Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Dw i’n Gwybod y Bydd yn Dod yn ôl yn Fyw”

“Dw i’n Gwybod y Bydd yn Dod yn ôl yn Fyw”

‘Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i’n mynd yno i’w ddeffro.’—IOAN 11:11.

CANEUON: 142, 129

1. Beth oedd Martha yn sicr ohono ynglŷn â’i brawd? (Gweler y llun agoriadol.)

ROEDD Martha, ffrind agos i Iesu ac un o’i ddisgyblion, yn galaru. Roedd ei brawd, Lasarus, wedi marw. A fyddai unrhyw beth yn gallu ei chysuro? Byddai. Addawodd Iesu iddi: “Bydd dy frawd yn dod yn ôl yn fyw.” Wrth gwrs, ni allai’r geiriau hynny ddileu ei thristwch. Ond, roedd Martha yn credu yn addewid Iesu, a dywedodd wrtho: “Dw i’n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” (Ioan 11:20-24) Roedd hi’n hollol sicr y byddai atgyfodiad yn digwydd yn y dyfodol. Ond, dyma Iesu’n gwneud gwyrth. Atgyfododd Lasarus y diwrnod hwnnw.

2. Pam byddet ti’n hoffi meithrin yr un ffydd ag yr oedd gan Martha?

2 Does dim rheswm inni ddisgwyl y bydd Iesu neu ei Dad yn atgyfodi ein hanwyliaid ni ar hyn o bryd. Ond, wyt ti yr un mor sicr ag yr oedd Martha fod dy anwyliaid am gael eu hatgyfodi? Efallai dy fod ti wedi colli dy ŵr neu dy wraig, dy fam, dy dad, dy nain neu dy daid, neu hyd yn oed dy blentyn bach annwyl. Rwyt ti’n edrych ymlaen at roi cwtsh iddyn nhw, siarad, a chwerthin gyda nhw. Braf yw gwybod bod gennyn ninnau hefyd resymau da dros ddweud: ‘Dw i’n gwybod y bydd fy anwylyn yn dod yn ôl yn fyw.’ Ond eto, peth da yw i bob Cristion feddwl am y rhesymau y tu ôl i’w hyder.

3, 4. Beth oedd Iesu wedi ei wneud yn ddiweddar, a sut gwnaeth hynny roi fwy o hyder i Martha?

3 Roedd Martha’n byw wrth ymyl Jerwsalem, ac felly, mae’n debyg nad oedd hi wedi gweld Iesu’n atgyfodi mab y weddw ger Nain yng Ngalilea. Ond, mae’n debyg iddi glywed amdano. Ac mae’n debyg ei bod hi wedi clywed bod Iesu wedi atgyfodi merch Jairus. Roedd pawb yn nhŷ’r ferch yn “gwybod ei bod hi wedi marw.” Er hynny, gafaelodd Iesu yn ei llaw a dweud: “Cod ar dy draed mhlentyn i!” Ac ar unwaith, dyma hi’n codi. (Luc 7:11-17; 8:41, 42, 49-55) Roedd Martha a’i chwaer, Mair, yn gwybod bod Iesu’n gallu iacháu pobl sâl. Felly, roedden nhw’n credu y byddai Lasarus yn dal yn fyw petai Iesu wedi bod yno ar y pryd. Ond, beth oedd Martha yn ei ddisgwyl gan fod Lasarus wedi marw? Sylwa ei bod hi wedi dweud y byddai Lasarus yn dod yn ôl yn fyw yn y dyfodol, “ar y dydd olaf.” Pam roedd hi mor sicr? A pham y gallwn ninnau fod yn siŵr y bydd atgyfodiad yn digwydd yn y dyfodol a all gynnwys ein hanwyliaid?

4 Mae ’na resymau da dros roi ein ffydd yn yr atgyfodiad. Gad inni drafod rhai ohonyn nhw. Hefyd, efallai byddi di’n gweld pwyntiau yng Ngair Duw nad wyt ti’n aml yn meddwl amdanyn nhw ond sy’n gallu gwneud iti deimlo’n fwy sicr o weld dy anwyliaid eto.

HANESION SY’N RHOI GOBAITH INNI!

5. Pam roedd Martha’n sicr y byddai Lasarus yn cael ei atgyfodi?

5 Sylwa nad oedd Martha wedi dweud: ‘Dw i’n gobeithio bydd fy mrawd yn dod yn ôl yn fyw.’ Dywedodd hi: “Dwi’n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw.” Pam roedd Martha mor ffyddiog? Oherwydd ei bod hi’n gwybod am atgyfodiadau a oedd wedi digwydd yn y gorffennol. Mae’n debyg ei bod hi wedi dysgu amdanyn nhw yn ei chartref neu yn y synagog pan oedd hi’n blentyn. Byddwn ni’n trafod tri o’r atgyfodiadau hynny sydd yn y Beibl.

6. Pa wyrth oedd Martha yn siŵr o fod wedi clywed amdani?

6 Digwyddodd yr atgyfodiad cyntaf ar adeg pan oedd Duw yn rhoi’r gallu i’r proffwyd Elias wneud gwyrthiau. Mewn tref o’r enw Sareffath yn Phoenicia, i’r gogledd o Israel, roedd gwraig weddw dlawd yn dangos lletygarwch i’r proffwyd. Wedyn, gwnaeth Jehofa wyrth. Sicrhaodd nad oedd ei blawd na’i holew yn rhedeg allan fel ei bod hi a’i mab yn gallu aros yn fyw. (1 Brenhinoedd 17:8-16) Yn nes ymlaen, aeth ei mab yn sâl a bu farw. Ond, gwnaeth Elias ei helpu hi. Wrth iddo gyffwrdd â’r bachgen, gweddïodd Elias ar Jehofa: “Fy Nuw, plîs tyrd â’r bachgen yma yn ôl yn fyw!” A dyna ddigwyddodd! Clywodd Duw weddi Elias, a daeth y plentyn yn ôl yn fyw. Hwnnw oedd yr atgyfodiad cyntaf y soniwyd amdano yn y Beibl. (Darllen 1 Brenhinoedd 17:17-24.) Yn sicr, roedd Martha yn gwybod am yr achlysur rhyfeddol hwnnw!

7, 8. (a) Sut gwnaeth Eliseus gysuro mam alarus? (b) Beth mae gwyrth Eliseus yn ei brofi am Jehofa?

7 Y proffwyd Eliseus a wnaeth yr ail atgyfodiad yn y Beibl. Mewn dinas o’r enw Shwnem, roedd dynes Iddewig nad oedd yn gallu cael plant yn byw. Oherwydd iddi fod mor lletygar wrth Eliseus, rhoddodd Jehofa fab i’r ddynes hon a’i gŵr oedrannus. Ond, ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, bu farw’r bachgen. Dychmyga pa mor drist oedd y fam. Roedd ei galar mor ddwys nes iddi deithio 19 milltir i ffeindio Eliseus ar Fynydd Carmel. Anfonodd Eliseus ei was Gehasi i Shwnem er mwyn atgyfodi’r bachgen. Ond roedd Gehasi’n methu dod ag ef yn ôl yn fyw. Wedyn, cyrhaeddodd y fam alarus ei chartref gydag Eliseus.—2 Brenhinoedd 4: 8-31.

Profodd Duw ei allu i atgyfodi’r meirw

8 Aeth Eliseus i mewn i’r tŷ lle roedd y bachgen, a gweddïodd. Atebodd Jehofa weddi Eliseus a dod â’r bachgen yn ôl yn fyw. Pan welodd y fam ei bachgen yn fyw, roedd hi’n llawen iawn! (Darllen 2 Brenhinoedd 4:32-37.) Efallai ei bod hi wedi cofio gweddi Hanna. Doedd Hanna ddim yn gallu cael plant nes i Jehofa ei bendithio â mab, Samuel. Wedyn, gwnaeth Hanna glodfori Jehofa oherwydd mai “fe sy’n gyrru rhai i’r bedd ac yn achub eraill oddi yno.” (1 Samuel 2:6) Drwy achub y bachgen yn Shwnem, profodd Duw ei allu i atgyfodi’r meirw.

9. Disgrifia’r trydydd atgyfodiad yn y Beibl.

9 Digwyddodd rhywbeth rhyfeddol arall ar ôl i Eliseus farw. Roedd wedi gwasanaethu fel proffwyd am dros 50 mlynedd, ac yna aeth Eliseus yn sâl a bu farw. Wrth i amser fynd heibio, dim ond esgyrn Eliseus oedd ar ôl. Un diwrnod, roedd rhai o’r Israeliaid yn claddu dyn. Yn sydyn, gwelon nhw elynion yn dod. Ceisiodd yr Israeliaid ddianc mor gyflym â phosib, felly dyma nhw’n taflu corff y dyn i mewn i fedd Eliseus. Dywed y Beibl: “Pan gyffyrddodd y corff esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a chodi ar ei draed.” (2 Brenhinoedd 13:14, 20, 21) Roedd y digwyddiadau hyn yn profi i Martha fod gan Dduw’r gallu i drechu marwolaeth. Dylen nhw dy argyhoeddi dithau hefyd fod nerth Duw yn enfawr ac yn ddiderfyn.

DIGWYDDIADAU YN AMSER YR APOSTOLION

10. Beth wnaeth Pedr i helpu chwaer Gristnogol oedd wedi marw?

10 Mae’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn cynnwys hanesion am atgyfodiadau gan weision ffyddlon Duw. Rydyn ni eisoes wedi sôn am yr atgyfodiadau a wnaeth Iesu yn agos at ddinas Nain a hefyd yng nghartref Jairus. Yn ddiweddarach, gwnaeth yr apostol Pedr atgyfodi Dorcas, a elwir hefyd Tabitha. Daeth Pedr at yr ystafell lle roedd ei chorff, fe weddïodd, ac yna dywedodd: “Tabitha, cod ar dy draed.” Daeth hi’n fyw yn y fan a’r lle, a dangosodd Pedr i’r Cristnogion a oedd yno “fod Dorcas yn fyw.” Roedd yr achlysur hwn mor drawiadol fel y “daeth llawer iawn o bobl i gredu yn yr Arglwydd.” Roedd y disgyblion newydd hyn yn gallu rhannu ag eraill y newyddion da am Iesu a hefyd ddweud wrth bawb am allu Jehofa i atgyfodi’r meirw.—Actau 9:36-42.

11. Beth ddywedodd Luc am ddyn ifanc, a pha effaith gafodd hynny ar bobl eraill?

11 Roedd ’na lygad-dystion i atgyfodiad arall. Un tro, roedd yr apostol Paul wedi mynd i gyfarfod mewn goruwchystafell yn Troas, sydd bellach yng ngogledd-orllewin Twrci. Siaradodd Paul tan hanner nos. Roedd dyn ifanc o’r enw Eutychus yn gwrando, yn eistedd wrth un o’r ffenestri. Ond, syrthiodd i gysgu a disgyn o’r trydydd llawr. Efallai Luc oedd y cyntaf i fynd at Eutychus. Fel doctor, fe wyddai nad oedd y bachgen wedi ei anafu a’i daro’n anymwybodol—roedd wedi marw! Daeth Paul i lawr y grisiau hefyd. Cofleidiodd Eutychus, ac roedd pawb yn synnu pan ddywedodd: “Mae’n fyw!” Cafodd y wyrth effaith fawr ar bawb oedd yn bresennol. “Roedd pawb wedi’u calonogi’n fawr” o weld bod y dyn ifanc wedi cael ei atgyfodi.—Actau 20:7-12.

GOBAITH DIBYNADWY

12, 13. O feddwl am yr atgyfodiadau rydyn ni wedi eu trafod, pa gwestiynau sy’n codi?

12 Dylai’r atgyfodiadau rydyn ni wedi eu trafod roi’r un hyder i ti a oedd gan Martha. Gallwn fod yn sicr fod ein Duw, yr un a roddodd fywyd inni, yn gallu dod â rhywun marw yn ôl yn fyw. Mae’n ddiddorol fod gweision ffyddlon i Dduw, fel Elias, Iesu, neu Pedr, wedi bod yn bresennol ar bob un o’r achlysuron hynny. A digwyddon nhw yn ystod amser pan oedd Jehofa yn gwneud gwyrthiau. Felly, beth am y bobl a fu farw ar adegau eraill, pan nad oedd gwyrthiau’n cael eu gwneud? A oedd dynion a merched ffyddlon yn gallu disgwyl y byddai Duw yn atgyfodi pobl yn y dyfodol? A allen nhw fod yr un mor ffyddiog â Martha pan ddywedodd hi am ei brawd: “Dw i’n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf”? Pam roedd hi’n gallu credu y byddai atgyfodiad yn digwydd yn y dyfodol, a pham y gelli dithau hefyd?

13 Mae sawl hanes yng Ngair Duw yn dangos bod ei weision ffyddlon yn gwybod y byddai atgyfodiad yn digwydd yn y dyfodol. Gad inni ystyried rhai ohonyn nhw.

14. Beth ydyn ni’n ei ddysgu am yr atgyfodiad o hanes Abraham?

14 Meddylia am yr hyn y gofynnodd Jehofa i Abraham ei wneud gydag Isaac, y mab yr oedd wedi aros mor hir amdano. Dywedodd Jehofa: “Plîs, cymer dy fab Isaac—yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti’n ei garu—a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm.” (Genesis 22:2) Sut rwyt ti’n meddwl roedd Abraham yn teimlo pan glywodd y gorchymyn hwnnw? Roedd Jehofa wedi addo y byddai’r holl genhedloedd yn cael eu bendithio drwy ddisgynyddion Abraham. (Genesis 13:14-16; 18:18; Rhufeiniaid 4:17, 18) Hefyd,dywedodd Jehofa y byddai’r fendith yn dod “drwy Isaac.” (Genesis 21:12) Ond, sut byddai hynny’n bosib petai Abraham yn aberthu ei fab? Cafodd Paul ei ysbrydoli i esbonio bod gan Abraham ffydd yng ngallu Duw i atgyfodi Isaac. (Darllen Hebreaid 11:17-19.) Ond, dydy’r Beibl ddim yn dweud bod Abraham yn disgwyl i Isaac gael ei atgyfodi yn syth bin, efallai o fewn ychydig o oriau, diwrnodau, neu hyd yn oed wythnosau. Doedd hi ddim yn bosib i Abraham wybod pryd y byddai ei fab yn cael ei atgyfodi. Ond, roedd yn trystio bod Jehofa yn mynd i ddod ag Isaac yn ôl yn fyw.

15. Pa obaith oedd gan y dyn ffyddlon Job?

15 Roedd y dyn ffyddlon Job hefyd yn gwybod bod atgyfodiad am ddigwydd yn y dyfodol. Roedd yn gwybod y byddai coeden sy’n cael ei thorri yn gallu tyfu eto, fel coeden newydd. Ond, dydy hynny ddim yn bosib gyda phobl. (Job 14:7-12; 19:25-27) Nid yw dyn sy’n marw yn gallu dod ag ef ei hun yn ôl yn fyw. (2 Samuel 12:23; Salm 89:48) Wrth gwrs, doedd hynny ddim yn golygu nad oedd Duw yn gallu atgyfodi rhywun. Ac roedd Job yn credu y byddai Jehofa yn cofio amdano. (Darllen Job 14:13-15.) Ni allai Job wybod pryd yn y dyfodol y byddai hynny’n digwydd. Ond, roedd Job yn hyderus fod gan y Creawdwr y gallu a’r dymuniad i gofio amdano a’i atgyfodi.

16. Pa gefnogaeth roddodd angel i Daniel?

16 Meddylia am ddyn ffyddlon arall, sef Daniel. Roedd yn was ffyddlon i Jehofa ar hyd ei oes, ac roedd Jehofa yn ei gefnogi. Ar un adeg, dywedodd angel wrth Daniel: “Rwyt ti’n sbesial iawn yng ngolwg Duw,” gan ychwanegu: “Bydd popeth yn iawn. Bydd yn ddewr!”—Daniel 9:22, 23; 10:11, 18, 19.

17, 18. Beth wnaeth Jehofa ei addo i Daniel?

17 Pan oedd Daniel yn tynnu at ei 100 oed ac yn dod at ddiwedd ei fywyd, efallai roedd yn meddwl am beth fyddai’n digwydd iddo. A oedd Daniel yn disgwyl byw eto? Oedd, yn bendant! Ar ddiwedd llyfr Daniel, darllenwn am yr hyn a addawodd Duw iddo: “Dos di yn dy flaen. Gelli fod yn dawel dy feddwl.” (Daniel 12:13) Roedd Daniel yn gwybod bod y meirw yn gorffwyso a “does dim cyfle i weithio na myfyrio, dim gwybodaeth na doethineb ym myd y meirw,” lle y byddai ef yn mynd cyn bo hir. (Pregethwr 9:10) Ond, nid dyna fydd y diwedd i Daniel. Rhoddodd Jehofa addewid arbennig iddo am y dyfodol.

18 Dywedodd angel Jehofa wrtho: “Pan ddaw’r diwedd, byddi di’n codi i dderbyn dy wobr.” Doedd Daniel ddim yn gwybod yn union pryd y byddai hynny’n digwydd. Deallodd y byddai’n marw ac wedyn yn gorffwyso. Ond, pan glywodd Daniel yr addewid, “byddi di’n codi i dderbyn dy wobr,” deallodd y byddai’n cael ei atgyfodi yn y dyfodol. Byddai hynny’n digwydd ymhell ar ôl iddo farw, “pan ddaw’r diwedd.” Neu, yn ôl y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig: “Cei orffwys, a sefyll i dderbyn dy ran yn niwedd y dyddiau.”

Fel Martha, gelli dithau hefyd fod yn sicr y bydd yr atgyfodiad yn digwydd (Gweler paragraffau 19, 20)

19, 20. (a) Beth a wnelo’r hyn rydyn ni wedi ei drafod â’r hyn a ddywedodd Martha wrth Iesu? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

19 Yn amlwg, roedd gan Martha resymau da dros gredu y byddai ei brawd ffyddlon, Lasarus, yn “dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” Dylai addewid Jehofa i Daniel, ynghyd â ffydd gref Martha yn yr atgyfodiad, roi hyder inni heddiw. Fe fydd yr atgyfodiad yn digwydd!

20 Rydyn ni wedi dysgu am atgyfodiadau go iawn a ddigwyddodd yn y gorffennol. Maen nhw’n profi bod y meirw yn gallu byw eto. Hefyd, rydyn ni wedi gweld bod dynion a merched ffyddlon wedi disgwyl atgyfodiad yn y dyfodol. Ond, oes ’na dystiolaeth i ddangos y gallai atgyfodiad ddigwydd ymhell ar ôl iddo gael ei addo? Os felly, byddai hynny’n rhoi rheswm ychwanegol inni edrych ymlaen at yr atgyfodiad yn y dyfodol. Ond pryd y byddai’n digwydd? Byddwn ni’n trafod y pwyntiau hyn yn yr erthygl nesaf.