Bobl Ifanc—“Daliwch Ati i Weithio ar Eich Iechyd Ysbrydol”
“Fel roeddech chi’n ufudd pan oeddwn i acw gyda chi, . . . gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol.”—PHILIPIAID 2:12.
1. Pam mae bedydd yn gam mor bwysig? (Gweler y llun agoriadol.)
BOB blwyddyn, mae miloedd o fyfyrwyr y Beibl yn cael eu bedyddio. Mae llawer ohonyn nhw’n ifanc, yn eu harddegau, neu’n iau hyd yn oed. Efallai eu bod nhw wedi cael eu magu yn y gwir. Wyt ti’n un ohonyn nhw? Os wyt ti, rwyt ti wedi gwneud rhywbeth da iawn. Mae’n rhaid i bob Gristion gael ei fedyddio. Ac mae bedydd yn angenrheidiol er mwyn cael iachawdwriaeth a byw am byth.—Mathew 28:19, 20; 1 Pedr 3:21.
2. Pam na ddylet ti ofni dy gysegru dy hun i Jehofa?
2 Ar ôl iti gael dy fedyddio, dechreuodd Jehofa dy fendithio mewn llawer o ffyrdd newydd. Ond, fe gest ti gyfrifoldebau newydd hefyd. Ym mha ffordd? Ar ddiwrnod dy fedydd, gofynnodd y brawd a roddodd dy anerchiad bedydd: “Ar sail aberth Iesu Grist, a ydych chi wedi edifarhau am eich pechodau ac wedi ymgysegru i Jehofa i wneud ei
ewyllys?” Gwnest ti ateb yn gadarnhaol. Gwnest ti addo caru Jehofa a rhoi dy wasanaeth i Dduw yn y lle cyntaf yn dy fywyd. A ddylet ti ddifaru gwneud addewid mor ddifrifol? Ddim o gwbl! Fyddi di byth yn difaru gadael i Jehofa arwain dy fywyd. Mae pobl sydd ddim yn adnabod Jehofa yn rhan o fyd Satan. Dydy’r Diafol ddim yn poeni amdanyn nhw nac amdanat tithau o gwbl. Y ffaith yw, fe fyddai’n hapus petaet ti’n colli dy obaith o fyw am byth oherwydd iti ochri gydag ef a throi dy gefn ar Jehofa.3. Sut mae Jehofa wedi dy fendithio di oherwydd iti ymgysegru iddo?
3 Meddylia am sut mae Jehofa wedi dy fendithio di oherwydd iti ymgysegru iddo a chael dy fedyddio. Gwnest ti roi dy fywyd i Jehofa, felly, gelli di ddweud yn hyderus: “Mae’r ARGLWYDD ar fy ochr, felly fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?” (Salm 118:6) Does dim byd gwell na bod ar ochr Duw a gwybod ei fod yn falch ohonot ti.
CYFRIFOLDEB PERSONOL
4, 5. (a) Pam gallwn ni ddweud bod ymgysegriad yn gyfrifoldeb personol? (b) Pa heriau y mae Cristnogion o bob oedran yn eu hwynebu?
4 Dydy hi ddim yn bosib iti feddwl am dy berthynas â Jehofa fel pecyn ffôn mae dy rieni yn ei brynu drosot ti. Hyd yn oed os wyt ti’n dal yn byw gyda dy rieni, dy gyfrifoldeb personol di yw dy berthynas â Jehofa. Pam mae’n bwysig cofio hynny? Does yr un ohonon ni’n gwybod sut bydd ein ffydd yn cael ei phrofi yn y dyfodol. Er enghraifft, efallai cest ti dy fedyddio cyn iti gyrraedd dy arddegau. Ond, nawr dy fod ti yn dy arddegau, mae gen ti deimladau a phroblemau newydd. Dywedodd un eneth yn ei harddegau: “Fel arfer, dydy plentyn sy’n un o Dystion Jehofa ddim yn dal dig oherwydd na chafodd ddarn o gacen pen-blwydd yn yr ysgol. Ond, mewn ychydig o flynyddoedd, pan fydd y chwant am gael rhyw yn cryfhau, mae’n rhaid iddo ef neu hi fod yn hollol sicr mai ufuddhau i gyfreithiau Jehofa yw’r dewis gorau.”
5 Nid pobl ifanc yw’r unig rai a fydd yn wynebu heriau newydd. Mae hyd yn oed pobl sy’n cael eu bedyddio’n oedolion yn wynebu prawf ar eu ffydd nad oedden nhw’n ei ddisgwyl. Gall prawf ddod oherwydd eu priodas, eu hiechyd, neu eu swydd. Beth bynnag yw ein hoedran, bydd yn rhaid i bob un ohonon ni aros yn ffyddlon i Jehofa mewn pob math o sefyllfaoedd.—Iago 1:12-14.
6. (a) Beth mae’n ei olygu i wneud ymgysegriad diamod i Jehofa? (b) Beth elli di ei ddysgu o Philipiaid 4:11-13?
6 Er mwyn dy helpu dy hun i aros yn ffyddlon, cofia fod yr addewid a wnest ti i Jehofa yn ddiamod. Mae hyn yn golygu dy fod ti wedi addo i’r Goruchaf y byddi di’n ei wasanaethu beth bynnag a ddaw, hyd yn oed os yw dy ffrindiau neu dy deulu yn cefnu arno. (Salm 27:10) Ym mhob sefyllfa, gwna yn siŵr dy fod ti’n gofyn i Jehofa dy helpu i gadw dy addewid iddo.—Darllen Philipiaid 4:11-13.
7. Beth mae’n ei olygu i weithio ar dy iechyd ysbrydol “gyda pharch a defosiwn i Dduw”?
7 Mae Jehofa eisiau iti fod yn ffrind iddo. Ond, mae’n cymryd ymdrech i gadw’r cyfeillgarwch hwnnw’n gryf ac i weithio ar dy iechyd ysbrydol. Mae Philipiaid yn dweud: “Gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol.” Mae hyn yn golygu y dylen ni feddwl yn ofalus am sut y byddwn ni’n aros yn agos at Jehofa ac yn ffyddlon iddo beth bynnag sy’n digwydd. Allwn ni ddim cymryd yn ganiataol y byddwn ni’n gwneud hynny. Cofia fod rhai sydd wedi gwasanaethu Duw am flynyddoedd wedi troi’n anffyddlon. Pa bethau ymarferol a all dy helpu i weithio ar dy iechyd ysbrydol a chael dy achub? 2:12
PWYSIGRWYDD ASTUDIO’R BEIBL
8. Beth mae astudio personol yn ei gynnwys? Pam mae’n bwysig?
8 Er mwyn bod yn ffrind i Jehofa, mae angen inni wrando arno a siarad ag ef. Y brif ffordd rydyn ni’n gwrando ar Jehofa ydy trwy astudio’r Beibl. Mae hyn yn cynnwys darllen a myfyrio ar Air Duw ac ar gyhoeddiadau sy’n seiliedig arno. Ond nid yw astudio’r Beibl yn golygu rhoi ffeithiau ar gof a chadw, fel rwyt ti’n ei wneud ar gyfer arholiad yn yr ysgol. Yn hytrach, mae fel mynd ar daith gyffrous lle rwyt ti’n chwilio am bethau newydd am Jehofa. Byddi di’n agosáu at Dduw, ac fe fydd yntau’n agosáu atat tithau hefyd.—Iago 4:8.
9. Pa bethau sydd wedi dy helpu di yn dy astudiaeth bersonol?
9 Mae cyfundrefn Jehofa yn darparu llawer o bethau i dy helpu i gadw at raglen astudio. Er enghraifft, mae ’na gyfres o’r enw “Gweithgareddau i Astudio’r Beibl” yn y rhan “I’r Arddegau” ar jw.org sy’n gallu dy helpu i roi ar waith y pethau rwyt ti’n eu dysgu o hanesion y Beibl. Hefyd ar jw.org, cei di hyd i’r taflenni astudio ar gyfer “Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?” Bydd y rhain yn dy helpu i gryfhau dy ffydd ac i esbonio dy ddaliadau i eraill. Mae ’na syniadau eraill ar gyfer dy astudio personol yn yr erthygl “Young People Ask . . . How Can I Make Bible Reading Enjoyable?” yn rhifyn Saesneg Deffrwch! o fis Ebrill 2009. Mae astudio a myfyrio yn bwysig ar gyfer gweithio ar dy iechyd ysbrydol a chael dy achub.—Darllen Salm 119:105.
MAE GWEDDI YN HANFODOL
10. Pam mae angen i Gristnogion bedyddiedig weddïo?
Os wyt ti’n poeni am unrhyw reswm, “rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD”
10 Pan ydyn ni’n astudio’r Beibl, rydyn ni’n gwrando ar Jehofa, a phan ydyn ni’n gweddïo, rydyn ni’n siarad ag ef. Ni ddylen ni feddwl am weddi fel arferiad yn unig nac fel rhywbeth sy’n dod â lwc neu lwyddiant. Mae gweddi yn fodd o gyfathrebu â dy Greawdwr. Meddylia: Mae Jehofa eisiau clywed beth sydd gen ti i’w ddweud! (Darllen Philipiaid 4:6.) Felly, os wyt ti’n poeni am unrhyw reswm, mae’r Beibl yn dweud: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD.” (Salm 55:22) Gall miliynau o frodyr a chwiorydd ddweud wrthyt ti fod y cyngor hwnnw wedi eu helpu. Fe all dy helpu dithau hefyd!
11. Pam dylet ti ddiolch i Jehofa bob amser?
11 Ond, ni ddylen ni weddïo ar Jehofa dim ond pan fydd angen help arnon ni. Mae’r Beibl yn ein hatgoffa: “Byddwch yn ddiolchgar.” (Colosiaid 3:15) Weithiau, rydyn ni’n poeni cymaint am ein problemau fel nad ydyn ni’n gweld yr holl bethau da sydd gennyn ni. Tria hyn: Bob dydd, meddylia am dri pheth rwyt ti’n ddiolchgar amdanyn nhw, ac wedyn diolcha i Jehofa am bob un. Mae Abigail, sydd yn ei harddegau ac a gafodd ei bedyddio pan oedd hi’n 12, yn dweud: “Dw i’n teimlo bod Jehofa yn haeddu ein diolch yn fwy nag unrhyw un arall yn y bydysawd. Dylen ni fanteisio ar bob cyfle i ddiolch iddo am y pethau mae’n eu rhoi inni.” Weithiau, mae Abigail yn gofyn cwestiwn iddi hi ei hun: “Petaswn i’n codi bore fory gyda dim byd ond y pethau wnes i ddiolch i Jehofa amdanyn nhw heddiw, beth fyddai gen i?” * (Gweler y troednodyn.)
GWERTH PROFIAD PERSONOL
12, 13. Sut rwyt ti wedi profi bod Jehofa yn dda, a pham mae’n bwysig i feddwl am sut mae Jehofa wedi dy helpu?
12 Gwnaeth Jehofa helpu’r Brenin Dafydd i ddyfalbarhau mewn llawer o sefyllfaoedd anodd. Felly, roedd Dafydd yn siarad o brofiad personol pan ddywedodd: “Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy’r ARGLWYDD! Mae’r rhai sy’n troi ato am loches wedi’u bendithio’n fawr!” (Salm 34:8) Mae’r adnod hon yn dangos bod rhaid inni brofi daioni Jehofa droson ni ein hunain. Wrth iti ddarllen y Beibl a’n cyhoeddiadau a mynychu’r cyfarfodydd, rwyt ti’n dysgu sut mae Jehofa wedi helpu eraill i aros yn ffyddlon. Ond, wrth i dy berthynas di â Jehofa gryfhau, mae angen iti weld sut mae Jehofa yn dy helpu di. Sut rwyt ti wedi gweld bod Jehofa yn dda?
13 Mae pob Cristion wedi profi daioni Jehofa mewn un ffordd arbennig. Mae wedi ein gwahodd ni i agosáu ato ef a’i Fab. Dywedodd Iesu: “Dydy pobl ddim yn gallu dod ata i heb fod y Tad anfonodd fi yn eu tynnu nhw.” (Ioan 6:44) Wyt ti’n teimlo bod Jehofa wedi dy ddenu di ato? Neu, wyt ti’n meddwl, ‘gwnaeth Jehofa ddenu fy rhieni ato a dim ond eu dilyn nhw ydw i’? Cofia, pan wnest ti dy gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio, roedd gen ti dy berthynas arbennig dy hun â Duw. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae Duw yn gwybod pwy sy’n ei garu, ac mae’n gofalu amdanyn nhw.” (1 Corinthiaid 8:3) Trysora’r lle mae Jehofa wedi ei roi iti yn ei gyfundrefn.
14, 15. Sut gall y weinidogaeth gryfhau dy ffydd?
14 Rwyt ti hefyd yn profi daioni Jehofa pan fydd ef yn rhoi iti’r dewrder i siarad ag eraill am dy ffydd, un ai yn y weinidogaeth neu yn yr ysgol. Gall fod yn anodd pregethu i dy ffrindiau yn yr ysgol. Efallai dy fod ti’n poeni am eu hymateb. Gall esbonio dy ffydd o flaen grŵp mawr o bobl godi ofn arnat ti. Beth all dy helpu?
15 Meddylia am y rheswm pam rwyt ti’n credu’r hyn rwyt ti’n ei gredu. Os ydy’r taflenni astudio ar gael yn dy iaith di yn jw.org, defnyddia nhw. Maen nhw’n gallu dy helpu i feddwl am yr hyn rwyt ti’n ei gredu, pam rwyt ti’n ei gredu, a sut gelli di esbonio dy ddaliadau i bobl eraill. Pan wyt ti’n hollol hyderus dy fod ti wedi paratoi’n dda, byddi di eisiau tystiolaethu am Jehofa.—Jeremeia 20:8, 9.
16. Beth all roi’r hyder iti i siarad am dy ddaliadau?
16 Hyd yn oed os wyt ti wedi paratoi’n dda, efallai byddi di’n dal yn teimlo’n nerfus am esbonio dy ddaliadau. Mae chwaer 18 oed, a gafodd ei bedyddio pan oedd hi’n 13, yn dweud: “Dw i’n gwybod beth dw i’n ei gredu, ond, weithiau, dw i’n cael trafferth esbonio fy meddyliau mewn geiriau.” Felly, mae’n ceisio siarad am y gwirionedd mewn ffordd naturiol a rhwydd. Mae hi’n dweud: “Mae fy ffrindiau yn yr ysgol yn siarad yn rhwydd am y pethau maen nhw’n eu gwneud. Dylwn innau deimlo’n rhydd i wneud hynny hefyd. Felly, bydda’ i’n taro rhywbeth i mewn i’r sgwrs yn naturiol braf, drwy ddweud, ‘Ro’n i’n dysgu’r Beibl y diwrnod o’r blaen, ac . . . ’ Wedyn, dw i’n cario ymlaen gyda’r stori. Er nad ydy’r stori am y Beibl, yn aml, mae pobl yn dangos diddordeb yn y gwaith o ddysgu’r Beibl. Weithiau maen nhw’n gofyn cwestiynau amdano. Wrth wneud hyn yn aml, mae pethau’n dod yn haws. Ac wedyn, dw i’n wastad yn teimlo’n grêt!”
17. Beth arall sy’n gallu dy helpu i siarad ag eraill?
17 Pan fydd pobl eraill yn teimlo dy fod
ti’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu parchu, bydd hi’n haws iddyn nhw dy barchu dithau a dy ddaliadau. Er enghraifft, mae Olivia, sy’n 17 ac a gafodd ei bedyddio pan oedd hi’n llawer iau, yn dweud: “Ro’n i’n wastad yn poeni byddai pobl yn meddwl fy mod i’n ffanatig petaswn i’n sôn am y Beibl mewn sgwrs.” Wedyn, dechreuodd hi edrych ar bethau mewn ffordd wahanol. Yn hytrach na meddwl yn ormodol am ei hofnau, meddyliodd hi: “Dydy llawer o bobl ifanc ddim yn gwybod dim am Dystion Jehofa. Ni ydy’r unig Dystion maen nhw’n eu gweld. Felly mae’r ffordd rydyn ni’n ymddwyn yn gallu effeithio ar eu hymateb. Beth os ydyn ni’n swil neu’n ofnus neu’n ei chael hi’n anodd siarad am ein ffydd, neu beth os ydyn ni’n teimlo’n anghyfforddus pan ydyn ni’n gwneud yr ymdrech i siarad? Efallai byddan nhw’n meddwl ein bod ni’n teimlo cywilydd am fod yn Dystion. Efallai bydden nhw’n ymateb yn gas oherwydd ein diffyg hyder. Ond, os ydyn ni’n siarad yn rhwydd ac yn hyderus am ein daliadau, a’i wneud yn rhan naturiol o’n sgyrsiau, byddan nhw’n fwy tebygol o’n parchu ni.”DAL ATI
18. Beth sydd angen iti ei wneud i weithio ar dy iechyd ysbrydol?
18 Rydyn ni wedi gweld ei bod hi’n gyfrifoldeb difrifol i weithio ar dy iechyd ysbrydol er mwyn cael dy achub. I wneud hynny, mae’n rhaid iti ddarllen a myfyrio ar Air Duw, gweddïo ar Jehofa, a meddwl yn ofalus am yr holl ffyrdd mae ef wedi dy helpu di yn bersonol. Bydd gwneud y pethau hyn yn dy helpu i deimlo’n hyderus fod Jehofa yn Ffrind iti. Bydd hyn yn dy ysgogi i siarad ag eraill am dy ddaliadau.—Darllen Salm 73:28.
19. Pam mae gweithio ar dy iechyd ysbrydol yn werth pob ymdrech?
19 Dywedodd Iesu: “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi.” (Mathew 16:24) Yn wir, er mwyn dilyn Iesu, mae’n rhaid i bob Cristion ei gysegru ei hun i Jehofa a chael ei fedyddio. Ond, dim ond cychwyn yw hyn ar fywyd arbennig, ac fe fydd yn arwain at fywyd tragwyddol ym myd newydd Duw. Felly, gwna bopeth a elli di i weithio ar dy iechyd ysbrydol a chael dy achub!
^ Par. 11 Am fwy o awgrymiadau, gweler “Young People Ask—Why Should I Pray?” a’r daflen waith ar jw.org.