Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gobaith Oddi Wrth Dduw

Gobaith Oddi Wrth Dduw

“Mae’r Adda olaf, sef y Meseia, yn ysbryd sy’n rhoi bywyd i eraill.”—1 CORINTHIAID 15:45.

CANEUON: 151, 147

1-3. (a) Beth ddylen ni ei gynnwys ymhlith ein prif ddaliadau? (b) Pam mae’r atgyfodiad mor bwysig? (Gweler y llun agoriadol.)

PETAI rhywun yn gofyn iti beth yw dy brif ddaliadau, sut byddet ti’n ateb? Yn bendant, byddet ti’n dweud mai Jehofa ydy’r Creawdwr, yr un a roddodd fywyd inni. Mae’n debyg y byddi di hefyd yn dweud dy fod ti’n credu yn Iesu Grist, a fu farw’n bridwerth. Byddi di’n sôn am y Baradwys sydd am ddod ar y ddaear, lle bydd pobl Dduw yn byw am byth. Ond, a fyddi di’n sôn am yr atgyfodiad fel un o dy ddaliadau mwyaf pwysig?

2 Mae gennyn ni resymau da dros gynnwys yr atgyfodiad ymhlith ein prif ddaliadau, hyd yn oed os ydyn ni’n gobeithio goroesi’r gorthrymder mawr a byw am byth ar y ddaear. Dangosodd yr apostol Paul pam mae’r atgyfodiad mor bwysig. Dywedodd: “Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, dydy’r Meseia ddim wedi atgyfodi chwaith.” Os nad oedd Iesu wedi cael ei atgyfodi, ni fyddai’n bosib iddo reoli fel Brenin yn y nefoedd, a byddai ein gwaith pregethu yn dda i ddim. (Darllen 1 Corinthiaid 15:12-19.) Ond, rydyn ni’n gwybod bod Iesu wedi cael ei atgyfodi. Oherwydd ein bod ni’n credu yn ei atgyfodiad, rydyn ni’n wahanol i’r Sadwceaid Iddewig, a oedd yn gwadu bod rhywun yn gallu dod yn ôl yn fyw. Hyd yn oed pan fydd eraill yn gwneud hwyl am ein pennau, mae ein ffydd fod Duw yn gallu atgyfodi pobl yn aros yn gadarn.—Marc 12:18; Actau 4:2, 3; 17:32; 23:6-8.

3 Dywedodd Paul fod dysgeidiaeth yr atgyfodiad yn rhan o’r pethau sylfaenol sy’n cael eu dysgu am y Meseia “yn y grŵp meithrin.” (Hebreaid 6:1, 2) Dangosodd yn glir ei ffydd yn yr atgyfodiad. (Actau 24:10, 15, 24, 25) Er ei bod yn ddysgeidiaeth sylfaenol, sef un o’r pethau cyntaf rydyn ni’n ei ddysgu o Air Duw, mae hi’n dal yn bwysig inni astudio’r atgyfodiad yn ofalus. (Hebreaid 5:12) Pam?

4. Pa gwestiynau sy’n codi am yr atgyfodiad?

4 Wrth i bobl ddechrau astudio’r Beibl, maen nhw fel arfer yn darllen am atgyfodiadau’r gorffennol, fel atgyfodiad Lasarus. Maen nhw hefyd yn dysgu bod Abraham, Job, a Daniel, wedi teimlo’n hollol sicr y byddai’r meirw yn byw eto yn y dyfodol. Ond, sut byddi di’n profi o’r Beibl y rhesymau dros gredu’r addewidion am atgyfodiadau a gafodd eu gwneud gannoedd o flynyddoedd yn ôl? Hefyd, ydy’r Beibl yn dweud pryd y bydd yr atgyfodiad yn y dyfodol yn digwydd? Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn cryfhau ein ffydd.

RHAGFYNEGI ATGYFODIAD ARBENNIG

5. Beth fyddwn ni’n ei drafod gyntaf?

5 Efallai ei bod hi’n hawdd inni ddychmygu rhywun yn cael ei atgyfodi yn fuan ar ôl iddo farw. (Ioan 11:11; Actau 20:9, 10) Ond, a fedrwn ni gredu addewid fod rhywun am gael ei atgyfodi flynyddoedd, hyd yn oed gannoedd o flynyddoedd, yn y dyfodol? A allwn ni gredu’r addewid hwnnw p’un a yw’n sôn am berson a fu farw amser maith yn ôl neu rywun a fu farw’n ddiweddar? Mewn gwirionedd, rwyt ti eisoes yn credu mewn atgyfodiad a ddigwyddodd gannoedd o flynyddoedd ar ôl iddo gael ei addo. Pa atgyfodiad yw hwnnw? A beth a wnelo hyn â dy obaith yn yr atgyfodiad yn y dyfodol?

6. Sut yr oedd Iesu’n rhan o gyflawniad Salm 118?

6 Gan ddefnyddio Salm 118, a ysgrifennwyd efallai gan Dafydd, gad inni drafod atgyfodiad a oedd wedi cael ei ragfynegi lawer o flynyddoedd o flaen llaw. Mae’r Salm hon yn cynnwys y geiriau: “O ARGLWYDD, plîs achub ni!” ac “Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r ARGLWYDD wedi’i fendithio’n fawr.” Dyfynnodd pobl y broffwydoliaeth hon am y Meseia pan gyrhaeddodd Iesu Jerwsalem ar Nisan 9, ychydig o ddyddiau cyn iddo farw. (Salm 118:25, 26; Mathew 21:7-9) Ond, sut roedd Salm 118 yn cyfeirio at atgyfodiad a fyddai’n digwydd lawer o flynyddoedd yn y dyfodol? Sylwa ar beth arall ddywedodd y salm: “Mae’r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.”—Salm 118:22.

Gwrthododd “yr adeiladwyr” y Meseia (Gweler paragraff 7)

7. Sut gwnaeth yr Iddewon wrthod Iesu?

7 “Yr adeiladwyr” a wrthododd y Meseia oedd yr arweinwyr Iddewig. Gwnaethon nhw lawer mwy nag anwybyddu Iesu neu wrthod ei dderbyn fel y Crist. Gwnaeth llawer o Iddewon ei wrthod drwy fynnu bod Pilat yn ei ddienyddio. (Luc 23:18-23) Yn wir, roedden nhw hefyd yn gyfrifol am farwolaeth Iesu.

Cafodd Iesu ei atgyfodi gan Dduw i fod yn “garreg sylfaen” (Gweler paragraffau 8, 9)

8. Sut gallai Iesu fod yn “garreg sylfaen”?

8 Os oedd Iesu wedi cael ei wrthod a’i ladd, sut y gallai fod yn “garreg sylfaen”? Byddai hynny’n bosib dim ond petai’n cael ei atgyfodi. Gwnaeth Iesu hynny’n gwbl eglur wrth adrodd stori am berchennog tir a anfonodd negeswyr at y ffermwyr a oedd yn gweithio iddo. Gwnaeth y ffermwyr hynny gam-drin y negeswyr. Yn y pen draw, anfonodd y perchennog ei fab ei hun, gan obeithio y byddai’r ffermwyr yn gwrando arno. Ond, gwnaethon nhw ladd mab y perchennog. Ar ôl adrodd y stori hon, dyfynnodd Iesu’r broffwydoliaeth yn Salm 118:22. (Luc 20:9-17) Defnyddiodd yr apostol Pedr yr un adnod wrth iddo siarad â’r “arweinwyr a’r henuriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith” a oedd wedi cyfarfod yn Jerwsalem. Siaradodd am “yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio, ond daeth Duw ag e yn ôl yn fyw.” Yna dywedodd: “Iesu ydy’r un mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn amdano: ‘Mae’r garreg wrthodwyd gynnoch chi’r adeiladwyr, wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.’”—Actau 3:15; 4:5-11; 1 Pedr 2:5-7.

9. Pa ddigwyddiad arbennig a ragfynegwyd yn Salm 118:22?

9 Felly, roedd y broffwydoliaeth yn Salm 118:22 wedi rhagfynegi atgyfodiad a fyddai’n digwydd gannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach. Byddai’r Meseia’n cael ei wrthod a’i ladd. Ond, byddai’n cael ei godi i fywyd unwaith eto ac yn dod yn garreg sylfaen. Unwaith iddo gael ei atgyfodi, Iesu oedd yr unig un gyda’r enw sy’n “gallu achub pobl.”—Actau 4:12; Effesiaid 1:20.

10. (a) Beth oedd Salm 16:10 yn ei ragfynegi? (b) Pam gallwn ni fod yn sicr nad oedd Salm 16:10 yn cyfeirio at Dafydd?

10 Gad inni ystyried adnod arall sy’n sôn am atgyfodiad. Cafodd ei gyflawni dros fil o flynyddoedd yn ddiweddarach. Dylai’r ffaith hon roi hyder inni fod atgyfodiad yn gallu digwydd ymhell ar ôl iddo gael ei ragfynegi neu ei addo. Yn Salm 16, darllenwn eiriau Dafydd: “Wnei di ddim gadael i mi fynd i fyd y meirw, na gadael i’r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.” (Salm 16:10) Nid oedd Dafydd yn dweud ei fod ef ei hun yn disgwyl na fyddai byth yn marw na mynd i’r Bedd. Mae Gair Duw yn dweud yn blwmp ac yn blaen fod Dafydd wedi mynd yn hen, wedi marw, ac wedi “ei gladdu yn Ninas Dafydd.” (1 Brenhinoedd 2:1, 10) Felly, at bwy mae’r adnod hon yn cyfeirio?

11. Pryd gwnaeth Pedr esbonio Salm 16:10?

11 Dros fil o flynyddoedd ar ôl i Dafydd ysgrifennu’r geiriau hynny, gwnaeth Pedr esbonio at bwy oedd y geiriau yn Salm 16:10 yn cyfeirio. Ychydig o wythnosau ar ôl i Iesu farw a chael ei atgyfodi, siaradodd Pedr â miloedd o Iddewon a phroselytiaid. (Darllen Actau 2:29-32.) Fe atgoffodd y bobl fod Dafydd wedi marw a chael ei gladdu. Ac nid yw’r Beibl yn dweud bod pobl wedi anghytuno â Pedr wrth iddo ychwanegu bod Dafydd wedi “sôn am y Meseia’n dod yn ôl yn fyw” yn y dyfodol.

12. Sut cafodd Salm 16:10 ei chyflawni, a beth mae hynny’n ei gadarnhau am addewid yr atgyfodiad?

12 Cefnogodd Pedr ei bwynt drwy ddyfynnu geiriau Dafydd yn Salm 110:1. (Darllen Actau 2:33-36.) Roedd y ffordd a wnaeth Pedr resymu ar yr Ysgrythurau wedi perswadio’r dyrfa fod Iesu “yn Arglwydd, a Meseia.” Gwelodd y bobl fod Salm 16:10 wedi cael ei chyflawni pan gafodd Iesu ei atgyfodi. Yn hwyrach ymlaen, defnyddiodd yr apostol Paul yr un dystiolaeth wrth siarad ag Iddewon yn ninas Antiochia Pisidia. Cafodd y dystiolaeth hon effaith fawr arnyn nhw, ac roedden nhw eisiau clywed mwy. (Darllen Actau 13:32-37, 42.) Dylai hefyd roi hyder i ninnau fod proffwydoliaethau’r Beibl am atgyfodiadau yn ddibynadwy er iddyn nhw gael eu cyflawni gannoedd o flynyddoedd wedyn.

PRYD BYDD YR ATGYFODIAD?

13. Pa gwestiynau allwn ni eu gofyn am yr atgyfodiad?

13 Calonogol yw gwybod y gallai atgyfodiad ddigwydd gannoedd o flynyddoedd ar ôl iddo gael ei ragfynegi. Ond, gall rhai ofyn: ‘Ydy hynny’n golygu bydd rhaid imi aros yn hir i weld fy anwyliaid eto? Pryd bydd yr atgyfodiad yn digwydd?’ Wel, dywedodd Iesu wrth ei apostolion fod ’na rai pethau nad oedden nhw’n eu gwybod nac yn gallu eu gwybod. Ac mae ’na fanylion am yr “amserlen mae Duw wedi’i threfnu” sydd ddim yn hysbys. (Actau 1:6, 7; Ioan 16:12) Wedi dweud hynny, mae gennyn ni rywfaint o wybodaeth am ba bryd y bydd yr atgyfodiad yn digwydd.

14. Sut roedd atgyfodiad Iesu yn wahanol i’r rhai a ddigwyddodd yn gynharach?

14 Atgyfodiad Iesu yw’r un pwysicaf y soniwyd amdano yn y Beibl. Os nad oedd ef wedi cael ei atgyfodi, ni fyddai gennyn ni’r gobaith o weld ein hanwyliaid sydd wedi marw. Ni wnaeth y bobl a gafodd eu hatgyfodi cyn Iesu, fel y rhai a atgyfodwyd gan Elias ac Eliseus, fyw am byth. Gwnaethon nhw farw eto a throi’n llwch yn y bedd. Ond, “fydd y Meseia ddim yn marw byth eto” oherwydd bod Iesu “wedi’i godi yn ôl yn fyw—does gan farwolaeth ddim gafael arno bellach.” Mae’n byw yn y nefoedd “am byth bythoedd!”—Rhufeiniaid 6:9; Datguddiad 1:5, 18; Colosiaid 1:18; 1 Pedr 3:18.

15. Pam mai Iesu ydy’r “ffrwyth cyntaf”?

15 Atgyfodiad Iesu i’r nefoedd fel ysbryd greadur oedd yr atgyfodiad cyntaf a phwysicaf o’r fath. (Actau 26:23) Ond, nid ef yw’r unig un i gael ei atgyfodi i’r nefoedd. Addawodd Iesu y byddai ei apostolion ffyddlon yn rheoli yno gydag ef. (Luc 22:28-30) Ond, y bydden nhw’n derbyn y wobr honno dim ond ar ôl iddyn nhw farw. Wedyn, fel Iesu, bydden nhw’n cael eu hatgyfodi gyda chorff ysbrydol. Ysgrifennodd Paul fod “y Meseia wedi’i godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf—fe ydy’r cyntaf o lawer sy’n mynd i gael eu codi.” Yna, dywedodd Paul y byddai eraill yn cael eu hatgyfodi i’r nefoedd: “Dyma’r drefn: y Meseia ydy ffrwyth cynta’r cynhaeaf; wedyn, pan fydd e’n dod yn ôl, bydd pawb sy’n perthyn iddo yn ei ddilyn.”—1 Corinthiaid 15:20, 23.

16. Pa gliw sydd gennyn ni ynglŷn â phryd bydd yr atgyfodiad i’r nefoedd yn digwydd?

16 Mae geiriau Paul yn rhoi cliw inni ynglŷn â phryd y byddai’r atgyfodiad i’r nefoedd yn digwydd. Byddai’n digwydd yn ystod presenoldeb Crist. Am lawer o flynyddoedd, mae Tystion Jehofa wedi bod yn profi o’r Beibl fod presenoldeb Crist wedi cychwyn ym 1914. Rydyn ni’n dal i fyw yn ei bresenoldeb, ac mae ddiwedd y system ddrwg hon yn agos iawn.

17, 18. Beth fydd yn digwydd i rai o’r eneiniog yn ystod presenoldeb Crist?

17 Mae’r Beibl yn egluro mwy am yr atgyfodiad i’r nefoedd: “Dŷn ni am i chi ddeall beth sy’n digwydd i Gristnogion ar ôl iddyn nhw farw . . . Dŷn ni’n credu bod Iesu wedi marw ac wedi cael ei godi yn ôl yn fyw eto. Felly dŷn ni’n credu hefyd y bydd Duw yn dod â’r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn ôl . . . fyddwn ni sy’n dal yn fyw, pan ddaw’r Arglwydd Iesu yn ôl, ddim yn ennill y blaen ar y Cristnogion hynny sydd eisoes wedi marw. Bydd yr Arglwydd ei hun yn dod i lawr o’r nefoedd. Bydd Duw’n rhoi’r gorchymyn, . . . Bydd y Cristnogion sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw gyntaf. Yna byddwn ni sy’n dal yn fyw ar y ddaear yn cael ein cipio i fyny gyda nhw yn y cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr. Wedyn byddwn ni i gyd gyda’r Arglwydd am byth.”—1 Thesaloniaid 4:13-17.

18 Byddai’r atgyfodiad cyntaf yn digwydd rywbryd ar ôl i bresenoldeb Crist ddechrau. Bydd y rhai eneiniog sy’n dal i fyw yn ystod y gorthrymder mawr yn cael eu “cipio i fyny . . . yn y cymylau.” (Mathew 24:31) Beth mae hynny’n ei olygu? Fydd y rhai sy’n cael eu cipio i fyny “ddim yn marw,” hynny yw, ni fyddan nhw’n aros yn farw am amser hir. Yn hytrach, dywed y Beibl: “Pan fydd yr utgorn olaf yn cael ei ganu byddwn ni i gyd yn cael ein newid—a hynny’n sydyn, mewn chwinciad.”—1 Corinthiaid 15:51, 52.

19. Beth ydy’r “atgyfodiad gwell”?

19 Heddiw, nid yw’r rhan fwyaf o Gristnogion yn eneiniog ac nid ydyn nhw am reoli gyda Christ yn y nefoedd. Yn hytrach, maen nhw’n edrych ymlaen at ddydd Jehofa, pan fydd ef yn dod â’r byd drwg hwn i ben. Nid oes neb yn gwybod yn union pryd y daw’r diwedd, ond mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn agos. (1 Thesaloniaid 5:1-3) Pan ddaw byd newydd Duw, bydd math gwahanol o atgyfodiad yn digwydd. Ar yr adeg honno, bydd pobl yn cael eu hatgyfodi i fywyd ar y ddaear gyda’r gobaith o fod yn berffaith a byw am byth. Bydd hwnnw’n “atgyfodiad gwell” na’r rhai gynt oherwydd gwnaeth y bobl hynny farw eto yn nes ymlaen.—Hebreaid 11:35, BCND.

20. Pam gallwn ni fod yn sicr y bydd yr atgyfodiad yn drefnus?

20 Mae’r Beibl yn dweud bod y rhai sy’n mynd i’r nefoedd am gael eu hatgyfodi yn ôl trefn briodol. (1 Corinthiaid 15:23) Felly, gallwn gredu y bydd yr atgyfodiad ar y ddaear hefyd yn drefnus. Gallai hynny achosi inni ofyn: A fydd y bobl sydd wedi marw’n ddiweddar yn cael eu hatgyfodi ar gychwyn Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist a chael eu croesawu’n ôl gan anwyliaid sy’n eu hadnabod? A fydd dynion ffyddlon y gorffennol a oedd yn arweinwyr medrus yn dod yn ôl yn fuan er mwyn trefnu pobl Dduw yn y byd newydd? Beth fydd yn digwydd i bobl nad oedden nhw’n gwasanaethu Jehofa? Pryd a lle byddan nhw’n cael eu hatgyfodi? Mae ’na gymaint o gwestiynau y medrwn ni eu gofyn. Ond, does dim rhaid inni boeni amdanyn nhw ar hyn o bryd. Gwell yw aros a gweld beth sy’n digwydd. Gallwn fod yn hollol sicr y bydd hi’n adeg gyffrous wrth inni weld sut bydd Jehofa yn trefnu pethau.

21. Beth yw dy obaith di?

21 Yn y cyfamser, dylen ni gryfhau ein ffydd yn Jehofa. Addawodd Duw, drwy Iesu, fod y meirw yn aros yn Ei gof a’u bod nhw am fyw eto. (Ioan 5:28, 29; 11:23) Fel tystiolaeth ychwanegol fod Jehofa am atgyfodi’r meirw, dywedodd Iesu fod Abraham, Isaac, a Jacob “i gyd yn fyw iddo fe!” (Luc 20:37, 38) Yn amlwg felly, mae gennyn ni lawer o resymau da dros adlewyrchu geiriau’r apostol Paul: “Dw i’n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl . . . yn ôl yn fyw.”—Actau 24:15.