Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 51

Pa Mor Dda yr Wyt Ti’n Adnabod Jehofa?

Pa Mor Dda yr Wyt Ti’n Adnabod Jehofa?

“Mae’r rhai sy’n dy nabod di yn dy drystio di. Ti ddim yn troi cefn ar y rhai sy’n dy geisio di, O ARGLWYDD.”—SALM 9:10.

CÂN 56 Gwna i’r Gwir Wir Fyw!

CIPOLWG *

1-2. Fel mae profiad Angelito yn dangos, beth sy’n rhaid i bob un ohonon ni ei wneud?

A WYT ti’n cael dy fagu gan rieni sy’n Dystion Jehofa? Os wyt ti, cofia nad wyt ti’n gallu etifeddu perthynas bersonol â Jehofa ganddyn nhw. P’un a ydy ein rhieni yn gwasanaethu Duw neu beidio, mae’n rhaid i bob un ohonon ni feithrin ein cyfeillgarwch ein hunain â Jehofa.

2 Ystyria brofiad brawd o’r enw Angelito. Cafodd ei fagu mewn teulu o Dystion Jehofa. Fodd bynnag, pan oedd yn ifanc, nid oedd yn teimlo yn agos iawn at Dduw. Mae’n cyfaddef: “Gwasanaethu Jehofa yr oeddwn i dim ond oherwydd fy mod i eisiau gwneud beth roedd fy nheulu yn ei wneud.” Fodd bynnag, penderfynodd Angelito fuddsoddi mwy o amser yn darllen Gair Duw ac yn myfyrio arno, a dechreuodd weddïo ar Jehofa yn fwy aml. Y canlyniad? Mae Angelito yn dweud: “Dysgais mai’r unig ffordd o glosio at fy annwyl Dad, Jehofa, oedd dod i’w adnabod drosof fi fy hun.” Mae profiad Angelito yn codi ambell gwestiwn pwysig: Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwybod ychydig o bethau am Jehofa a’i adnabod yn dda iawn? A sut rydyn ni’n dod i adnabod Jehofa?

3. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwybod pethau am Jehofa a’i adnabod yn dda?

3 Gallwn ddweud fod person yn gwybod am Jehofa os yw ef neu hi yn gyfarwydd â’i enw a rhai o’r pethau y mae Ef wedi eu dweud a’u gwneud. Ond dydy hyn ddim yn golygu ein bod ni’n ei adnabod yn dda. Mae’n rhaid inni dreulio amser yn dysgu am Jehofa a’i rinweddau hardd. Dim ond wedyn y gallwn ni ddod i ddeall yr hyn sy’n ei gymell i siarad ac i weithredu. Bydd hynny’n ein helpu i ddeall a yw ef yn cymeradwyo ein barn, ein penderfyniadau, a’n gweithredoedd. Unwaith inni ddirnad beth yw ewyllys Jehofa inni, pwysig yw gweithredu ar yr hyn rydyn ni wedi ei ddysgu.

4. Sut bydd ystyried esiampl cymeriadau yn y Beibl o fudd inni?

4 Efallai y bydd rhai pobl yn gwneud sbort am ein pennau oherwydd ein bod ni eisiau gwasanaethu Jehofa, ac efallai y byddan nhw’n ein gwrthwynebu wrth inni ddechrau cymdeithasu â phobl Dduw. Ond eto, os ydyn ni’n ymddiried yn Jehofa, ni fydd ef byth yn cefnu arnon ni. Byddwn ni’n dechrau meithrin cyfeillgarwch a fydd yn para am oes gyfan. Ydy hi’n bosib adnabod Jehofa mor dda â hynny? Ydy, mae hi! Mae’r esiampl a osododd dynion amherffaith fel Moses a’r Brenin Dafydd, yn dangos ei bod hi’n bosib. Wrth inni ystyried eu gweithredoedd, byddwn ni’n ateb dau gwestiwn: Sut daethon nhw i adnabod Jehofa? A pha wersi y gallwn ni eu dysgu o’u hesiampl?

GWELODD MOSES “Y DUW ANWELEDIG”

5. Beth dewisodd Moses ei wneud?

5 Gweithredodd Moses ar yr hyn a ddysgodd. Pan oedd tua 40 oed, dewisodd Moses gymdeithasu â phobl Dduw, yr Hebreaid, yn hytrach na chael ei adnabod “fel mab i ferch y Pharo.” (Heb. 11:24) Gwnaeth Moses ymwrthod â’r statws blaenllaw hwnnw. Wrth ochri â’r Hebreaid, a oedd yn gaethweision yn yr Aifft, roedd ’na beryg o ddigio Pharo, brenin grymus iawn a oedd yn cael ei ystyried yn dduw. Dangosodd hyn fod gan Moses ffydd gref iawn. Roedd Moses yn ymddiried yn Jehofa, a’r math hwnnw o ymddiried oedd carreg sylfaen ei berthynas agos â Jehofa a barodd trwy gydol ei oes.—Diar. 3:5.

6. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Moses?

6 Beth yw’r wers i ni? Yn debyg i Moses, mae gan bob un ohonon ni benderfyniad i’w wneud: A fyddwn ni’n dewis gwasanaethu Duw a chymdeithasu â’i bobl? Efallai y bydd rhaid inni aberthu er mwyn gwasanaethu Duw, ac efallai y bydd y rhai sydd ddim yn adnabod Jehofa yn ein gwrthwynebu. Ond os ydyn ni’n ymddiried yn ein Tad nefol, bydd ef heb os yn ein cefnogi ni!

7-8. Beth gwnaeth Moses barhau i’w ddysgu?

7 Gwnaeth Moses barhau i ddysgu am rinweddau Jehofa ac i wneud Ei ewyllys. Er enghraifft, pan ofynnwyd i Moses arwain cenedl Israel allan o’i chaethiwed, roedd yn ddihyder a dywedodd sawl gwaith wrth Jehofa ei fod yn teimlo’n annigonol. Dangosodd Duw wir dosturi, a helpu Moses. (Ex. 4:10-16) O ganlyniad, roedd Moses yn gallu cyhoeddi negeseuon o farn i Pharo. Yna, fe welodd Moses Jehofa yn defnyddio ei rym pan achubodd Ef yr Israeliaid ond dinistrio Pharo a’i fyddin yn y Môr Coch.—Ex. 14:26-31; Salm 136:15.

8 Ar ôl i Moses arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft, roedden nhw’n cwyno ar hyd yr amser. Er hynny, fe welodd Moses amynedd mawr Jehofa wrth iddo ddelio gyda’r bobl yr oedd Ef wedi eu rhyddhau o’u caethiwed. (Salm 78:40-43) Hefyd, fe welodd Moses Jehofa yn dangos gostyngeiddrwydd rhyfeddol pan newidiodd ei feddwl ar ôl i Moses ofyn iddo wneud hynny.—Ex. 32:9-14.

9. Yn ôl Hebreaid 11:27, pa mor agos oedd y berthynas rhwng Moses a Jehofa?

9 Ar ôl yr Exodus, daeth perthynas Moses â Jehofa yn agos iawn ac roedd fel petasai’n gallu gweld wyneb ei Dad nefol. (Darllen Hebreaid 11:27.) Mae’r Beibl yn dangos pa mor glòs oedd y cyfeillgarwch hwnnw pan ddywed: “Byddai’r ARGLWYDD yn siarad wyneb yn wyneb gyda Moses, fel byddai rhywun yn siarad â ffrind.”—Ex. 33:11.

10. Er mwyn adnabod Jehofa yn dda, beth sy’n rhaid inni ei wneud?

10 Beth yw’r wers i ni? Er mwyn adnabod Jehofa yn well, mae’n rhaid inni ddysgu am ei rinweddau a gwneud ei ewyllys hefyd. Ac ewyllys Jehofa heddiw yw “i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir.” (1 Tim. 2:3, 4) Un ffordd o wneud ewyllys Duw yw dysgu eraill am Jehofa.

11. Wrth inni ddysgu eraill am Jehofa, sut rydyn ni’n dod i’w adnabod yn well?

11 Yn aml iawn, wrth inni ddysgu eraill am Jehofa, rydyn ni’n dod i’w adnabod yn fwy byth. Er enghraifft, fe welwn ni dystiolaeth glir o dosturi Jehofa wrth iddo ein harwain ni at y rhai sy’n dymuno bod yn ffrindiau iddo. (Ioan 6:44; Act. 13:48, NWT) Rydyn ni’n gweld grym Gair Duw ar waith wrth inni wylio’r rhai rydyn ni’n astudio gyda nhw yn torri’n rhydd o’u harferion drwg a dechrau gwisgo’r bersonoliaeth newydd. (Col. 3:9, 10) Ac rydyn ni’n gweld tystiolaeth o amynedd Duw wrth iddo roi’r cyfle dro ar ôl tro i lawer yn ein tiriogaeth i ddysgu amdano a chael eu hachub.—Rhuf. 10:13-15.

12. Yn ôl Exodus 33:13, beth gofynnodd Moses amdano, a pham?

12 Ni chymerodd Moses ei berthynas â Jehofa yn ganiataol. Hyd yn oed ar ôl cyflawni gweithredoedd nerthol yn enw Duw, gofynnodd Moses yn barchus am iddo gael dod i adnabod Jehofa yn well. (Darllen Exodus 33:13, BCND.) Roedd Moses yn ei 80au pan ofynnodd hynny, ond roedd yn gwybod bod ganddo lawer eto i’w ddysgu am ei dad nefol cariadus.

13. Beth yw un ffordd o brofi ein bod ni’n trysori ein cyfeillgarwch â Duw?

13 Beth yw’r wers i ni? Ni waeth pa mor hir rydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa, ddylen ni byth gymryd ein perthynas ag ef yn ganiataol. Un o’r ffyrdd mwyaf amlwg o brofi ein bod ni’n trysori ein cyfeillgarwch â Duw yw siarad ag ef mewn gweddi.

14. Pam mae gweddi yn hanfodol ar gyfer dysgu mwy am Dduw?

14 Mae cyfathrebu da yn hanfodol ar gyfer cael perthynas gref â rhywun. Felly agosâ at Dduw trwy weddïo yn aml, a phaid byth â dal yn ôl rhag mynegi dy feddyliau mwyaf dwfn iddo. (Eff. 6:18) Mae Krista, sy’n byw yn Nhwrci, yn dweud: “Bob amser yr ydw i’n dweud wrth Jehofa mewn gweddi am fy nheimladau ac yn gweld ei law yn fy mywyd, dw i’n ei garu ac yn ymddiried ynddo yn fwy byth. Mae gweld Jehofa yn ateb fy ngweddïau wedi fy helpu i’w ystyried yn Dad ac yn Ffrind.”

DYN WRTH FODD CALON JEHOFA

15. Sut disgrifiodd Jehofa y Brenin Dafydd?

15 Cafodd y Brenin Dafydd ei eni mewn cenedl a oedd wedi ei chysegru i Jehofa Dduw. Ond, gwnaeth Dafydd fwy na dilyn traddodiadau crefyddol ei deulu yn unig. Gwnaeth feithrin ei berthynas ei hun â Duw, ac roedd gan Jehofa hoffter mawr tuag ato. Gwnaeth Jehofa ei hun ddisgrifio Dafydd fel hyn: “Mae Dafydd . . . yn ddyn sydd wrth fy modd.” (Act. 13:22) Sut daeth Dafydd mor agos at Jehofa?

16. Beth ddysgodd Dafydd am Jehofa drwy edrych ar y greadigaeth?

16 Dysgodd Dafydd am Jehofa o’r greadigaeth. Pan oedd Dafydd yn ifanc, treuliodd lawer awr yn yr awyr agored, yn gofalu am ddefaid ei dad. Efallai dyna pryd y dechreuodd fyfyrio ar y pethau roedd Jehofa wedi eu creu. Er enghraifft, wrth i Dafydd syllu ar y sêr liw nos, nid miloedd o sêr oedd yr unig beth a welodd, ond hefyd fe welodd rinweddau’r Un a wnaeth eu creu nhw. Ysbrydolwyd Dafydd i ysgrifennu: “Mae’r nefoedd yn dangos ysblander Duw, a’r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo.” (Salm 19:1, 2) Pan fyfyriodd Dafydd ar y ffordd y cafodd bodau dynol eraill eu creu, fe welodd ddoethineb rhyfeddol Jehofa ar waith. (Salm 139:14) Wrth i Dafydd geisio deall yr hyn a grëwyd gan Jehofa, teimlodd yn ostyngedig.—Salm 139:6.

17. Beth mae myfyrio ar y greadigaeth yn ei ddysgu inni?

17 Beth yw’r wers i ni? Dangosa ddiddordeb yn y greadigaeth. Gwna fwy mewn bywyd na bodoli yn unig yn y byd hardd hwn y mae Jehofa wedi ei greu; gad iddo dy syfrdanu di! Yn dy fywyd bob dydd, myfyria ar yr hyn y mae’r greadigaeth—y planhigion, yr anifeiliaid, a’r bobl—yn dy ddysgu di am Jehofa. Wedyn, bydd pob diwrnod newydd yn dysgu mwy iti am dy Dad cariadus. (Rhuf. 1:20) A phob dydd, bydd dy gariad tuag ato yn dyfnhau.

18. Yn ôl Salm 18, beth gwnaeth Dafydd ei gydnabod?

18 Deallodd Dafydd fod Jehofa yn ei helpu. Er enghraifft, pan wnaeth Dafydd amddiffyn defaid ei dad rhag y llew a’r arth, roedd yn cydnabod mai Jehofa oedd yn ei helpu i drechu’r anifeiliaid gwyllt hynny. Pan drechodd Dafydd y cawr o ryfelwr Goliath, fe welodd yn glir mai Jehofa oedd yn ei arwain. (1 Sam. 17:37) A phan wnaeth ddianc rhag y brenin cenfigennus Saul, cydnabyddodd Dafydd mai Jehofa oedd wedi ei achub. (Salm 18, uwchysgrifen) Byddai dyn balch wedi dwyn y clod am y llwyddiannau hynny. Ond roedd Dafydd yn ostyngedig, ac felly roedd yn gallu gweld llaw Jehofa yn ei fywyd.—Salm 138:6.

19. Beth gallwn ei ddysgu o esiampl Dafydd?

19 Beth yw’r wers i ni? Pwysig yw inni wneud mwy na gofyn am help Jehofa yn unig. Mae’n rhaid inni hefyd geisio adnabod pryd y mae’n ein helpu ni a sut. Os ydyn ni’n cydnabod yn ostyngedig na allwn ni wneud popeth ar ein pennau ein hunain, byddwn ni’n gweld bod Jehofa yn ein helpu i wneud yr hyn na allwn ni ei wneud. A phob amser y byddwn ni’n gweld Jehofa yn ein helpu ni, bydd ein perthynas ag ef yn dod yn gryfach ac yn gryfach. Fe welodd Isaac, brawd o Ffiji sydd wedi gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd lawer, fod hyn yn wir. Dywedodd: “Wrth imi edrych yn ôl ar fy mywyd, dw i’n gallu gweld sut mae Jehofa wedi fy helpu o’r amser pan ddechreuais astudio’r Beibl hyd heddiw. O ganlyniad, mae Jehofa yn fyw iawn imi.”

20. Beth a ddysgwn o’r berthynas rhwng Dafydd a Duw?

20 Efelychodd Dafydd rinweddau Jehofa. Fe’n crëwyd gan Jehofa â’r gallu i efelychu ei rinweddau. (Gen. 1:26) Y mwyaf rydyn ni’n dysgu am rinweddau Jehofa, y gorau y byddwn ni’n gallu ei efelychu. Daeth Dafydd i adnabod ei Dad nefol yn dda, felly, roedd yn gallu ei efelychu wrth iddo ddelio gydag eraill. Ystyria un esiampl yn unig. Pechodd Dafydd yn erbyn Jehofa pan odinebodd gyda Bathseba a threfnu wedyn i’w gŵr gael ei ladd. (2 Sam. 11:1-4, 15) Ond dangosodd Jehofa drugaredd tuag at Dafydd, dyn a oedd wedi dangos trugaredd tuag at eraill. Oherwydd bod gan Dafydd berthynas mor dda â Jehofa, daeth yn un o frenhinoedd mwyaf annwyl Israel, ac fe gafodd ei ddefnyddio gan Jehofa fel esiampl i frenhinoedd eraill Israel.—1 Bren. 15:11; 2 Bren. 14:1-3.

21. Yn unol ag Effesiaid 4:24 a 5:1, pa ganlyniadau sy’n dod o ‘ddilyn esiampl Duw’?

21 Beth yw’r wers i ni? Mae’n rhaid inni ‘ddilyn esiampl Duw.’ Mae gwneud hyn o les inni ac yn ein helpu i ddod i’w adnabod. Pan fyddwn ni’n efelychu ei bersonoliaeth, rydyn ni’n profi ein bod ni’n blant iddo.—Darllen Effesiaid 4:24; 5:1.

DYSGU AM JEHOFA

22-23. Beth fydd yn digwydd os gwnawn ni roi ar waith yr hyn a ddysgwn ni am Jehofa?

22 Fel y gwelson ni, mae Jehofa yn ei ddatgelu ei hun inni drwy’r greadigaeth a thrwy ei Air, y Beibl. Mae’r llyfr unigryw hwnnw yn llawn esiamplau o weision ffyddlon Duw y gallwn ni eu hefelychu, rhai fel Moses a Dafydd. Mae Jehofa wedi gwneud ei ran ef. Mae’n rhaid i ninnau hefyd wneud ein rhan a dysgu cymaint ag y gallwn ni amdano.

23 Fyddwn ni byth yn stopio dysgu am Jehofa. (Preg. 3:11) Y peth pwysig yw, nid faint yr ydyn ni’n ei wybod amdano, ond yr hyn rydyn ni’n ei wneud â’r hyn rydyn ni’n ei wybod. Os rhown ar waith yr hyn a ddysgwn a cheisio efelychu ein Tad cariadus, bydd ef yn parhau i agosáu aton ni. (Iago 4:8) Trwy ei Air, cawn ein cysuro na fydd ef byth yn cefnu ar y rhai sy’n ei geisio.

CÂN 80 Profwch Flas a Gwelwch mai Da Ydy Duw

^ Par. 5 Mae llawer o bobl yn credu bod Duw yn bodoli, ond dydyn nhw ddim yn ei wir adnabod. Beth mae’n ei olygu i adnabod Jehofa, a beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth Moses a’r Brenin Dafydd ynglŷn â sut i gael perthynas agos ag Ef? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiynau hynny.