Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae Jehofa yn Gwobrwyo Pawb Sy’n ei Geisio o Ddifrif

Mae Jehofa yn Gwobrwyo Pawb Sy’n ei Geisio o Ddifrif

“Mae’n rhaid i’r rhai sydd am fynd ato gredu ei fod yn bodoli, a’i fod yn gwobrwyo pawb sy’n ei geisio o ddifri.”—HEB. 11:6.

CANEUON: 85, 134

1, 2. (a) Sut mae cariad a ffydd yn gysylltiedig? (b) Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hystyried?

RYDYN ni’n caru Jehofa “am ei fod e wedi’n caru ni gyntaf.” (1 Ioan 4:19) I ddangos ei gariad tyner, mae Jehofa wedi cymryd y cam cyntaf er mwyn bendithio ei weision ffyddlon. Po fwyaf rydyn ni’n caru ein Duw, cryfaf byth fydd ein ffydd—bod Duw yn bodoli a’i fod yn wastad yn gwobrwyo’r rhai sy’n annwyl iddo.—Darllen Hebreaid 11:6.

2 Mae gwobrwyo yn rhan annatod o bersonoliaeth Jehofa. Mae ffydd sy’n gyflawn yn gwbl hyderus y bydd Duw yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei geisio o ddifrif oherwydd “ffydd ydy’r sicrwydd fod beth dyn ni’n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd.” (Heb. 11:1) Yn wir, mae ffydd yn golygu credu’n llwyr yn addewidion Duw. Sut mae’r gobaith o gael gwobr yn y dyfodol o fudd inni? Sut mae Jehofa wedi gwobrwyo ei weision yn y gorffennol yn ogystal â heddiw? Gad inni weld.

ADDEWID JEHOFA I FENDITHIO EI WEISION

3. Pa addewid a geir yn Malachi 3:10?

3 Mae Jehofa wedi ymrwymo i wobrwyo ei weision ffyddlon, ac felly, mae’n estyn gwahoddiad inni: “‘Ie, rhowch fi ar brawf,’—meddai’r Arglwydd holl-bwerus, ‘a chewch weld y bydda i’n agor llifddorau’r nefoedd ac yn tywallt bendith arnoch chi; fyddwch chi’n brin o ddim byd!’” (Mal. 3:10) Wrth dderbyn y gwahoddiad hael hwn, rydyn ni’n dangos pa mor ddiolchgar ydyn ni i Jehofa.

4. Pam gallwn ni ymddiried yn addewid Iesu a gofnodwyd yn Mathew 6:33?

4 Addawodd Iesu i’w ddisgyblion y byddai Duw yn eu cefnogi pe bydden nhw’n ceisio’r Deyrnas yn gyntaf. (Darllen Mathew 6:33.) Roedd Iesu’n gallu gwneud addewid o’r fath oherwydd iddo wybod bod Jehofa bob amser yn cadw at ei air. Roedd Iesu’n gwybod na fyddai addewidion Duw byth yn cael eu torri. (Esei. 55:11) Os ydyn ni’n dangos ffydd gref, mae Jehofa yn addo: “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.” (Heb. 13:5) Gallwn ni gysylltu’r addewid hwnnw â chyngor Iesu i roi blaenoriaeth i’r Deyrnas ac ewyllys Duw.

Dangosodd Iesu y byddai aberth ei ddisgyblion yn cael ei wobrwyo (Gweler paragraff 5)

5. Sut gall yr hyn a ddywedodd Iesu wrth Pedr gryfhau ein ffydd?

5 Un tro, gofynnodd Pedr i Iesu: “Edrych, dyn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di! Felly beth fyddwn ni’n ei gael?” (Math. 19:27) Yn hytrach na cheryddu Pedr, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion y bydd eu hunanaberth yn cael ei wobrwyo ac y byddan nhw, ynghyd ag eraill, yn rheoli gydag ef yn y nefoedd. Ond mae gwobrwyon ar gael heddiw hefyd. Dywedodd Iesu: “Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref, a gadael brodyr a chwiorydd, tad neu fam neu blant neu diroedd er fy mwyn i yn derbyn can gwaith cymaint, ac yn cael bywyd tragwyddol.” (Math. 19:29) Byddai unrhyw aberthu ar ran ei ddisgyblion yn ddim byd o’i gymharu â’r holl fendithion y byddan nhw’n eu cael. Onid yw tadau, mamau, brodyr, chwiorydd, a phlant ysbrydol yn llawer iawn mwy gwerthfawr nag unrhyw beth rydyn ni wedi cefnu arno oherwydd y Deyrnas?

“ANGOR I’N BYWYDAU NI”

6. Pam mae Jehofa yn addo rhoi gwobr i’w addolwyr?

6 Wrth addo gwobr, mae Jehofa yn cynnal ei weision pan ddaw prawf ar eu ffyddlondeb. Yn ogystal â chael bendithion ysbrydol heddiw, mae gweision ffyddlon Duw yn edrych ymlaen yn eiddgar at dderbyn mwy o fendithion yn y dyfodol. (1 Tim. 4:8) Mae credu’n llwyr fod Jehofa “yn gwobrwyo pawb sy’n ei geisio o ddifri” yn ein helpu i sefyll yn gadarn yn y ffydd.—Heb. 11:6.

7. Sut mae gobaith yn debyg i angor?

7 Yn ei Bregeth ar y Mynydd, dywedodd Iesu: “Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha’r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath!” (Math. 5:12) Yn wir, mae’r gobaith am fywyd tragwyddol, boed hynny yn y nefoedd neu ar y ddaear, yn rheswm dros lawenhau. (Salm 37:11; Luc 18:30) Beth bynnag yw ein gobaith, mae “fel angor i’n bywydau ni, yn gwbl ddiogel.” (Heb. 6:17-20) Fel y mae angor yn cadw llong yn llonydd yn ystod storm, mae ein gobaith am wobr yn y dyfodol yn helpu i’n cadw ni’n sefydlog yn emosiynol, meddyliol, ac ysbrydol. Mae’n gallu ein helpu i ddyfalbarhau yn wyneb caledi.

8. Sut mae gobaith yn gallu lleddfu ein pryderon?

8 Mae’r gobaith y mae’r Beibl yn ei gynnig yn gallu lleddfu ein pryderon. Mae addewidion Duw fel eli ysbrydol sy’n esmwytho calon gythryblus. Er enghraifft: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di.” (Salm 55:22) Gallwn fod yn gwbl hyderus y bydd Duw yn “gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni’n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu!” (Eff. 3:20) Meddylia am y peth: Mae’r hyn y mae Duw yn gallu ei roi inni y tu hwnt i’n dychymyg!

9. Pam y gallwn fod yn sicr y bydden ni’n cael ein bendithio gan Jehofa?

9 Er mwyn derbyn y wobr, mae’n rhaid inni roi ein holl ffydd yn Jehofa a gwrando arno. Dywedodd Moses wrth yr Israeliaid: “Ddylai neb fod mewn angen yn eich plith chi, am fod yr Arglwydd yn mynd i’ch bendithio chi yn y wlad mae’n ei rhoi i chi os byddwch chi’n ufudd ac yn cadw’r holl orchmynion dw i’n eu rhoi i chi heddiw. Bydd yr Arglwydd eich Duw yn eich bendithio, fel gwnaeth e addo.” (Deut. 15:4-6) Wyt ti’n hyderus y bydd Jehofa yn dy fendithio os byddi di’n parhau i’w wasanaethu’n ffyddlon? Yn sicr, mae gen ti reswm da dros fod yn hyderus.

JEHOFA OEDD YN EU GWOBRWYO

10, 11. Sut gwnaeth Jehofa wobrwyo Joseff?

10 Ysgrifennwyd y Beibl er ein lles. Mae’n dangos sut y gwnaeth Duw wobrwyo ei weision ffyddlon. (Rhuf. 15:4) Mae hanes Joseff yn enghraifft o hyn. Oherwydd iddo gael ei fradychu gan ei frodyr ac yn ddiweddarach gan wraig ei feistr, fe’i taflwyd i garchar yn yr Aifft. Oedd hi ar ben arno? Dim o gwbl! “Roedd yr Arglwydd yn gofalu am Joseff yno hefyd, ac yn garedig iawn ato . . . Beth bynnag roedd Joseff yn ei wneud, roedd yr Arglwydd yn ei lwyddo.” (Gen. 39:21-23) Drwy gydol y cyfnod anodd hwnnw, roedd Joseff yn disgwyl yn amyneddgar i Dduw ei helpu.

11 Flynyddoedd yn ddiweddarach, gwnaeth Pharo ryddhau Joseff o’r carchar a phenodi’r caethwas gostyngedig hwn yn rheolwr dros yr Aifft, yn ail i Pharo yn unig. (Gen. 41:1, 37-43) Pan roddodd ei wraig ddau fab iddo, “galwodd Joseff ei blentyn cyntaf yn Manasse—‘Mae Duw wedi gwneud i mi anghofio fy holl drafferthion, a’m teulu,’ meddai. Galwodd yr ail blentyn yn Effraim—‘Mae Duw wedi fy ngwneud i yn ffrwythlon yn y wlad lle dw i wedi diodde.’” (Gen. 41:51, 52) Oherwydd bod Joseff wedi aros yn ffyddlon i Dduw, cafodd fendithion a oedd yn diogelu’r Israeliaid a’r Eifftiaid fel ei gilydd. Y pwynt yw, roedd Joseff yn cydnabod mai Jehofa oedd wedi ei fendithio a’i wobrwyo.—Gen. 45:5-9.

12. Sut arhosodd Iesu yn ffyddlon o dan brawf?

12 Yn yr un modd, roedd Iesu Grist yn ufudd i Dduw drwy bob un prawf ar ei ffydd, ac fe gafodd ei wobrwyo. Beth wnaeth ei gynnal? Mae’r Beibl yn esbonio: “Er mwyn profi’r llawenydd oedd o’i flaen, dyma fe’n dal ei dir ar y groes gan wrthod ystyried y cywilydd o wneud hynny.” (Heb. 12:2) Heb os, roedd sancteiddio enw Duw yn dod â llawenydd i Iesu. Ar ben hynny, enillodd gymeradwyaeth ei Dad ynghyd â llu o fendithion eraill. Yn ôl y Beibl: “Mae’n eistedd yn y sedd anrhydedd ar yr ochr dde i orsedd Duw.” A darllenwn hefyd: “Dyma Duw yn ei ddyrchafu i’r safle uchaf; a rhoi’r enw pwysica un iddo!”—Phil. 2:9.

NI FYDD JEHOFA YN ANGHOFIO

13, 14. Sut mae Jehofa yn teimlo am yr hyn rydyn ni’n ei wneud drosto?

13 Gallwn fod yn sicr fod Jehofa yn gwerthfawrogi ein hymdrechion i’w wasanaethu. Mae’n deall unrhyw ansicrwydd neu ddiffyg hyder sydd gennyn ni. Os ydyn ni’n gwegian dan bwysau ariannol neu os yw ein hiechyd neu broblemau emosiynol yn cyfyngu ar ein gwasanaeth cysegredig, bydd Jehofa yn trugarhau wrthyn ni. Gallwn fod yn gwbl hyderus fod Jehofa yn trysori’r hyn mae ei weision yn ei wneud i aros yn ffyddlon iddo.—Darllen Hebreaid 6:10, 11.

14 Cofia hefyd ein bod ni’n gallu troi at yr un “sy’n gwrando gweddïau” yn llawn hyder y bydd yn rhoi sylw i’n pryderon. (Salm 65:2) Bydd y “Tad sy’n tosturio a’r Duw sy’n cysuro” yn ein cefnogi yn emosiynol ac ysbrydol, ac yn gwneud hynny efallai drwy ein cyd-addolwyr. (2 Cor. 1:3) Mae Jehofa wrth ei fodd pan ydyn ni’n trugarhau wrth eraill. “Mae rhoi yn hael i’r tlawd fel benthyg i’r ARGLWYDD; bydd e’n talu’n ôl iddo am fod mor garedig.” (Diar. 19:17; Math. 6:3, 4) Pan ydyn ni’n helpu eraill sydd mewn trybini, mae’r gymwynas honno yn cael ei hystyried gan Dduw yn fenthyciad iddo ef. Ac mae’n addo gwobrwyo’r caredigrwydd hwnnw.

EIN BENDITHIO HEDDIW AC AM BYTH

15. Pa fendithion rwyt ti’n edrych ymlaen atyn nhw? (Gweler y llun agoriadol.)

15 Mae Cristnogion eneiniog yn cael eu cynnal o wybod y byddan nhw’n derbyn “coron y bywyd cyfiawn,” gwobr y bydd “yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn,” yn ei chyflwyno iddyn nhw. (2 Tim. 4:7, 8) Ni fyddi di, fodd bynnag, ar dy golled os wyt ti wedi derbyn gobaith gwahanol gan Dduw. Mae miliynau o “ddefaid eraill” Iesu yn edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn y wobr o fywyd tragwyddol ar ddaear o baradwys. Yno, byddan nhw’n “cael mwynhau heddwch a llwyddiant.”—Ioan 10:16; Salm 37:11.

16. Pa gysur a gawn ni yn 1 Ioan 3:19, 20?

16 Ar adegau, gallwn deimlo nad yw Jehofa yn fodlon ar ein hymdrechion. Gallwn hefyd amau nad ydyn ni’n gymwys ar gyfer unrhyw wobr. Paid byth ag anghofio bod “Duw uwchlaw ein cydwybod ni, ac mae e’n gwybod am bob dim.” (Darllen 1 Ioan 3:19, 20.) Mae’n gwobrwyo pob un o’n hymdrechion i’w wasanaethu sy’n dod o galon yn llawn ffydd a chariad, a hynny er bod y rhoddwr yn gallu teimlo bod ei aberth i Dduw yn un pitw.—Marc 12:41-44.

17. Beth yw rhai o’r bendithion rydyn ni’n eu cael heddiw?

17 Hyd yn oed yn nyddiau diwethaf system ddrwg Satan, mae Jehofa yn bendithio ei bobl. Mae’n sicrhau bod gwir addolwyr yn ffynnu mewn paradwys ysbrydol na welwyd ei thebyg erioed o’r blaen. (Esei. 54:13) Fel yr addawodd Iesu, mae Jehofa yn ein gwobrwyo ni heddiw drwy adael inni fod yn rhan o deulu cariadus byd-eang o frodyr a chwiorydd ysbrydol. (Marc 10:29, 30) Ar ben hynny, mae pawb sy’n ceisio Duw o ddifrif yn derbyn y wobr a’r fendith o heddwch meddwl, bodlonrwydd, a hapusrwydd.—Phil. 4:4-7.

18, 19. Sut mae gweision Jehofa yn teimlo am eu bendithion?

18 Mae gweision Jehofa ar hyd a lled y byd yn tystio i’r bendithion y maen nhw’n eu derbyn o’i law. Er enghraifft, mae Bianca, chwaer o’r Almaen, yn dweud: “Fedra’ i ddim diolch digon i Jehofa am iddo dawelu fy mhryderon ac am iddo fod wrth fy ochr bob diwrnod. Mae’r byd o’n cwmpas mor ansicr a chas. Ond wrth imi weithio’n agos â Jehofa, rydw i’n teimlo’n ddiogel yn ei freichiau. Bryd bynnag yr ydw i’n aberthu er ei fwyn, rydw i’n cael canwaith cymaint yn ei ôl.”

19 Rho sylw hefyd i hanes Paula, chwaer saith deg mlwydd oed o Ganada, sy’n dioddef o spina bifida. “Dydy methu symud o gwmpas yn rhwydd ddim yn golygu fy mod i’n gorfod gwneud llai yn y weinidogaeth,” meddai. “Rwy’n manteisio ar wahanol ddulliau o bregethu fel tystiolaethu’n anffurfiol neu dros y ffôn. I godi fy nghalon, rwy’n cofnodi adnodau neu sylwadau mewn llyfr nodiadau y gallaf droi ato pan fo angen. Hwn yw fy ‘Llyfr Goroesi.’ Teimlad dros dro ydy digalondid os ydyn ni’n canolbwyntio ar addewidion Jehofa. Mae Jehofa bob amser yn fodlon ein helpu, waeth befo’r amgylchiadau.” Fodd bynnag, gall dy sefyllfa di fod yn wahanol i un Bianca neu Paula. Ond eto, siŵr iawn y gelli di feddwl am wahanol ffyrdd y mae Jehofa wedi dy fendithio di a’r rhai sy’n agos atat ti. Buddiol iawn yw myfyrio ar sut mae Jehofa yn dy wobrwyo di ar hyn o bryd, a sut bydd yn dy wobrwyo di yn y dyfodol!

20. Os ydyn ni’n parhau i wasanaethu Jehofa, beth gallwn ni edrych ymlaen ato?

20 Paid ag anghofio bod gweddïo’n daer ar Dduw yn dod â bendithion. Cofia’r geiriau hyn: “Rhaid i chi ddal ati, a gwneud beth mae Duw eisiau. Wedyn cewch dderbyn beth mae wedi ei addo i chi!” (Heb. 10:35, 36) Gad inni felly barhau i gryfhau ein ffydd a gweithio’n galed i Jehofa, yr un a fydd yn ein gwobrwyo ni.—Darllen Colosiaid 3:23, 24.