Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

A ddylai Cristnogion ddefnyddio’r ddyfais fewngroth (IUD) ar gyfer rheoli cenhedlu?

Ynglŷn â’r mater hwn, dylai pob cwpl Cristnogol wneud penderfyniad a fydd yn gadael iddyn nhw gael cydwybod lân. I wneud hynny, dylen nhw ystyried yn ofalus sut mae’r IUD yn gweithio a’r egwyddorion Beiblaidd sy’n berthnasol.

Rhoddodd Jehofa orchymyn i Adda ac Efa ac, yn nes ymlaen, i Noa a’i deulu: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi.” (Genesis 1:28; 9:1) Nid yw’r Beibl yn dweud bod rhaid i Gristnogion ddilyn y gorchymyn hwnnw. Felly, mae’n rhaid i bob cwpl benderfynu a fyddan nhw’n defnyddio math arbennig o reoli cenhedlu i gyfyngu maint y teulu neu i benderfynu pryd i gael plant. Pa ffactorau dylen nhw eu hystyried?

Dylai Cristnogion seilio unrhyw benderfyniad ynglŷn â rheoli cenhedlu ar egwyddorion y Beibl. Dyna pam na fydden nhw byth yn defnyddio erthyliad fel dull o reoli cenhedlu. Mae dewis cael erthyliad yn dod â beichiogrwydd i ben a fyddai, petai’n cael ei adael i barhau, yn gorffen gyda geni babi. Mae erthyliad yn mynd yn erbyn beth mae’r Beibl yn ei ddweud am barchu bywyd. (Exodus 20:13; 21:22, 23; Salm 139:16; Jeremeia 1:5) Beth am ddefnyddio IUD?

Gwnaeth y Tŵr Gwylio Saesneg 15 Mai, 1979 (tudalennau 30-31), drafod hyn. Roedd y rhan fwyaf o’r IUDs ar y pryd wedi eu gwneud o blastig ac roedden nhw’n cael eu mewnosod yn y groth (wterws) er mwyn atal beichiogrwydd. Esboniodd yr erthygl nad oedd hi’n hollol eglur sut roedd yr IUD yn gweithio. Dywedodd llawer o wyddonwyr fod yr IUD yn rhwystro’r sberm rhag cyrraedd wyau’r ddynes a’u ffrwythloni. Os nad oedd wy yn cael ei ffrwythloni, doedd bywyd newydd ddim yn dechrau.

Ond, roedd rhywfaint o dystiolaeth i ddangos bod wy weithiau yn cael ei ffrwythloni. Gall yr wy sydd newydd gael ei ffrwythloni dyfu yn y tiwb Fallopio (sef beichiogrwydd ectopig) neu efallai deithio i mewn i’r groth. Petai’n cyrraedd y groth, gallai’r IUD atal yr wy sydd wedi ei ffrwythloni rhag mewnblannu yn leinin y groth, a byddai’r beichiogrwydd yn gorffen. Byddai hyn yn debyg i erthyliad. Gorffennodd yr erthygl drwy ddweud: “Dylai Cristion sy’n pryderu am ba mor briodol yw defnyddio IUD feddwl yn ddifrifol am y wybodaeth sydd ar gael, gan ddilyn gorchymyn y Beibl i barchu sancteiddrwydd bywyd.”—Salm 36:9.

Ond ers 1979, pan gafodd yr erthygl ei chyhoeddi, mae llawer o ddatblygiadau ym meysydd meddygaeth a gwyddoniaeth wedi digwydd.

Nawr mae ’na ddau fath ychwanegol o IUD ar gael. Mae un sy’n cynnwys copr wedi bod ar gael ar raddfa eang yn yr Unol Daleithiau ers 1988. Mae’r un arall yn rhyddhau hormon ac fe ddechreuodd gael ei werthu yn 2001. Beth ydyn ni’n ei wybod am sut mae’r ddau fath o IUD hyn yn gweithio?

Copr: Fel y soniwyd amdano uchod, mae’r IUD yn ei gwneud hi’n anodd i sberm oroesi pan fydd yn pasio trwy’r groth i gyrraedd yr wy. Yn ychwanegol i hynny, mewn IUDs sy’n cynnwys copr, mae’n ymddangos bod y copr yn wenwynig i’r sberm, felly mae’n gweithio fel sbermleiddiad. * (Gweler y troednodyn.) Hefyd, mae IUDs o’r fath yn newid leinin y groth.

Hormon: Mae math arall o IUD yn cynnwys hormon sy’n debyg i’r un mewn pils rheoli cenhedlu. Mae’r rhain yn gweithio fel yr hen IUDs, ond maen nhw hefyd yn rhyddhau hormon y tu mewn i’r groth. Mewn rhai menywod, mae hyn yn atal ofylu, hynny yw, yn atal rhyddhau wy. Wrth gwrs, os nad yw wy yn cael ei ryddhau, ni ellir gael ei ffrwythloni. Mae’r IUDs hyn hefyd yn teneuo leinin y groth. * (Gweler y troednodyn.) Yn ychwanegol i hyn, maen nhw’n tewhau’r mwcws yng ngheg y groth, sy’n blocio’r sberm rhag mynd o’r wain i’r groth.

Fel y soniwyd amdano uchod, mae’n ymddangos bod y ddau fath o IUD yn newid leinin y groth. Mae hyn yn golygu os yw menyw yn ofylu ac mae’r wy yn cael ei ffrwythloni, gallai fynd i mewn i’r groth ond methu mewnblannu oherwydd nid yw’r leinin mor barod i’w dderbyn. Byddai hynny’n dod â’r beichiogrwydd i ben yn gynnar. Fodd bynnag, mae gwyddonwyr yn credu nad yw hyn yn digwydd yn aml iawn, ac mae’n gallu digwydd weithiau o gymryd pils rheoli cenhedlu.

Felly, ni allwn ddweud yn bendant fod IUDs sy’n cynnwys copr neu hormon bob amser yn atal wy rhag cael ei ffrwythloni. Ond, mae ymchwil wyddonol yn dangos bod IUDs o’r fath, sy’n gweithredu yn y ffyrdd a drafodwyd uchod, yn atal wy rhag cael ei ffrwythloni ar y cyfan, ac, o’r herwydd, yn anaml iawn maen nhw’n gadael i fenyw feichiogi.

Gall cwpl Cristnogol sydd eisiau defnyddio IUD drafod hyn gyda’u doctor. Gall ef neu hi adael iddyn nhw wybod pa IUDs sydd ar gael iddyn nhw a hefyd beth yw’r buddion a’r risgiau posib i’r wraig. Ni ddylai’r cwpl ddisgwyl na gadael i unrhyw un arall, hyd yn oed y doctor, wneud y penderfyniad drostyn nhw. (Rhufeiniaid 14:12; Galatiaid 6:4, 5) Mae hwn yn benderfyniad preifat y dylen nhw ei wneud fel cwpl. Eu nod yw plesio Duw a chael cydwybod lân.—Cymharer 1 Timotheus 1:18, 19; 2 Timotheus 1:3.

^ Par. 8 Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr wedi rhyddhau adroddiad sy’n dweud: “Mae IUDs sy’n cynnwys mwy o gopr yn fwy na 99% effeithiol. Mae hyn yn golygu bod llai nag un ym mhob cant o fenywod sy’n defnyddio IUD yn dod yn feichiog mewn un flwyddyn. Bydd IUDs gyda llai o gopr yn llai effeithiol.”

^ Par. 9 Oherwydd bod IUDs sy’n cynnwys hormon yn teneuo leinin y groth, weithiau mae doctoriaid yn awgrymu y dylid eu defnyddio nhw i reoli misglwyf trwm menywod priod a di-briod.