Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Mae’r Beibl yn dweud bod angen o leiaf ddau dyst er mwyn sefydlu mater. (Num. 35:30; Deut. 17:6; 19:15; Math. 18:16; 1 Tim. 5:19) Ond, o dan y Gyfraith, petai merch a oedd wedi dyweddïo yn cael ei threisio gan ddyn “yng nghefn gwlad” a hithau wedi sgrechian, fe fyddai hi’n ddieuog o odineb ond yntau yn euog. O wybod nad oedd unrhyw un arall yn dyst i’r treisio, pam y byddai hithau’n ddieuog tra byddai’r dyn yn euog?

Nid profi euogrwydd y dyn yw prif neges yr hanesyn yn Deuteronomium 22:25-27, oherwydd bod y dyn eisoes wedi cael ei ystyried yn euog. Roedd y gyfraith hon yn canolbwyntio ar ddangos bod y fenyw yn ddieuog. Sylwa ar y cyd-destun.

Mae’r adnodau blaenorol yn sôn am ddyn a gafodd ryw “yn y dref” gyda menyw a oedd wedi dyweddïo. Drwy wneud hynny, yr oedd ef yn euog o odineb, oherwydd bod y fenyw a oedd wedi dyweddïo yn cael ei hystyried yn briod. Beth am y fenyw? Ni wnaeth hi “weiddi am help, er fod y peth wedi digwydd yn y dref.” Petai hi wedi gwneud hynny, yn sicr fe fyddai eraill wedi ei chlywed hi a’i hamddiffyn hi. Ond wnaeth hi ddim sgrechian. Felly, roedd hithau hefyd yn godinebu, ac roedd y ddau ohonyn nhw’n cael eu barnu’n euog.—Deut. 22:23, 24.

Nesaf, disgrifiodd y Gyfraith sefyllfa wahanol: “Ond os digwyddodd y peth yng nghefn gwlad, a’r dyn wedi fforsio’i hun arni a’i threisio hi, dim ond y dyn sydd i farw. Dydy’r ferch ifanc ddim i gael ei chosbi o gwbl. Wnaeth hi ddim byd o’i le i haeddu marw. Mae’r un fath â pan fydd rhywun wedi ymosod ar berson arall a’i lofruddio—roedd y peth wedi digwydd yng nghefn gwlad, lle doedd neb i’w hachub hi pan oedd hi’n gweiddi.”—Deut. 22:25-27.

Yn yr achos hwnnw, roedd y barnwyr yn credu’r fenyw. Pam felly? Byddai’r barnwyr yn rhagdybio ei bod hi wedi “gweiddi” ond “doedd neb i’w hachub hi.” Felly, doedd hi ddim yn godinebu. Roedd y dyn, fodd bynnag, yn euog o dreisio a godinebu gan ei fod “wedi fforsio’i hun arni a’i threisio hi,” sef y fenyw a oedd wedi dyweddïo.

Felly, er bod y gyfraith hon yn canolbwyntio ar y ffaith fod y fenyw yn ddieuog, roedd yr hanesyn yn gywir yn yr achos hwn pan ddisgrifiodd y dyn yn euog o dreisio a godinebu. Gallwn fod yn hyderus y byddai’r barnwyr yn “ymchwilio i’r mater a holi pobl yn fanwl” ac yn gwneud penderfyniad ar sail y safon roedd Duw wedi ei gosod allan yn glir ar sawl achlysur.—Deut. 13:14; 17:4; Ex. 20:14.