ERTHYGL ASTUDIO 28
Parha i Elwa o Ofn Duwiol
“Mae’r un sy’n rhodio’n gywir yn ofni’r ARGLWYDD.”—DIAR. 14:2, BCND.
CÂN 122 Safwch yn Gadarn!
CIPOLWG a
1-2. Yn debyg i Lot, pa heriau mae Cristnogion yn eu hwynebu heddiw?
PAN ydyn ni’n gweld safonau moesol drwg pobl yn y byd, rydyn ni’n teimlo fel roedd y dyn cyfiawn Lot. Roedd yn “hynod o ddigalon oherwydd bod y bobl ddigyfraith yn ymddwyn heb gywilydd.” (2 Pedr 2:7, 8) Yn amlwg, roedd Lot yn gwybod bod ein Tad nefol yn casáu ymddygiad o’r fath. Felly, gan ei fod yn ofni ac yn caru Duw, roedd ef hefyd yn casáu’r fath bethau. Rydyn ni’n byw ymhlith llawer o bobl sydd ddim yn parchu safonau moesol Jehofa. Er hynny, gallwn ni aros yn foesol lân os ydyn ni’n caru Duw a’i ofni.—Diar. 14:2, BCND.
2 I’n helpu ni i wneud hynny, mae Jehofa wedi rhoi anogaeth gariadus inni yn llyfr Diarhebion. Mae pob Cristion, ni waeth beth yw ei oedran, yn wir yn gallu elwa o’r cyngor doeth sydd yno.
MAE OFN DUW YN EIN HAMDDIFFYN NI
3. Yn ôl Diarhebion 17:3, beth ydy un rheswm dros warchod ein calonnau? (Gweler hefyd y llun.)
3 Rheswm pwysig dros warchod ein calon ffigurol ydy am fod Jehofa yn profi’r galon. Mae hyn yn golygu ei fod yn gweld y tu hwnt i beth mae pobl eraill yn ei weld, mae’n gweld pa fath o berson ydyn ni go iawn. (Darllen Diarhebion 17:3.) Os ydyn ni’n gadael i ddoethineb Jehofa lenwi ein meddyliau, fydd ’na ddim lle i foesau na chelwyddau byd Satan dreiddio i mewn. (Ioan 4:14; 1 Ioan 5:18, 19) Pan ydyn ni’n dod yn agosach at Jehofa, bydd ein cariad a’n parch tuag ato yn tyfu. Dydyn ni wir ddim eisiau brifo ein Tad, felly byddwn ni’n casáu hyd yn oed y syniad o bechu. Pan ydyn ni’n cael ein temtio, byddwn ni’n gofyn, ‘Sut galla i wneud y fath beth, a brifo rhywun sydd wedi dangos cymaint o gariad tuag ata i?’—1 Ioan 4:9, 10.
4. Sut gwnaeth ofn Duw amddiffyn chwaer rhag ildio i demtasiwn?
4 Cafodd Marta, b chwaer yn Croatia, ei themtio i wneud rhywbeth anfoesol. Ysgrifennodd: “O’n i’n ei chael hi’n anodd meddwl yn glir a brwydro’r awydd i fwynhau pleserau dros dro. Ond gwnaeth ofn Jehofa fy amddiffyn i rhag pechu.” Sut? Dywedodd Marta ei bod hi wedi myfyrio ar y pethau drwg fyddai’n digwydd petasai hi’n gwneud rhywbeth anfoesol. Gallwn ni wneud yr un peth. Y canlyniad gwaethaf posib ydy byddwn ni’n brifo Jehofa ac yn colli allan ar y cyfle i’w wasanaethu am byth.—Gen. 6:5, 6.
5. Beth gelli di ei ddysgu o brofiad Leo?
5 Pan ydyn ni’n ofni Jehofa, dydyn ni ddim yn esgusodi ymddygiad drwg. Gwnaeth Leo, sy’n byw yn y Congo, ddysgu’r wers honno. Bedair blynedd ar ôl iddo gael ei fedyddio, dewisodd ffrindiau oedd yn gwneud pethau drwg. Roedd yn meddwl nad oedd yn pechu yn erbyn Jehofa cyn belled â’i fod ef ei hun ddim yn gwneud pethau drwg. Yn fuan gwnaeth ei ffrindiau ddylanwadu arno i gamddefnyddio alcohol a byw bywyd anfoesol. Yna, dechreuodd feddwl am beth roedd wedi ei ddysgu gan ei rieni Cristnogol, a pha mor hapus oedd ef gynt. Beth oedd y canlyniad? Gwnaeth ef gallio, a gyda help yr henuriaid, gwnaeth ef droi yn ôl at Jehofa. Heddiw mae’n gwasanaethu’n hapus fel henuriad ac arloeswr arbennig.
6. Pa ddwy ddynes ffigurol fyddwn ni yn eu trafod?
6 Gadewch inni ystyried Diarhebion pennod 9, sy’n trafod doethineb a ffolineb ac yn eu darlunio fel dwy ddynes. (Cymhara Rhufeiniaid 5:14; Galatiaid 4:24) Wrth inni wneud hynny, cofia fod gan fyd Satan obsesiwn â rhyw anfoesol a phornograffi. (Eff. 4:19) Felly mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i feithrin ofn Duw a chefnu ar beth sy’n ddrwg. (Diar. 16:6) Oherwydd hynny, gall pob un ohonon ni, p’un a ydyn ni’n wryw neu’n fenyw, elwa o’r bennod hon. Ynddi, mae’r ddwy ddynes yn estyn gwahoddiad i’r rhai dibrofiad—hynny yw y rhai sy’n “brin o synnwyr cyffredin.” Mae’r ddwy ddynes yn dweud fel petai, ‘Dewch i fy nhŷ am bryd o fwyd.’ (Diar. 9:1, 5, 6, 13, 16, 17) Ond mae ’na fyd o wahaniaeth rhwng beth sy’n digwydd i’r rhai sy’n derbyn y naill wahoddiad a’r llall.
GWRTHODA WAHODDIAD Y ‘WRAIG WIRION’
7. Yn ôl Diarhebion 9:13-18, beth sy’n digwydd i’r rhai sy’n derbyn gwahoddiad y ‘wraig wirion’? (Gweler hefyd y llun)
7 Meddylia am wahoddiad y ‘wraig wirion.’ (Darllen Diarhebion 9:13-18.) Heb unrhyw gywilydd, mae hi’n galw allan ar y rhai dibrofiad gan ddweud, “Dewch yma” am wledd. Beth fydd yn digwydd iddyn nhw? Yn y pen draw, byddan nhw “yn y bedd.” Efallai byddi di’n cofio iaith debyg ynghynt yn llyfr Diarhebion, lle mae’n sôn am y ddynes “anfoesol” a “llac ei moesau.” Rydyn ni’n darllen bod “ei thŷ hi yn llwybr llithrig i farwolaeth.” (Diar. 2:11-19) Mae Diarhebion 5:3-10 yn ein rhybuddio ni am “wraig anfoesol” arall ac mae “ei dilyn hi yn arwain at farwolaeth.”
8. Pa ddewis sy’n rhaid inni ei wneud?
8 Mae gan y rhai sy’n clywed llais y ‘wraig wirion’ benderfyniad i’w wneud: Derbyn ei gwahoddiad, neu ei wrthod. Efallai bydd rhaid i ni wneud penderfyniad tebyg. Os ydy rhywun yn ein temtio ni i wneud rhywbeth anfoesol, neu os ydy pornograffi yn codi’n sydyn ar ein dyfais, sut byddwn ni’n ymateb?
9-10. Pam dylen ni osgoi anfoesoldeb rhywiol?
9 Mae ’na resymau da dros osgoi ymddygiad rhywiol anfoesol. Yn ôl y Beibl, mae’r ‘wraig wirion’ yn dweud: “Mae dŵr sydd wedi ei ddwyn yn felys.” Mae’r Beibl yn cymharu rhyw rhwng gŵr a gwraig â dŵr sy’n adfywio. (Diar. 5:15-18) Gall gŵr a gwraig sydd mewn priodas gyfreithlon fwynhau cael rhyw â’i gilydd. Ond mae “dŵr sydd wedi ei ddwyn” yn hollol wahanol. Mae’n gallu cyfeirio at ryw anfoesol. Pan mae pobl yn gwneud y fath bethau, maen nhw fel arfer yn ceisio cuddio beth maen nhw’n ei wneud, yn union fel lleidr. Ac os ydyn nhw’n meddwl na fydd neb yn ffeindio allan am beth maen nhw wedi ei wneud, efallai bydd y “dŵr sydd wedi ei ddwyn” yn blasu’n fwy melys byth iddyn nhw. Ond maen nhw’n twyllo eu hunain, achos mae Jehofa yn gweld popeth. Does ’na ddim byd yn fwy chwerw na cholli ffafr Jehofa, felly yn sicr dydy hi ddim yn beth “melys.” (1 Cor. 6:9, 10) Ond mae ’na fwy.
10 Mae anfoesoldeb rhywiol yn gallu gwneud i rywun deimlo’n ddi-werth ac yn llawn cywilydd. Mae hefyd yn gallu achosi beichiogrwydd di-groeso a phroblemau yn y teulu. Yn amlwg, byddai’n ddoeth i wrthod gwahoddiad y ‘wraig wirion.’ Yn ogystal â marw’n ysbrydol, mae llawer o bobl anfoesol yn dal clefydau a all eu lladd nhw yn y pen draw. (Diar. 7:23, 26) Mae adnod 18 o bennod 9 yn cloi drwy ddweud “bod y rhai dderbyniodd ei gwahoddiad . . . yn y bedd.” Felly, pam mae cymaint o bobl yn derbyn ei gwahoddiad sy’n arwain at drychineb?—Diar. 9:13-18.
11. Pam mae edrych ar bornograffi yn hynod o niweidiol?
11 Un peth sy’n baglu llawer ydy pornograffi. Mae rhai yn meddwl nad ydy gwylio pornograffi yn achosi unrhyw niwed. Ond dydy hynny ddim yn wir o gwbl. Mae’n niweidiol, yn gwneud i bobl golli parch tuag atyn nhw eu hunain ac eraill, ac mae’n hawdd mynd yn gaeth iddo. Unwaith i rywun weld llun anfoesol, mae’n anodd iawn iddo ei anghofio. Ar ben hynny, dydy pornograffi ddim yn helpu pobl i ladd chwantau drwg, yn hytrach mae’n gwneud y chwantau hynny yn gryfach. (Col. 3:5; Iago 1:14, 15) Yn y pen draw, mae llawer sy’n gwylio pornograffi yn mynd ymlaen i wneud pethau anfoesol.
12. Sut rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ceisio osgoi lluniau sy’n codi chwantau anfoesol?
12 Beth dylen ni ei wneud os ydy llun pornograffig yn dod i fyny ar ein dyfais electronig yn annisgwyl? Dylen ni droi oddi wrtho yn syth. Beth all ein helpu ni i wneud hynny? Cofia mai’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gynnon ni ydy ein perthynas â Jehofa. Mewn gwirionedd, gall lluniau sydd ddim hyd yn oed yn cael eu hystyried yn bornograffi godi chwantau anfoesol ynon ni. Felly, drwy gadw’n glir o’r rheini hefyd, rydyn ni’n osgoi cymryd y cam cyntaf tuag at anfoesoldeb. (Math. 5:28, 29) Mae henuriad o’r enw David o Wlad Thai yn dweud: “Dw i’n gofyn i fy hun: ‘Hyd yn oed os dydy’r lluniau ddim yn bornograffig, a fydd Jehofa’n hapus os ydw i’n dal ati i edrych arnyn nhw?’ Mae meddwl fel ’na yn fy helpu i fod yn ddoeth.”
13. Beth sy’n ein helpu ni i fod yn ddoeth?
13 Bydd ofni brifo Jehofa yn ein helpu ni i fod yn ddoeth. Ofn Duw yw “dechrau doethineb.” (Diar. 9:10, BCND) Rydyn ni’n gweld hyn ar ddechrau Diarhebion pennod 9, lle mae gwir ddoethineb yn cael ei chymharu â dynes arall.
DERBYNIA WAHODDIAD Y DDYNES DDOETH
14. Pa wahoddiad gwahanol rydyn ni’n darllen amdano yn Diarhebion 9:1-6?
14 Darllen Diarhebion 9:1-6. Mae’r adnodau hyn yn sôn am wahoddiad gan Jehofa, ein Creawdwr a Ffynhonnell gwir ddoethineb. (Diar. 2:6; Rhuf. 16:27) Mae’n cynnwys darlun o dŷ mawr â saith colofn, sy’n dangos bod Jehofa’n hael ac yn estyn croeso i bawb sydd eisiau dysgu oddi wrtho a bod yn ddoeth.
15. Beth mae Duw yn ein gwahodd ni i’w wneud?
15 Mae Jehofa yn darparu ar ein cyfer ni mewn ffordd hael iawn. Mae hynny’n cael ei ddangos gan y ddynes yn Diarhebion pennod 9 sy’n cynrychioli gwir ddoethineb. Mae’r hanes yn dweud ei bod hi wedi paratoi cig, cymysgu gwin, a gosod y bwrdd yn ei thŷ. (Diar. 9:2) Ac yn ôl adnodau 4 a 5, mae doethineb “yn dweud wrth bobl sy’n brin o synnwyr cyffredin . . . ‘Dewch i fwyta gyda mi.’” Pam dylen ni dderbyn gwahoddiad y ddynes hon? Dydy Jehofa ddim eisiau inni ddysgu y ffordd anodd drwy wneud penderfyniadau a fydd yn ein brifo. Yn hytrach, mae eisiau inni fod yn ddoeth ac yn saff. Dyna pam “mae’n rhoi llwyddiant [neu, doethineb ymarferol] i’r un sy’n gwneud beth sy’n iawn.” (Diar. 2:7) Pan ydyn ni’n ofni Duw, rydyn ni eisiau ei blesio, felly rydyn ni’n gwrando ar ei gyngor doeth ac yn hapus i’w roi ar waith.—Iago 1:25.
16. Sut gwnaeth ofni Duw helpu Alain i wneud penderfyniad doeth, a beth oedd y canlyniad?
16 Gwnaeth ofn Duw helpu henuriad ac athro ysgol o’r enw Alain i wneud penderfyniad doeth. Dywedodd: “Roedd llawer o fy nghyd-weithwyr yn troi at bornograffi i gael addysg rhyw.” Ond roedd Alain yn gwybod bod hyn yn anghywir. Aeth ymlaen i ddweud: “Am fy mod i’n ofni Duw, gwnes i wrthod y ffilmiau hynny’n llwyr. Gwnes i hefyd esbonio fy rhesymau dros wneud hynny i fy nghyd-weithwyr.” Mae hynny’n dangos ei fod yn rhoi cyngor gwir ddoethineb ar waith, gan “gerdded ffordd gall.” (Diar. 9:6) Roedd hyn wedi creu argraff mor dda ar ei gyd-weithwyr nes bod rhai ohonyn nhw wedi dechrau astudio’r Beibl a mynd i’r cyfarfodydd.
17-18. Sut mae’r rhai sy’n derbyn gwahoddiad gwir ddoethineb yn cael eu bendithio, a beth gallan nhw edrych ymlaen ato?
17 Drwy ddefnyddio eglureb am ddwy ddynes ffigurol, mae Jehofa wedi dangos inni sut i gael dyfodol hapus. Mae’r rhai sy’n derbyn gwahoddiad y ‘wraig wirion’ swnllyd yn canolbwyntio ar fwynhau anfoesoldeb sy’n “felys” yn eu golwg nhw. Ond mewn gwirionedd, maen nhw’n byw am y foment, heb feddwl am y dyfodol. Bydd hyn yn eu harwain at “y bedd.”—Diar. 9:13, 17, 18.
18 Ond mae ’na ddyfodol hollol wahanol o flaen y rhai sy’n derbyn gwahoddiad y ddynes sy’n cynrychioli gwir ddoethineb. Heddiw maen nhw’n hapus gan eu bod nhw’n mwynhau gwledd ysbrydol iachus. (Esei. 65:13) Mae Jehofa’n dweud drwy ei broffwyd Eseia: “Gwrandwch yn ofalus arna i! Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion.” (Esei. 55:1, 2) Rydyn ni’n ceisio caru beth mae Jehofa’n ei garu a chasáu beth mae ef yn ei gasáu. (Salm 97:10) Rydyn ni hefyd yn mwynhau gwahodd eraill i ddysgu o wir ddoethineb. Mae fel petasen ni’n ‘galw ar bobl drwy’r dre. Yn dweud wrth bobl sy’n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma.”’ Byddwn ni, a’r rhai sy’n ymateb yn cael bendithion parhaol ac yn cael byw am byth wrth inni “gerdded ffordd gall.”—Diar. 9:3, 4, 6.
19. Yn ôl Pregethwr 12:13, 14, BCND, beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud? (Gweler hefyd y blwch “ Mae Ofn Duw o Les Inni.”)
19 Darllen Pregethwr 12:13, 14, BCND. Bydd parhau i ofni Duw yn gwarchod ein calonnau ac yn ein helpu ni i aros yn foesol lân ac yn agos at Jehofa yn y dyddiau olaf hyn. Gan ein bod ni’n caru ac yn parchu Jehofa â’n holl galon, byddwn ni’n parhau i wahodd cymaint â phosib i geisio gwir ddoethineb ac i elwa ohoni.
CÂN 127 Y Math o Berson y Dylwn Fod
a Mae’n bwysig inni feithrin ofn Duw er mwyn gwarchod ein calonnau ac amddiffyn ein hunain rhag anfoesoldeb rhywiol a phornograffi. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod Diarhebion pennod 9, sy’n disgrifio dwy ddynes ffigurol i roi darlun o’r gwahaniaeth rhwng doethineb a ffolineb. Byddwn ni’n dysgu gwersi all ein helpu ni nawr ac yn y dyfodol.
b Newidiwyd rhai enwau.