Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 50

Mae Jehofa’n Rhoi Rhyddid Iti

Mae Jehofa’n Rhoi Rhyddid Iti

“Rhaid cyhoeddi . . . y rhyddhau mawr i bawb drwy’r wlad i gyd.”—LEF. 25:10.

CÂN 22 Mae’r Deyrnas Wedi ei Sefydlu—Gad Iddi Ddod!

CIPOLWG *

1-2. (a) Beth yw jiwbilî? (Gweler y blwch “ Beth Oedd y Jiwbilî?”) (b) Fel y cofnodwyd yn Luc 4:16-18, beth y soniodd Iesu amdano?

MEWN rhai gwledydd, mae digwyddiadau arbennig yn cael eu trefnu i ddathlu teyrnasiad 50 mlynedd y brenin neu’r frenhines. Mae’r 50fed flwyddyn honno yn aml yn cael ei galw’n flwyddyn jiwbilî y sofran. Gall dathliadau’r jiwbilî bara am ddiwrnod, am wythnos, neu hyd yn oed yn hirach, ond yn y pen draw, maen nhw’n dod i ben, ac mae llawenydd y digwyddiad hwnnw yn cael ei anghofio.

2 Fe fyddwn ni’n ystyried jiwbilî llawer gwell, yn well hyd yn oed na’r ŵyl a barhaodd am flwyddyn ac a oedd yn cael ei dathlu bob 50 mlynedd yn Israel gynt. Roedd y Jiwbilî honno yn rhoi rhyddhad i’r Israeliaid. Pam mae hynny o ddiddordeb i ni heddiw? Oherwydd mae’r flwyddyn Jiwbilî yn Israel yn ein hatgoffa o’r ddarpariaeth am ryddid parhaol y mae Jehofa’n ei rhoi inni nawr, rhywbeth y soniodd Iesu amdano.—Darllen Luc 4:16-18.

Roedd y Jiwbilî yn Israel yn dod â llawenydd, gan fod y rhai a oedd wedi bod yn gaethweision yn dychwelyd at eu teuluoedd a’u tir (Gweler paragraff 3) *

3. Yn ôl Lefiticus 25:8-12, sut gwnaeth yr Israeliaid elwa ar y Jiwbilî?

3 Gallwn ddeall yn well beth roedd Iesu yn ei olygu pan siaradodd am ryddid drwy ystyried yn gyntaf y Jiwbilî a drefnodd Duw ar gyfer ei bobl yn y gorffennol. Dywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid: ‘Rhaid cyhoeddi fod y flwyddyn wedyn, sef yr hanner canfed flwyddyn, wedi ei chysegru. Dyma flwyddyn y rhyddhau mawr i bawb drwy’r wlad i gyd—blwyddyn o ddathlu [Jiwbilî]. Mae pawb i gael eiddo’r teulu yn ôl, ac i fynd yn ôl at ei deulu estynedig.’ (Darllen Lefiticus 25:8-12.) Yn yr erthygl flaenorol, fe wnaethon ni ystyried sut gwnaeth yr Israeliaid elwa ar y Saboth wythnosol. Sut, fodd bynnag, gwnaeth yr Israeliaid elwa ar y Jiwbilî? Wel, dychmyga fod gan un o’r Israeliaid ddyledion mawr ac yntau’n gorfod gwerthu ei dir er mwyn talu’r ddyled. Yn ystod blwyddyn y Jiwbilî, fe fyddai’n cael ei dir yn ôl. Felly, gallai’r dyn “gael eiddo’r teulu yn ôl,” ac yn hwyrach ymlaen byddai ei blant yn etifeddu’r tir. Mewn achos arall, efallai byddai’n rhaid i ddyn â llawer o ddyled werthu un o’i blant—neu hyd yn oed ef ei hun—i fod yn gaethwas er mwyn talu’r ddyled. Yn ystod blwyddyn y Jiwbilî, roedd yn rhaid i’r caethwas “fynd yn ôl at ei deulu estynedig.” Felly, fyddai neb yn gorfod bod yn gaethwas am byth heb obaith! Dyna ichi esiampl o ofal Jehofa dros ei bobl!

4-5. Pam mae’r Jiwbilî o ddiddordeb inni heddiw?

4 Beth oedd bendith arall y Jiwbilî? Esboniodd Jehofa: “Ddylai neb fod mewn angen yn eich plith chi, am fod yr ARGLWYDD yn mynd i’ch bendithio chi yn y wlad mae’n ei rhoi i chi.” (Deut. 15:4) Mae hynny’n wahanol iawn i beth sy’n digwydd yn y byd heddiw, lle yn aml mae’r cyfoethog yn dod yn fwy cyfoethog ac mae’r tlawd yn mynd yn fwy tlawd!

5 Fel Cristnogion, dydyn ni ddim o dan Gyfraith Moses. Mae hynny’n golygu nad ydyn ni’n dilyn trefniant y Jiwbilî o ryddhau caethweision, maddau i bobl eu dyledion, a rhoi tir etifeddol yn ôl i bobl. (Rhuf. 7:4; 10:4; Eff. 2:15) Sut bynnag, mae gennyn ni reswm dros ddangos diddordeb yn y Jiwbilî. Pam? Oherwydd gallwn ni fwynhau rhyddid sy’n ein hatgoffa o’r hyn a drefnodd Jehofa ar gyfer yr Israeliaid.

DATGANIAD IESU O RYDDID

6. Pam mae angen i bob un ohonon ni gael ein rhyddhau?

6 Mae angen i bob un ohonon ni gael ein rhyddhau o gaethwasiaeth greulon pechod. O ganlyniad i fod yn bechaduriaid, rydyn ni’n heneiddio, yn mynd yn sâl, ac yn marw. Mae llawer yn gweld tystiolaeth o hynny pan fyddan nhw’n edrych yn y drych neu’n mynd at y doctor i gael triniaeth. Rydyn ni hefyd yn ddigalon pan fyddwn ni’n pechu. Cyfaddefodd yr apostol Paul ei fod wedi cael ei wneud yn “garcharor i bechod.” Ychwanegodd: “Dw i mewn picil go iawn! Oes yna ffordd allan? Pwy sy’n mynd i’m hachub i o ganlyniadau’r bywyd yma o bechu?”—Rhuf. 7:23, 24.

7. Beth ragfynegodd y proffwyd Eseia am ryddid?

7 Yn ffodus, mae Duw wedi trefnu ffordd inni gael ein hachub, neu ein rhyddhau o bechod. Iesu yw’r un sy’n gwneud hynny’n bosib. Fwy na 700 mlynedd cyn i Iesu ddod i’r ddaear, rhagfynegodd y proffwyd Eseia y byddai pobl yn cael math o ryddid yn y dyfodol a fyddai’n llawer gwell na’r rhyddid oedd gan yr Israeliaid ym mlwyddyn y Jiwbilî. Ysgrifennodd: ‘Mae Ysbryd fy Meistr, yr ARGLWYDD, arna i, am fod yr ARGLWYDD wedi fy eneinio i’w wasanaethu. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi newyddion da i’r tlodion, i drin briwiau y rhai sydd wedi torri eu calonnau, a chyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid.’ (Esei. 61:1) I bwy mae’r broffwydoliaeth honno’n berthnasol?

8. I bwy mae proffwydoliaeth Eseia am ryddid yn berthnasol?

8 Gwnaeth y broffwydoliaeth bwysig honno am ryddid ddechrau cael ei chyflawni ar ôl i Iesu gychwyn ei weinidogaeth. Pan aeth i’r synagog yn Nasareth, y dref lle y cafodd ei fagu, dyma Iesu’n darllen proffwydoliaeth Eseia i’r Iddewon a oedd wedi ymgynnull yno. Fe wnaeth Iesu gymhwyso’r geiriau canlynol iddo ef ei hun: “Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i, oherwydd mae wedi fy eneinio i i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid, a phobl sy’n ddall i gael eu golwg yn ôl, a’r rhai sy’n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr, a dweud hefyd fod y flwyddyn i’r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.” (Luc 4:16-19) Sut gwnaeth Iesu gyflawni’r broffwydoliaeth honno?

Y BOBL GYNTAF I’W RHYDDHAU

Iesu’n cyhoeddi rhyddid yn synagog Nasareth (Gweler paragraffau 8-9)

9. Pa fath o ryddid roedd llawer yn nyddiau Iesu yn gobeithio amdano?

9 Yn nyddiau Iesu, dechreuodd y bobl yn y ganrif gyntaf dderbyn y rhyddid yr oedd Eseia wedi ei ragfynegi ac yr oedd Iesu wedi darllen amdano. Cadarnhaodd Iesu hyn wrth iddo gyhoeddi: ‘Mae’r geiriau yma o’r ysgrifau sanctaidd wedi dod yn wir heddiw.’ (Luc 4:21) Roedd llawer a glywodd beth roedd Iesu wedi ei ddarllen yn fwy na thebyg yn gobeithio cael eu rhyddhau o afael y llywodraeth Rufeinig. Efallai iddyn nhw deimlo fel y ddau ddyn a ddywedodd: “Roedden ni wedi gobeithio mai fe oedd y Meseia oedd yn mynd i ennill rhyddid i Israel.” (Luc 24:13, 21) Ond, rydyn ni’n gwybod na wnaeth Iesu annog ei ddilynwyr i wrthryfela yn erbyn rheolaeth lem y Rhufeiniaid. Yn hytrach na hynny, gorchmynnodd Iesu iddyn nhw dalu “beth sydd biau Cesar i Cesar.” (Math. 22:21) Felly, sut gwnaeth Iesu ddod â rhyddid bryd hynny?

10. O beth oedd Iesu’n rhyddhau pobl?

10 Daeth Mab Duw i helpu pobl i gael rhyddid a hynny mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, gwnaeth Iesu helpu pobl i fod yn rhydd rhag dysgeidiaethau beichus yr arweinwyr crefyddol. Yn y dyddiau hynny, roedd llawer o Iddewon yn gaeth i draddodiadau dynol a daliadau anghywir. (Math. 5:31-37; 15:1-11) Mewn ffordd, roedd y rhai a oedd yn honni bod yn arweinwyr ysbrydol yn ddall. Drwy wrthod y Meseia a’r goleuni ysbrydol yr oedd yn ei gynnig, arhoson nhw yn y tywyllwch ac mewn cyflwr pechadurus. (Ioan 9:1, 14-16, 35-41) Drwy ei ddysgeidiaethau cywir a’i esiampl dda, dangosodd Iesu i’r rhai gostyngedig sut y gallen nhw fod yn rhydd yn ysbrydol.—Marc 1:22; 2:23–3:5.

11. Beth oedd yr ail ffordd y gwnaeth Iesu ryddhau pobl?

11 Yn ail, mae Iesu wedi ei gwneud hi’n bosib i bobl fod yn rhydd o’u caethiwed i bechod etifeddol. Ar sail aberth Iesu, gallai Duw faddau pechodau’r rhai sy’n dangos ffydd ac sy’n derbyn y pridwerth. (Heb. 10:12-18) Dywedodd Iesu: “Os ydy’r Mab yn eich rhyddhau chi byddwch yn rhydd go iawn.” (Ioan 8:36) Roedd y rhyddid hwnnw yn bendant yn fwy na beth gallai’r Israeliaid ei gael yn ystod blwyddyn y Jiwbilî! Er enghraifft, gallai dyn a gafodd ei ryddhau yn ystod y Jiwbilî ddod yn gaethwas eto, a marw fyddai’r dyn yn y pen draw beth bynnag.

12. Pwy oedd y rhai cyntaf i elwa ar y rhyddid a gyhoeddodd Iesu?

12 Ar ddydd y Pentecost 33 OG, eneiniodd Jehofa yr apostolion ynghyd â dynion a menywod ffyddlon eraill â’r ysbryd glân. Fe wnaeth eu mabwysiadu yn feibion iddo ef ei hun fel y gallen nhw, yn y dyfodol, gael eu hatgyfodi i reoli gyda Iesu yn y nefoedd. (Rhuf. 8:2, 15-17) Y rhai hyn oedd y cyntaf i elwa ar y rhyddid a gyhoeddodd Iesu yn y synagog yn Nasareth. Nid oedd y dynion a’r menywod hyn yn gaethweision bellach i gau-ddysgeidiaethau ac arferion anysgrythurol yr arweinwyr crefyddol Iddewig. Roedd Duw hefyd yn eu hystyried yn rhydd o bechod sy’n arwain at farwolaeth. Bydd y Jiwbilî symbolaidd a ddechreuodd pan gafodd dilynwyr Crist eu heneinio yn 33 OG yn gorffen ar ddiwedd Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Iesu. Beth bydd wedi cael ei gyflawni erbyn yr amser hwnnw?

RHYDDID I FILIYNAU ERAILL

13-14. Yn ogystal â Christnogion eneiniog, pwy all dderbyn y rhyddid a gyhoeddodd Iesu?

13 Heddiw, mae miliynau o bobl ddiffuant o bob cenedl ymhlith y ‘defaid eraill.’ (Ioan 10:16) Dydyn nhw ddim wedi cael eu dewis gan Dduw i reoli yn y nefoedd gyda Iesu. Yn hytrach, mae’r Beibl yn dweud bod ganddyn nhw’r gobaith o fyw am byth ar y ddaear. Ai dyna yw dy obaith di?

14 Hyd yn oed nawr, rwyt ti’n mwynhau rhai o’r pethau da y mae’r eneiniog wedi eu mwynhau. Drwy dy ffydd yn aberth Iesu, fe elli di ofyn i Jehofa faddau dy bechodau. O ganlyniad, gelli di gael cymeradwyaeth Duw a chydwybod lân. (Eff. 1:7; Dat. 7:14, 15) Meddylia, hefyd, am y bendithion rwyt ti’n eu mwynhau oherwydd dy fod ti’n rhydd o gau-ddysgeidiaethau. Dywedodd Iesu: “Byddwch yn dod i wybod beth sy’n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw’n rhoi rhyddid i chi.” (Ioan 8:32) Rydyn ni wrth ein boddau i gael rhyddid o’r fath!

15. Pa ryddid a bendithion gallwn ni eu disgwyl yn y dyfodol?

15 Gelli di ddisgwyl mwy o ryddid yn y dyfodol. Yn fuan iawn, bydd Iesu’n dinistrio gau grefydd a llywodraethau llygredig. Bydd Duw’n amddiffyn “tyrfa enfawr” sy’n ei wasanaethu, ac yna fe fydd yn gadael iddyn nhw fwynhau bendithion mewn paradwys ar y ddaear. (Dat. 7:9, 14) Bydd llawer o bobl yn cael eu hatgyfodi a bydd ganddyn nhw’r cyfle i gael eu rhyddhau o holl effeithiau pechod Adda.—Act. 24:15.

16. Pa ryddid rhyfeddol bydd pobl yn ei gael yn y dyfodol?

16 Yn ystod ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd, bydd Iesu a’i gyd-reolwyr yn helpu dynolryw i gyrraedd iechyd corfforol ac ysbrydol perffaith. Bydd yr adeg honno o adfer a rhyddhau yn debyg i’r Jiwbilî yn Israel. Mae hyn yn golygu y bydd pawb ar y ddaear sy’n gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon yn hollol berffaith, ac yn rhydd rhag pechod.

Yn y byd newydd, byddwn ni’n mwynhau gwneud gwaith defnyddiol fydd yn dod â bodlondeb (Gweler paragraff 17)

17. Beth mae Eseia 65:21-23 yn ei ragfynegi ar gyfer pobl Dduw? (Gweler y llun ar y clawr.)

17 Mae Eseia 65:21-23 (Darllen.) yn disgrifio sut bydd bywyd ar y ddaear yn y dyfodol. Nid bywyd o ddiogi fydd hwnnw. Yn hytrach, mae’r Beibl yn dangos y bydd pobl Dduw yr adeg honno yn gwneud gwaith ymarferol a phleserus. Ar ddiwedd y Mil Blynyddoedd, gallwn fod yn sicr y “mae’r greadigaeth hefyd yn mynd i gael ei gollwng yn rhydd! Fydd hi ddim yn gaeth i lygredd ddim mwy. Bydd yn rhannu’r rhyddid bendigedig fydd Duw’n ei roi i’w blant.”—Rhuf. 8:21.

18. Pam gallwn ni gredu y bydd gennyn ni ddyfodol disglair?

18 Yn union fel y gwnaeth Jehofa drefnu i’r Israeliaid gael amser i weithio ac i orffwys, fe fydd yn gwneud yr un peth ar gyfer ei bobl yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist. Yn sicr, bydd ’na amser ar gyfer gweithgareddau ysbrydol. Heddiw, mae addoli Duw yn hanfodol er mwyn bod yn hapus, a bydd hyn yn dal i fod yn wir yn y byd newydd. Yn wir, bydd pob bod dynol ffyddlon yn llawen yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist oherwydd bydd gennyn ni i gyd waith pleserus a bydd pob un ohonon ni’n gwasanaethu Duw.

CÂN 142 Dal Ein Gafael yn Ein Gobaith

^ Par. 5 Darparodd Jehofa ffordd i’r Israeliaid gael eu rhyddhau, sef y Jiwbilî. Nid yw Cristnogion o dan Gyfraith Moses; ond eto, mae gan y Jiwbilî ystyr i ni heddiw. Yn yr erthygl hon, byddwn yn gweld sut mae’r Jiwbilî yn Israel yn ein hatgoffa o rywbeth mae Jehofa wedi ei ddarparu inni a sut gallwn ni elwa arno.

^ Par. 61 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ystod y Jiwbilî, roedd dynion a oedd wedi bod yn gaethweision yn cael eu rhyddhau ac roedden nhw’n gallu dychwelyd at eu teuluoedd a’u tir.