HANES BYWYD
Gadael Popeth a Dilyn y Meistr
Pan oeddwn i’n 16 oed, dywedodd fy nhad wrthyf fi: “Os wyt ti’n mynd allan i bregethu, paid â dod yn dy ôl. Os ddoi di yn dy ôl, mi wna i dorri dy goesau.” Felly, penderfynais symud allan. Dyna oedd y tro cyntaf imi adael popeth er mwyn dilyn Iesu, ein Meistr.
PAM roedd fy nhad wedi gwylltio gymaint? Gad imi esbonio. Ges i fy ngeni ar 29 Gorffennaf 1929 mewn pentref bach yn nhalaith Bulacan yn Ynysoedd y Philipinau. Doedd gennyn ni ddim llawer o arian, ac roedd ein bywyd yn syml. Pan oeddwn i’n ifanc, gwnaeth byddin Japan ddechrau rhyfel yn erbyn y Philipinau a’u goresgyn. Ond, roedd ein pentref allan o’r ffordd, felly doedd y rhyfel ddim yn effeithio arnon ni yn uniongyrchol. Doedd gennyn ni ddim radio, teledu, na phapurau newydd, felly dim ond trwy bobl eraill roedden ni’n clywed am y rhyfel.
Roedd gen i saith brawd a chwaer, a phan oeddwn i’n wyth oed, mi es i fyw gyda fy nain a fy nhaid. Roedden ni’n Gatholigion, ond roedd fy nhaid yn barod i drafod crefydd ac i dderbyn llenyddiaeth grefyddol a roddwyd iddo gan ei ffrindiau. Rydw i’n ei gofio yn dangos imi y llyfrynnau Protection, Safety, ac Uncovered yn yr iaith Tagalog, * (gweler y troednodyn) ynghyd â Beibl. Roeddwn i’n mwynhau darllen y Beibl, yn enwedig y bedair Efengyl. Roedden nhw’n codi awydd ynof fi i ddilyn esiampl Iesu.—Ioan 10:27.
DYSGU SUT I DDILYN Y MEISTR
Gadawodd byddin Japan y Philipinau ym 1945. Tua’r adeg honno, gofynnodd fy rhieni imi symud adref. Gwnaeth fy nhaid fy annog i fynd, felly mi es i.
Ym mis Rhagfyr 1945, daeth Tystion Jehofa o’r dref Angat i bregethu yn ein pentref. Daeth un Tyst hŷn i’n tŷ ac egluro beth mae’r Beibl yn ei ddweud am “y cyfnod olaf hwn.” (2 Timotheus 3:1-5) Rhoddodd wahoddiad inni i fynychu astudiaeth Feiblaidd mewn pentref cyfagos. Mi es i, er nad oedd fy rhieni wedi mynd. Roedd tua 20 o bobl yno, ac roedd rhai yn gofyn cwestiynau am y Beibl.
Doeddwn i ddim yn deall y drafodaeth, felly penderfynais adael. Ond wedyn, dechreuon nhw ganu un o ganeuon y Deyrnas. Roeddwn i’n hoff iawn o’r gân, felly penderfynais aros. Ar ôl y gân a’r weddi,
cawson ni i gyd wahoddiad i fynychu cyfarfod yn Angat y dydd Sul nesaf.Cafodd y cyfarfod hwnnw ei gynnal yng nghartref y teulu Cruz, a gwnaeth rhai ohonon ni gerdded pum milltir i fod yno. Roedd tua 50 o bobl yn y cyfarfod, ac roeddwn i’n edmygu’r ffaith fod hyd yn oed plant bach yn gallu ateb cwestiynau anodd ar bynciau o’r Beibl. Ar ôl imi fynychu mwy o gyfarfodydd, ges i wahoddiad gan y brawd Damian Santos, a oedd yn arloeswr mewn oed, i aros dros nos yn ei dŷ. Treulion ni’r noson gyfan bron yn trafod y Beibl.
Bryd hynny, byddai pobl yn cael eu bedyddio yn fuan ar ôl iddyn nhw ddysgu pethau sylfaenol o’r Beibl. Ar ôl imi fynd i ychydig o gyfarfodydd, gofynnodd y brodyr imi ac i eraill, “Wyt ti eisiau cael dy fedyddio?” “Yndw,” meddais i. Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwasanaethu’r Meistr. (Colosiaid 3:24) Aethon ni at afon gyfagos, a chafodd dau ohonon ni ein bedyddio ar 15 Chwefror 1946.
Sylweddolais y dylai pob Cristion bedyddiedig bregethu’n rheolaidd fel Iesu. Roedd fy nhad yn meddwl fy mod i’n rhy ifanc i bregethu a dywedodd nad oedd cael fy medyddio yn fy ngwneud i’n gymwys i fod yn bregethwr. Esboniais iddo mai ewyllys Duw yw inni bregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw. (Mathew 24:14) Dywedais hefyd fod rhaid imi gadw fy addewid i Dduw. Dyna pryd gwnaeth fy nhad fy mygwth i yn y ffordd rwy’n ei disgrifio uchod. Roedd yn benderfynol o fy stopio i rhag pregethu. Hwnnw oedd y tro cyntaf imi adael popeth, neu wneud aberthau, er mwyn gwasanaethu Jehofa.
Gwnaeth y teulu Cruz fy ngwahodd i fyw gyda nhw yn Angat. Gwnaethon nhw hefyd fy annog i a’u merch, Nora, i ddechrau arloesi. Dechreuodd y ddau ohonon ni arloesi ar 1 Tachwedd 1947. Arloesodd Nora mewn tref arall, ond arhosais innau yn Angat.
CYFLE ARALL I ADAEL POPETH
Ar ôl imi arloesi am ddwy flynedd, rhoddodd Earl Stewart, brawd o’r Bethel, anerchiad i dros 500 o bobl yn sgwâr tref Angat. Siaradodd yn Saesneg, ac wedyn, rhoddais grynodeb o’i anerchiad yn Tagalog. Hwnnw oedd yr anerchiad cyntaf o lawer y gwnes i eu cyfieithu dros y blynyddoedd. Sut roeddwn i’n medru gwneud hynny? Er imi fynd i’r ysgol am saith mlynedd yn unig, roedd fy athro yn defnyddio Saesneg yn aml. Hefyd, roeddwn i’n astudio llawer o’n cyhoeddiadau yn Saesneg oherwydd bod cyn lleied ohonyn nhw ar gael yn Tagalog. Roedd y pethau hyn yn fy helpu i ddeall Saesneg yn ddigon da i gyfieithu anerchiadau.
Ym 1950, dywedodd y brawd Stewart wrth y gynulleidfa
leol fod y cenhadon am adael i fynychu’r Theocracy’s Increase Assembly yn Efrog Newydd, UDA. Felly, roedd swyddfa’r gangen eisiau i un neu ddau o arloeswyr helpu yn y Bethel. Ges i wahoddiad. Unwaith eto, gwnes i adael popeth a oedd yn gyfarwydd imi, y tro hwn i weithio yn y Bethel.Cyrhaeddais y Bethel ar 19 Mehefin 1950. Roedd y Bethel mewn hen dŷ mawr wedi ei amgylchynu gan goed mawr mewn hectar (2.5 erw) o dir. Roedd tua dwsin o frodyr sengl yn gweithio yno. Yn gynnar yn y boreau, byddwn i’n helpu yn y gegin. Wedyn, o tua naw o’r gloch, byddwn i’n smwddio dillad. Roeddwn i’n gwneud yr un pethau yn y prynhawn. Hyd yn oed ar ôl i’r cenhadon ddod yn ôl o’r cynulliad rhyngwladol, arhosais yn y Bethel. Gwnes i beth bynnag roedd y brodyr yn gofyn imi ei wneud. Gwnes i lapio’r cylchgronau yn barod i’w postio, paratoi tanysgrifiadau, a gweithio yn y dderbynfa.
GADAEL Y PHILIPINAU A MYND I GILEAD
Ym 1952, ges i a chwe brawd arall o’r Philipinau wahoddiad i fynychu dosbarth 20 Ysgol Gilead. Roeddwn i wrth fy modd! Pan oedden ni yn yr Unol Daleithiau, gwnaethon ni weld a gwneud llawer o bethau newydd. Bellach, roedd bywyd yn wahanol iawn i fywyd yn y pentref bychan lle ges i fy magu.
Er enghraifft, roedd rhaid inni ddysgu sut i ddefnyddio dyfeisiau ac offer nad oedden ni wedi eu gweld o’r blaen. Roedd hyd yn oed y tywydd yn wahanol! Un bore, roedd popeth yn wyn y tu allan i’r ffenestr. Dyna oedd y tro cyntaf imi weld eira. Roedd yn hyfryd, ond, nid oedd yn cymryd llawer o amser imi sylweddoli ei fod yn oer iawn!
Gwnes i fwynhau’r hyfforddiant yn Gilead gymaint fel nad oedd y newidiadau hyn yn fy mhoeni i. Roedd yr hyfforddwyr yn athrawon da iawn, a dangoson nhw inni sut i astudio a gwneud ymchwil. Yn sicr, gwnaeth yr hyfforddiant yn Gilead fy helpu i gryfhau fy mherthynas â Jehofa.
Ar ôl imi raddio, ges i aseiniad dros dro yn y Bronx yn Ninas Efrog Newydd. Felly, ym mis Gorffennaf 1953, roeddwn i’n gallu mynychu’r New World Society Assembly, a gafodd ei gynnal yna yn y Bronx. Ar ôl y cynulliad, ges i fy aseinio yn ôl i’r Philipinau.
GADAEL BYWYD CYFFORDDUS Y DDINAS
Gwnaeth y brodyr yn y Bethel fy aseinio i wneud gwaith cylch. Drwy wneud hyn, ges i fwy o gyfleon i efelychu Iesu, a wnaeth deithio i drefi a dinasoedd pell i helpu pobl Jehofa. (1 Pedr 2:21) Roedd fy nghylchdaith i yn cynnwys ardal enfawr yng nghanol Luzon, sef yr ynys fwyaf yn y Philipinau. Roedd yn cynnwys taleithiau Bulacan, Nueva Ecija, Tarlac, a Zambales. Er mwyn ymweld â rhai o’r trefi, roedd rhaid imi groesi mynyddoedd creigiog y Sierra Madre. Doedd dim bysiau na threnau yn mynd i’r llefydd hyn, felly roedd rhaid imi ofyn i yrwyr lorïau am gael eistedd ar ben y logiau roedden nhw’n eu cludo. Lawer gwaith, roedden nhw’n caniatáu imi wneud hynny, ond ffordd anghyfforddus iawn oedd hon i deithio.
Roedd y rhan fwyaf o’r cynulleidfaoedd yn fychan ac yn newydd. Felly, roedd y brodyr yn ddiolchgar pan wnes i eu helpu i drefnu’r cyfarfodydd a’r weinidogaeth yn well.
Yn nes ymlaen, ges i fy aseinio i gylchdaith a oedd yn cynnwys yr ardal Bicol i gyd. Yn yr ardal honno, roedd llawer o grwpiau mewn ardaloedd gwledig ac roedd yr arloeswyr arbennig yn pregethu mewn llefydd lle nad oedd y Tystion wedi bod o’r blaen. Mewn un cartref, dim ond twll yn y ddaear â dau ddarn o bren ar draws y canol oedd y toiled. Pan wnes i sefyll ar y darnau o bren, dyma nhw’n syrthio i mewn i’r twll a minnau yn eu dilyn. Roedd yn rhaid imi dreulio cryn dipyn o amser yn ymolchi ac ymdacluso cyn imi fod yn barod ar gyfer brecwast!
Pan oeddwn i’n gwasanaethu yn y gylchdaith honno, dechreuais feddwl am Nora, a oedd wedi dechrau arloesi’r un pryd â minnau. Erbyn hynny, roedd hi’n arloeswraig arbennig yn Ninas Dumaguete, ac mi es i i’w gweld hi. Ar ôl hynny, ysgrifennon ni lythyrau at ein gilydd, ac ym 1956, dyma ni’n priodi. Mi wnaethon ni dreulio’r wythnos gyntaf ar ôl priodi yn ymweld â chynulleidfa ar ynys Rapu Rapu. Yno, roedd rhaid inni ddringo mynyddoedd a cherdded pellterau mawr, ond roedden ni’n hapus i fod gyda’n gilydd yn helpu’r brodyr mewn llefydd anghysbell.
GWAHODDIAD YN ÔL I’R BETHEL
Ar ôl inni wneud gwaith cylch am tua phedair blynedd, cawson ni wahoddiad i fynd i swyddfa’r gangen. Dechreuon ni weithio yno ym mis Ionawr 1960. Yn ystod y blynyddoedd lawer rydyn ni wedi eu treulio ym Methel, rydw i wedi dysgu llawer oddi wrth frodyr sy’n ysgwyddo cyfrifoldebau mawr yng nghyfundrefn Jehofa. Ac mae Nora wedi mwynhau llawer o wahanol aseiniadau yn y Bethel.
Bendith fawr yw gweld bod llawer mwy o bobl yn gwasanaethu Jehofa yn y Philipinau bellach. Pan wnes i fynd i Fethel yn frawd sengl ifanc, roedd ’na tua 10,000 o gyhoeddwyr yn y wlad gyfan. Nawr, mae ’na dros 200,000 o gyhoeddwyr yn y Philipinau, ac mae cannoedd o frodyr a chwiorydd yn gwasanaethu yn y Bethel er mwyn cefnogi’r gwaith pregethu.
Wrth i amser fynd heibio, roedd angen mwy o le i weithio yn y Bethel. Yna, gofynnodd y Corff Llywodraethol inni chwilio am rywle gyda mwy o le i adeiladu swyddfa gangen newydd. Es i gydag arolygwr yr argraffdy o dŷ i dŷ yn ardal y gangen i ofyn i bobl a oedden nhw eisiau gwerthu eu hadeiladau. Doedd neb eisiau. Ond dywedodd un person: “Dydy pobl o Tsieina ddim yn gwerthu, dim ond prynu.”
Ond, un diwrnod, dechreuodd pethau annisgwyl ddigwydd. Roedd un o’n cymdogion yn symud i’r Unol Daleithiau, felly, gofynnodd a oedden ni eisiau prynu ei adeilad. Wedyn, dyma cymydog arall yn penderfynu gwerthu ei adeilad ef, gan annog pobl eraill o’i gwmpas i wneud yr un peth. Roedden ni hyd yn oed yn gallu prynu adeilad y dyn a oedd wedi dweud: “Dydy pobl o Tsieina ddim yn gwerthu.” Mewn cyfnod byr, roedd y gangen dair gwaith yn fwy. Rydw i’n sicr bod Jehofa eisiau i hynny ddigwydd.
Ym 1950, y fi oedd y person mwyaf ifanc yn y Bethel. Bellach, fy ngwraig a minnau yw’r rhai hynaf. Dydw i ddim yn difaru dilyn Iesu le bynnag y mae wedi fy arwain. Er bod fy rhieni wedi fy nhaflu allan o’r tŷ, mae Jehofa wedi rhoi imi deulu mawr o bobl sy’n ei garu. Rydw i’n hollol grediniol fod Jehofa’n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni, beth bynnag yw ein haseiniad. Rydw i a Nora yn hynod o ddiolchgar i Jehofa am bopeth mae wedi ei roi inni, ac rydyn ni’n annog pobl eraill i roi Jehofa ar brawf yn hyn o beth.—Malachi 3:10.
Un tro, gwahoddodd Iesu gasglwr trethi o’r enw Mathew Lefi i fod yn un o’i ddilynwyr. Beth wnaeth Mathew? “A dyma Lefi’n codi ar unwaith, gadael popeth, a mynd ar ei ôl.” (Luc 5:27, 28) Rydw innau hefyd wedi cael cyfleon i adael popeth er mwyn dilyn Iesu, ac rydw i’n annog eraill i wneud yr un peth a phrofi’r holl fendithion.
^ Par. 6 Cyhoeddir gan Dystion Jehofa ond bellach allan o brint.