Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rieni—Helpwch Eich Plant i Ddeall Sut i Gael Eu Hachub

Rieni—Helpwch Eich Plant i Ddeall Sut i Gael Eu Hachub

“Roeddet ti’n gyfarwydd â’r ysgrifau sanctaidd ers yn blentyn. Drwyddyn nhw y dest ti i ddeall sut i gael dy achub.”—2 TIMOTHEUS 3:15.

CANEUON: 141, 134

1, 2. Pam y gallai rhai rhieni bryderu pan fydd eu plant eisiau eu cysegru eu hunain i Jehofa a chael eu bedyddio?

MAE miloedd o fyfyrwyr y Beibl yn eu cysegru eu hunain i Jehofa ac yn cael eu bedyddio. Mae llawer ohonyn nhw yn bobl ifanc sydd wedi cael eu magu yn y gwir ac sydd wedi dewis y ffordd orau o fyw. (Salm 1:1-3) Os wyt ti’n rhiant Cristnogol, mae’n debyg dy fod ti’n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd dy fab neu dy ferch yn cael eu bedyddio.—Cymharer 3 Ioan 4.

2 Ond, efallai dy fod ti’n poeni. Efallai rwyt ti’n meddwl am rai o’r bobl ifanc sydd wedi cael eu bedyddio ond wedyn wedi amau a ydy byw yn ôl safonau Duw yn dda iddyn nhw. Mae rhai hyd yn oed wedi gadael y gwir. Felly, hawdd fyddai pryderu am y posibilrwydd fod dy blentyn yn mynd i ddechrau gwasanaethu Jehofa ond wedyn colli’r cariad oedd ganddo tuag at y gwir. Efallai bydd ef neu hi yn dod fel rhai o’r Cristnogion yn Effesus yn y ganrif gyntaf. Dywedodd Iesu amdanyn nhw: “Ti ddim yn fy ngharu i fel roeddet ti ar y cychwyn.” (Datguddiad 2:4) Sut gelli di helpu dy blentyn i gadw ei gariad yn gryf, tyfu yn ei ffydd, a deall sut i gael ei achub? (1 Pedr 2:2) Rydyn ni’n gallu dysgu oddi wrth esiampl Timotheus.

“ROEDDET TI’N GYFARWYDD Â’R YSGRIFAU SANCTAIDD”

3. (a) Sut daeth Timotheus yn Gristion, a sut rhoddodd ar waith yr hyn a ddysgodd? (b) Pa dri pheth yr oedd Paul eisiau i Timotheus eu gwneud?

3 Ymwelodd yr apostol Paul â Lystra am y tro cyntaf yn y flwyddyn 47. Mae’n debyg mai dyna’r amser pan glywodd Timotheus, a oedd efallai yn ei arddegau, am ddysgeidiaethau Iesu. Fe roddodd ar waith yr hyn a ddysgodd, a dwy flynedd yn ddiweddarach fe ddechreuodd deithio gyda Paul. Tua 16 mlynedd wedyn, ysgrifennodd Paul at Timotheus: “Dal di dy afael yn beth rwyt wedi’i ddysgu. Rwyt ti’n gwybod yn iawn mai dyna ydy’r gwir, ac yn gwybod sut bobl ddysgodd di. Roeddet ti’n gyfarwydd â’r ysgrifau sanctaidd [yr Ysgrythurau Hebraeg] ers yn blentyn. Drwyddyn nhw y dest ti i ddeall sut i gael dy achub, drwy gredu yn y Meseia Iesu.” (2 Timotheus 3:14, 15) Sylwa ar beth ddywedodd Paul am Timotheus: (1) yr oedd yn gyfarwydd â’r ysgrifau sanctaidd, (2) yr roedd yn dal ei afael yn yr hyn a ddysgodd, a (3) yr oedd yn deall sut i gael ei achub drwy gredu yn y Meseia Iesu.

Gall hyd yn oed plant ifanc iawn ddysgu am bobl a digwyddiadau yn y Beibl

4. Beth wyt ti wedi ei ddefnyddio er mwyn dysgu dy blant ifanc? (Gweler y llun agoriadol.)

4 Fel rhiant Cristnogol, rwyt ti eisiau i dy blentyn adnabod yr ysgrifau sanctaidd, sydd heddiw yn cynnwys yr Ysgrythurau Hebraeg a’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Gall hyd yn oed plant ifanc iawn ddysgu am bobl a digwyddiadau yn y Beibl. Mae cyfundrefn Jehofa wedi darparu llawer o lyfrau, llyfrynnau, a fideos y gallai rhieni eu defnyddio i helpu eu plant. Beth sydd ar gael yn dy iaith di? Mae’n hanfodol i dy blentyn wybod beth sydd yn y Beibl er mwyn adeiladu perthynas gref â Jehofa.

DAL DY AFAEL YN Y GWIRIONEDD

5. (a) Beth mae’n ei olygu i ddal dy afael yn y gwirionedd? (b) Sut rydyn ni’n gwybod bod Timotheus wedi dal ei afael yn y newyddion da am Iesu?

5 Nid yw’n ddigon i ddysgu plant am bobl a digwyddiadau yn y Beibl. Cofia y cafodd Timotheus ei annog i ddal ei afael yn y pethau roedd wedi eu dysgu. Mae’r ymadrodd Groeg a ddefnyddiodd Paul yma yn golygu “bod yn sicr am” neu “fod yn hollol hyderus am wirionedd rhywbeth.” Roedd Timotheus yn adnabod yr Ysgrythurau Hebraeg “ers yn blentyn,” hynny yw, ers iddo fod yn ifanc iawn. Yn nes ymlaen, daeth ef yn hollol sicr mai Iesu oedd y Meseia. Roedd gan Timotheus ffydd mor gryf nes iddo gael ei fedyddio ac yna gweithio fel cenhadwr gyda Paul.

6. Sut gelli di helpu dy blant i adeiladu ffydd yng Ngair Duw?

6 Sut gelli di helpu dy blant i adeiladu ffydd fel y gwnaeth Timotheus, er mwyn iddyn nhw hefyd ddal eu gafael yn y gwirionedd? Yn gyntaf, bydda’n amyneddgar. Mae’n cymryd amser i adeiladu ffydd gref. A dydy’r ffaith dy fod ti’n credu yn rhywbeth ddim yn golygu bydd dy blant yn ei gredu hefyd. Mae’n rhaid i bob plentyn resymu drosto’i hun er mwyn adeiladu ffydd yn y Beibl. (Darllen Rhufeiniaid 12:1.) Fel rhiant, rwyt ti’n gallu gwneud llawer i helpu dy blant i gryfhau eu ffydd, yn enwedig pan fyddan nhw’n gofyn cwestiynau. Gad inni weld beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth esiampl un tad.

7, 8. (a) Sut mae un tad Cristnogol yn dangos amynedd wrth ddysgu ei ferch? (b) Ar ba adegau roedd rhaid i ti ddangos amynedd wrth dy blentyn?

7 Dywed Thomas fod ei ferch 11 mlwydd oed weithiau yn gofyn cwestiynau fel: “A wnaeth Jehofa ddefnyddio esblygiad i ddatblygu bywyd ar y ddaear?” neu “Pam dydyn ni ddim yn gwneud mwy yn y gymuned er mwyn trio gwella pethau, fel cymryd rhan yn yr etholiadau?” Ar adegau, mae’n rhaid iddo ddal yn ôl rhag dweud wrthi beth i’w gredu. Mae Thomas yn gwybod dydy un ffaith fawr ddim yn perswadio rhywun o’r gwirionedd, ond llawer o ddarnau bach o dystiolaeth.

8 Mae Thomas hefyd yn gwybod bod rhaid iddo ddangos amynedd er mwyn dysgu ei ferch. Mewn gwirionedd, mae’n rhaid i bob Cristion ddangos amynedd. (Colosiaid 3:12) Mae Thomas yn sylweddoli bod angen treulio amser yn sgwrsio gyda’i ferch er mwyn ei helpu hi i adeiladau ei ffydd. Mae’n rhaid iddo resymu gyda hi ar beth mae hi’n ei ddysgu o’r Beibl. Dywed Thomas: “Yn enwedig gyda phwyntiau pwysig, rydw i a fy ngwraig eisiau gwybod os ydy ein merch yn wir yn credu’r hyn mae’n ei ddysgu ac os ydy hyn yn gwneud synnwyr iddi hi. Os oes ganddi hi gwestiynau, mae’n beth da. A dweud y gwir, byddaf yn poeni os oedd hi’n derbyn rhywbeth heb ofyn cwestiynau.”

9. Sut y gelli di helpu dy blant i gredu yng Ngair Duw?

9 Pan fydd rhieni yn dysgu gydag amynedd, mewn amser bydd eu plant yn dechrau deall beth yw gwir ffydd. (Effesiaid 3:18) Rydyn ni’n gallu eu dysgu nhw mewn ffordd sy’n addas i’w hoedran a’u dealltwriaeth. Wrth i’w ffydd yn yr hyn maen nhw’n ei ddysgu gryfhau, fe fydd yn haws o lawer iddyn nhw esbonio eu daliadau i eraill, gan gynnwys eu ffrindiau yn yr ysgol. (1 Pedr 3:15) Er enghraifft, ydy dy blant yn gallu defnyddio’r Beibl i esbonio beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn marw? Ydy’r esboniad yn y Beibl yn gwneud synnwyr iddyn nhw? * (Gweler y troednodyn.) Cofia fod angen amynedd er mwyn helpu dy blentyn i adeiladu ffydd yng Ngair Duw, ond bydd yn werth yr ymdrech.—Deuteronomium 6:6, 7.

Mae dy esiampl dy hun yn bwysig er mwyn helpu dy blant i ddatblygu eu ffydd

10. Beth ddylai fod yn rhan bwysig o dy ffordd o ddysgu?

10 Wrth gwrs, mae dy esiampl dy hun yn bwysig er mwyn helpu dy blant i ddatblygu eu ffydd. Dywed Stephanie, sy’n fam i dair merch: “Ers i fy mhlant fod yn ifanc iawn, rydw i wedi gofyn i fi fy hun, ‘Ydw i’n esbonio i fy mhlant y rhesymau dros fy ffydd i ym modolaeth Jehofa, ei gariad, a’i ffyrdd cyfiawn? Ydy fy nghariad i tuag at Jehofa yn amlwg i fy mhlant?’ Galla’i ddim disgwyl i fy mhlant fod yn hyderus os nad ydw innau.”

DEALL SUT I GAEL DY ACHUB

11, 12. Beth yw doethineb, a sut rydyn ni’n gwybod nad yw’n dibynnu ar oedran rhywun?

11 Rydyn ni wedi dysgu bod gan Timotheus: (1) wybodaeth am yr Ysgrythurau a (2) yr hyder y tu ôl i’w ddaliadau. Ond beth oedd Paul yn ei olygu pan ddywedodd fod yr ysgrifau sanctaidd yn gallu helpu Timotheus i ddeall sut i gael ei achub?

12 Yn ôl Insight on the Scriptures, Cyfrol 2, mae doethineb yn y Beibl yn cynnwys “y gallu i ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth i ddatrys problemau, osgoi peryglon, cyrraedd amcanion arbennig, neu roi cyngor i eraill yn hyn o beth. Mae’n hollol groes i ffolineb.” Dywed y Beibl: “Mae ffolineb wedi cael gafael ar feddwl person ifanc.” (Diarhebion 22:15) Gan fod doethineb yn groes i ffolineb, mae doethineb yn un arwydd o aeddfedrwydd. Mae person yn aeddfedu’n ysbrydol oherwydd ei fod yn ofni Jehofa ac eisiau ufuddhau iddo, nid yn unig oherwydd iddo fynd yn hynach.—Darllen Salm 111:10.

13. Sut gall pobl ifanc ddangos eu bod nhw’n deall sut i gael eu hachub?

13 Nid yw pobl ifanc sy’n weddol aeddfed yn ysbrydol yn cael eu “chwythu yma ac acw” gan eu dymuniadau neu gan ddylanwad pobl ifanc eraill. (Effesiaid 4:14) Yn lle hynny, maen nhw’n “dod i arfer gwahaniaethu rhwng y drwg a’r da.” (Hebreaid 5:14) Felly maen nhw’n gwneud penderfyniadau doeth, hyd yn oed pan nad yw rhieni neu oedolion eraill o gwmpas. (Philipiaid 2:12) Mae doethineb o’r fath yn angenrheidiol ar gyfer iachawdwriaeth. (Darllen Diarhebion 24:14.) Sut gelli di helpu dy blant i ddatblygu doethineb o’r fath? Mae’n rhaid sicrhau eu bod nhw’n ymwybodol o dy safonau. Trwy dy eiriau a dy weithredoedd, dylen nhw weld dy fod ti’n ceisio byw yn ôl safonau’r Beibl.—Rhufeiniaid 2:21-23.

Pam mae’n bwysig i rieni wneud ymdrech barhaol? (Gweler paragraffau 14-18)

14, 15. (a) Beth ddylai person ifanc sydd eisiau cael ei fedyddio feddwl amdano? (b) Sut gelli di helpu dy blant i fyfyrio ar y bendithion sy’n dod o ufuddhau i gyfreithiau Duw?

14 Fodd bynnag, er mwyn helpu dy blant i adeiladu ffydd, nid yw’n ddigon i ddweud wrthyn nhw beth sy’n gywir a beth sy’n anghywir. Hefyd mae’n rhaid eu helpu nhw i resymu ar gwestiynau fel: ‘Pam nad yw’r Beibl yn caniatáu pethau sy’n ymddangos yn apelgar? Sut galla’ i fod yn sicr fod safonau’r Beibl yn wastad yn dda i fi?’—Eseia 48:17, 18.

15 Os ydy dy blentyn eisiau cael ei fedyddio, helpa ef i feddwl yn ofalus am y cyfrifoldebau sy’n dod gyda’r penderfyniad hwnnw. Sut mae’n teimlo amdanyn nhw? Beth yw’r bendithion? Beth yw’r anawsterau? Pam mae’r bendithion yn fwy na’r anawsterau? (Marc 10:29, 30) Mae’n bwysig iawn i feddwl am y cwestiynau hyn cyn bedydd. Helpa dy blentyn i fyfyrio ar y bendithion sy’n dod o ufuddhau a’r canlyniadau drwg sy’n dod o anufuddhau. Wedyn, fe fydd yn fwy tebygol o gredu bod dilyn safonau’r Beibl yn wastad yn dda iddo.—Deuteronomium 30:19, 20.

AMHEUON AR ÔL BEDYDD

16. Beth ddylai rhieni ei wneud os yw eu plentyn bedyddiedig yn dechrau mynd yn wan yn y ffydd?

16 Beth gelli di ei wneud os ydy dy blentyn yn dechrau amau pethau am y gwir ar ôl iddo gael ei fedyddio? Er enghraifft, efallai bydd pethau’r byd yn edrych yn apelgar i dy fab neu dy ferch. Neu, gallai dy blentyn ddechrau amau nad dilyn egwyddorion y Beibl yw’r ffordd orau o fyw. (Salm 73:1-3, 12, 13) Gall y ffordd rwyt ti’n ymateb effeithio ar ei benderfyniad i barhau i wasanaethu Jehofa neu beidio. Tria osgoi dadlau â dy blentyn, p’un a yw’n ifanc iawn neu yn ei arddegau. Yn lle hynny, dangosa dy fod ti’n ei garu ac eisiau ei helpu.

17, 18. Os oes gan berson ifanc amheuon, sut gall ei rieni ei helpu?

17 Mae person ifanc bedyddiedig wedi ymgysegru i Jehofa. Addewid yw hwn i’w garu a’i wasanaethu o flaen unrhyw beth arall. (Darllen Marc 12:30.) Mae Jehofa yn ystyried ymgysegru yn addewid difrifol, a dylen ninnau hefyd. (Pregethwr 5:4, 5) Atgoffa dy blentyn am hyn. Ond, yn gyntaf, dos ati i ddarllen ac astudio’r deunydd mae’r gyfundrefn wedi ei ddarparu ar gyfer rhieni. Yna, mewn ffordd garedig ac ar yr amser iawn, pwysleisia pa mor ddifrifol oedd ei benderfyniad i’w gysegru ei hun i Jehofa drwy fedydd, ond hefyd bod hynny’n dod â llawer o fendithion iddo.

18 Er enghraifft, gelli di ddod o hyd i gyngor da yn yr atodiad “Questions Parents Ask” yng nghefn y llyfr Questions Young People Ask—Answers That Work, Cyfrol 1. Mae’n annog rhieni i beidio â rhuthro i feddwl bod eu plentyn yn ei arddegau wedi gwrthod y gwirionedd, ond, yn hytrach, i geisio canfod beth ydy’r wir broblem. Efallai y broblem yw pwysau gan gyfoedion neu unigrwydd. Neu efallai fod y plentyn yn teimlo bod pobl ifanc eraill yn gwneud mwy i wasanaethu Jehofa. Mae’r atodiad hefyd yn esbonio dydy’r pethau hyn ddim o reidrwydd yn golygu nad yw dy blentyn yn cytuno â dy ddaliadau. Fel arfer maen nhw’n dod o ganlyniad i ryw anhawster arall. Mae’r atodiad hefyd yn awgrymu sut gall rhiant helpu ei blentyn sy’n amau’r gwir.

19. Sut gall rhieni helpu eu plant i ddeall sut i gael eu hachub?

19 Fel rhiant, mae gennyt ti’r cyfrifoldeb pwysig a’r fraint o fagu dy blant “a’u dysgu nhw i wneud beth mae’r Arglwydd yn ei ddweud.” (Effesiaid 6:4) Fel rydyn ni wedi ei ddysgu, mae hyn yn golygu bod rhaid i ti ddysgu dy blant beth mae’r Beibl yn ei ddweud a’u helpu i fod yn sicr o’r hyn maen nhw’n ei ddysgu. Ar ôl iddyn nhw gryfhau eu ffydd, byddan nhw’n cael eu hysgogi i’w cysegru eu hunain i Jehofa a gwneud eu gorau i’w wasanaethu. Gad i Air Duw, ei ysbryd, a dy ymdrechion helpu dy blant i ddeall sut i gael eu hachub.

^ Par. 9 Mae’r taflenni astudio ar gyfer y llyfr “Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?” yn adnoddau ardderchog sy’n gallu helpu pobl ifanc ac oedolion i ddeall ac esbonio gwirioneddau’r Beibl. Gelli di ddod o hyd iddyn nhw mewn llawer o ieithoedd ar jw.org. Edrycha o dan DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > ADNODDAU ASTUDIO’R BEIBL.