n bosib os wyt ti’n meithrin ofn Duw.

BYDDA’N FFYDDLON FEL YR ARCHOFFEIRIAD JEHOIADA

12. Sut gwnaeth yr Archoffeiriad Jehoiada a’i wraig ddangos eu bod nhw’n ffyddlon i Jehofa?

12 Roedd yr Archoffeiriad Jehoiada yn ofni Duw, a gwnaeth hynny ei ysgogi i fod yn ffyddlon ac i annog eraill i addoli Jehofa. Roedd hyn yn amlwg pan wnaeth Athaleia, merch Jesebel, gipio’r orsedd yn Jwda. Roedd gan y bobl reswm da i ofni Athaleia, roedd hi’n ddynes greulon ac roedd hi eisiau bod yn frenhines gymaint nes iddi geisio lladd ei hwyrion i gyd! (2 Cron. 22:10, 11) Gwnaeth gwraig Jehoiada, Jehosheba, achub un o’r bechgyn hynny, sef Jehoas. Gwnaeth hi a’i gŵr guddio’r bachgen a gofalu amdano. Drwy wneud hyn roedd Jehoiada a Jehosheba yn gwneud yn siŵr byddai rhywun o linach Dafydd yn dod yn frenin. Roedd Jehoiada yn ffyddlon i Jehofa, ac ni wnaeth ef adael i’r fagl o ofni Athaleia ei stopio rhag gwneud y peth iawn.—Diar. 29:25.

13. Sut gwnaeth Jehoiada ddangos ffyddlondeb unwaith eto pan oedd Jehoas yn saith mlwydd oed?

13 Gwnaeth Jehoiada ddangos ei ffyddlondeb i Jehofa unwaith eto pan oedd Jehoas yn saith mlwydd oed. Roedd gan Jehoiada gynllun i sicrhau bod Jehoas, yr un oedd â’r hawl i orsedd Dafydd, yn dod yn frenin. Ond os oedd y cynllun yn methu, heb os byddai Jehoiada’n colli ei fywyd. Gyda bendith Jehofa, gwnaeth y cynllun lwyddo. Derbyniodd Jehoiada gefnogaeth gan yr arweinwyr a’r Lefiaid, ac felly cafodd Jehoas ei wneud yn frenin a chafodd Athaleia ei lladd. (2 Cron. 23:1-5, 11, 12, 15; 24:1) Yna dyma Jehoiada “yn selio’r ymrwymiad rhwng yr ARGLWYDD â’r brenin a’i bobl, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i’r ARGLWYDD.” (2 Bren. 11:17) Hefyd gosododd Jehoiada “ofalwyr i wylio giatiau teml yr ARGLWYDD, i wneud yn siŵr fod neb oedd yn aflan mewn rhyw ffordd yn gallu mynd i mewn.”—2 Cron. 23:19.

14. Ym mha ffyrdd cafodd Jehoiada ei wobrwyo am barchu Jehofa?

14 Yn gynharach dywedodd Jehofa: “Dw i’n rhoi parch i’r rhai sy’n fy mharchu i.” Yn bendant, gwnaeth ef wobrwyo Jehoiada. (1 Sam. 2:30) Er enghraifft, gwnaeth Jehofa gynnwys hanes Jehoiada yn y Beibl, er mwyn i ni ddysgu ohono. (Rhuf. 15:4) A phan fu farw Jehoiada, cafodd ei anrhydeddu drwy gael ei gladdu “yn ninas Dafydd gyda’r brenhinoedd, am ei fod wedi gwneud cymaint o dda i Israel ar ran Duw a’i deml.”—2 Cron. 24:15, 16.

Os ydyn ni’n dangos yr un ofn at Dduw a oedd gan yr Archoffeiriad Jehoiada, byddwn ni’n helpu ein brodyr (Gweler paragraff 15) e

15. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hanes am Jehoiada? (Gweler hefyd y llun.)

15 Gall yr hanes am Jehoiada ein helpu ni i gyd i ddysgu i ofni Duw. Gall henuriaid efelychu Jehoiada drwy edrych am ffyrdd i helpu’r gynulleidfa. (Act. 20:28) Beth gall rhai hŷn ei ddysgu o esiampl Jehoiada? Pan maen nhw’n ofni Duw ac yn aros yn ffyddlon, mae Ef yn gallu eu defnyddio nhw i gyflawni ei bwrpas. Dydy Jehofa ddim yn troi ei gefn arnyn nhw. A gall rhai ifanc efelychu’r ffordd gwnaeth Jehofa drin Jehoiada drwy ddangos parch ac urddas at rai hŷn, yn enwedig y rhai sydd wedi gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon am flynyddoedd maith. (Diar. 16:31) Ac yn olaf, gallwn ni i gyd ddysgu gwers o’r arweinwyr a’r Lefiaid a wnaeth gefnogi Jehoiada. Dewch inni i gyd gefnogi ‘y rhai sy’n ein harwain’ drwy fod yn ufudd iddyn nhw.—Heb. 13:17.

PAID AG EFELYCHU’R BRENIN JEHOAS

16. Beth sy’n dangos bod y Brenin Jehoas yn wan?

16 Gwnaeth Jehoiada helpu’r brenin Jehoas i fod yn berson da. (2 Bren. 12:2) Felly pan oedd yn frenin ifanc, roedd ef eisiau plesio Jehofa. Ond ar ôl i Jehoiada farw, gwrandawodd Jehoas ar gyngor tywysogion gwrthgiliol. Gyda pha ganlyniad? Gwnaeth ef a’r bobl ‘ddechrau addoli’r dduwies Ashera a’r delwau.’ (2 Cron. 24:4, 17, 18) Er bod Jehofa mor drist am hyn, “anfonodd yr ARGLWYDD broffwydi atyn nhw i’w cael i droi yn ôl ato, ond doedden nhw’n cymryd dim sylw.” Wnaethon nhw ddim hyd yn oed wrando ar Sechareia, fab Jehoiada. Roedd ef yn broffwyd ac yn offeiriad a hefyd yn gefnder i Jehoas. A dweud y gwir, doedd y Brenin Jehoas ddim yn gwerthfawrogi’r hyn roedd teulu Sechareia wedi ei wneud drosto. Ac aeth mor bell â lladd Sechareia.—2 Cron. 22:11; 24:19-22.

17. Beth ddigwyddodd i Jehoas?

17 Wnaeth Jehoas ddim parhau i ofni Jehofa, felly gwnaeth pethau droi allan yn ddrwg iddo. Roedd Jehofa wedi dweud: ‘Dw i’n dangos dirmyg at y rhai sy’n fy nghymryd i yn ysgafn.’ (1 Sam. 2:30) Yn nes ymlaen, gwnaeth fyddin fach Syria ennill buddugoliaeth dros “fyddin llawer mwy” Jehoas a’i “anafu’n ddrwg.” Ar ôl i’r Syriaid adael, cafodd Jehoas ei lofruddio gan ei weision ei hun oherwydd ei fod wedi lladd Sechareia. Roedd y brenin hwnnw mor ddrwg, chafodd ef ddim hyd yn oed ei gladdu “ym mynwent y brenhinoedd.”—2 Cron. 24:23-25; gweler y nodyn astudio “son of Barachiah” ar Mathew 23:35.

18. Yn ôl Jeremeia 17:7, 8, sut gallwn ni osgoi bod yn debyg i Jehoas?

18 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Jehoas? Roedd yn debyg i goeden heb wreiddiau dwfn sydd angen postyn er mwyn peidio â chwympo drosodd. Roedd Jehoiada yn debyg i’r postyn—yn cefnogi Jehoas. Ond ar ôl i Jehoiada farw, dechreuodd Jehoas wrando ar wrthgilwyr, ac roedd yn anffyddlon i Jehofa. Mae’r esiampl hon yn dangos ddylwn ni ddim dibynnu ar ein teulu neu eraill yn y gynulleidfa i’n cadw ni’n gryf yn ysbrydol. Ond mae’n rhaid inni ofni a charu Duw fel unigolion drwy astudio, myfyrio, a gweddïo yn rheolaidd.—Darllen Jeremeia 17:7, 8; Col. 2:6, 7.

19. Beth mae Jehofa’n ei ofyn gynnon ni?

19 Mewn gwirionedd, dydy Jehofa ddim yn disgwyl llawer gynnon ni. Mae Pregethwr 12:13, BCND yn crynhoi beth mae’n ei ofyn, gan ddweud: “Ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un.” Byddwn ni’n gallu aros yn ffyddlon i Jehofa ni waeth beth sy’n digwydd yn y dyfodol tra bod gynnon ni yr un ofn at Dduw ag oedd gan Obadeia a Jehoiada. Fydd dim byd yn gallu gwneud niwed i’n perthynas â Jehofa.

CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder

a Yn yr Ysgrythurau, gall y gair “ofn” gael gwahanol ystyron mewn gwahanol gyd-destunau. Er enghraifft, mae’n gallu cyfeirio at barch, arswyd, neu gael dy ddychryn. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i ddatblygu’r math o ofn sy’n ein hysgogi ni i wasanaethu ein Tad nefol yn ffyddlon.

b Salm 25:14, NWT: “Mae Jehofa yn ffrind agos i’r rhai sy’n ei ofni, ac mae’n eu dysgu nhw am ei gyfamod.”

c Nid y proffwyd Obadeia yw hwn, roedd hwnnw yn byw canrifoedd wedyn ac ef wnaeth ysgrifennu’r llyfr yn y Beibl sy’n dwyn ei enw.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Llun sy’n portreadu brawd yn dosbarthu bwyd ysbrydol o dan waharddiad.

e DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer ifanc yn dysgu gan chwaer hŷn sut i dystiolaethu dros y ffôn; brawd hŷn yn gosod esiampl ddewr o dystiolaethu cyhoeddus; brawd profiadol yn cynnig hyfforddiant ar sut i gynnal a chadw’r neuadd.