Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt ti wedi darllen y rhifynnau diweddaraf o’r Tŵr Gwylio? Tybed a fedri di ateb y cwestiynau hyn?

At ba fath o bechod roedd Iesu’n cyfeirio yn ei gyngor yn Mathew 18:15-17?

Roedd yn sôn am broblemau y gallai’r unigolion eu datrys ar eu pennau eu hunain. Ond mae’r pechod yn ddigon difrifol i arwain at ddiarddel os nad yw’r mater yn cael ei setlo. Er enghraifft, gallai’r pechod gynnwys twyll neu enllib.—w16.05, t. 7.

Sut gelli di ddarganfod beth mae Jehofa yn ei feddwl?

Drwy ddarllen ac astudio’r Beibl yn rheolaidd. Wrth iti wneud hynny, gofynna i ti dy hun: ‘Beth mae hyn yn fy nysgu am Jehofa? Pam gwnaeth Jehofa weithredu fel hynny?’ Hefyd, gofynna i Jehofa am iddo dy helpu i ddod i’w adnabod yn well. Pan wyt ti’n dysgu rhywbeth am Jehofa, meddylia am wahanol sefyllfaoedd lle y gelli di ddefnyddio’r wybodaeth honno.—w16.05, tt. 17-18.

Sut gelli di wneud dy ddarllen personol o’r Beibl yn fuddiol?

Gelli di wneud y canlynol: Bydda’n feddwl agored wrth ddarllen, gan chwilio am wersi i’w dysgu; gofynna i ti dy hun gwestiynau megis ‘Sut galla’ i ddefnyddio’r wybodaeth hon i helpu eraill?’; a defnyddia’r adnoddau sydd ar gael i wneud ymchwil ar y pwnc rwyt ti newydd ddarllen amdano.—w16.05, tt. 28-30.

Pwy mae’r dyn ag offer ysgrifennu a’r chwech o ddynion ag arfau marwol a ddisgrifiwyd yn Eseciel pennod 9 yn ei gynrychioli?

Deallwn eu bod nhw’n cynrychioli’r lluoedd nefol a ddinistriodd Jerwsalem ac a fydd yn helpu i ddod â dinistr adeg Armagedon. Yn y cyflawniad cyfoes, y dyn ag offer ysgrifennu yw Iesu Grist, a fydd yn nodi’r rhai a fydd yn goroesi.—w16.06, tt. 16-17.

Sut dylet ti ymateb pan fo rhywun yn brifo dy deimladau?

Mae’n werth cofio bod pobl amherffaith yn dueddol o wneud camgymeriadau. Felly, afresymol fyddai disgwyl gormod gan ein cyd-addolwyr a gadael i’w beiau ddifetha ein llawenydd. Camgymeriad gwaeth fyddai caniatáu i feiau pobl eraill ein baglu ni ac achosi inni adael cyfundrefn Jehofa.—w16.06, t. 26.

Sut gall Cristion symleiddio ei fywyd?

Drwy restru dy anghenion, a chael gwared ar unrhyw gostau di-angen. Drwy baratoi cyllideb realistig. Cael gwared ar bethau nad wyt ti’n eu defnyddio, a thalu unrhyw ddyledion. Drwy leihau dy waith seciwlar, a gwneud cynllun i ehangu dy weinidogaeth.—w16.07, t. 10.

Yn ôl y Beibl, beth sy’n fwy gwerthfawr nag aur ac arian?

Mae Job 28:12, 15 yn dangos bod doethineb duwiol yn well nag aur ac arian. Wrth iti ei geisio, gwna ymdrech i aros yn ostyngedig ac yn gryf yn dy ffydd.—w16.08, tt. 18-19.

Pam mae hyfforddi eraill mor bwysig?

Mae hyfforddi eraill yn hanfodol bwysig oherwydd bod yr anghenion a’r cyfleoedd i wasanaethu Jehofa yn cynyddu. Mae Duw yn rhoi’r fraint inni helpu’r rhai sy’n llai profiadol i ddatblygu eu gallu i wneud gwaith pwysig yn y gynulleidfa.—w16.08, t. 29.

A yw’n briodol i frawd heddiw wisgo barf?

Mewn rhai diwylliannau, mae barf sydd wedi ei chadw’n daclus yn dderbyniol ac ni fyddai’n tynnu oddi ar neges y Deyrnas. Er hynny, efallai bydd rhai brodyr yn penderfynu peidio â thyfu barf. (1 Cor. 8:9) Mewn llefydd a diwylliannau eraill, nid yw gwisgo barf yn cael ei ystyried yn dderbyniol ar gyfer gweinidogion Cristnogol.—w16.09, t. 21.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwybodaeth, dealltwriaeth, a doethineb?

Mae person sydd â gwybodaeth yn casglu ffeithiau. Mae rhywun sydd â dealltwriaeth yn gweld sut mae ffeithiau yn gysylltiedig â’i gilydd. Ond mae person sydd â doethineb yn gallu defnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth gyda’i gilydd, a’u cymhwyso mewn ffordd ymarferol.—w16.10, t. 18.