YMADRODD BEIBLAIDD
Oes Gen Ti Ffydd?
Mae’n rhaid cael ffydd er mwyn plesio Jehofa. Ond, yn ôl y Beibl, “nid oes gan bawb ffydd.” (2 Thes. 3:2) Pan ddywedodd yr apostol Paul hyn, roedd yn siarad am ‘ddynion drwg iawn’ a oedd yn ei erlid. Ond mae sylwad Paul hefyd yn berthnasol am bobl eraill hefyd. Mae rhai yn dewis anwybyddu tystiolaeth glir sy’n dangos bod ’na Greawdwr, sef Duw. (Rhuf. 1:20) Mae eraill yn dweud eu bod nhw’n credu bod ’na rywbeth sy’n uwch na ni, ond dydy hynny ddim yn ffydd go iawn.
Mae’n rhaid inni fod yn hollol hyderus bod Jehofa’n bodoli, “a’i fod yn gwobrwyo’r rhai” sydd â ffydd gref. (Heb. 11:6) Mae ffydd yn un rhan o ffrwyth ysbryd Duw. Gallwn ni dderbyn yr ysbryd glân drwy droi at Jehofa mewn gweddi a darllen ei Air. (Luc 11:9, 10, 13) Wrth inni feddwl am yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu a’i roi ar waith, bydd ysbryd Jehofa yn ein helpu ni i feithrin y math o ffydd sy’n ei blesio.