Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Byddwch yn Ddiolchgar”

“Byddwch yn Ddiolchgar”

WYT TI’N dy ystyried dy hun yn berson diolchgar? Dyna iti gwestiwn y dylen ni i gyd ei ystyried. Rhagfynegodd y Beibl y byddai llawer yn ein dyddiau ni “yn anniolchgar.” (2 Tim. 3:2) Mae’n debyg dy fod ti wedi cwrdd â rhai sy’n disgwyl i bawb wneud pethau drostyn nhw neu i roi pethau iddyn nhw. Yr argraff yw nad ydyn nhw’n gweld yr angen i ddiolch am yr hyn maen nhw’n ei gael. A wyt ti’n ei chael hi’n annifyr bod yng nghwmni pobl fel hyn?

I’r gwrthwyneb, dywedir weision Jehofa: “Byddwch yn ddiolchgar.” Ac yn ogystal: “Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy’ch sefyllfa chi.” (Col. 3:15; 1 Thes. 5:18) Y gwir yw, mae meithrin ysbryd diolchgar yn dda inni. Mae ’na nifer o resymau dros ddweud hyn.

DIOLCHGARWCH AC AGWEDD GYTBWYS TUAG ATON NI’N HUNAIN

Rheswm da dros feithrin ysbryd diolchgar yw oherwydd ei fod yn gallu ein helpu i feddwl yn fwy positif ohonon ni’n hunain. Pan fydd rhywun yn diolch am rywbeth, mae’n debyg y bydd yn teimlo’n dda amdano ei hun a bydd y sawl sy’n derbyn y diolch yn teimlo’n well hefyd. Pam y mae bod yn ddiolchgar yn gwneud i ni ac i eraill fod yn hapus? Wel, ystyria’r enghraifft ganlynol: Os bydd rhywun yn fodlon treulio amser yn gwneud rhywbeth drosot ti, mae’n rhaid ei fod yn teimlo dy fod ti’n ei haeddu. Mae ef neu hi’n meddwl y byd ohonot ti. Pan wyt ti’n sylwi ar y diddordeb personol sydd gan eraill ynot ti, dylai hynny godi dy galon. Dyma mae’n debyg oedd yn wir yn achos Ruth. Mae’n amlwg fod haelioni Boas tuag at Ruth a’i ofal drosti wedi gwneud iddi deimlo’n dda amdani hi ei hun.—Ruth 2:10-13.

Mae hi’n gwbl briodol inni fod yn ddiolchgar i Dduw. Mae’n siŵr dy fod ti ar brydiau wedi meddwl am y llu o anrhegion ysbrydol a materol y mae wedi eu darparu ac yn dal i’w darparu. (Deut. 8:17, 18; Act. 14:17) Ond yn hytrach na meddwl am ddaioni Duw am ennyd, beth am fyfyrio ar y daioni hwnnw ac ar yr holl fendithion y mae Duw wedi eu rhoi i ti a dy anwyliaid. Bydd myfyrio ar haelioni dy Greawdwr yn cryfhau dy werthfawrogiad amdano ac yn dangos iti gymaint y mae ef yn dy garu ac yn dy werthfawrogi.—1 Ioan 4:9.

Ond ceisia fynd y tu hwnt i feddwl am ei haelioni a myfyrio ar ei fendithion yn unig; diolcha i Jehofa am ei ddaioni. (Salm 100:4, 5) Dywedwyd bod “mynegi diolchgarwch yn cyfrannu mewn ffordd bwysig iawn at hapusrwydd bodau dynol.”

MAE DIOLCHGARWCH YN CRYFHAU CYFEILLGARWCH

Rheswm arall y mae bod yn ddiolchgar yn dda iti, yw oherwydd ei fod yn cryfhau cyfeillgarwch. Mae angen i bawb deimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi. Pan fyddi di’n diolch yn ddiffuant i rywun am weithred garedig, bydd y ddau ohonoch chi’n well ffrindiau. (Rhuf. 16:3, 4) Ac ymhellach, mae pobl ddiolchgar yn fwy tebygol o fod yn bobl sy’n helpu eraill. Maen nhw’n sylwi pan fydd rhywun yn garedig wrthyn nhw a byddan nhwthau’n cael eu cymell i fod yn garedig hefyd. Ydy, mae helpu eraill yn arwain at hapusrwydd. Fel dywedodd Iesu: “Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.”—Act. 20:35.

Mae cyd-gyfarwyddwr prosiect astudio Prifysgol California, Robert Emmons, yn gwneud y pwynt canlynol: “Mae gweld trwy lygaid diolchgarwch yn gofyn inni weld y we o gydgysylltiadau lle’r ydyn ni yn rhoddwyr ac yn dderbynwyr am yn ail.” Y ffaith amdani yw, rydyn ni’n byw ac yn bod oherwydd gofal a chefnogaeth eraill a hynny mewn amryw ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, efallai eu bod yn rhoi bwyd neu ofal meddygol inni. (1 Cor. 12:21) Mae’r person diolchgar yn gwerthfawrogi beth mae eraill yn ei wneud drosto. Felly, a wyt ti wedi meithrin yr arfer o ddiolch i eraill am yr hyn maen nhw yn ei wneud drosot ti?

DIOLCHGARWCH A DY OLYGWEDD AR FYWYD

Rheswm arall dros feithrin diolchgarwch yw oherwydd ei fod yn dy helpu i ganolbwyntio ar y positif yn hytrach nag ar y negatif. Mewn ffordd, mae dy feddwl yn gweithio fel hidlen. Mae’n caniatáu iti ganolbwyntio ar rai agweddau ar dy amgylchfyd ac yn cau allan agweddau eraill. Rwyt ti’n tueddu i weld pethau positif ac yn talu llai o sylw i broblemau. Y mwyaf diolchgar yr wyt ti, y mwyaf y byddi di’n gweld pethau da, sydd yn ei dro yn dy wneud di’n fwy diolchgar byth. Bydd cael persbectif ar fywyd sy’n deillio o ddiolchgarwch yn dy helpu i wneud yr hyn yr oedd yr apostol Paul yn ei argymell: “Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i’r Arglwydd.”—Phil. 4:4.

Fe weli di fod diolchgarwch yn dy helpu i beidio â meddwl mewn ffordd negyddol. Mae hi’n anodd iawn iti fod yn ddiolchgar a theimlo yn genfigennus, yn drist, neu’n flin ar yr un pryd. Mae pobl ddiolchgar yn tueddu i fod yn llai materol. Maen nhw’n gwerthfawrogi’r hyn sydd ganddyn nhw a dydyn nhw ddim yn rhoi eu bryd ar gael mwy.—Phil. 4:12.

CYFRA DY FENDITHION!

Fel Cristion, rwyt ti’n sylweddoli bod Satan eisiau iti fod yn ddigalon oherwydd anawsterau’r dyddiau diwethaf. Fe fyddai wrth ei fodd petaset ti’n mabwysiadu ysbryd negyddol ac yn cwyno am bopeth. Fe fyddai ysbryd o’r fath yn dy wneud di’n llai effeithiol fel pregethwr y newyddion da. A dweud y gwir, mae diolchgarwch yn mynd law yn llaw â ffrwythau ysbryd Duw, sy’n cynnwys llawenhau yn y pethau da mae Duw wedi eu rhoi iti a chael ffydd yn ei addewidion.—Gal. 5:22, 23.

Gan dy fod ti’n un o bobl Jehofa, mae’n debyg dy fod ti’n cytuno â’r hyn mae’r erthygl yn ei ddweud am ddiolchgarwch. Eto, rwyt ti’n sylweddoli nad yw hi bob amser yn beth hawdd i gael agwedd ddiolchgar ac optimistig. Ond paid â gadael i hynny dy ddigalonni. Fe elli di feithrin agwedd ddiolchgar a’i chadw. Sut? Beth am dreulio amser bob diwrnod yn meddwl am rai pethau yn dy fywyd y gelli di fod yn ddiolchgar amdanyn nhw. Y mwyaf yn y byd rwyt ti’n gwneud hynny, y mwyaf naturiol y bydd hi iti fod yn ddiolchgar. Fe fyddi di’n hapusach o lawer na’r rhai sy’n canolbwyntio ar anawsterau bywyd. Meddylia am y pethau da y mae Duw ac eraill yn eu gwneud sy’n dy annog ac sy’n dy wneud di’n hapus. Beth am gadw dyddiadur a nodi ynddo ddau neu dri pheth sy’n dy wneud di’n hapus y diwrnod hwnnw.

Mae rhai sydd wedi astudio’r mater yn dweud bod “dangos diolchgarwch yn rheolaidd yn gallu newid y ffordd y mae niwronau’r ymennydd yn tanio i ffurfio patrymau awtomatig mwy cadarnhaol.” Mae person diolchgar yn berson hapusach. Felly, cyfra dy fendithion, mwynha’r pethau da sy’n digwydd iti, a bydda’n ddiolchgar bob amser! Yn hytrach na chymryd pethau’n ganiataol, “diolchwch i’r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni.” Yn wir, “byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy’ch sefyllfa chi.”—1 Cron. 16:34; 1 Thes. 5:18.